Neidio i'r prif gynnwy

Mae caethwasiaeth yn aml yn gysylltiedig â throseddu cyfundrefnol sy'n ceisio camfanteisio ar bobl sy'n agored i niwed. Mae'n bosibl i fusnesau dilys gael eu targedu gan y sawl sy'n ceisio camfanteisio ar unigolion, yn aml heb i'r busnes hwnnw fod yn ymwybodol o hynny, na hefyd bod y gweithwyr yn sylweddoli bod rhywrai'n cymryd mantais ohonynt.

Dylid sicrhau bod yr holl staff a gyflogir mewn busnes yn ymwybodol o'r mathau o ecsbloetiaeth sydd ar gael. Gall y rhain gynnwys Masnachu Pobl, ynghyd â chamfanteisio troseddol, rhywiol a chamfanteisio ar lafur rhywun, caethwasanaeth domestig a chynaeafu organau. Dylai'r holl staff wybod sut, pryd ac i bwy i adrodd am y pryderon hyn. Gellid cynnwys cyflwyniad i'r materion hyn mewn rhaglen gynefino.

Gellir cynnwys arwyddion a nodweddion a ffyrdd o adnabod caethwasiaeth fodern mewn dyddiau hyfforddiant, mewn cyfarfodydd tîm ac yn ystod cyfarfodydd ag unigolion. Mae'n bwysig diweddaru hyfforddiant staff er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn wyliadwrus ac i ddarparu cefnogaeth hirdymor.

Gweithwyr dros dro

Mae mwy o berygl bod rhywun yn camfanteisio ar weithwyr os cyflogwyd nhw drwy asiantaeth allanol neu oherwydd bod galw mawr am weithwyr ar rai adegau o'r flwyddyn, er enghraifft, y Nadolig.

Rhaid cael polisïau ar waith i sicrhau bod y cydberthnasau penodol hyn yn cael eu rheoli mewn modd sy'n lleihau unrhyw risg posibl o gaethwasiaeth fodern.

Er enghraifft, polisïau fel y rhai canlynol:

  • y busnes i ddefnyddio asiantaethau cyflogaeth ag enw da yn unig ar gyfer canfod gweithwyr
  • gofyn bob amser am wybodaeth benodol gan yr asiantaeth cyn derbyn gweithwyr o'r asiantaeth honno.

Caethwasiaeth a masnachu pobl mewn cadwyni cyflenwi

Mae'n ofynnol i sefydliad masnachol â throsiant blynyddol o £36 miliwn neu ragor baratoi datganiad caethwasiaeth a masnachu pobl ar gyfer pob un o flynyddoedd ariannol y sefydliad.

Mae angen i'r datganiad gynnwys y camau a gymerwyd gan y sefydliad i sicrhau nad yw caethwasiaeth a masnachu pobl yn digwydd yn eu cadwyni cyflenwi nac yn eu busnes eu hunain Dylai'r adroddiad gynnwys y canlynol:

  • Strwythur eich sefydliad, ei fusnesau a'i gadwyni cyflenwi.
  • Eich polisïau sefydliadol mewn perthynas â chaethwasiaeth a marchnata pobl. 
  • Y prosesau diwydrwydd dyladwy yn eich sefydliad a'ch cadwyni cyflenwi mewn perthynas â chaethwasiaeth a marchnata pobl.
  • Y rhannau o'ch busnes a'ch cadwyni cyflenwi lle mae perygl i gaethwasiaeth a marchnata pobl ddigwydd, a'r camau a gymerwyd i asesu a rheoli'r risg hwnnw.
  • Eich effeithiolrwydd o ran sicrhau nad yw caethwasiaeth na marchnata pobl yn digwydd yn eich busnes nac yn eich cadwyni cyflawni, wedi'i fesur yn erbyn pa bynnag ddangosyddion perfformiad a ystyrir yn briodol.
  • Dylai hyfforddiant a chyfleoedd i adeiladu capasiti ynghylch caethwasiaeth a marchnata pobl fod ar gael i'ch staff.

Mae gwybodaeth ychwanegol ynghylch caethwasiaeth a marchnata pobl mewn cadwyni cyflenwi ar gael ar wefan GOV.UK.

Ymwybyddiaeth o ddioddefwyr

Mae deunyddiau hyrwyddo ar gael ar wefan yr Awdurdod Trwyddedu Meistri Gangiau. Dylid arddangos posteri mewn mannau amlwg, gallai'r rhain gynnwys mynedfeydd y staff, ffreuturiau, ystafelloedd loceri a thai bach.

Yr Awdurdod er Atal Cam-drin Gweithwyr gan Feistri Gangiau

Mae cymorth a chanllawiau ychwanegol ynghylch busnesau a chaethwasiaeth ar gael ar wefan yr Awdurdod er atal Cam-drin Gweithwyr gan Feistri Gangiau.

Yr Awdurdod er Atal Cam-drin Gweithwyr gan Feistri Gangiau

Rhif ffôn: 0800 432 0804

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Mae'r gwasanaeth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9:00am hyd nes 5:00pm.

Rhowch wybod am achos o gaethwasiaeth fodern ar-lein ar wefan llinell gymorth caethwasiaeth fodern.