Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Prosiect Sero yw ymateb Cyngor Bro Morgannwg i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur. Mae'n dwyn ynghyd yr amrediad eang o waith a chyfleoedd sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, i leihau allyriadau carbon y Cyngor i sero-net erbyn 2030 ac i annog eraill i wneud newidiadau cadarnhaol. 

Mae pedair o'n deunaw her yn ceisio dangos arweinyddiaeth gref, a chyda'r rhain mewn golwg y gwnaethon ni gais am grant cydweithredu ACPW3. Roedd sicrhau grant o £250k yn ein galluogi i wneud y canlynol: 

Trafod â'r gymuned 

Trafod â'r gymuned a gwrando ar eu blaenoriaethau ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu ein hadnoddau naturiol, gan eu cefnogi i wneud gwahaniaeth a 

Sut mae ein gwaith mewn Canolfannau Cymunedol yn cyd-fynd â'r her 

Roedd y grant yn ein galluogi i weithio gyda chanolfannau cymunedol yn Llanilltud Fawr, y Rhws a'r Barri. Mae'r canolfannau hyn yn cyrraedd amrywiaeth o wahanol grwpiau cymunedol a fydd i gyd bellach yn elwa ar gostau gweithredu is. 

Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth 

Codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth drwy hyrwyddo negeseuon cyson a chlir i'n staff, ein cymunedau a'n partneriaid am y gwahaniaeth y gallwn ei wneud a'r gwahaniaeth rydyn ni eisoes yn ei wneud drwy newid ein hymddygiad a thrawsnewid ein gwasanaethau. 

Sut mae ein gwaith mewn Canolfannau Cymunedol yn cyd-fynd â'r her 

Ochr yn ochr â buddsoddi mewn technoleg newydd i leihau faint o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio, cyflwynwyd hyfforddiant newid ymddygiad ar reoli goleuadau LED newydd, defnyddio thermostatau clyfar a sut i wneud y defnydd gorau o drydan a gynhyrchir gan yr haul yn ystod y dydd a defnyddio batris gyda'r nos. 

Gellir gwerthu arbedion gweithredol ac incwm o baneli ffotofoltäig dros ben i'r grid i sicrhau.

Datblygu ein sylfaen dystiolaeth 

Datblygu ein sylfaen dystiolaeth a'n gwybodaeth i sicrhau dealltwriaeth lawnach o effaith a 'chostau' posibl gweithgareddau. 

Sut mae ein gwaith mewn Canolfannau Cymunedol yn cyd-fynd â'r her 

Mae'r grant wedi ein galluogi i dreialu gwahanol ffyrdd o weithio a chydweithio â grwpiau cymunedol. Bydd y systemau monitro (thermostat clyfar a monitro paneli ffotofoltäig) yn galluogi pwyllgorau i ddysgu'r ffordd o orau o reoli eu canolfannau.  

Croesawu ein rôl fel arweinwyr cymunedol 

Croesawu ein rôl fel arweinwyr cymunedol i weithio gydag eraill a dylanwadu arnyn nhw i wneud y newidiadau sydd eu hangen i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. 

Sut mae ein gwaith mewn Canolfannau Cymunedol yn cyd-fynd â'r her 

Gall y tîm Datgarboneiddio ac Ynni rannu profiad o reoli'r ystâd ehangach â'r asedau adeiladau datganoledig hyn. Mae deialog rhwng yr holl bwyllgorau canolfannau cymunedol wedi cynyddu oherwydd y grant hwn.  

Ble wnaethon ni weithio? 

Cynhaliwyd archwiliadau datgarboneiddio o'r holl ganolfannau cymunedol yng ngwanwyn 2023, ac roedd maint y cyfleoedd yn amrywio'n fawr iawn. Roedd dewis y safleoedd yn golygu cydbwyso lle y gallai'r buddsoddi gyd-fynd orau â'r defnydd o neuaddau, trefnu i sicrhau nad yw canolfannau'n segur am gyfnodau rhy hir, a nodi pwyllgorau sy'n barod i gymryd rhan yn y peilot. 

Y tri safle a ddewiswyd oedd: 

Canolfan Gymunedol y Rhws, Stewart Road – gyda dwy neuadd a hyb grŵp ieuenctid, mae'r ganolfan hon yn cael ei bwcio sawl gwaith y dydd a hynny drwy gydol yr wythnos ac ar y penwythnos. 

Canolfan y Mileniwm Sant Ffransis, Y Barri – mae'r ganolfan yn cynnal grŵp chwarae o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y dydd ac mae ganddi ddosbarthiadau nos ac ar y penwythnos am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. 

CF61, Llanilltud Fawr – gofod cymunedol sy'n cael ei redeg gan Wasanaeth Gwirfoddol Morgannwg (GVS). Gydag amrywiaeth o neuaddau a mannau swyddfa ar gael i'w llogi, maent hefyd yn cynnal y prosiect Pantri Bwyd wythnosol a chaffis sgwrsio; mae'r ganolfan yn ganolfan gymunedol brysur i'r dref. 

Beth wnaethon ni? 

Canolfan Gymunedol y Rhws

Gweithgaredd

Inswleiddio pibellau dŵr poeth – pibellau'r system wresogi a'r pibellau domestig. 

Gweithgaredd

Gosod gwresogyddion dŵr â dau bwynt defnyddio, i ddisodli hen wresogydd dŵr nwy aneffeithlon. 

Gweithgaredd

Gosod thermostatau clyfar (Nest) a gweithredol ar y ddwy system wresogi. 

Effaith

Gall y pwyllgor fonitro amseroedd gwresogi a'r tymheredd a sicrhau bod hyn yn cyd-fynd yn well ag amseroedd llogi a gweithgareddau pob gofod. 

Roedd y nwy a ddefnyddiwyd o fis Ebrill i fis Mehefin 2024 dros 20% yn is o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2023.

Gweithgaredd

Gosodwyd arae ffotofoltäig 28 panel (12kWp) ar y to gyda infertor hybrid 11kW a batri 10kWh. Mae cytundeb allforio wedi'i wneud gyda NGED ac mae'n galluogi'r ganolfan gymunedol i gael ei thalu am unrhyw drydan dros ben sy'n cael ei allforio i'r grid. Mae enghraifft o ddangosfwrdd GivEnergy ar y chwith. 

Effaith

Wrth gymharu biliau rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2023 â'r un cyfnod yn 2024, gallwn weld bod defnydd y safle o'r grid wedi gostwng dros 80%.  

Gweithgaredd

Mae goleuadau LED newydd yn yr adeilad drwyddo draw wedi gwella naws pob gofod yn fawr iawn. Gyda synwyryddion golau dydd a synwyryddion pobl mae'n cyd-fynd yn well â'r amrywiaeth o ddefnyddwyr – drama, grwpiau sinema (sy'n defnyddio taflunyddion), ioga sydd angen goleuadau isel a llawer mwy. 

Canolfan y Mileniwm Sant Ffransis

Gweithgaredd

Mae goleuadau LED newydd yn yr adeilad drwyddo draw wedi datrys nifer o broblemau cynnal a chadw yr oedd y pwyllgor wedi'u profi. Roedd yr hen ffitiadau ar lefel uchel yn aneffeithlon, yn swnllyd ac yn darparu golau gwael. Ar ben hynny, roedd trwsio goleuadau ar bwys y llwyfan yn gostus ac yn lletchwith. 

Effaith

Mae angen llai o waith cynnal a chadw ar ffitiadau LED, ac maen nhw'n darparu golau gwell heb sŵn. Mae pob gofod yn elwa ar synwyryddion golau dydd a synwyryddion pobl, gan gyd-fynd yn well â'r amrywiaeth o ddefnyddwyr – o ddosbarthiadau cwiltio, ioga a myfyrio.  

Gweithgaredd

Cafodd yr holl bibellau gwresogi o fewn yr adeilad eu hinswleiddio, a gosodwyd thermostat clyfar (Nest) i reoli'r gwresogi'n well i gyd-fynd ag adegau defnyddio'r adeilad. 

Effaith

Gyda màs thermol uchel, gall system wresogi'r adeilad ddod yn llawer mwy effeithlon.  

Gweithgaredd

Arae ffotofoltäig a batris wedi'u gosod ar y to gwastad. Gyda mynedfa fodern wedi'i hychwanegu at Neuadd Sant Ffransis yn 2000, roedd y to gwastad hwn yn ddelfrydol i leoli arae ffotofoltäig 14 panel (6kWp) o'r golwg, wedi'i baru ag infertor hybrid 5kW g batri 9.5kWh. Unwaith eto, mae trefniadau ar waith gyda NGED ar gyfer allforio unrhyw drydan dros ben ac mae taliadau i'r Pwyllgor wedi cael eu trefnu. 

Effaith

Mae'r system yn darparu trydan am ddim i'r cylch chwarae ac mae'r batris yn helpu i ddarparu trydan ar gyfer y nos. 

CF61, Llanilltud Fawr

Gweithgaredd

Gosodwyd rheiddiaduron tymheredd wyneb isel newydd a phibellau gwresogi wedi'u hinswleiddio. Mae'r rhain wedi disodli'r system wresogi un bibell sy'n gwasanaethu hen reiddiaduron haearn bwrw yr oedd eu hoes ddefnyddiol wedi mynd heibio. Yn flaenorol, roedd gorboethi mewn rhai ardaloedd yn arwain at y system wresogi'n gorfod bod ymlaen i wasanaethu un ardal, tra oedd rhaid i ardal arall agor ffenestri i oeri gyda gwres yn dianc ac yn cael ei wastraffu. 

Effaith

Mae'r system yn darparu rhagor o hyblygrwydd i wresogi pob ystafell i dymheredd gwahanol mewn ymateb i anghenion defnyddwyr. 

Gweithgaredd

Mae thermostat clyfar (Nest) newydd hefyd wedi cael ei osod i alluogi monitro patrwm gwresogi'r adeilad o bell hefyd. 

Effaith

Wrth gymharu biliau nwy o fis Ebrill a mis Mehefin 2023 â'r un cyfnod yn 2024, mae arbedion o dros 40% wedi cael eu gwireddu.  

Gweithgaredd

Gosodwyd goleuadau LED newydd gyda synwyryddion golau dydd synwyryddion pobl mewn ardaloedd nad ydyn nhw eisoes wedi'u hailwampio ac sydd heb oleuadau LED. 

Impact

Mae hyn wedi lleihau'r trydan sydd ei angen ar yr adeilad ar gyfer goleuadau'n sylweddol, ynghyd â system ffotofoltäig newydd sydd eisoes yn darparu manteision ariannol. 
 

Gweithgaredd

Mae arae ffotofoltäig 24 panel newydd  (10kWp), ag infertor 8kW a batri 10kWh wedi cael ei osod. 

Effaith

Ar rai dyddiau gall yr adeilad bellach weithredu fel 'ynys' heb fod angen unrhyw bŵer o'r grid. Er enghraifft, ym mis Mawrth, pan oedd yr arae wedi cael ei osod ac roedd contractwyr yn dal i fod ar y safle. Ym mis Ebrill, pan oedd y batri'n llawn a thrydan dros ben yn cael ei gynhyrchu gan yr arae ffotofoltäig, roedd yr adeilad yn allforio i'r grid. Gweler yr allbwn o becyn monitro Solar Edge ar y chwith. Ar ddiwrnod cymylog pan fydd cynhyrchu yn dal i fod yn isel, a lefel y batris yn isel, gellir diwallu anghenion yr adeilad (am 10am) o hyd heb brynu trydan o'r grid – neu hyd yn oed allforio trydan. 

Wrth gymharu biliau o fis Ebrill i fis Mehefin 2023 â'r un cyfnod yn 2024, mae arbedion o fwy na 70% o drydan o'r grid wedi cael eu gwireddu.  

Ar gyfer y chwarter gweithredol cyntaf 2024, sef mis Ebrill i fis Mehefin, cynhyrchodd y system fwy na 3.2MWh (MegaWat awr), gan arbed dros 700kg o allyriadau carbon – sy'n cyfateb i fwy na 44 o goed yn cael eu plannu. Bydd y manteision sylweddol hyn, o chwarter cyntaf y cyfnod gweithredu yn unig, yn parhau i dyfu a gwella wrth i GVS ennill hyder wrth fonitro'r system a chyda incwm y gwarant allforio clyfar wedi'i chytuno.   

Canolfan Gymunedol y Rhws