Neidio i'r prif gynnwy

Data sydd yn dangos nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ymgynghorol, waeth beth yw man preswyl y claf ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.

Prif bwyntiau

  • Roedd yna 1,279,494 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf yn 2017-18. Mae hyn yn ostyngiad o 16,941 (1.3%) o gymharu â flwyddyn diwethaf, ond cynnydd o 202,604 (18.8%) ers 2012-13.
  • Ar gyfartaledd, mae atgyfeiriadau wedi bod yn sefydlog dros y 2 flynedd ddiwethaf ond maent wedi cynyddu o gymharu â 5 mlynedd yn ôl. Cafodd sylw atgyfeiriadau sydd heb wedi dod o feddyg teulu ei ehangu yn ystod yr amswer hwn, a gallai hyn fod yn gyfrifol am rywfaint o'r cynnydd.
  • Mae’r ganran o atgyfeiriadau sydd wedi dod o wasanaethau meddyg teulu wedi gostwng dros amser, o 71.1% yn 2012-13 i 65.1% yn 2017-18. Mae’r nifer o atgyfeiriadau sydd yn dod o wasanaethau meddyg teulu wedi cynyddu, ond yn arafach. Eleni gwelwyd y gostyngiad gyntaf yn y nifer o atgyfeiriadau meddyg teulu.
  • Y swyddogaethau triniaeth a derbyniwyd y nifer uchaf o atgyfeiriadau yn 2017-18 oedd (mewn trefn): trawma ac orthopedig, llawfeddygaeth gyffredinol, offthalmoleg, ENT (clustiau, trwyn a gwddf) a gynaecoleg.

Adroddiadau

Atgyfeiriadau GIG ar gyfer apwyntiadau cyntaf fel cleifion allanol, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 950 KB

PDF
Saesneg yn unig
950 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.