Neidio i'r prif gynnwy

Casglodd yr astudiaeth hon ddata i lywio gweithgareddau Partneriaeth Achub Bywydau Cymru.

Mae Adfywio Cardio-pwlmonaidd (CPR) gan berson yn y fan a’r lle yn un o benderfynyddion allweddol goroesi yn dilyn ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty. Mae'r papur hwn yn ymchwilio gwybodaeth y cyhoedd, agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd ynghylch pobl gyffredin sydd yn y fan a’r lle yn rhoi CPR ac yn defnyddio diffibriliwr mewn amgylchiadau ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty.

Prif ganfyddiadau

  • Roedd cyfran o 56% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod wedi derbyn hyfforddiant CPR. Fodd bynnag, yr oedd 45% o’r rheini a oedd wedi cael hyfforddiant wedi’u hyfforddi fwy na phum mlynedd yn ôl.
  • Roedd y gyfran a hyfforddwyd i ddefnyddio diffibriliwr yn llawer is, gyda dim ond 23% yn adrodd eu bod wedi derbyn hyfforddiant.
  • Ar y cyfan, nid oedd hyder ynglŷn â rhoi CPR i rywun yn uchel, gyda 48% o'r holl ymatebwyr yn dweud y byddent yn hyderus.
  • Dywedodd 27% o’r bobl a hyfforddwyd mewn CPR na fyddent yn hyderus i berfformio CPR ar rywun pe bai 'r sefyllfa yn galw am ymyriad.

Cyswllt

Nina Prosser

Rhif ffôn: 0300 025 5866

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Media

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.