Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi nodi ei bod am gynyddu cyflog athrawon ysgol sydd newydd gymhwyso 5 y cant o fis Medi, yn ogystal â chynyddu cyflog pob athro ysgol arall 2.75 y cant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cyhoeddiad yn cyd-daro â chyhoeddi adroddiad cyntaf Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol newydd Cymru, a gyflwynodd argymhellion ynghylch cyflogau ac amodau athrawon o fis Medi 2019, yn sgil datganoli pwerau ynghylch cyflogau ac amodau athrawon y llynedd. 

Roedd y Corff Adolygu yn argymell cynyddu pob ystod cyflog a lwfans statudol 2.4 y cant. Yn ei hymateb, mae'r Gweinidog wedi nodi ei bod am roi codiad cyflog uwch i'r rhan fwyaf o athrawon, sef 2.75 y cant.

Mae'r Gweinidog am dderbyn argymhelliad y Corff Adolygu i godi isafswm pwynt cyflog prif ystod cyflogau athrawon 5 y cant.

Cynhelir ymgynghoriad wyth wythnos i randdeiliaid gael ymateb i'r cynigion.  

Dywedodd Kirsty Williams:

“Dw i am barhau i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn sy'n denu graddedigion a'r rheini sydd am newid gyrfa. Dyna pam rydyn ni'n cynnig codi isafswm pwynt cyflog athrawon 5 y cant. Bydd yn ein helpu i barhau i ddenu athrawon o safon uchel i'r proffesiwn.

“Wrth inni ddefnyddio ein cyfrifoldebau datganoledig am y tro cyntaf eleni, dwi hefyd  yn cynnig codiad cyflog o 2.75 y cant i bob athro ysgol yng Nghymru o fis Medi ymlaen.  

“Ynghyd â'n camau i ddiwygio dysgu proffesiynol, y cwricwlwm a hyfforddiant athrawon, bydd hyn yn cael effaith bositif ar sicrhau ein bod ni'n parhau i ddenu athrawon o safon uchel i'r proffesiwn yng Nghymru.