Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Ar 13 Gorffennaf 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Ymchwil Gymdeithasol (GSR) y Llywodraeth a luniwyd gan Arad Research mewn partneriaeth â'r Brifysgol Agored yng Nghymru, sef Astudiaeth gwmpasu ar gyfer gwerthuso'r diwygiadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru: adroddiad terfynol, a gyflwynodd ganfyddiadau astudiaeth gwmpasu yn ymwneud â gwerthuso'r diwygiadau cwricwlwm ac asesu yng Nghymru.

Drwy gydol camau deddfwriaethol a gweithredu Cwricwlwm i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal gwerthusiad trwyadl a thryloyw o'n diwygiadau cwricwlwm ac asesu, er mwyn deall sut mae'r diwygiadau'n gweithio ac archwilio i ba raddau y maent yn cael yr effaith a ddymunir ar bob dysgwr, waeth beth fo'u cefndir neu eu hanghenion.

Mae'r papur isod yn cyflwyno ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i'r adroddiad cwmpasu a'i argymhellion. Mae'r adroddiad hwn yn gam pwysig i'n helpu i lunio ein cynlluniau gwerthuso.

Crynodeb o’r canfyddiadau

Nod yr astudiaeth gwmpasu yw cyfleu'r theori, y rhagdybiaethau, y dystiolaeth a'r parodrwydd sy'n sail i'r diwygiadau cwricwlwm ac asesu a defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu argymhellion ar gyfer rhaglen fonitro a gwerthuso gadarn.

Mae'r adroddiad yn nodi'r broses casglu data a thystiolaeth arall sydd ar waith neu sydd wedi'i chynllunio ac yn asesu i ba raddau y byddai'r rhain yn caniatáu i'r cwestiynau ymchwil a gwerthuso gael eu hateb, a lle byddai bylchau allweddol yn parhau. Un o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad yw na fyddai'r data sydd ar gael yn darparu digon o dystiolaeth i ateb y cwestiynau ymchwil a gwerthuso. O ganlyniad, mae angen cynllunio a chyflwyno rhaglen ymchwil a gwerthuso sy'n cynhyrchu'r data a'r mewnwelediadau angenrheidiol i ddeall effeithiolrwydd a chanlyniadau'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm.

Mae'r adroddiad yn argymell cyfres gynhwysfawr o astudiaethau sydd, gyda'i gilydd, yn galluogi archwiliad o gynnydd ac effaith y diwygiadau i'r cwricwlwm dros amser. Cynigir naw astudiaeth, ac mae rhai ohonynt yn rhoi trosolwg eang a hir am ymchwil i lwyddiant diwygiadau'r cwricwlwm a nifer yn cydnabod pwysigrwydd ymchwilio'n fanwl i agweddau mwy penodol ar y gwaith.

Argymhellion

Mae'r adroddiad cwmpasu yn argymell naw maes gwaith y dylai'r rhaglen ymchwil a gwerthuso ganolbwyntio arnynt. Mae hyn yn cynnwys:

  1. Gwerthusiad ffurfiannol a phroses o wireddu'r cwricwlwm
  2. Astudiaeth samplu genedlaethol
  3. Astudiaeth Carfan Genedlaethol: "Tyfu i Fyny gyda Chwricwlwm i Gymru"
  4. Astudiaeth Genedlaethol o Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu
  5. Adolygiad o Gydlyniaeth y System
  6. Astudiaethau achos: Elfennau o’r Cwricwlwm
  7. Ymchwil astudiaeth achos: Gweithgareddau damcaniaeth newid/canlyniadau
  8. Astudiaethau ymyrraeth: Ymchwil a Datblygu
  9. Cydweithrediadau Ymholiadau Ymarferwyr

Mae'r adroddiad cwmpasu hefyd yn argymell y dylai'r rhaglen ymchwil a gwerthuso gael ei hategu gan gyfres o egwyddorion i lywio’r gweithgarwch ymchwil. Mae'r egwyddorion arfaethedig yn nodi y dylai'r rhaglen ymchwil a gwerthuso:

  • archwilio a yw'r weledigaeth a'r gofynion a nodir yn fframwaith cenedlaethol Cwricwlwm i Gymru yn cael eu gwireddu drwy gamau gweithredu ysgolion a'r system addysg ehangach
  • ganolbwyntio ar ddysgwyr a deall cynnydd dysgwyr
  • canolbwyntio ar weithgareddau, deilliannau a'r berthynas rhyngddynt
  • ystyried y system gyfan a chanolbwyntio ar ddeall newid/gwella'r system
  • cymryd golwg hir, gan gynnwys ymchwil hydredol ochr yn ochr â methodolegau eraill
  • cymryd golwg eang gan ymgorffori ymchwil fanwl i agweddau newydd ar y diwygiadau ochr yn ochr â heriau mwy sefydledig (traddodiadol)
  • llywio dysgu'r system yn barhaus a chynnwys gweithgarwch a gynlluniwyd a gweithgarwch ymatebol
  • cydnabod y cyd-destunau ieithyddol amrywiol ar draws y system ac adlewyrchu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a phartneriaid i gefnogi datblygiad sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr
  • meithrin ymddiriedaeth yn y broses werthuso ymhlith y rhai sy'n cyfrannu ato ac ymhlith y cynulleidfaoedd ar gyfer yr ymchwil
  • defnyddio arbedion effeithlonrwydd a manteisio ar yr arbenigedd presennol i gefnogi'r broses werthuso.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn:

  • yr angen am raglen ymchwil, monitro a gwerthuso uchelgeisiol ac eang sy'n gymesur â graddfa ein cwricwlwm newydd trawsnewidiol;
  • cyflwyniad yr awduron o ddamcaniaeth newid y rhaglen fel y'i nodir yn yr adroddiad cwmpasu a'r angen i adolygu’r ddamcaniaeth newid yn rheolaidd er mwyn ystyried datblygiadau polisi a ffactorau allanol eraill sy'n debygol o ddylanwadu ar sut mae'r diwygiadau'n gweithio;
  • bod y cwestiynau ymchwil a gwerthuso a nodwyd yn briodol i ddeall sut mae'r diwygiadau'n gweithio ac i bwy ac ym mha gyd-destunau, ac a yw canlyniadau ac effeithiau disgwyliedig y diwygiadau yn cael eu gwireddu yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hwy;
  • y byddai'r ffynonellau hyn, hyd yn oed gan ganiatáu ar gyfer addasu ffynonellau tystiolaeth presennol, ond yn mynd i'r afael yn rhannol â'r cwestiynau ymchwil a gwerthuso ac y bydd angen ymchwil a monitro ychwanegol helaeth, gan gynnwys yn benodol i deall sut mae dysgwyr yn gwneud cynnydd ac os a sut mae safonau addysgol yn gwella yng Nghymru;
  • bod yn rhaid i raglen ymchwil a gwerthuso gymryd golwg eang a hir ar lwyddiant diwygio'r cwricwlwm, a hefyd ymchwilio i rai agweddau yn fanylach, ac y dylai ddechrau cyn gynted â phosibl;
  • y dylai gweithgarwch ymchwil a gwerthuso gael ei ategu gan y 10 egwyddor a nodir yn adroddiad cwmpasu'r gwerthusiad

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y meysydd gwaith penodol a argymhellir ac yn cyhoeddi diweddariad ar ddatblygiadau yn nhymor yr hydref 2022 a bydd yn anelu at gyhoeddi cynllun gwerthuso manwl yn nhymor yr haf 2023. Bydd hyn yn nodi rhaglen fanwl o weithgarwch ymchwil, gwerthuso a monitro a fydd yn ein galluogi i ddeall a disgrifio'r gwelliant neu'r newid mewn safonau addysgol ledled Cymru, gan gynnwys mewn perthynas â charfannau penodol o ddysgwyr. 

Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein gwerthusiad yn cyd-fynd ag argymhellion prosiect ategol sy'n cael ei gynnal i nodi'r anghenion data a gwybodaeth ar draws y system ysgolion yng Nghymru, a fydd yn adrodd yn yr hydref, ac i ddatblygu cynlluniau integredig hirdymor. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu deall y profiad a'r dysgu o’r flwyddyn gyntaf o weithredu'r cwricwlwm, byddwn yn cynnal ymchwil cychwynnol ar raddfa lai o hydref 2022.

O ystyried rôl ganolog y Cwricwlwm i Gymru yn ein diwygiadau addysg ehangach, rydym yn cydnabod y cysylltiadau pwysig rhwng y prosiectau tystiolaeth a argymhellir a'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn rhannau eraill o'r system, ac yn fwy eang ar draws y Rhaglen Lywodraethu. Bydd ein cynllun gwerthuso yn sicrhau bod gweithgarwch ymchwil a gwerthuso yn cael ei alinio a'i integreiddio lle bo'n briodol er mwyn darparu darlun cyfannol, lleihau'r baich ar y rhai sy’n cymryd rhan yn yr ymchwil a gwneud y defnydd gorau o adnoddau.

Yn ogystal, bydd y cynllun gwerthuso yn ystyried sut y bydd y gwaith yn cael ei ariannu a'i gynnal. I gydnabod maint y gwaith a'r diddordeb cenedlaethol a rhyngwladol yn y diwygiadau, bydd yn briodol ymgysylltu â'r gymuned ymchwil ehangach yn ogystal â chomisiynu gwaith drwy wasanaeth Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth, gan gynnwys defnyddio arbenigedd ymchwilwyr ar draws y system addysg, academyddion a chyrff ymchwil eraill.