Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun theatr y Sherman i helpu grwpiau o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf deithio yn ôl ac ymlaen o'r theatr am ddim.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynigiwyd y nosweithiau Sherman 5 yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd i aelodau o grwpiau o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf ledled Caerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Chasnewydd. Roedd grwpiau cymunedol sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu rhwystrau a/neu anfantais, gan gynnwys grwpiau ffoaduriaid a phobl anabl, yn rhan o’r rhaglen hefyd. Cafodd y rhaglen gyllid o £500,000 gan Sefydliad Paul Hamlyn ac roedd y gwariant yn cynnwys gwrdd â chostau tocynnau mynediad a chludiant.

Cafodd aelodau gludiant am ddim i Theatr y Sherman: mewn tacsi i grwpiau hyd at 6 o bobl, tra bo grwpiau mwy wedi defnyddio coetsis. Roedd y goets yn codi pobl mewn cyfres o fannau y cytunwyd arnynt ac yn gwneud yr un siwrne yn ôl ar ôl y perfformiad.  Fe ddatblygodd Sherman 5 fws beicio hefyd gyda chyfranogiad Sustrans a ddarparodd dywysydd ac a ddewisodd lwybr diogel i feicio i’r theatr, tra bo cynllun tebyg yn cael ei drefnu ar ffurf bws cerdded gyda’r Cerddwyr, staff blaen tŷ, a staff ysgolion. 

Fe archwiliodd y prosiect lawer o syniadau pellach, er enghraifft gweithio gyda Cardiff Bus, sy’n cynnig cardiau disgownt IFF gan roi disgowntiau ar gyfer ystod o fwytai ac atyniadau i deuluoedd. Hefyd, bu Sherman 5 yn ystyried ffyrdd o ddatblygu cynllun gyda Trenau Arriva Cymru i alluogi pobl o ardaloedd megis Ystâd Gurnos ym Merthyr Tudful i gael mynediad at y theatr.