Mae’r adroddiad yn amlinellu canfyddiadau astudiaeth ddichonoldeb fach o’r broses bresennol ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r amrywiaeth a ddangosir rhwng y nifer fach o awdurdodau lleol a samplwyd yn yr astudiaeth dichonoldeb hwn yn cefnogi'r angen am ymchwil bellach i ddeall dyraniadau tai cymdeithasol ledled Cymru. Mae canfyddiadau'r astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys arwydd o'r galw am dai cymdeithasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf; bylchau data; perthnasoedd rhwng sefydliadau sy'n ymwneud â dyraniadau tai cymdeithasol, a rôl cofrestr tai cyffredin.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylid gwneud ymchwil pellach gan gynnwys gweithio i nodi setiau o ddangosyddion sy'n ganolog i benderfyniadau a pholisïau dyrannu tai cymdeithasol.
