Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Mae Adolygiadau wedi’u Teilwra wedi disodli’r adolygiadau bob tair blynedd er mwyn sicrhau dull mwy di-dor o adolygu cyrff cyhoeddus. Bydd yr adolygiadau yn annog dull mwy cymesur, hyblyg a chydweithredol o adolygu ein cyrff cyhoeddus. Wrth gynnal Adolygiadau wedi’u Teilwra rhoddir ystyriaeth briodol i'r canllawiau a'r fethodoleg a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Cabinet yn y ddogfen Tailored Reviews: Guidance on Reviews of Public Bodies.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Y Llyfrgell Genedlaethol) yw’r Corff Cyhoeddus cyntaf i gymryd rhan mewn Adolygiad wedi’i Deilwra yng Nghymru. Bu cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol ynghylch y cwmpas diffiniedig, y cylch gorchwyl, yr amserlenni, y broses a’r drefn o ran adrodd, a'r Uned Cyrff Cyhoeddus sydd wedi arwain yr adolygiad a’i hwyluso. Bydd yr Adolygiad wedi’i Deilwra hwn, ynghyd â'r gwerthusiad ohono, yn sail i’r rhaglen ar gyfer Adolygiadau wedi’u Teilwra o Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Mewn ymarfer meincnodi ystyriwyd y chwe llyfrgell adnau cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon gyda'r pwyslais ar Lyfrgell Genedlaethol yr Alban.

Comisiynwyd Cangen Ymchwil Corfforaethol Llywodraeth Cymru, sy’n rhan o’r Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, i ddatblygu arolwg defnyddwyr cyhoeddus er mwyn canfod lefel ymgysylltiad rhanddeiliaid a disgwyliadau o’r gwasanaeth.

Myfyriodd panel adolygu annibynnol a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru a'r Llyfrgell Genedlaethol ar rai dogfennau allweddol, gan ystyried adolygiadau blaenorol. Cyflwynwyd rhagor o dystiolaeth i’r Panel Adolygu Annibynnol yn sgil tri gweithdy a sgyrsiau gyda rhanddeiliaid allweddol a nodwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol a'r Arweinwyr Noddi (yr Is-adran Diwylliant a Chwaraeon). Y Panel Adolygu yw perchenogion yr Adroddiad a gyflwynir i'r Panel Herio.

Caiff adroddiad drafft ei drafod gyda'r Tîm Gweithredol ac Ymddiriedolwyr y Llyfrgell yn ogystal â gyda'r Is-adran Diwylliant a Chwaraeon a'r Uned Cyrff Cyhoeddus. Wedi hyn, cyflwynir drafft terfynol i is-grŵp o'r Bwrdd Effeithlonrwydd a fydd yn ei adolygu a'i herio. Bydd yr is-grŵp hwn yn ei dro yn adrodd i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip sy'n gyfrifol am gyrff cyhoeddus y genedl.

2. Amcan yr adolygiad

Mae rheolaeth gorfforaethol dda yn mynnu bod cyrff cyhoeddus yn parhau’n effeithlon, yn effeithiol ac yn atebol, ac yn darparu gwerth am arian i'r trethdalwr.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn elusen gofrestredig ac felly mae'n destun goruchwyliaeth reoleiddiol gan y Comisiwn Elusennau. Fodd bynnag, caiff y rhan fwyaf o'i chyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae wedi ei dynodi'n gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Caiff felly ei rheoleiddio gan Lywodraeth Cymru a'r Comisiwn Elusennau.

Yn benodol, bydd yr Adolygiad yn asesu:

  • darpariaeth y Llyfrgell Genedlaethol a’i chapasiti i gyflawni'n fwy effeithiol ac effeithlon, gan gynnwys nodi a oes modd gwneud arbedion effeithlonrwydd, a lle bo'n briodol, ei gallu i gyfrannu at dwf economaidd. Dylai'r Adolygiad wedi’i Deilwra gynnwys asesiad o berfformiad y sefydliad a sicrwydd bod prosesau cadarn ar waith ar gyfer gwneud asesiadau o'r fath;
  • a oes modd i’r Llyfrgell Genedlaethol chwarae mwy o ran yng nghymdeithas Nghymru a chynyddu ei heffaith os bydd unrhyw newidiadau o ran cytuno ar ei hamcanion a/neu ei swyddogaethau a'r modd o'u cyflawni a/neu pe gellid cynyddu'r cyllid;
  • bod y trefniadau rheoli a llywodraethu ar waith i sicrhau bod y Llyfrgell Genedlaethol yn gweithio yn unol â fframweithiau rheoli a llywodraethu Llywodraeth Cymru ac yng nghyd-destun y ffaith bod y Llyfrgell Genedlaethol yn elusen gofrestredig, a bod y trefniadau y gorau y gallan nhw fod i sicrhau effeithiolrwydd y sefydliad.

3. Egwyddorion allweddol

Rhaid cynnal yr adolygiad yn unol â'r egwyddorion canlynol:

  • Cyfrinachedd
  • Cymesuredd
  • Ar y cyd a heb roi bai
  • Yn agored a thryloyw
  • Cynwysoldeb
  • Hyblygrwydd

Caiff pob sgwrs a chanlyniadau'r arolwg eu cadw'n gyfrinachol a bydd yr Adroddiad yn amlygu heriau, materion ac arferion da, heb briodoli unrhyw wybodaeth i gyfweleion/sefydliadau penodol heb iddynt gydsynio.

Bydd cymesuredd yn ystyried archwiliadau ac adolygiadau blaenorol, effaith gweithredu llai effeithiol nag sy’n bosibl a/neu arferion sy’n cyfyngu.

Trafodwyd a chytunwyd ar gwmpas, cylch gorchwyl a dull yr Adolygiad wedi’i Deilwra rhwng y Llyfrgell Genedlaethol, yr Is-adran Diwylliant a Chwaraeon a'r Uned Cyrff Cyhoeddus (a elwir ar y cyd "y Grŵp" at ddiben y ddogfen hon). Caiff trafodaethau eu cynnal mewn ffordd agored a sensitif ac mewn modd lle na roddir bai wrth i bawb sy’n gysylltiedig ganolbwyntio ar gyflawni'r canlyniad gorau posibl er llwyddiant parhaus y Llyfrgell Genedlaethol.

Caiff unrhyw gyfathrebu â’r cyfryngau a'r cyhoedd ei reoli ar y cyd ac mae’r partïon perthnasol yn cael eu hysbysu mewn da bryd er mwyn sicrhau y glynir wrth yr amserlenni angenrheidiol. Cytunir ar yr amserlenni hyn â chyrff dyfarnu'r Llyfrgell Genedlaethol ac ag Adran Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Adolygiad wedi’i Deilwra yn parhau i fod yn agored ac yn dryloyw o fewn ffiniau cyfrinachedd. Bydd y Panel Annibynnol yn rhoi adborth i’r Swyddogion Cyfrifyddu, y Llyfrgell Genedlaethol ac Adran Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Llywodraeth Cymru. Bydd y Llyfrgell Genedlaethol hefyd yn rhannu'r wybodaeth â'i Llywydd a'i Hymddiriedolwyr cyn cyflwyno’r adroddiad terfynol i'r Is-grŵp Effeithlonrwydd.

Bydd yr Is-grŵp Effeithlonrwydd yn cyflwyno adroddiad i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ac i'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am Gyrff Cyhoeddus Cymru.

Cyhoeddir fersiwn wedi'i golygu o'r adroddiad, yn canolbwyntio ar y gwersi a ddysgwyd.

Parheir i gynnal trafodaethau i sicrhau bod mandad yr Adolygiad wedi’i Deilwra yn parhau'n berthnasol i’r Llyfrgell Genedlaethol a Llywodraeth Cymru ac i sicrhau y gellir ceisio eglurhad buan ynghylch unrhyw faterion sy'n codi.

4. Cwmpas yr adolygiad

Bydd Adolygiad o’r Llyfrgell Genedlaethol yn ystyried cyfraniad y sefydliad at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ynghyd ag effeithlonrwydd y sefydliad a sut y caiff ei lywodraethu yng nghyd-destun ei Siarter Frenhinol sy'n egluro sut y dylid llywodraethu’r sefydliad yn gyfreithiol ac sy’n diffinio amcanion ei bodolaeth.

Bydd yr Adolygiad yn ystyried perfformiad y Llyfrgell Genedlaethol a sut y gall ymateb ac addasu i'r ffactorau hynny sydd fwyaf tebygol o effeithio ar y galw am ei gwasanaethau fel un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf y genedl a'i phrif ganolfan ymchwil. Bydd tîm yr Adolygiad yn ymgynghori ag amrywiaeth eang o randdeiliaid gan gynnwys adrannau Llywodraeth Cymru, busnesau a'r gymdeithas sifil, y sector addysg a diwylliant, y gymuned archifau a llyfrgelloedd, yn ogystal ag aelodau Bwrdd y Llyfrgell Genedlaethol, ei staff a'i rheolwyr.

4.1  Ffurf a swyddogaeth

  • Dylai'r Adolygiad edrych ar ffurf y Llyfrgell Genedlaethol ac ystyried a yw ei statws (fel Elusen Gofrestredig a Chorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru) yr un mwyaf priodol i gyflawni ei swyddogaethau.
  • Dylai'r Adolygiad benderfynu a yw swyddogaeth y Llyfrgell Genedlaethol yn dal yn ofynnol ac yn gyson ag amcanion y llywodraeth.

4.2  Effeithlonrwydd

  • Dylai'r Adolygiad ystyried sut ac ymhle y gall y Llyfrgell Genedlaethol wneud rhagor o arbedion, os o gwbl, gan ystyried ffynonellau cyllid cyfyngedig y sefydliad a gan gymharu ei pherfformiad â llyfrgelloedd cenedlaethol eraill sy’n cynnig gwasanaethau tebyg lle bo hynny'n briodol.
  • Dylai archwilio strwythur gweithredol presennol y Llyfrgell Genedlaethol, ei swyddogaethau corfforaethol a'i chostau, gan gynnwys y defnydd a wneir ar hyn o bryd o’r model cydwasanaethau, a’i ddefnydd posibl yn y dyfodol.

4.3  Effeithiolrwydd

  • Dylai'r Adolygiad ystyried y natur ddeuol sy'n llywodraethu sut y mae'r Llyfrgell yn gweithredu ac yn cyflawni ei swyddogaeth a'i rhwymedigaethau, sy'n gofyn am gydbwysedd gofalus rhwng dilyn a chyflawni (a) 'amcanion' ei Siarter a'i Statws Elusennol, sy'n adlewyrchu diben ei sefydlu, a (b) egwyddorion trefniadau llywodraethu hyd braich.
  • Dylai'r Adolygiad ystyried hefyd gyfraniad y Llyfrgell Genedlaethol at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun ei chyfrifoldebau elusennol ehangach. Yn rhan o hyn bydd yn asesu prosesau a metrigau y Llyfrgell Genedlaethol ei hun ar gyfer asesu ei heffaith mewn cysylltiad ag amcanion strategol a'r rhai sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru, ynghyd â'i heffeithiolrwydd.
  • Dylai ystyried datblygiadau ehangach ym mholisïau Llywodraeth Cymru a'r cyd-destun byd-eang, gan gynnwys amcanion grym meddal cenedlaethol a rhyngwladol.

4.4  Y model economaidd a chynaliadwyedd

  • Dylai'r Adolygiad ystyried a yw model cyllido y Llyfrgell Genedlaethol yr un mwyaf priodol i gyflawni ei swyddogaethau a'r rhagolygon cyffredinol ar gyfer ei gweithgareddau masnachol a chynhyrchu incwm;
  • Dylai ystyried a yw'r cyllid cyfredol gan Lywodraeth Cymru yn ddigonol a chymharu hyn â llyfrgelloedd cenedlaethol eraill lle bo'n briodol;
  • Dylai ystyried a ellir cyflawni ei amcanion drwy ddulliau eraill;
  • Dylai asesu cynaliadwyedd hirdymor cyllid y Llyfrgell Genedlaethol i gyflawni ei hamcanion a sut y gellid cynyddu ei heffaith ar gymdeithas Cymru ac ar flaenoriaethau Llywodraeth Cymru pe byddai digon o arian yn cael ei ddarparu.

4.5  Llywodraethu

Dylai'r Adolygiad ymchwilio i effeithiolrwydd strwythurau rheoli a llywodraethu y Llyfrgell Genedlaethol (gan gynnwys y Bwrdd, y Pwyllgor Archwilio a Risg, y Pwyllgor Cynllunio Ariannol a'r Pwyllgor Llywodraethu a Pherfformiad) gan gynnwys:

  • Effeithiolrwydd y Bwrdd o ran pennu strategaeth y Llyfrgell Genedlaethol a monitro'i heffaith;
  • Y broses o wneud penderfyniadau, ymgysylltu a herio gan Fwrdd y Llyfrgell Genedlaethol;
  • Ymgysylltiad Llywodraeth Cymru o ran darparu'r cymorth strategol perthnasol pan fo angen;
  • Effeithiolrwydd y Llyfrgell Genedlaethol wrth hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiad a'r Gymraeg.

4.6  Perthynas y Llyfrgell Genedlaethol â Llywodraeth Cymru

  • Bydd yr Adolygiad yn ystyried a gaiff y berthynas noddi rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a’r Is-adran Diwylliant a Chwaraeon ei rheoli yn unol ag egwyddorion llywodraethu corfforaethol da fel y disgrifir yn y ddogfen fframwaith, y llythyron cylch gwaith blynyddol, cod arferion y Llyfrgell a llythyrau’r Prif Weithredwr.
  • Bydd yn ystyried a yw'r rheolaethau cyfredol a'r prosesau goruchwylio y cytunwyd arnynt yn ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol ac fel y'u gweithredir yn ymarferol, yn darparu trefn lywodraethu gadarn a rheolaeth gadarn o ran arian cyhoeddus ac yn rhoi'r rhyddid i’r Llyfrgell Genedlaethol weithredu i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys ystyried a yw'r prosesau penodi presennol ar gyfer y Llywydd, yr Is- lywydd, y Trysorydd a'r Ymddiriedolwyr yn briodol.
  • Bydd yr Adolygiad yn ystyried y berthynas rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, ac yn asesu a yw'r trefniadau presennol yn galluogi'r sefydliad i gyfrannu at flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun Siarter a Rheoliadau Brenhinol y Llyfrgell Genedlaethol.

4.7  Perthynas y Llyfrgell Genedlaethol â rhanddeiliaid allanol

  • Bydd yr Adolygiad yn ystyried effeithiolrwydd polisïau a strategaethau ymgysylltu allanol y Llyfrgell ac i ba raddau y mae'r Llyfrgell yn ceisio dirnad beth yw anghenion a safbwyntiau cwsmeriaid.

5. Cylch gorchwyl y panel

Caiff Cylch Gorchwyl y Panel ei gytuno'n ffurfiol gan y Panel dethol o fewn ffiniau’r egwyddorion allweddol ym mharagraff 3.

Dylid dewis aelodau’r Panel fel a ganlyn:

  • Aelodau annibynnol nad oes ganddynt unrhyw fuddiannau sy’n gwrthdaro â Llyfrgell Genedlaethol Cymru nac unrhyw ddylanwad arall arni ac y byddant yn ymddwyn yn unol ag Egwyddorion Nolan.
  • Gwybodaeth am gyrff cyhoeddus a/neu ddealltwriaeth dda o’r Llyfrgell Genedlaethol a phrif agweddau ei gweithrediadau/profiad o adolygiadau llywodraethu.
  • O leiaf un aelod o’r panel â Gradd 5 o ran sgiliau Cymraeg gan fod canran sylweddol o staff ac aelodau'r Bwrdd yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf a hefyd oherwydd y gall cyfathrebu mewnol fod yn uniaith Gymraeg. Caiff holl bapurau'r Bwrdd a'r Pwyllgorau eu cyhoeddi'n ddwyieithog ac eithrio’r rhai a gyhoeddir gan ffynonellau allanol.
  • Darperir gwasanaethau cyfieithu ar gyfer aelodau'r panel nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
  • Bydd yr aelodaeth yn cynnwys Cadeirydd profiadol a 2-3 Aelod Panel Annibynnol a benodwyd drwy ymgynghori â’r Grŵp. Bydd gwasanaeth ysgrifenyddol dwyieithog yn cefnogi’r Panel.

Bydd yn rhaid i bawb sy'n ymwneud â'r Adolygiad wedi’i Deilwra ddatgan unrhyw wrthdaro buddiannau cyn dechrau'r Adolygiad, ac mae pob unigolyn yn gyfrifol am hysbysu’r gweithgor ac aelodau'r Panel yn briodol o unrhyw newidiadau yn hyn o beth.

Bydd aelodaeth y panel yn cynnwys cydbwysedd o ran rhyw a chyfuniad da o sgiliau.

Caiff aelodau'r panel gyflawni eu dyletswyddau yn eu dewis iaith.

6. Adrodd

Caiff y gweithgor ei sefydlu gyda chynrychiolaeth o'r Grŵp a’r Uned Cyrff Cyhoeddus fydd yn arwain yr adolygiad. Julia Douch, Rheolwr Gweithredu yr Uned Cyrff Cyhoeddus fydd yr Uwch Swyddog Cyfrifol yr Adolygiad. Gellir ehangu’r grŵp ar unrhyw adeg drwy hysbysu’r grŵp ymlaen llaw, ond nid oes angen ymgynghori ar gynnwys ei gynrychiolwyr.

Caiff y Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol, Pedr ap Llwyd a'r Cyfarwyddwr Chwaraeon, Twristiaeth a Diwylliant, Jason Thomas, adborth rheolaidd ar hynt yr adolygiad a’u gwahodd i roi sylwadau ar unrhyw adroddiadau drafft a lunnir.

Bydd y Panel yn rhannu ei adroddiad terfynol â Thîm Gweithredol ac Ymddiriedolwyr y Llyfrgell Genedlaethol, yr Is-adran Diwylliant a Chwaraeon a'r Uned Cyrff Cyhoeddus cyn ei gyflwyno i Is-grŵp Effeithlonrwydd y Bwrdd.

Bydd yr Is-grŵp Effeithlonrwydd yn herio Swyddogion Cyfrifyddu’r Llyfrgell Genedlaethol ac yn gwneud argymhellion.

Bydd Is-grŵp Effeithlonrwydd y Bwrdd yn adrodd i'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ac i'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am gyrff cyhoeddus.

Gall y Dirprwy Weinidog(ion) ddewis cyfarfod â Swyddogion Cyfrifyddu perthnasol y Llyfrgell Genedlaethol a Llywodraeth Cymru cyn ysgrifennu atynt yn ffurfiol.

Cyhoeddir fersiwn wedi'i golygu a’i chytuno o'r adroddiad er mwyn gallu rhannu arfer da a dysgu gwersi o’r argymhellion.

7. Dogfennau llywodraethu

Efallai yr hoffai aelodau’r Panel adolygu dogfennau ar ffurf a sylwedd, Trefn Lywodraethu, Adolygiadau ac Arolygon y Llyfrgell Genedlaethol. Mae Atodiad B yn cyfeirio at rai o'r dogfennau hyn ond ni ddylid ystyried bod y rhestr yn un gyflawn a gall y Panel ofyn am unrhyw ddogfennau eraill sydd eu hangen ar unrhyw adeg.

8. Meincnodi

Mae chwe llyfrgell adnau cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon:

Mae'r Llyfrgell Brydeinig yn derbyn copi o bopeth a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig, ac mae gan y pum llyfrgell yng Nghaeredin, Rhydychen, Caergrawnt, Dulyn ac Aberystwyth yr hawl i ofyn am gopi am ddim o hyn, ar yr amod eu bod yn gwneud cais ysgrifenedig o fewn blwyddyn i ddyddiad cyhoeddi’r gwaith.

Mae'r llyfrgelloedd hyn yn rhannu Asiantaeth y Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol, sy'n gweithredu ar eu rhan wrth ofyn am ddeunyddiau sy'n ddyledus ac sy'n gwasanaethu fel storfa statudol ar gyfer derbyn deunyddiau a gafwyd yn unol â Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003.

Bydd ymarfer meincnodi yn pennu cyllid, strwythurau, amcanion, dulliau cyflawni ac atebolrwydd. Byddai'r pwyslais ar Lyfrgell Genedlaethol yr Alban oherwydd gwelir bod llawer o elfennau tebyg i’r Llyfrgell Genedlaethol, ond ystyrir y pedair llyfrgell arall hefyd.

9. Arolwg/holiadur

Diben yr arolwg yw:

  • Gweld pwy sy’n defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd, a darpar ddefnyddwyr yn y dyfodol, eu diddordeb yn y Llyfrgell a'i swyddogaethau amrywiol;
  • Meithrin dealltwriaeth o ganfyddiad defnyddwyr gwasanaethau o gyfleusterau a gwasanaethau’r Llyfrgell, ac o ba mor effeithiol yw hi o ran cynnal y rhain;
  • Pennu pa mor fodlon fel cwsmeriaid yw’r defnyddwyr gwasanaeth;
  • Pennu gofynion a disgwyliadau'r defnyddwyr gwasanaeth o ran gwasanaethau yn y dyfodol.

10. Sgyrsiau gyda rhanddeiliaid allweddol

Cynhelir sgyrsiau naill ai drwy weithdai neu wyneb yn wyneb yn newis iaith y cyfweleion. Os na all cyfwelai fod yn bresennol ei hun, gall gynnig dirprwy yn ei le neu ddefnyddio cyfleusterau fideo-gynadledda neu dros y ffôn.

Bydd y Grŵp yn cytuno ar gyfweleion perthnasol ac yn hysbysu’r panel o’u perthnasedd.

Bydd y panel yn penderfynu a oes angen unrhyw sgyrsiau eraill.

Cynhelir pob sgwrs yn gwbl gyfrinachol. Os gallai unrhyw wybodaeth a dderbynnir ddatgelu pwy yw cyfwelai neu sefydliad, dim ond ar ôl i'r cyfwelai gydsynio y caiff yr wybodaeth honno ei chynnwys yn yr adroddiad.

Atodiad A: dogfennau llywodraethu

Ffurf a Sylwedd

Siarter Frenhinol a Statudau, Rheoliadau, Cynllun Strategol 2017-2021, Llythyr cylch gwaith/Dangosyddion y Cynllun Strategol (amcanion a thargedau y cytunwyd arnynt fel y nodwyd yn y Cynllun Strategol).

Llywodraethu

Fframwaith Llywodraethu, Cynllun Busnes a Gweithredu Blynyddol, Adroddiad Blynyddol, Cyfrifon Blynyddol, Cytundeb Rheoli Fframwaith Partneriaeth, cofnodion y Bwrdd ac is-grwpiau (h.y. ARAC), Cofrestr Risg, Adroddiadau/Cynlluniau Archwilio Allanol a Mewnol, eu Hargymhellion ac ymateb a chynllun gweithredu'r Ymddiriedolwyr a’r rheolwyr, Adroddiadau Perfformiad (Canlyniadau).

Adolygiadau ac Arolygon

Swyddfa Archwilio Cymru – Llyfrgell Genedlaethol Cymru – Adolygiad Llywodraethu (2016)

Adolygiadau perfformiad staff ac aelodau'r Bwrdd a'r Cadeirydd, Adolygiad Cyflogau, Bwrdd Prosiect y BBC, Beaufort Research, Adroddiad Wavehill

Arolwg o Wasanaethau Defnyddwyr (2019)

Ymarfer meincnodi

Atodiad B: amserlen

Cytunir ar yr amserlen drwy ymgynghori â Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Llywodraeth Cymru ac aelodau'r Panel.

Sylwch ar y llithriant ers yr amserlen wreiddiol, a gaiff ei ystyried wrth werthuso proses yr Adolygiad wedi’i Deilwra a chynllunio rhaglen drwy ymgynghori â Noddwyr Arweiniol a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru.

Camau

Erbyn pryd y cwblhawyd

Cychwyn trafodaeth ynglŷn â chwmpas, cylch gwaith, cylch gorchwyl ac amserlen

Mawrth 2019

Cytuno ar gwmpas, cylch gwaith, cylch gorchwyl ac amserlen

Mai 2019

Lansio’r arolwg

Gorffennaf 2019

Gweithdai

Medi 2019

Cwblhau’r meincnodi

Awst 2019

Dadansoddi canlyniadau'r arolwg a llunio adroddiad

Medi 2019

Sgyrsiau panel gyda rhanddeiliaid

Medi 2019

Llunio adroddiad drafft

Hydref 2019

Cyfieithu

Hydref 2019

Cyflwyno’r adroddiad terfynol wedi’i gyfieithu i Fwrdd y Llyfrgell

Hydref 2019

Cyflwyno’r adroddiad terfynol ac adborth Bwrdd y Llyfrgell i is-grŵp Effeithlonrwydd y Bwrdd

Tachwedd 2019

Y Bwrdd Effeithlonrwydd yn herio’r adroddiad a’r adborth mewn trafodaeth gyda Llywydd a Swyddog Cyfrifyddu y Llyfrgell Genedlaethol a Swyddog Cyfrifyddu ESNR

Tachwedd 2019

Adroddiad yr Is-grŵp Effeithlonrwydd a gwneud argymhellion i’r Gweinidog

Tachwedd 2019

Cyhoeddi adroddiad wedi'i olygu

Tachwedd 2019

Adolygu cynllun treialu’r Adolygiad wedi’i Deilwra a chytuno ar raglen o Adolygiadau wedi’u Teilwra â Noddwyr Arweiniol

Ionawr 2020