Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ynghylch faint o gyllid sydd wedi’I roi gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil a thriniaeth ar gyfer Clefyd Niwronau Motor

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

15 Chwefror 2022

Annwyl 

ATISN 15932 - Clefyd Niwronau Motor

Diolch ichi am eich cais i Lywodraeth Cymru am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a ddaeth i law ar 06 Ionawr 2022. Mae’r wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani wedi’i chynnwys isod:

1) Faint o arian a glustnodwyd gan Lywodraeth Cymru at ddiben ymchwil a thriniaeth Clefyd Motor Neurone ar gyfer y blynyddoedd canlynol: 2017, 2018, 2019, 2020 a 2021?

Nid yw Llywodraeth Cymru yn clustnodi cyllid yn benodol ar gyfer ymchwil i Glefyd Niwronau Motor yn y blynyddoedd dan sylw 2017, 2018, 2019, 2020 a 2021. 

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn dyrannu cyllid Ymchwil a Datblygu i sefydliadau’r GIG. Defnyddir y cyllid hwn i gyllido seilwaith ymchwil er mwyn cynnal astudiaethau ymchwil a fydd yn cynnwys astudiaethau o Glefyd Niwronau Motor. Cyfanswm y gyllideb sy’n cael ei ddyrannu bob blwyddyn i’r GIG at y diben hwn (i gefnogi pob astudiaeth) yw: £15,487,000 ar gyfer 2017/18, £15,914,335 ar gyfer 2018/19, £15,914,335 ar gyfer 2019/20 a £14,860,554 ar gyfer 2020/21.

Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid o £50 miliwn i’w wario ar ymchwil i Glefyd Niwronau Motor. Bydd ymchwilwyr o bob cwr o’r DU yn gallu defnyddio’r cyllid hwn ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt ynghylch sut y bydd y mentrau’n cael eu gweithredu.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru fanylion am wariant ar driniaethau ar gyfer Clefyd Niwronau Motor. Mater i fyrddau iechyd unigol yw penderfynu faint o’u dyraniadau blynyddol sy’n cael ei wario ar wasanaethau niwroleg ac ar gefnogi’r bobl sy’n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor.

2) Ar gyfer 2017, 2018, 2019, 2020 a 2021, faint o arian wariodd y Llywodraeth ar ymchwil a thriniaeth Clefyd Motor Neurone?

O ran ymchwil, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi darparu gwybodaeth am wariant ar astudiaethau o Glefyd Niwronau Motor drwy gyfrifo cyfran y cleifion sy’n cael eu recriwtio bob blwyddyn i astudiaethau ar Glefyd Niwronau Motor o’i gymharu â phob astudiaeth arall sy’n mynd rhagddi. Mae’r ffigur canran hwn wedi cael ei ddefnyddio i roi amcangyfrif o’r gwariant.

Mae gweithlu ymchwil y GIG yn gweithio ar draws sawl astudiaeth o glefydau penodol ac ni chyfrifir yr amser a dreulir ar bob astudiaeth na chostau defnyddiau traul/offer yn fanwl i ddarparu gwybodaeth fwy penodol. Yn ogystal, mae rhai astudiaethau’n fwy cymhleth nag eraill i’w cyflawni h.y. gall fod angen mwy o gyswllt â chleifion ar rai ac o ganlyniad bydd angen mwy neu lai o adnoddau arnynt. Ni chaiff hyn ei adlewyrchu yn y cyfrifiadau. Felly, mae angen trin yr wybodaeth hon gyda gofal ac mae’n darparu amcangyfrif bras iawn o gyfran y cyllid sy’n cael ei gwario drwy’r GIG ar ymchwil i Glefyd Niwronau Motor.

  Cyfran y cleifion sy’n cael eu recriwtio i astudiaethau o Glefyd Niwronau Motor yng Nghymru    Cyfran o gyllid ymchwil y GIG sy’n cael ei gwario ar Glefyd Niwronau Motor, yn seiliedig ar gyfran y cleifion sy’n cael eu recriwtio i astudiaethau o Glefyd Niwronau Motor
2017/18    0.37%  £57,787
2018/19   0.32%    £50,306
2019/20   0.49%  £77,321
2020/21 0.20%   £29,334

Yn ogystal â hyn, mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyllido arweinydd arbenigedd ymchwil mewn clefydau niwrolegol – mae’r rôl hon yn hyrwyddo’r gwaith o gynnal astudiaethau niwrolegol ar draws y GIG. Dyma rôl glinigol a ariennir am 1 sesiwn yr wythnos. Amlinellir y cyllid sydd wedi ei ddarparu dros y blynyddoedd isod.

  Cyllid Arweinydd Arbenigedd
2017/18  £11,563
2018/19  £3,500
2019/20 £13,843
2020/21   £13,843

Nid oes gan Lywodraeth Cymru fanylion am wariant ar driniaethau ar gyfer Clefyd Niwronau Motor. Mater i fyrddau iechyd unigol yw penderfynu faint o’u dyraniadau blynyddol sy’n cael ei wario ar wasanaethau niwroleg ac ar gefnogi’r bobl sy’n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor.

3) Ar gyfer 2017, 2018, 2019, 2020 a 2021, faint o arian mae Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn drwy fformiwla Barnett gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i’w wario ar ymchwil a thriniaeth Clefyd Motor Neurone?

Mae unrhyw gyllid a gaiff Cymru fel rhan o setliad cyllideb gan Lywodraeth y DU yn cael ei ddyrannu o fewn Llywodraeth Cymru yn ôl disgresiwn Gweinidogion Cymru. Nid yw'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi derbyn unrhyw ddyraniadau cyllideb penodol ar gyfer ymchwil a thriniaeth MND yn y pum mlynedd diwethaf.

Rhoddir dyraniad dewisol i Fyrddau Iechyd bob blwyddyn a chaiff eu gwariant ei bennu gan anghenion eu poblogaeth leol a’i lunio yn eu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig.

b) O’r arian yng nghwestiwn 3, faint o arian mae Llywodraeth Cymru wedi ei wario ar ymchwil a thriniaeth Clefyd Motor Neurone?

O ran ymchwil (yn seiliedig ar y cyllid sy’n cael ei ddyrannu i sefydliadau’r GIG), mae’r ateb wedi ei ddarparu yn C2. 

Nid oes gan Lywodraeth Cymru fanylion am wariant ar driniaethau ar gyfer Clefyd Niwronau Motor. Mater i fyrddau iechyd unigol yw penderfynu faint o’u dyraniadau blynyddol sy’n cael ei wario ar wasanaethau niwroleg ac ar gefnogi’r bobl sy’n byw gyda Chlefyd Niwronau Motor.

Y camau nesaf 
 
Os ydych yn anfodlon â'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'ch cais, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr ateb hwn. Dylech anfon cais am adolygiad mewnol at Swyddog Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru drwy'r post i'r cyfeiriad canlynol: 

Yr Uned Hawl i Wybodaeth 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ 

neu drwy e-bostio: rhyddidgwybodaeth@llyw.cymru

Cofiwch nodi'r cyfeirnod ATISN uchod.    

Mae gennych hawl hefyd i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad canlynol:  

Information Commissioner’s Office 
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
Cheshire 
SK9 5AF.

Fodd bynnag, dylech nodi nad yw'r Comisiynydd fel arfer yn ymchwilio i gŵyn nes ei fod wedi bod drwy ein proses adolygu mewnol ni. 

Yn gywir