Neidio i'r prif gynnwy

Mae athrawon o Gymru wedi dod yn ôl i'r ddaear yn dilyn taith i'r Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear (CERN), yn y Swistir.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y mis diwethaf roedd 24 o athrawon Ffiseg o Gymru wedi ymweld â safle'r Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr (Large Hadron Collider) ger Genefa i ddysgu mwy am y darganfyddiadau diweddaraf ym maes ffiseg ronynnol, fel rhan o'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mae cynllun lleoli athrawon yn CERN, sy'n cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru, ei gefnogi gan Ganolfan Dysgu Genedlaethol STEM yng Nghaerefrog, a'i ariannu gan Brosiect ENTHUSE a Dr Lyn Evans, yn rhoi'r cyfle i athrawon fynd i ddarlithoedd a dysgu am gyfleusterau, swyddogaethau a gweithrediadau CERN gan y gwyddonwyr a'r peirianwyr sy'n gweithio yno. Dr Evans o Aberdâr yw cyn Gyfarwyddwr Prosiect y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr, ac yn cydgysylltu'r cwrs ar gyfer yr ymweliad pedwar diwrnod.

Dywedodd Dr Evans,

“Ein hathrawon yw ein caffaeliad gorau, ac maen nhw haeddu cael eu cefnogi cymaint ag sy'n bosibl. Wrth ddod i CERN, maen nhw'n profi awyrgylch egnïol ac yn cael cyfle i ryngweithio â gwyddonwyr rheng-flaen. Rwy'n gobeithio y bydd y brwdfrydedd a grëwyd yn amlwg yn yr ystafell ddosbarth ac yn ysbrydoli mwy o wyddonwyr, peirianwyr a thechnegwyr ifanc newydd, sydd eu hangen ar Gymru i gystadlu ym myd uwch-dechnoleg yr 21ain ganrif.”

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg,

“Mae cyfleoedd fel hyn yn hanfodol i'n gweithlu addysgu ddeall a chyfathrebu'n well y modd y mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn cael eu defnyddio yn y byd go iawn. Hoffwn i sicrhau bod gan ein gweithlu addysgu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i ddangos y ffordd i'n pobl ifanc wrth iddyn nhw ddysgu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (sef pynciau STEM).

“Y mis diwethaf, fe gyhoeddais fod Rhwydwaith Cenedlaethol er Rhagoriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg (NNEST) yn cael ei greu. Bydd NNEST yn hollbwysig i gefnogi athrawon gwyddoniaeth a thechnoleg ar gyfer y rhai hynny sy'n 3 oed i 18 oed, drwy ganiatáu iddyn nhw gael gwybod am ddatblygiadau byd-eang o ran dulliau addysgu a dysgu. Rwy'n disgwyl i NNEST ystyried yn ofalus y math o ddatblygiad proffesiynol a gynigir gan CERN, y ffordd orau y gallai hynny gael ei gyfathrebu i athrawon, ac ehangu'r cyfleoedd hynny ym meysydd cemeg, bioleg a pheirianneg yn y dyfodol.”

Dywedodd Chris Allton o Brifysgol Abertawe,

“Roedd cael cyfle i weld o lygad y ffynnon yr hyn sy'n digwydd ym maes gwyddoniaeth sydd ar flaen y gad, a gallu troi'r profiad hwnnw yn realiti yn yr ystafell ddosbarth yn ysbrydoli ein disgyblion. Rydyn ni'n falch ein bod ni' wedi gallu arddangos ymchwil ar gwrthfater a wnaed gan ffisegwyr yn Abertawe i'r athrawon a oedd yn ymweld â CERN tra oedden nhw yno. Yr adborth a gafwyd gan y grwp yw y dylai'r wybodaeth a'r profiad sydd ganddyn nhw o ganlyniad i'r daith hon wneud addysgu ffiseg yn bwnc sy'n llawer mwy difyr ac ystyrlon i fyfyrwyr.”

Dywedodd Simon Ealey-Fitzgerald, Arweinydd Maes Cwricwlwm ar gyfer Gwyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Llanidloes, a oedd wedi mynd ar y daith eleni,

“Roedd y digwyddiad wedi ysbrydoli ac ysgogi pawb (ond ar adegau yn ddryslyd!), a rhaid cymeradwyo gwybodaeth arbenigol cyfranogwyr CERN o'r pwnc, ynghyd â gwybodaeth a dealltwriaeth ein hathrawon am addysgeg. Roedd hwn yn gyfle gwych i athrawon o Gymru rannu syniadau a strategaethau er budd ein disgyblion yn y pen draw.”

Mae'r rhaglen wedi'i threfnu a'i chynllunio gan dîm STEM ein hunain, a Jeff Weiner, cydgysylltydd Rhaglen Athrawon CERN, i sicrhau bod athrawon yn manteisio ar y cyfle i werthfawrogi CERN a'r gwaith sy'n cael ei wneud yno; drwy fynd i ddarlithoedd am Ffiseg Ronynnol, cyflymyddion gronynnol a synwyryddion gronynnol, a thrwy ymweld â'r Peiriant Gwrthdaro Hadronau, cyfleuster y prawf magnetig, synhwyrydd y Compact Muon Solenoid, ac yn olaf ymweld â'r Ffatri Gwrthfater.

Yn ddiweddarach eleni, ac am y tro cyntaf, bydd athrawon yn gallu cael y cyfle i fynd i CERN am gyfnod o bythefnos yn yr haf; dyma'r tro cyntaf i gwrs preswyl gael ei gynnig i bob athro/athrawes sy'n addysgu gwyddoniaeth (nid dim ond ffiseg).

Dylai athrawon sydd am wneud cais, am y naill ymweliad neu'r llall, gysylltu â'r tîm yn Dysg@wales.gsi.gov.uk