Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae Rheoliadau Paneli Maethu (Sefydlu a Swyddogaethau) (Cymru) 2018, rheoliad 7(2) ac Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 2 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwr gwasanaeth maethu gasglu manylion iechyd (wedi eu hategu gan adroddiad meddygol) fel rhan o'r broses asesu.

Rydym wedi cael ar ddeall nad yw meddygon teulu yn debygol o fod ar gael yn ystod argyfwng COVID-19 i ddarparu cofnodion claf i unrhyw ymarferydd meddygol arall na chynnal archwiliadau wyneb yn wyneb â darpar rieni maeth.

Deallwn hefyd ei bod yn bosibl na fydd gan bediatregwyr cymunedol, sy'n gweithredu fel Cynghorwyr Meddygol i ddarparwyr gwasanaethau maethu, yr adnoddau i ymgymryd â gwaith yn y maes hwn os bydd y pandemig yn parhau a bydd eu hangen mewn rhannau eraill o'r GIG.

Mae'n bwysig bod y dasg o asesu darpar rieni maeth yn parhau yn ystod yr argyfwng hwn er mwyn diwallu anghenion plant y mae angen lleoliadau arnynt, yn ystod ac ar ôl yr argyfwng.

Proses dros dro yn ystod Argyfwng COVID-19

Noder bod y newid hwn ond yn ymwneud ag asesiadau meddygol, mae'r holl ofynion eraill a nodir yn y Rheoliadau mewn grym o hyd.

Yn lle'r Rheoliad (fel y nodwyd uchod), bydd 'Ffurflen Hunanddatgan Iechyd CoramBAAF i'w defnyddio yn ystod pandemig COVID-19' yn cael ei chyflwyno i'w defnyddio gan y darparwyr gwasanaethau maethu hynny y mae'r anallu i fwrw ymlaen ag asesiadau iechyd ar gyfer darpar ofalwyr maeth yn effeithio arnynt. Mae copi o'r ffurflen wedi'i hamgáu gyda'r ddogfen hon.

I gynorthwyo â'r sefyllfa bresennol bydd dwy broses ar wahân ar gael y gall Asiantaethau Maethu eu dilyn er mwyn rhoi asesiadau meddygol ar waith:

  • ar gyfer y gwasanaethau hynny sy'n dal i allu cael gafael ar Adroddiad Iechyd Oedolyn llawn drwy Feddyg Teulu'r ymgeisydd (gan ddefnyddio dulliau i gynnal archwiliad meddygol o bell gyda chofnodion y claf), dylid cwblhau ffurflen AHR arferol CoramBAAF
  • ar gyfer y gwasanaethau hynny na allant gael gafael ar unrhyw fath o asesiad meddygol gan feddyg teulu, dylid defnyddio ffurflen

Hunanddatgan Iechyd CoramBAAF, a lle mae Cynghorydd Meddygol ar gael i roi sylwadau ar y ffurflen hon, dylid gwneud hynny.

Amserlen

Bydd y prosesau hyn ar waith rhwng 11 Mai a 30 Medi 2020 neu nes y dychwelir i brosesau gweithredu arferol, pa un bynnag fydd gyntaf. O ystyried y cyfnod ansicr hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i ddarparwyr gwasanaethau maethu ar ba ddyddiad y bydd angen iddynt ailddechrau busnes fel arfer.

Rhoi ffurflen hunanddatgan iechyd CoramBAAF ar waith

Mae'r ffurflen hunanddatganiad ar gael yn y ddolen atodedig CoramBAAF

Mae'r broses isod yn amlinellu camau amrywiol y broses y mae angen i ddarparwyr gwasanaethau maethu ei dilyn wrth ddefnyddio Ffurflen Hunanddatgan Iechyd CoramBAAF:

  1. yn ystod unrhyw ymholiadau cychwynnol, gofynnir i ymgeiswyr a oes ganddynt unrhyw bryder(on) o ran eu hiechyd
  2. os mai 'oes' yw'r ateb ac os yw'r ymarferydd yn credu bod y pryder(on) yn gofyn am asesiad meddygol, yna esbonnir y goblygiadau sy'n gysylltiedig â'r argyfwng presennol i'r ymgeisydd a chaiff ei wahodd i fynd yn ôl at y darparwr gwasanaethau maethu ar adeg benodol yn y dyfodol er mwyn trafod pethau ymhellach
  3. os mai 'nac oes' yw'r ateb ac os bodlonir yr holl feini prawf cymhwysedd eraill, gwahoddir yr ymgeiswyr i barhau, ac ar ôl hynny bydd Camau 1 a 2 o'r broses asesu yn dechrau gyda'i gilydd
  4. mae'n bosibl y bydd angen parhau i asesu person cysylltiedig, naill ai yn ystod yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus neu fel rhan o achosion gofal, hyd yn oed os oes hanes o bryderon o ran iechyd. Mewn sefyllfa o'r fath, dylai'r awdurdod lleol hysbysu'r llys ar gam cynnar yn yr achosion a, lle y bo'n briodol, ceisio cyfarwyddyd
  5. gofynnir i'r ymgeisydd lenwi Rhan B o'r ffurflen hunanddatgan, ei llofnodi a'i dychwelyd i'r darparwr gwasanaethau maethu
  6. bydd y darparwr gwasanaethau maethu yn llenwi Rhan A o'r ffurflen ac yn ei hanfon at y Cynghorydd Meddygol i lenwi'r crynodeb (os bydd ar gael)
  7. os bydd cyfyngiadau COVID-19 wedi'u codi erbyn i'r asesiad gael ei gwblhau, ceisir asesiad ac adroddiad meddygol, yn unol â Rheoliad 7(2), Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 2
  8. os na fydd asesiad nac adroddiad meddygol ar gael pan gwblheir yr asesiad, y panel fydd yn dewis argymell a'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau fydd yn penderfynu a ddylid cymeradwyo'r ymgeisydd fel rhiant maeth heb asesiad ac adroddiad meddygol. Noder: bydd angen ymdrin â phob achos yn unigol

Nodiadau allweddol

(i) Ni ellir gwneud argymhelliad a phenderfyniad ar yr amod y cynhelir archwiliad meddygol wedi hynny. Fodd bynnag, o dan reoliad 5(2)(b), gall panel wneud cais i'r darparwr gwasanaethau maethu geisio unrhyw wybodaeth berthnasol arall a ystyrir yn angenrheidiol yn nhyb y panel maethu. O ganlyniad, gallai'r cyfnod asesu gael ei estyn nes y caiff gwybodaeth o'r fath ei chasglu, ei dadansoddi a'i chyflwyno i'r panel.

(ii) Gall yr amodau cymeradwyo ar gyfer yr ymgeiswyr hynny lle caiff asesiadau eu cwblhau heb adroddiad meddygol llawn, gael eu cyfyngu'n rhai ‘byrdymor’ er mwyn adlewyrchu'r cyfyngiadau a oedd ar waith ar adeg yr asesiad.

(iii) Bydd yr holl ymgeiswyr a gaiff eu cymeradwyo gan wasanaethau gan ddefnyddio Ffurflen Hunanddatgan Iechyd CoramBAAF yn destun proses adolygu flynyddol gynnar. Dylai'r adolygiad gael ei gynnal cyn gynted â phosibl, ac o fewn chwe mis ar yr hwyraf, ar ôl i'r cyfyngiadau presennol gael eu codi. Dylai'r adolygiad blynyddol cynnar gynnwys asesiad ac adroddiad iechyd oedolyn llawn er mwyn llywio'r adolygiad ac unrhyw argymhelliad mewn perthynas â chymeradwyaeth barhaus a statws cymeradwyaeth o'r fath.