Neidio i'r prif gynnwy

Roedd ystafelloedd newid Penygaer yn gyfleuster newid pêl-droed a rygbi. Maent bellach yn ganolfan i'r holl gymuned leol.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:
Opening of redeveloped Penygaer changing rooms

Cyflwyniad

Roedd Ystafelloedd Newid Penygaer yn gyfleuster newid adfeiliedig ar gyfer pêl-droed a rygbi, yn cynnwys adeilad ystafell newid brics gyda 10 ystafell newid a chyfleuster adeiladu modiwlaidd gyda 4 ystafell newid. Defnyddiwyd yr adeiladau ar gyfer gofynion newid y clybiau chwaraeon sy'n defnyddio'r caeau chwarae yn unig.

Trosglwyddwyd yr adeiladau gyda'r caeau pêl-droed a rygbi cyfagos i Gyngor Tref Llanelli yn 2022, ynghyd â'r cae cymunedol ar ochr arall y ffordd yn Llannerch.

Gweithiodd y Cyngor Tref gyda'r clybiau chwaraeon ym Mhwyllgor Rheoli Penygaer i gynnal a chadw'r adeilad a'r caeau chwarae ac i ddarparu mynediad i amrywiaeth o glybiau a oedd yn dymuno defnyddio'r cyfleusterau (5 cae pêl-droed ac 1 cae rygbi).

Yr her

Roedd y cyfleuster wedi dod yn adfeiliedig iawn gyda chyfleusterau o ansawdd gwael gan gynnwys cyfleuster cawod gymunedol oedd angen ei uwchraddio'n arw. Roedd y cyfleusterau yn brin iawn o nifer o ofynion pwysig mewn cyfleusterau, megis cyfleuster newid pwrpasol i ferched, gofod cymunedol (ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau cymunedol) a chegin (i ganiatáu ar gyfer gweithgareddau Cymunedol a gwerthu te a choffi ac ati).

Roedd Grwpiau ac Ysgolion Cymunedol yn ceisio defnyddio'r caeau chwarae ar gyfer eu gweithgareddau, ond nid oedd ganddynt unrhyw gyfleusterau y gellid eu defnyddio i greu budd ychwanegol a gwneud refeniw ychwanegol trwy eu gweithgareddau. 

Yn ogystal, roedd yr Ysgol Arbennig leol (Heol Goffa) yn defnyddio'r caeau chwarae ac nid oedd ganddi fynediad i doiled anabl na chyfleuster newid. Doedd dim cyfleusterau o'r fath ar gael yn gyhoeddus yn Llanelli.

Cynhaliwyd Ymgynghoriad Cymunedol ar y defnydd o'r cyfleuster a sut y gellid ei ddatblygu i ddarparu dull parc cyfan ar gyfer y cyfleuster.

Yr her:

  • sicrhau cefnogaeth gymunedol i'r prosiect
  • yr angen i ad-drefnu'r cyfleuster i ddarparu digon o ystafelloedd newid tra'n gwneud lle ar gyfer yr agwedd defnydd Cymunedol
  • yr angen am gyfleusterau cegin
  • yr angen am ofod ystafell gymunedol
  • yr angen am Gyfleuster Changing Places
  • yr angen am gyfleusterau cawod wedi'u huwchraddio

Y dull

Daeth tîm prosiect at ei gilydd o Gyngor Tref Llanelli, Grŵp Cymunedol Caru Lliedi, Pwyllgor Rheoli Penygaer, Partneriaeth Gymunedol Llanelli, Rhwydwaith Amlddiwylliannol Llanelli, Ysgolion Penygaer a Dewi Sant, yr Heddlu, y Frigâd Dân, Cyngor Sir Caerfyrddin ac eraill. 

Dyluniwyd y prosiect gan Dîm y Prosiect gyda 2 estyniad yn cael eu cynnwys yn y gwaith a wnaed (i greu'r cyfleuster cegin a'r cyfleuster Changing Places – a oedd â gofyniad maint penodol). Cafwyd dwy yn llai o ystafelloedd newid, trwy drawsnewid dwy ystafell newid yn y Gofod Cymunedol. 

Roedd angen i'r prosiect gael cymeradwyaeth gynllunio gan y Cyngor Sir. Felly, fe wnaeth Pensaer Ymgynghorol Cyngor y Dref baratoi cynlluniau.

Gyda chaniatâd cynllunio a Chyllid Llywodraeth Cymru ar waith, crëwyd y cyfleuster yn gynnar yn 2023 a'i agor gan yr AS lleol a Gweinidog Llywodraeth Cymru, Lee Waters, ar y 29ain o Ebrill 2023.

Cyfrannu tuag at

Cyfrannodd y prosiect tuag at gynllun blynyddol Datblygu Cymunedol Cyngor y Dref.

Mae'r prosiect wedi darparu ar gyfer cyfleuster y gellir ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o weithgareddau o fewn y Gymuned ac ar gyfer y Cyngor Tref.

Mae'r prosiect wedi cyflawni nifer o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Effeithiau a chanlyniadau

Mae'r prosiect wedi gweld trawsnewidiad yn y defnydd o'r caeau chwarae gyda gweithgareddau wedi'u creu gan gynnwys:

  • Teithiau cerdded lles
  • Clybiau brecwast yn yr ysgol
  • Gweithredu Cymunedol
  • Defnydd ychwanegol gan yr ysgol ar gyfer chwaraeon
  • Gweithgaredd plannu amgylcheddol

Mae'r holl weithgareddau hyn yn bosibl oherwydd creu'r Ystafell Gymunedol a'r gegin.

O ganlyniad i'r prosiect, mae 2 gae pêl-droed ychwanegol wedi'u creu yng Nghae Llanerch ac mae clybiau o bob cwr o'r ardal yn gofyn am ddefnyddio'r cyfleusterau.

Mae'r Cyngor Tref wedi gallu ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau ychwanegol gan gynnwys:

  • creu ardal Chwarae Actif yn y caeau chwarae.
  • creu'r Ardal Chwarae Synhwyraidd gyntaf yn Llanelli yn y caeau chwarae.
  • creu gardd synhwyraidd.
  • creu llwybr ar hyd yr afon gyda coed a phlanhigion yn Llanerch.
  • darparu cyfleusterau y gellir eu defnyddio gan Wasanaeth Chwaraeon, Ieuenctid a Gweithgareddau newydd y Cyngor Tref.

Gwersi a ddysgwyd a chynllunio'r dyfodol

Dangosodd y prosiect unwaith eto bwysigrwydd ystyried amserlenni wrth gynllunio'r prosiectau, cafwyd oedi, ac rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth yn ystod y problemau hyn.

Tanlinellwyd pwysigrwydd cael yr arbenigedd cywir fel Peirianwyr Strwythurol a Phenseiri eto.

Mae effaith gadarnhaol cynnwys sefydliadau cymunedol a sefydliadau eraill wrth gynllunio'r prosiect wedi dangos unwaith eto bwysigrwydd ymgynghori a chyfranogiad cymunedol.