Neidio i'r prif gynnwy

Nifer y bobl sy’n defnyddio fersiwn Gymraeg a Saesneg o Wefan Taliadau Gwledig Cymru ar-lein.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

28 Chwefror 2022

Annwyl

ATISN 16057 - Cais am Wybodaeth

Diolch am eich cais a ddaeth i law ar 8 Chwefror 2022.  Gofynasoch am y wybodaeth ganlynol :

  • Faint o bobl sy’n defnyddio fersiwn Gymraeg o wefan RPW Online, a faint sy’n defnyddio’r fersiwn Saesneg yn wythnosol / misol.

Ein hymateb

Mae gan Taliadau Gwledig Cymru 22,735 o gwsmeriaid, sydd â mynediad i system Ar-Lein Taliadau Gwledig Cymru, sydd â'u dewis iaith fel Saesneg, a 2,202 gyda'u dewis iaith fel y Gymraeg. 

Mae'r nifer sy’n mewngofnodi i system Ar-lein Taliadau Gwledig Cymru yn ôl dewis iaith ar gyfer y cyfnod 1 Tachwedd 2011 a 25 Ionawr 2022 i'w gweld yn Atodiad A.

Y camau nesaf

Os ydych yn anfodlon â'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'ch cais, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr ateb hwn. Dylech anfon cais am adolygiad mewnol at Swyddog Rhyddid Gwybodaeth Llywodraeth Cymru drwy'r post i'r cyfeiriad canlynol:

Yr Uned Hawl i Wybodaeth 
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ 

neu drwy e-bostio: rhyddidgwybodaeth@llyw.cymru

Cofiwch nodi'r cyfeirnod ATISN uchod.   

Mae gennych hawl hefyd i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth. Gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad canlynol: 

Information Commissioner’s Office 
Wycliffe House 
Water Lane 
Wilmslow 
SK9 5AF.

Fodd bynnag, dylech nodi nad yw'r Comisiynydd fel arfer yn ymchwilio i gŵyn nes ei fod wedi bod drwy ein proses adolygu mewnol ni.

Yn gywir

 

 

Atodiad A

Nifer y mewngofnodi i system Ar-Lein Taliadau Gwledig Cymru yn ôl dewis iaith

Wythnos yn Cychwyn

Cymraeg

Saesneg

Cymraeg %

Saesneg %

24/01/2022

3809

28547

12%

88%

17/01/2022

2763

21774

11%

89%

10/01/2022

2638

23464

10%

90%

03/01/2022

2304

17528

12%

88%

27/12/2021

720

6773

10%

90%

20/12/2021

1857

18634

9%

91%

13/12/2021

4348

41777

9%

91%

06/12/2021

2448

22146

10%

90%

29/11/2021

3575

29456

11%

89%

22/11/2021

2810

26967

9%

91%

15/11/2021

1971

24497

7%

93%

08/11/2021

1996

25055

7%

93%

01/11/2021

2057

26649

7%

93%

Cyfartaledd

2561

24097

10%

90%

 

 

 

,