Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, wedi dweud heddiw bod gan brosiect Doeth am Iechyd y potensial i drawsnewid iechyd a lles y genedl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma'r astudiaeth ymchwil fwyaf o'i math yng Nghymru a'r nod yw recriwtio 260,000 o bobl sy'n 16 oed a hŷn ar ei chyfer. Bydd y gwirfoddolwyr sy'n dewis cymryd rhan yn y prosiect yn ateb cyfres o gwestiynau a fydd yn helpu'r ymchwilwyr i gael gwell dealltwriaeth o iechyd pobl Cymru. Bydd yr wybodaeth sy'n cael ei chasglu’n cael ei defnyddio hefyd i helpu'r Gwasanaeth Iechyd i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Gweinidog, Rebecca Evans:

"Gall yr ymchwil ein helpu i ddeall sut i chwilio am well triniaethau, datblygu’r gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â gwella iechyd a lles pobl Cymru. Y mwyaf o bobl fydd yn cymryd rhan, y mwyaf fydd effaith y canlyniadau, felly dw i'n annog pawb ledled Cymru i gymryd rhan."

Roedd y Gweinidog yn siarad wrth i hysbysebion teledu, radio, trên a phapur newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru heddiw. Mae'r hysbysebion yn cynnwys pobl go iawn o Gymru sydd wedi cofrestru ar gyfer y prosiect ac sy'n annog eraill i wneud yr un peth.

Cofrestrodd Helen O'Sullivan o Wrecsam i helpu eraill i ddod dros salwch, cofrestrodd Warwick Leek o Rondda Cynon Taf i godi ymwybyddiaeth am gyflyrau iechyd meddwl, tra bod Sara Crowley o Aberdâr wedi gwirfoddoli i gymryd rhan er mwyn gwella triniaethau diabetes.

Dywedodd Helen, sydd â phrofiad o ganser:

"Fe wnes i ddarllen am Doeth am Iechyd ar y we ac i mi, y nod yw ysbrydoli eraill. Dw i'n teimlo mor ffodus a dw i wedi cael gofal gwych gan y gwasanaeth iechyd. Fe wnes i gofrestru am fy mod i eisiau helpu menywod eraill i wynebu eu cyflyrau iechyd."

Dywedodd yr Athro Shantini Paranjothy o Brifysgol Caerdydd, Arweinydd Gwyddonol y prosiect:

"Mae'n bleser cael arwain y prosiect hwn sydd â gwir botensial i wella dealltwriaeth ymysg y cyhoedd a rhoi rhan iddyn nhw ei chwarae mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gall pawb sy'n byw yng Nghymru ac sy'n 16 oed neu'n hŷn gymryd rhan yn Doeth am Iechyd. Dw i wedi cofrestru oherwydd fy mod i eisiau cyfrannu fy ngwybodaeth a gwneud gwahaniaeth i iechyd a lles y boblogaeth."