Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Gwell Iechyd

Mae angen rhoi rhagor o sylw i iechyd y cyhoedd a mesurau ataliol er mwyn gwella iechyd hirdymor pobl yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Sarah Murphy, yn galw ar weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddod yn “hyrwyddwyr atal” er mwyn helpu pobl i wneud dewisiadau iachach, i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol gordewdra, yn ogystal â pharhau i ostwng cyfraddau smygu yng Nghymru.

Wrth siarad yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghaerdydd, bydd hi’n tynnu sylw at effaith salwch y gellir ei atal ar fywydau pobl, ar y GIG ac ar yr economi.

Er enghraifft, mae salwch sy’n gysylltiedig â gordewdra yn arwain at gostau gwerth £365 miliwn i’r GIG bob blwyddyn yng Nghymru ac mae chwarter yr oedolion yn byw gyda gordewdra.

Smygu yw prif achos marwolaethau y gellir eu hatal o hyd, gyda thua 3,845 o farwolaethau a 17,000 o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Sarah Murphy:

Er bod pigiadau colli pwysau yn addas i rai ar gyfer rheoli’u pwysau, nid dyma’r ateb i bawb.

Mae’n rhaid inni ymyrryd yn gynharach i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol. Dyna pam ein bod ni’n canolbwyntio ar ddull system gyfan i fynd i’r afael â gwreiddiau cymhleth gordewdra.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfres o fesurau iechyd cyhoeddus ataliol i hyrwyddo iechyd a llesiant pobl, gan gynnwys y canlynol:

  • deddfau newydd, a fydd yn dod i rym yn 2026, a fydd yn cyfyngu ar hyrwyddiadau pris ar sail swmp ar gyfer bwydydd llai iach a sicrhau na fyddan nhw’n cael eu gosod mewn mannau gwerthu allweddol
  • rheoliadau bwyta’n iach mewn ysgolion, a fydd yn gwneud y mwyaf o effaith prydau ysgol am ddim i blant ysgol ac yn gwella mynediad at fwyd iachach yn ystod oriau ysgol i helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau bwyd gwell
  • asesiadau o’r effaith ar iechyd, sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodol ddangos sut y maen nhw’n cyflawni eu dyletswydd llesiant, yn enwedig o ran y nodau o greu Cymru iachach a mwy cyfartal
  • bydd Cymru’n dod yn genedl Marmot i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd
  • rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint, a fydd yn dechrau yn 2027

Ychwanegodd Sarah Murphy:

Dyw hi ddim yn bosib i lywodraeth gyflawni’r dasg o drawsnewid canlyniadau iechyd i bobl Cymru ar ei phen ei hun. Mae angen i bobl ddod yn hyrwyddwyr atal ym mhopeth y maen nhw’n ei wneud.

Mae gan atal y pŵer i wella iechyd y cyhoedd a’r economi mewn modd radical.

Gall pob punt sy’n cael ei fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar arwain at enillion o hyd at £13 mewn costau wedi’u gostwng yn y dyfodol.

Gyda’n gilydd, rydyn ni’n adeiladu Cymru lle gall pawb ffynnu, lle mae atal yn rhan annatod o bob penderfyniad polisi a wnawn. Mae dyfodol iechyd Cymru yn dibynnu ar y camau rydyn ni’n eu cymryd heddiw.