Neidio i'r prif gynnwy

Fe gomisiynwyd cyfres o astudiaethau achos ar gyflogwyr i ymchwilio i gymhelliant ac agweddau cyflogwyr at hyfforddi eu gweithlu.

Cafodd 28 o astudiaethau achos eu cynnal gyda chyflogwyr a oedd yn cynrychioli, yn fras, sefydliadau ledled Cymru o ran maint y cynnig, y sector a’r rhanbarth.

Roedd yr astudiaethau achos yn cynnwys:

  • proffil o’r sefydliad a’i nodau busnes
  • mathau o weithgareddau dysgu y cymerwyd rhan ynddynt
  • mathau o weithwyr sy’n cymryd rhan mewn hyfforddiant
  • y broses benderfynu
  • manteision yr hyfforddiant a’r rhwystrau iddo
  • sylwadau barn am ansawdd y ddarpariaeth hyfforddiant sydd ar gael.

Cynhaliwyd yr astudiaeth er mwyn deall yn well y broses benderfynu ar gyfer gwahanol fathau o gyflogwyr, er mwyn i’r Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a’i phartneriaid allu sicrhau bod yr hyfforddiant sy’n cael ei ddarparu yn cefnogi anghenion y busnesau a’u gweithluoedd. Yn y modd hwn fe allwn ni gael effaith gadarnhaol ar fusnesau yng Nghymru a’r economi drwyddi draw.

Bu arolwg panel ar 2,000 o gyflogwyr yn edrych yn fanylach ar ddarganfyddion yr astudiaethau achos ar gyflogwyr. Mae’r arolwg hwn wedi cadw golwg ar y newidiadau mewn agweddau a chael adborth ynghylch y gwahanol ddulliau o ehangu a dwysau cyfranogiad y cyflogwyr mewn hyfforddiant.

Adroddiadau

Astudiaethau achos ar gyflogwyr, 2004: ymddygiad tuag at ddysgu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 304 KB

PDF
304 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Astudiaethau achos ar gyflogwyr, 2004: ymddygiad tuag at ddysgu (crynodeb) , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 480 KB

PDF
Saesneg yn unig
480 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.