Neidio i'r prif gynnwy

Legal and General yn ymrwymo i swyddfa newydd 120,000 troedfedd sgwâr yng Nghaerdydd, a ffordd newydd o weithio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Decorative
Odessa Barthorpe, swyddog cyswllt cyfathrebu ac ymgysylltu yn Legal and General, yn mwynhau seibiant cyflym tra’n gweithio o gartref

Ym mis Mawrth 2020, pan ofynnodd cyfyngiadau’r llywodraeth i weithlu Cymru weithio gartref, roedd Legal and General mewn sefyllfa well na’r rhelyw i addasu i’r newid, gan fod tua 40% o’i weithlu o 2,000 yn y De eisoes yn mwynhau rhywfaint o hyblygrwydd o ran gweithio gartref.

Yn ogystal â galluogi bron i hanner ei staff i weithio o bell o leiaf ddiwrnod yr wythnos, roedd y cwmni cyllid ac yswiriant mawr eisoes wedi cynnal cynlluniau peilot gweithio gartref ledled y sefydliad yn gynharach yn y flwyddyn ar ôl clywed adroddiadau am gyfyngiadau clo cenedlaethol posibl.

Dywedodd Heather Andrews, cyfarwyddwr profiad gweithwyr Legal and General:

“Mae gennym swyddfa yn Hove a dyna oedd un o’r llefydd cyntaf yn y DU i gael ei effeithio gan y feirws. Yn seiliedig ar yr hyn y gallem ei weld yn digwydd yno, gwnaethom y penderfyniad i gynnal prawf seilwaith TG cynnar i weld pa mor dda y gallai ein pobl addasu i weithio gartref.

Gwelwyd bod systemau TG Legal and General yn gadarn ac yn gweithio’n dda, er nad oeddynt wedi’u creu ar gyfer gweithio o bell 100%.

Meddai Heather:

“Fe wnaethom wynebu heriau, wrth gwrs. Arweiniodd hyn at ychydig o bobl yn gweithio yn ein swyddfeydd lle nad oedd modd gwneud eu rolau gartref, er enghraifft yn ein hystafelloedd post a’r tîm sganio, er mwyn parhau i wasanaethu ein cwsmeriaid.

“Byddwn yn dweud bod 90% o’n gweithlu wedi llwyddo i ymdopi’n dda gyda gweithio gartref, tra bod rhyw 10% wedi cael trafferth oherwydd materion amgylcheddol, fel byw mewn cartref aml-feddiannaeth neu orfod gweithio tra bod y plant adref o’r ysgol. Roedd y swyddfa yno ar gyfer y rheiny oedd yn methu ymdopi gartref, a gwnaethom yn siwˆ r bod yr holl fesurau diogelwch COVID-19 ar waith gennym i gadw pobl yn ddiogel.

Mae Heather a’i thîm yn cydnabod fod cyfathrebu’n hollbwysig hefyd gydol yr ymateb i’r pandemig.

Meddai:

“Pan nad ydych chi gyda’ch gilydd yn gorfforol, mae’n rhaid i chi arwain mewn ffordd wahanol, ac roedd hyn yn beth newydd i reolwyr. I’w helpu, fe wnaethom greu tudalennau cymorth ar ein mewnrwyd, a oedd yn canolbwyntio ar hyfforddi a darparu adnoddau defnyddiol wrth weithio o bell.

Hefyd, fe wnaeth Legal and General fuddsoddi yn iechyd a lles meddyliol ei dîm yn ystod y cyfnod clo drwy hyrwyddo ap o’r enw ‘Unmind’, a oedd ar gael i’r holl weithlu.

Mae’r ap yn galluogi unigolion i fuddsoddi yn eu hiechyd meddwl bob dydd. Gallai’r rhai oedd angen cymorth ychwanegol droi at swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl Legal and General.

Meddai Heather:

“Mae’n bwysig i ni fod pobl yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Ein nod yw bod yn weithle hynod gynhwysol ac ni wnaeth hynny newid am fod pobl yn gweithio gartref. Roeddem am helpu i gefnogi ein pobl drwy’r heriau a’r adegau anodd y gallent fod yn eu hwynebu. Er enghraifft, roeddem yn gwybod na allai nifer o’n gweithwyr deithio i ddathlu gwyliau crefyddol gyda’u teuluoedd, felly fe wnaethom ein gorau i’w dathlu gyda nhw yn lle hynny.

Yng nghanol y cyfnod clo cyntaf, dechreuodd Heather a’i thîm ystyried y ffordd ymlaen ar gyfer Legal and General o ran ei drefniadau gweithio gartref.

Meddai:

“Fe wnaethon ni sylweddoli bod pethau’n mynd i newid yn y tymor hir. Roedd pobl yn mwynhau treulio mwy o amser gyda’u teulu, doedd neb yn gweld eisiau cymudo, ac roedd yr hyblygrwydd a gynigiwyd gan gydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith yn gwneud gwahaniaeth amlwg i ansawdd bywyd. Ar y llaw arall, does dim amheuaeth bod cydweithio a chysylltu yn well yn aml pan fyddwch i gyd gyda’ch gilydd. Hefyd, y trafodaethau byrfyfyr pwysig na all ddigwydd dros Teams, rhywbeth dy’n ni gyd yn hiraethu amdano, dwi’n siwr. Dyna pam rydym yn symud i fodel hybrid lle rydym yn disgwyl i’n gweithwyr rannu eu hamser yn gyfartal rhwng y swyddfa a’r cartref.

Yn 2021, bydd Legal and General yn dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed yn ninas Caerdydd. Ymhell cyn y pandemig, roedd cynlluniau eisoes ar droed i symud y busnes i swyddfa 120,000 troedfedd sgwâr newydd yn Sgwâr Canolog y brifddinas.

Mae tîm arweinyddiaeth Legal and General yn dal i fod wedi ymrwymo 100% i’r syniad, a fydd yn digwydd yn 2023, ac wedi llofnodi prydles 25 mlynedd – ond mae syniadau am sut ofod fydd yno wedi newid, o ganlyniad i’r hyn a ddysgwyd yn ystod y pandemig.

Meddai Heather:

“Caiff y swyddfa newydd ei chynllunio i ddarparu ar gyfer ffordd newydd o weithio, gyda phwyslais ar lesiant a phrofiad gweithwyr pan fydd pobl ar y safle. Byddwn yn canolbwyntio ar greu amgylchedd sy’n galluogi pobl, ac rydym wedi dechrau creu darlun o hynny bellach mewn cydweithrediad â’n timau yng Nghaerdydd.

“Mae angen i ni fod yn ystyriol a phwrpasol ynglyˆ n â sut rydyn ni’n dod at ein gilydd ar ôl hyn. Rhaid cael y cydbwysedd cywir – does dim un ateb sy’n addas i bawb.

“Fydd newid ein ffordd o weithio ddim yn digwydd dros nos. Efallai y bydd angen amrywio ac addasu ein model newydd o hyd, wrth i ni ddysgu sut i lywio drwy ffordd newydd o weithio, ond rwy’n ffyddiog y bydd symud i fodel hybrid yn cynnig cyfleoedd gwych i’n pobl a’n busnes.