Neidio i'r prif gynnwy

Anabledd Cymru yn treblu ei weithlu yn ystod y cyfyngiadau symud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Miranda Evans, rheolwr polisi a rhaglenni Anabledd Cymru, yn mwynhau bore coffi rhithwir gyda’i chydweithwyr lle nad oes hawl sôn am waith.

Fe wnaeth y tîm yn Anabledd Cymru gloi drysau eu swyddfa yng Nghaerffili pan gyhoeddwyd y cyfyngiadau symud – gan dderbyn, gyda rhywfaint o anniddigrwydd, mai gweithio gartref fydden nhw am y tro.

Doedd y gweithlu clos ddim yn teimlo’n hyderus ynghylch eu gallu i addasu i weithio ar-lein ac er eu bod yn hapus yn defnyddio rhai platfformau fel Skype, roeddent yn cydnabod yr angen i uwchsgilio gweithwyr, felly trefnwyd hyfforddiant gan Cymunedau Digidol Cymru i ddysgu mwy am blatfformau fel Zoom a Microsoft Teams.

Gyda hyder digidol newydd, sylweddolodd rheolwyr Anabledd Cymru nad oedd y gallu gan bawb  i weithio ar-lein gartref oherwydd band eang gwan, signal gwael a dim gliniadur. O ganlyniad, gwnaethant fuddsoddiad i unioni hyn ar gyfer y rhai a oedd yn ei chael yn anodd trwy roi’r offer angenrheidiol iddynt, a chynnwys ‘lwfans gweithio gartref’ yng nghyflogau staff er mwyn gwella eu hamgylchedd gweithio gartref.

Fe wnaethant sylweddoli hefyd bod angen diweddaru eu polisïau a’u harferion AD o ran gweithio gartref i adlewyrchu’r trefniadau gweithio newydd hyn.

Cofrestrwyd eu Rheolwr Polisi a Rhaglenni, Miranda Evans, ar gwrs gyda’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (ACAS) i sicrhau eu bod yn gwneud y peth iawn dros eu staff.

Cafodd polisi Gweithio Gartref ei ddrafftio a’i gymeradwyo gan y bwrdd, a oedd hefyd wedi symud i gyfarfodydd ar-lein.

Sefydlogodd y newid i weithio ar-lein ar ôl ychydig fisoedd, ac roedd y bwrdd ac uwch reolwyr yn ymwybodol ei bod yn debygol y byddai angen ystyried materion personol, nid rhai proffesiynol yn unig, oherwydd diffyg cyswllt â phobl, a oedd yn arfer bod yn rhan o’u diwrnod gwaith.

Dywedodd Miranda Evans, Rheolwr Polisi a Rhaglenni Anabledd Cymru:

“Fel sefydliad sy’n cynrychioli buddiannau pobl anabl ac yn ymgyrchu drostynt, roeddem yn ymwybodol iawn y gallai’r cyfyngiadau symud fod yn niweidiol i iechyd meddwl a lles ein staff. Roeddem ni’n cysylltu bob dydd trwy grwˆ p WhatsApp, cynnal cyfarfodydd tîm ddwywaith yr wythnos a hyd yn oed rhoi sgyrsiau dros goffi a chacennau dros Zoom yn ein dyddiadur, lle rydyn ni’n siarad am unrhyw beth ond gwaith!

Ar ôl bod yn bryderus ynghylch yr heriau roeddent yn eu hwynebu ar ddechrau’r pandemig, treblodd Anabledd Cymru ei weithlu o dri i naw yn ystod misoedd y cyfyngiadau symud, drwy ymgyrch recriwtio ar-lein.

Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd Anabledd Cymru yn parhau gyda dull hybrid sy’n cynnwys yr opsiwn i weithio gartref, oherwydd eu bod yn credu ei fod o fudd i’r gweithwyr a’r sefydliad.

Ychwanegodd Miranda:

“Rydyn ni wedi sylweddoli bod gweithio o bell yn wirioneddol ehangu ein cwmpas. Cyn hyn, roedd y gallu i gymudo yn ystyriaeth i weithwyr, ond trwy gydol y cyfyngiadau symud, rydyn ni wedi cyflogi pobl yng Ngorllewin a Gogledd Cymru. Mae lleihau teithio yn arbed llawer o arian hefyd gan nad ydym bellach yn talu cymaint o lwfans milltiroedd na phrisiau trên a thacsi.

“Rydyn ni’n ymwybodol na fydd pawb eisiau bod gartref drwy’r amser ac felly ffordd hybrid o weithio fydd y ffordd ymlaen i ni. I bobl anabl, bydd gan weithio gartref fuddion go iawn. Er enghraifft, efallai na fydd rhai staff yn gallu eistedd wrth sgrin trwy’r dydd a, gartref, gallant gymryd cyntun bach cyn mynd yn ôl at y ddesg desg. Mae’r math hwn o hyblygrwydd yn gwneud byd o wahaniaeth.

Mae Miranda a’i chydweithwyr hefyd o blaid hybiau cymunedol fel dewis arall yn lle gweithio gartref yn unig. Meddai:

“Mae’n bwysig bod yr hybiau’n hygyrch gyda pharcio, toiledau hygyrch a gofodau sy’n darparu ar gyfer pobl anabl.