Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r grŵp Bbi yn gweld gweithio gartref fel buddugoliaeth amgylcheddol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Bbi Director, Judith Davies
Mae Judith Davies, cyfarwyddwr cyllid Bbi, yn credu y bydd gweithio ystwyth yn well i fusnes – a’r amgylchedd

Mae gan The Bbi Group, sydd wedi’i leoli yn Aberhonddu a Chaerloyw, swyddfeydd eang sydd hefyd yn gweithredu fel ystafelloedd arddangos, ond pan gyhoeddodd y llywodraeth y dylai pawb weithio gartref os oedd modd yn ystod y pandemig, cydymffurfiodd y cwmni sydd â phencadlys yng Nghanolbarth Cymru.

Mae Bbi yn darparu gwasanaeth gosod ledled y DU ar gyfer sefydliadau sydd angen llefydd gwaith newydd ac wedi’u huwchraddio, ac mae’n rheoli portffolio o gleientiaid ym maes gofal iechyd, gweithgynhyrchu, addysg a hamdden.

Er bod y tîm rheoli prosiect yn gweithio i ffwrdd o’r swyddfa ar safleoedd eu cwsmeriaid bob amser, roedd llawer o weddill y 45 o bobl sydd yn y gweithlu – ac eithrio’r tîm gwerthu – bob amser wedi’u lleoli yn y swyddfa.

Dywedodd Judith Davies, cyfarwyddwr cyllid Bbi:

“Yr her uniongyrchol i ni ar ddechrau’r cyfyngiadau symud oedd yr her dechnegol, gan fod angen mynd i’r afael â’r dasg o sicrhau bod pawb yn gallu gweithio gartref yn gyflym iawn. Nid oedd rhai o’n staff erioed wedi mewngofnodi i systemau’r cwmni o bell cyn y pandemig, ac felly roedd gan bawb lawer iawn i’w ddysgu. O ran caledwedd, roedd modd i ni ddefnyddio rhywfaint o offer TG oedd gennym yn barod trwy ei adleoli i gartrefi pobl yn lle’r swyddfa.

Unwaith yr oedd TG Bbi wedi’i drefnu, y mater nesaf i’r cwmni oedd sicrhau bod ei bolisi gweithio o bell yn deg i’r holl weithwyr.

Dywedodd Judith:

“Mae ein swyddfeydd yn ystafelloedd arddangos hefyd ac, oherwydd eu maint, mae’n hawdd i ni gadw pellter cymdeithasol. Roedd hyn yn golygu bod y swyddfeydd wedi aros ar agor trwy gydol y pandemig, wedi’u staffio gan nifer fach o’n tîm, tra bod eraill yn gweithio gartref. Mae ein safleoedd prosiect hefyd wedi parhau i fod yn weithredol drwyddi draw, gydag asesiadau risg a datganiadau dull cadarn ar waith i sicrhau arferion gwaith sy’n ddiogel o ran COVID. Y cydbwysedd oedd sicrhau bod pawb yn parhau i weithio’n ddiogel, gan fod yn deg â’r holl staff, gan fod manteision ac anfanteision i weithio gartref ac yn y swyddfa.

Mae Judith a’i chyd-gyfarwyddwyr wedi bod yn canolbwyntio ar degwch a chysondeb, gan fod eu gweithlu wedi ymateb mor gadarnhaol i’r heriau a ddaeth yn sgil y pandemig.

Ychwanegodd Judith:

“Mae pawb eisiau i’r busnes barhau i dyfu ac maent yn frwdfrydig dros sicrhau ei fod yn ffynnu, er gwaethaf yr amgylchiadau eithriadol. Rydym wir yn gwerthfawrogi ymrwymiad pob aelod o staff ac rydym bob amser eisiau eu cefnogi.

“Addasodd ein tîm yn gyflym, a chredaf fod ein defnydd o amser wedi gwella o ganlyniad. Mae mwy o ffocws i gyfarfodydd ac mae mwy o bwrpas iddynt. Mae hyd yn oed ein cyfarfodydd bwrdd yn llawer cyflymach.

Er bod yr union fanylion ynghylch sut bydd gweithio ystwyth yn gweithio i dîm Bbi yn y dyfodol wrthi’n cael eu trafod, mae Judith yn hyderus y bydd yn cael effaith gadarnhaol nid yn unig ar y tîm – ac felly ar y busnes – ond hefyd ar yr amgylchedd.

Meddai:

“Rydyn ni bob amser wedi bod yn ymwybodol o’n hôl troed carbon ac roeddem eisoes wedi buddsoddi mewn mesurau i leihau hyn ar draws ein busnes trwy gynyddu ein hymdrechion ailgylchu a gosod pwynt gwefru ceir trydan yn swyddfa Aberhonddu. Rydym hefyd wedi dechrau hyrwyddo ‘Dyddiau Iau Gwyrdd’, lle rydym yn arbennig o ymwybodol o bryderon amgylcheddol, gyda staff yn gwneud yr ymdrech i fod yn ‘wyrddach’ trwy feicio i gyfarfodydd, cerdded i’r gwaith neu gael diwrnod o beidio â bwyta cig.

“Roeddwn i’n arfer teithio o fy nghartref yng Nghaerdydd i Aberhonddu ddeuddydd yr wythnos ac i Gaerloyw ddeuddydd yr wythnos ac roeddwn i wedi gwneud hynny erioed. Roeddwn i’n teimlo bod hyn yn angenrheidiol er mwyn cadw cysylltiad â’r tîm. Mae’r pandemig wedi rhoi cyfle i mi ailfeddwl hyn ar gyfer y dyfodol. Mae treulio oriau’n gyrru trwy draffig trwm yn wastraff amser – ac yn amlwg nid yw’n wych i’r amgylchedd. Rwy’n bwriadu bod yn gallach gyda fy nyddiadur. Does neb yn elwa os ydw i’n sownd mewn traffig am dair awr y dydd, pan allwn fod yn gweithio gartref yn fwy effeithiol. Mae’n fater o sicrhau’r cydbwysedd cywir.