Mae'r partneriaeth wedi bod yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol, gan arwain at adfywio'r seilwaith cymunedol er budd trigolion lleol.
Cefndir
Ffin cymuned Ringland yw Ringland Way i'r dwyrain, ffin ddeheuol Ysgol Uwchradd Llanwern i'r de, Balfe Rd, Aberthaw Road, Ringland Circle, Ringwood Avenue, ar draws Heol Cas-gwent, Mountbatten Close a'r tu ôl i Chiltern Close a Glanwern Grove i'r gorllewin a thraffordd yr M4 i'r gogledd.
Mae Ringland yn agos at gyffordd 24 y draffordd a 12 munud mewn car o Orsaf Trenau Casnewydd. Mae gan yr ardal gyfagos fannau gwyrdd gan gynnwys Coedwig Ringland sy'n cael ei chynnal gan Goed Cadw.
Yn dilyn datblygu'r ganolfan breswyl a siopau a adeiladwyd yn ystod y 1950au a'r 1960au, cytunwyd ar brosiect adfywio mawr yn 2017. Roedd y prosiect hwn yn cefnogi datblygu rhagor o gartrefi newydd, canolfan siopa mewn lleoliad newydd a chanolfan iechyd a llesiant newydd. Y bwriad oedd ymgorffori hyb cymunedol presennol Cyngor Dinas Casnewydd. Byddai'r dull hwn yn gofyn am gyfranogiad gan nifer o asiantaethau i gefnogi a chyflawni'r weledigaeth i drawsnewid ardal Ringland yn lle bywiog a chynaliadwy lle y gall pobl fyw a gweithio. Mae'r bartneriaeth rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (y Bwrdd Iechyd), Cyngor Dinas Casnewydd a Chartrefi Dinas Casnewydd wedi bod yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol, gan arwain at adfywio'r seilwaith cymunedol er budd trigolion lleol.
Bydd integreiddio agos â'r hyb cymunedol leol yn rhoi cyfle i ymdrin ag iechyd a llesiant yn Ringland mewn ffordd fwy integredig.
Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd i rai o'r gweithdrefnau llawdriniaeth symlach gael eu cynnal yn lleol ac mewn amgylchedd mwy ymlaciedig
Adroddiad Cais Cynllunio
Canolfan Iechyd a Llesiant Integredig Newydd Dwyrain Casnewydd (19 Hills): Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Ym mis Mai 2022, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru adeiladu canolfan iechyd a llesiant integredig yn Ringland. Bydd y datblygiad newydd yn gartref i ddau bractis meddyg teulu presennol a Deintyddfa Ringland. Bydd y ganolfan hefyd yn gartref i nifer o wasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, gan gynorthwyo'r Bwrdd Iechyd i ddarparu ei fodel gwasanaeth 'Dyfodol Clinigol'. Bydd y datblygiad yn cefnogi gwaith integredig sy'n seiliedig ar le rhwng y Bwrdd Iechyd a Chyngor Dinas Casnewydd, gan ddarparu gwasanaethau iechyd a llesiant i oddeutu 17,000 o bobl yn ardaloedd Ringland, Alway, a Somerton yn nwyrain Casnewydd.
Bydd Canolfan Iechyd a Llesiant Dwyrain Casnewydd (19 Hills) wrth galon y gymuned ac yn rhan o hyb cymunedol iach a bywiog a fydd ar gael i'r holl drigolion lleol.
Bydd y datblygiad newydd yn gweld Canolfan Iechyd bresennol Ringland yn cael ei dymchwel a'i disodli gan ganolfan iechyd a llesiant newydd, a fydd yn cynnwys Gwasanaeth Meddygol Cyffredinol Canolfan Iechyd Ringland a Meddygfa Park.
Bydd Canolfan 19 Hills yn cysylltu'n ffisegol â Hyb Ringland Cyngor Dinas Casnewydd sydd newydd gael ei hailwampio, gan ganiatáu ar gyfer rhagor o integreiddio â gwasanaethau ehangach a all ddiwallu ac ymateb i anghenion lleol. Mae maes parcio cyhoeddus wedi cael ei gynllunio ar y safle presennol ar gyfer y ganolfan, gyda chyfanswm o 119 o leoedd parcio, gan gynnwys lleoedd i unigolion ag anableddau.
Mae trafodaethau'n parhau mewn perthynas â chynnwys nifer o wasanaethau eraill a fydd ar gael yn y ganolfan newydd, gan gynnwys:
- Tîm Nyrsio Rhanbarthol
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl
- Podiatreg
- Awdioleg
- Ymweliadau Iechyd
- Nyrsys Ysgol (gan gynnwys LAC a Diogelu)
- Therapi Iaith a Lleferydd
- Dieteteg
- Iechyd Rhywiol
- Bydwreigiaeth
Bwriedir i Ganolfan 19 Hills agor yn gynnar yn 2025. Er mwyn helpu gyda'r cynllun gweithredu, mae amryw grwpiau gorchwyl a gorffen amlasiantaethol wedi cael eu sefydlu i fwrw ymlaen â'r datblygiad, gan gynnwys grŵp rheoli a chyfathrebu. Cynhaliwyd 'diwrnod agored' ym mis Mai i hyrwyddo'r datblygiad ymhellach a chodi'r proffil ymhlith rhanddeiliaid ac arweinwyr allweddol yng Nghasnewydd.
Hyb Cymunedol Ringland: Cyngor Dinas Casnewydd
Mae'r hyb cymunedol, sydd newydd gael ei ailwampio, yn cynnig amrediad eang o wybodaeth a chymorth i drigolion sy'n gallu galw heibio pan fydd angen. Ar hyn o bryd mae'r hyb yn gartref i'r canlynol.
- Cyfleuster llyfrgell gyhoeddus
- Academi Ieuenctid Casnewydd (lleoliad addysgol)
- Prosiect Aspire Casnewydd Fyw (addysg amgen)
- Grwpiau amryw (h.y. grŵp hanes, dosbarthiadau rhianta Dechrau'n Deg, hyfforddiant cyflogaeth)
- Cymorthfeydd galw heibio ar gostau byw
- Dechrau'n Deg
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau – 1 diwrnod yr wythnos
- Ymgysylltu â’r gymuned
- Tîm cyflogaeth
- Pwynt casglu bagiau gwastraff gwyrdd
Mae cysylltu'r Ganolfan Llesiant yn ffisegol â'r hyb cymunedol wedi creu cyfle i ystyried integreiddio ehangach rhwng y Bwrdd Iechyd a Chyngor Dinas Casnewydd drwy gydweithio ar sut i gynyddu'r cymorth cymunedol ehangach sydd ar gael i drigolion. Mae'r dull hwn yn caniatáu inni fynd ati mewn modd rhagweithiol i hyrwyddo model rhagnodi cymdeithasol a fydd yn sail i'r bartneriaeth. Mae llawer o egwyddorion craidd y dull hwn yn amlwg.
Mae hyn yn cynnwys creu rhwydwaith gyda chysylltiadau cryf rhwng yr adeiladau lle y gall gwasanaethau statudol, sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol ddod at ei gilydd.
Mae'r prosiect cyfunol yn cefnogi'n llawn y pum ffordd o weithio sydd wedi'u hymgorffori yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y dangosir isod.
- Meddwl Tymor Hir – Bydd y prosiect hwn yn dylanwadu'n sylweddol ar y ffordd mae gwasanaethau iechyd yn cael eu darparu yn Nwyrain Casnewydd yn y tymor hwy, ac ar gynaliadwyedd y gwasanaethau hyn
- Integreiddio – Mae'r prosiect wedi cael ei gynllunio a'i ddylunio fel Canolfan Iechyd a Lles cwbl integredig
- Cynnwys – bu ymgysylltu helaeth â chyrff sector cyhoeddus lleol, staff, defnyddwyr a'r cyhoedd ehangach
- Cydweithio – Mae'r prosiect wedi cael ei gynllunio a'i ddylunio ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd, sefydliadau trydydd sector, a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
- Atal – Un o brif nodau'r model Iechyd a Llesiant yw gweithio mewn ffordd integredig i atal salwch
Cartrefi Dinas Casnewydd
Mae Cartrefi Dinas Casnewydd yn arwain prosiect pum mlynedd i ailddatblygu Ringland, gan gynnwys 158 o gartrefi cymdeithasol sydd eu hangen yn fawr a chyfleusterau cymunedol newydd, gan gynnwys ardal chwarae newydd a chyfleusterau siopa. Datblygwyd y weledigaeth a'r cynlluniau ar gyfer y safle ar ôl blynyddoedd o ymgynghori â thrigolion, a ddechreuodd ar ôl dymchwel y fflatiau deulawr presennol yng Nghanol Ringland a Cot Farm. Mae Cartrefi Dinas Casnewydd wedi cael cyllid o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cyllid Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, y Gronfa Bwlch Hyfywedd Tai a'r Rhaglen Grant Tai Cymdeithasol. Mae'r prosiect wedi cael ei reoli mewn cydweithrediad agos â'r cyngor, gan gynnwys cyfarfodydd wythnosol i ddelio â materion brys a pherthnasol.
