Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltu'r Llyfrgell Genedlaethol, Prifysgol Aberystwyth a'r Ganolfan Gelfyddydau gyda llwybr bysiau newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

A hithau wedi’i lleoli ar ben bryn, ar rywfaint o bellter o ganol y dref, nid oedd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru unrhyw gludiant cyhoeddus a oedd yn ei gwasanaethu’n benodol, a oedd yn effeithio ar ymwelwyr a staff fel ei gilydd. Mewn menter ar y cyd rhwng y Llyfrgell a Phrifysgol Aberystwyth, mae llwybr bysiau newydd wedi cael ei sefydlu i ddarparu gwasanaeth gwell ar gyfer myfyrwyr a’r cyhoedd, ac i wneud y Llyfrgell, y Brifysgol a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth yn fwy hygyrch. 

Mae’r bws yn rhedeg yn rheolaidd trwy gydol y dydd yn ystod y tymor ac yn llai aml ar benwythnosau ac yn ystod y gwyliau prifysgol. Mae’r gwasanaeth wedi’i fwriadu i fod ag allyriadau isel ac yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.