Neidio i'r prif gynnwys

Nod y prosiect hwn oedd i Gyngor Dinas Casnewydd a Casnewydd Fyw weithio gyda’i gilydd i uwchraddio Systemau Rheoli Adeiladau ar draws asedau cymunedol allweddol.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sero net carbon erbyn 2030, yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru a Chynllun Newid Hinsawdd Sefydliadol y Cyngor. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cydweithredu â phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws pob maes gwasanaeth er mwyn gwella cynaliadwyedd ac effeithlonrwydd asedau y sector cyhoeddus a gweithio tuag at y targedau sero net hyn.

Mae Casnewydd Fyw, ymddiriedolaeth elusennol nid-er-elw, yn gweithredu cyfleusterau hamdden, chwaraeon a diwylliannol Casnewydd ar ran y Cyngor. Nod y prosiect hwn oedd i Gyngor Dinas Casnewydd a Casnewydd Fyw weithio gyda’i gilydd i uwchraddio Systemau Rheoli Adeiladau ar draws asedau cymunedol allweddol. Mae’r cyfleusterau hyn yn cynnwys y Ganolfan Tenis a Nofio Ranbarthol, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas, Stadiwm Casnewydd a Theatr a Chanolfan Chelfyddydau Glan yr Afon. Nod y prosiect yw gwella perfformiad ynni, lleihau allyriadau carbon, a diogelu dyfodol hirdymor yr adeiladau cyhoeddus pwysig hyn.

Yr her

Roedd nifer o gyfleusterau Casnewydd Fyw yn gweithredu gyda Systemau Rheoli Adeiladau sy’n heneiddio neu wedi darfod. 

Arweiniodd y materion hyn at:

  • Lai o effeithlonrwydd ynni.
  • Cynnydd mewn costau gweithredu a chynnal a chadw.
  • Anhawster nodi diffygion a materion perfformiad systemau.
  • Colli cyfleoedd i optimeiddio perfformiad adeiladau o amgylch patrymau deiliadaeth a defnydd gwirioneddol.
  • Risg uwch y bydd offer yn methu ac yn tarfu ar y gwasanaeth.

Tynnodd arolwg manwl o’r safleoedd sylw at yr angen brys am uwchraddiadau i sicrhau bod yr adeiladau’n parhau i fod yn addas i’r diben ac yn parhau i wasanaethu cymunedau yn effeithlon ac yn gynaliadwy. Roedd yr uwchraddiadau i’w cynnal yn ystod oriau gweithredu prysur a bu’n rhaid iddynt ystyried gofynion gweithredol drwy’r amser. 

Y dull gweithredu

Gwnaeth Tîm Lleihau Carbon Cyngor Dinas Casnewydd bartneru â Casnewydd Fyw a Cyson Cymru i ddatblygu a chyflwyno rhaglen uwchraddio Systemau Rheoli Adeiladau wedi ei chydlynu.

Roedd y prosiect yn cynnwys:

  • Uwchraddio rheolwyr a meddalwedd Systemau Rheoli Adeiladau Siemens yn y Pwll Nofio Rhanbarthol.
  • Disodli systemau rheoli yn y Ganolfan Tenis Ranbarthol.
  • Disodli rheolaethau sydd wedi methu a chreu rhwydwaith rheoli newydd yn Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas.
  • Gosod amseryddion rheoli gwresogi a dŵr poeth newydd yn Stadiwm Casnewydd.
  • Cynnal gwaith arolygu a gwella i’r Systemau Rheoli Adeiladau yn Theatr Glan yr Afon.

Cafodd y systemau uwchraddedig eu hintegreiddio pryd bynnag yr oedd hynny’n bosibl a’u cysylltu â systemau archebu gweithredol, gan ganiatáu i gyfleusterau gydweddu’n well â’r ddeiliadaeth wirioneddol. Mae hyn yn gwella effeithlonrwydd wrth leihau gwastraff ynni.

Datblygwyd y prosiect ar y cyd rhwng y Cyngor a Casnewydd Fyw i sicrhau y gellid trefnu gwaith gan darfu cyn lleied â phosibl ar ymwelwyr, digwyddiadau chwaraeon, perfformiadau a gweithrediadau o ddydd i ddydd. Cefnogwyd y broses o reoli’r hyn a gyflawnwyd gan Dîm Lleihau Carbon y Cyngor ynghyd â Cyson Cymru.

Mae’n cyfrannu tuag at

Mae’r prosiect hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at:

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015  

  • Cymru Lewyrchus: Mae adeiladau sy’n effeithlon o ran ynni yn lleihau costau rhedeg, gan ryddhau adnoddau ar gyfer rhaglenni cymunedol a’r celfyddydau. Maent hefyd yn hybu arloesedd gwyrdd a sgiliau technoleg adeiladau a rheoli ynni. 
  • Cymru Gydnerth: Mae lleihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon yn cefnogi gwydnwch amgylcheddol a bioamrywiaeth drwy leihau’r galw am danwydd ffosil. Gall systemau addasu i effeithiau newid hinsawdd hefyd (e.e. rheoli tymheredd). 
  • Cymru Iachach: Mae rheoli’r tymheredd, yr awyru, ac ansawdd yr aer mewn mannau hamdden a chelfyddydol yn gwella cysur, llesiant, ac iechyd y cyhoedd — gan annog ffyrdd egnïol o fyw a chyfranogiad creadigol. 
  • Cymru sy’n Fwy Cyfartal: Trwy leihau costau gweithredol, gall cynghorau gadw cyfleusterau hamdden a’r celfyddydau yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bob grŵp incwm. Hefyd, mae amgylcheddau dan do da o’r budd mwyaf i ddefnyddwyr sy’n agored i niwed. 
  • Atal: Mae uwchraddio’r Systemau Rheoli Adeiladau yn atal problemau megis offer sy’n methu, gwastraffu ynni gormodol, neu ansawdd aer gwael drwy ganiatáu cynnal a chadw rhagfynegol 
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus: Mae mannau cyhoeddus modern, cyfforddus, a chynaliadwy yn annog defnydd cymunedol, gwirfoddoli, a chysylltiad cymdeithasol. Gall cyfleusterau effeithlon aros yn agored yn hirach, gan wasanaethu fel hybiau cymunedol. 
  • Cymru â Diwylliant Bywiog Lle Mae’r Gymraeg yn Ffynnu: Mae buddsoddi mewn lleoliadau celfyddydol yn cefnogi cyfranogiad diwylliannol a’r sector creadigol. Gellir ailfuddsoddi arbedion ynni mewn rhaglenni celfyddydol a gweithgareddau diwylliannol. 
  • Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang: Mae ôl troed carbon llai , rheoli ynni yn fwy clyfar, a gweithrediadau cynaliadwy yn sicrhau cysondeb rhwng camau gweithredu lleol â nodau hinsawdd a chynaliadwyedd byd-eang.

Mae’r prosiect hefyd yn dangos y pum ffordd o weithio drwy ganolbwyntio ar:

  • Hirdymor: Mae Systemau Rheoli Adeiladau modern yn gwella effeithlonrwydd ynni, yn lleihau allyriadau carbon, ac yn lleihau costau gweithredol. Mae hyn yn cyfrannu at gynaliadwyedd a gwydnwch asedau cyhoeddus yn yr hirdymor, gan sicrhau bod cyfleusterau’n parhau i fod yn fforddiadwy ac yn amgylcheddol gadarn ar gyfer cenedlaethau y dyfodol. 
  • Atal: Mae uwchraddio’r Systemau Rheoli Adeiladau yn atal problemau megis offer sy’n methu, gwastraffu ynni gormodol, neu ansawdd aer gwael drwy ganiatáu cynnal a chadw rhagfynegol a monitro amgylcheddol. Mae’n helpu i osgoi costau a niwed amgylcheddol yn y dyfodol.
  • Integreiddio: Mae uwchraddio Systemau Rheoli Adeiladau sy’n effeithlon o ran ynni yn cefnogi nodau llesiant lluosog ar yr un pryd — o leihau ôl troed carbon (Cymru Gydnerth) i wella cysur ac ansawdd yr aer i ddefnyddwyr (Cymru Iachach).
  • Cydweithio: Yn nodweddiadol, mae’r broses uwchraddio yn cynnwys cydweithrediad rhwng awdurdodau lleol, arbenigwyr ynni, darparwyr technoleg, a rhanddeiliaid cymunedol, gan feithrin partneriaethau a rhannu cyfrifoldeb am gynaliadwyedd.
  • Cynnwys: Mae cynnwys staff, defnyddwyr cymunedol, ac artistiaid lleol yn y broses o ddylunio a gweithredu gwelliannau yn helpu i sicrhau bod systemau yn diwallu anghenion amrywiol, gan gefnogi canlyniadau cynhwysol ac sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr.

Yn ogystal â hynny, mae’r cynllun yn cefnogi blaenoriaethau Ystadau Cymru drwy wella asedau cyhoeddus at ddefnydd cymunedol hirdymor, cryfhau rheolaeth asedau cydweithredol, a chyfrannu at ystad sector cyhoeddus mwy cynaliadwy.

Effeithiau a chanlyniadau

Mae’r canlyniadau disgwyliedig yn cynnwys:

  • Gwell effeithlonrwydd ynni ar draws pedwar cyfleuster cymunedol mawr.
  • Llai o allyriadau carbon, gan gefnogi uchelgeisiau sero net Cyngor Dinas Casnewydd.
  • Defnyddio llai o ynni a chostau gweithredol is.
  • Monitro a rheoli’r gwresogi, yr awyru a gwasanaethau adeiladu eraill yn well.
  • Canfod namau, diagnosis a chynllunio cynnal a chadw yn well.
  • Cynnydd o ran gwydnwch seiberddiogelwch drwy systemau sydd wedi eu moderneiddio.
  • Hyd oes estynedig seilwaith yr adeilad presennol.
  • Gwell cysur, ansawdd aer a phrofiad defnyddiwr ar gyfer ymwelwyr, athletwyr, perfformwyr a staff.
  • Asedau cyhoeddus ar gyfer y dyfodol sy’n gallu cefnogi’r broses o ddarparu gwasanaethau hirdymor.

Bydd y gwelliannau hyn o fudd i dros filiwn o ymwelwyr bob blwyddyn sy’n ymweld â’r cyfleusterau chwaraeon yn ogystal â mwy na 100,000 o ymwelwyr bob blwyddyn sy’n ymweld â Theatr Glan yr Afon, gan sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy o ansawdd uchel yn parhau i fod ar gael i gymunedau lleol. Bydd y llwyddiant yn cael ei fonitro drwy ddadansoddi data defnydd ynni a chostau parhaus.

Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at y dull ehangach o gyrraedd sero net ar draws safleoedd Cyngor Dinas Casnewydd, sy’n cynnwys gosod ynni adnewyddadwy, technoleg gwres carbon isel, gwefru cerbydau trydan, a mentrau effeithlonrwydd ynni eraill ar safleoedd Casnewydd Fyw.

Gwersi a ddysgwyd a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Gwersi cadarnhaol

  • Mae cydweithrediad cynnar rhwng perchnogion asedau, gweithredwyr cyfleusterau ac arbenigwyr technegol yn helpu i nodi cyfleoedd i gynyddu arbedion ynni gymaint â phosibl.
  • Mae trefniadau gweithio ar y cyd yn cryfhau’r broses o gyflawni prosiectau ac yn helpu i leihau tarfiadau ar ddefnyddwyr gwasanaethau.
  • Mae Systemau Rheoli Adeiladau Modern yn darparu cyfleoedd sylweddol o ran effeithlonrwydd gweithredol a lleihau carbon.

Heriau

  • Gall systemau sy’n heneiddio amrywio’n sylweddol rhwng safleoedd, ac mae angen atebion wedi eu haddasu yn hytrach nag un dull safonol.
  • Mae cynllunio i uwchraddio mewn cyfleusterau hamdden a diwylliannol prysur yn gofyn am amserlennu gofalus er mwyn osgoi toriadau i’r gwasanaethau.
  • Gall systemau etifeddiaeth gyflwyno heriau technegol wrth integreiddio â thechnolegau mwy newydd.

Cynllunio ar gyfer y dyfodol

Mae’r prosiect wedi atgyfnerthu pwysigrwydd rheoli asedau yn rhagweithiol a defnyddio technolegau digidol i optimeiddio perfformiad adeiladau. Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau i weithio gyda Casnewydd Fyw a phartneriaid eraill i nodi cyfleoedd ychwanegol i ddatgarboneiddio ac i gyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni ar draws ei ystad.

Bydd data a gynhyrchir trwy’r Systemau Rheoli Adeiladau uwchraddedig yn cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau mwy gwybodus, gan alluogi buddsoddiad wedi ei dargedu mewn asedau cyhoeddus yn y dyfodol gan gyfrannu at ymrwymiad sero net 2030 y Cyngor. Bydd y dull cydweithredol a sefydlwyd drwy’r prosiect hwn hefyd yn helpu i lunio prosiectau rheoli asedau cynaliadwy yn y dyfodol ledled Casnewydd.

Casnewydd Fyw