Neidio i'r prif gynnwy

Ceisiodd yr astudiaeth gael consensws ymhlith arbenigwyr ar effaith COVID-19, ac i nodi strategaethau a chefnogi plant cyn-ysgol.

Yn seiliedig ar farn mwy na 400 o arbenigwyr ac ymarferwyr. Mae'r astudiaeth hon yn cyfeirio at ffyrdd a fydd yn helpu i nodi, mynd i'r afael / liniaru ag effaith COVID-19 ar blant dan 5 oed.

Mae cyfranogwyr ymchwil yn credu bod gwerth:

  • cefnogi lleoliadau addysg gynnar a gofal plant i greu amgylcheddau chwarae cefnogol
  • creu amgylcheddau tawel sy'n rhoi ymdeimlad o berthyn i blant
  • cefnogi eu lles i sicrhau eu bod yn gallu symud ymlaen yn eu dysgu a'u datblygiad

O ran dulliau mwy strategol, y neges allweddol yw y dylai darpariaeth addysg gynnar a gofal plant fod o ansawdd uchel, gyda mynediad cyffredinol, sy'n cyd-fynd â chymorth ac adnoddau rhieni a gofalwyr o safon.

Adroddiadau

Astudiaeth Delphi i ddeall yr opsiynau sydd ar gael a fydd yn helpu i ganfod effaith COVID-19 ar blant o dan 5 oed, ymdrin â’r effaith honno, neu ei lliniaru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Faye Gracey

Rhif ffôn: 07747 248237

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.