Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae Ysgolion Bro yn chwarae rhan allweddol wrth fynd i'r afael ag effaith tlodi ac anfantais economaidd-gymdeithasol ar gyrhaeddiad addysgol. Mae dysgu ac addysgu o ansawdd uchel yn cael effaith fawr ar ddeilliannau dysgwyr dan anfantais economaidd-gymdeithasol, ond mae amgylchedd y cartref a'r gymuned ehangach hefyd yn ddylanwadau sylweddol. Drwy weithio ar y cyd ar draws yr ysgol, y cartref a’r gymuned gallwn gefnogi ein plant a'n pobl ifanc yn fwy effeithiol.

Mae ymchwil yn dangos y gall dull ysgol gymunedol sydd wedi'i ddatblygu'n dda wella presenoldeb, ymddygiad, cyrhaeddiad a dyheadau plant a phobl ifanc (Rand, 2020, Illustrating the Promise of Community Schools). Gall y dull hwn hefyd effeithio'n gadarnhaol ar fywydau teuluoedd ac aelodau o'r gymuned sy'n helpu i ddatblygu cymunedau sy'n ffynnu, wedi'u grymuso ac sy’n gydgysylltiedig.

Mae’r canllawiau ar gyfer ‘Ysgolion Bro’ yn darparu'r weledigaeth a'r rhesymeg dros ddatblygu ysgolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned yng Nghymru, ac yn tynnu ynghyd gyhoeddiadau a wnaed gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, yn ei Ddatganiad Llafar ar 22 Mawrth 2022 ac yn ei brif araith i Sefydliad Bevan ar 16 Mehefin 2022.

Rydym am i holl ysgolion Cymru fod yn Ysgolion Bro – sy’n meithrin partneriaethau cryf gyda theuluoedd, yn ymateb i anghenion y gymuned ehangach, ac yn cydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill.

Ein model ar gyfer Ysgolion Bro

Mae 3 elfen allweddol i Ysgolion Bro.

  1. Ymgysylltu â'r teulu. Creu cyfleoedd ystyrlon i deuluoedd a gofalwyr gymryd rhan ym mywyd yr ysgol a’i phenderfyniadau ac ymwneud â dysgu eu plant.
  2. Ymgysylltu â'r gymuned. Annog ysgolion i fanteisio ar gysylltiadau â grwpiau a sefydliadau cymunedol, a hefyd gynnig cefnogaeth a chyfleoedd i aelodau'r gymuned
  3. Ymgysylltu â phartneriaethau amlasiantaeth. Meithrin partneriaethau â gwasanaethau ehangach ac ymyrryd i gael gwared ag unrhyw rwystrau rhag dysgu. Mae Ysgol Fro yn cysylltu â'r gwasanaethau hyn ac yn cefnogi'r plentyn a'r teulu i gael gafael ar y cymorth cywir ar yr adeg gywir.
Image
Ein model ar gyfer Ysgolion Bro

Mae’r model hwn yn dangos dull system gyfan. Mae gweithio o'r blynyddoedd cynnar i ôl-16 oed yn hanfodol i lwyddiant ein plant a'n pobl ifanc. Mae’r hyn sydd orau i'n plant a’n pobl ifanc yn ganolog i’r model hwn.

Mae’r 3 elfen allweddol sef ymgysylltu â’r teulu, ymgysylltu â’r gymuned ac ymgysylltu â phartneriaethau amlasiantaeth yn gydgysylltiedig. Nid yw’r elfennau hyn yn gweithio ar eu pen eu hunain, ond maen nhw’n cael dylanwad ac effaith ar ei gilydd, ac yn cyfuno i fod yn fodel hunanbarhaol.

Mae 4 galluogwr allweddol sy'n cefnogi meithrin ymgysylltu â’r teulu, â’r gymuned ac â phartneriaethau amlasiantaeth, sef:

  • gweledigaeth ar y cyd
  • arweinyddiaeth gydweithredol
  • cydberthynas ymddiriedus
  • dysgu cydgysylltiedig

Mae Ysgolion Bro yn gwerthfawrogi ac yn adlewyrchu amrywiaeth plant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru. Maent yn meithrin cydberthnasau ymddiriedus gyda theuluoedd ac aelodau o’r gymuned ac yn cydweithio â nhw i ddatblygu darpariaeth sy’n adlewyrchu eu cyd-destun. Mae amgylchedd Ysgol Fro yn hollol gynhwysol, ac un sy’n sicrhau bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu parchu, eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.

Mabwysiadu pob agwedd ar y model ar gyfer ysgolion bro fydd yn sicrhau’r effaith fwyaf ar gyrhaeddiad, ymddygiad, presenoldeb ac uchelgeisiau plant a phobl ifanc – ac yn sicrhau tegwch yn ogystal â safonau uchel i bawb.