Astudiaeth gwmpasu ar gyfer adolygiad o'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg: canlyniadau pennawd
Adolygiad tystiolaeth a chanfyddiadau cyfweliad â rhanddeiliaid, gydag argymhellion ar gyfer yr adolygiad pum mlynedd gyntaf.
Ar y dudalen hon
Prif ganfyddiadau
Ar y cyfan, mae argaeledd a digonolrwydd Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol cyfrwng Cymraeg yn gyfyngedig ac yn cynnwys sawl her.
Saesneg yw'r iaith ddiofyn ar gyfer gwasanaethau ADY o hyd. Mae dysgwyr cyfrwng Cymraeg yn wynebu mwy o anawsterau wrth gael gafael ar gymorth na dysgwyr cyfrwng Saesneg.
Gall hyn atal teuluoedd rhag gofyn am wasanaethau. Gall hefyd orfodi pobl i ddewis rhwng cael mynediad at gymorth priodol ac amserol neu gynnal addysg cyfrwng Cymraeg.
Amrywiad daearyddol
Mae'r ddarpariaeth yn amrywio'n sylweddol yn ôl daearyddiaeth ac mae fel arfer yn gryfach lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yn eang ac yn wannach mewn ardaloedd â llai o siaradwyr Cymraeg.
Mae rhai teuluoedd yn dweud eu bod nhw'n gorfod teithio y tu allan i'w hardal awdurdod lleol i gael mynediad at gymorth, am nad oes darpariaeth cyfrwng Cymraeg addas ar gael.
Gallu'r gweithlu
Mae prinder gweithlu yn rhwystr ac mae rhanddeiliaid yn cytuno'n fras nad yw lefel y gallu presennol yn ddigon i ateb y galw.
Dywedodd dros hanner yr awdurdodau lleol (13 o 22) yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg eu bod yn cael anawsterau recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg gydag arbenigedd ADY perthnasol.
Nodwyd prinder:
- cynorthwywyr addysgu
- seicolegwyr addysgol
- therapyddion iaith a lleferydd
- gweithwyr iechyd proffesiynol
Adnoddau
Ar hyn o bryd, mae prinder:
- Adnoddau ADY Cymraeg
- asesiadau diagnostig
- deunyddiau hyfforddi
Mae staff yn aml yn cyfieithu neu'n gorfod creu eu deunyddiau eu hunain. Mae hyn yn cynyddu llwyth gwaith a chostau, ac yn codi pryderon am ansawdd a safoni.
Cydweithio a chyllid
Mae cydweithio rhwng ysgolion, awdurdodau lleol a gwasanaethau iechyd yn cael ei ystyried yn hanfodol er mwyn goresgyn prinder gweithlu ac adnoddau.
Mae anghysondeb, fodd bynnag - nid yw arferion da'n cael eu rhannu'n effeithiol bob amser, a phrin yw’r dystiolaeth o ba fodelau cydweithio sy'n gweithio orau.
Nodwyd bod cyllid yn fater pwysig, er mai prin yw’r dystiolaeth o hyd o sut mae cyllid darpariaeth ddysgu ychwnegol cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddyrannu a'i ddefnyddio.
Prinder data
Mae diffyg data cadarn ar:
- nifer y dysgwyr sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg
- faint yn union sy'n derbyn cymorth cyfrwng Cymraeg
- y gweithlu sydd ar gael
Gall diffyg data arwain at danbrisio'r angen heb ei ddiwallu ac mae'n anodd asesu lefel digonolrwydd y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg.
Argymhellion
Mae'r adroddiad yn awgrymu bod angen yr adolygiad pum mlynedd llawn cyntaf i gasglu tystiolaeth bellach. Y nod fydd dealltwriaeth well o ddigonolrwydd presennol darpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg.
Manylion cyswllt
Awduron: Bethan Collins, Cadi Siôn, Eleri Jones, Laura Bloomfield
Safbwyntiau'r ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn, ac nid safbwyntiau Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cangen Ymchwil Ysgolion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rhif ymchwil cymdeithasol: 77/2026

