Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Y fframwaith cyfreithiol

Deddf Addysg 2002

Mae adran 29(1) o Ddeddf Addysg 2002 (‘y Ddeddf’) yn ei gwneud hi’n ofynnol i gyrff llywodraethu pob ysgol a gynhelir sefydlu gweithdrefnau ar gyfer delio â chwynion yn ymwneud â’r ysgol neu â darparu cyfleusterau neu wasanaethau. O dan adran 27 o'r Ddeddf (Mae adran 27 yn rhoi’r pŵer i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir  ddarparu unrhyw gyfleusterau neu wasanaethau y mae eu darpariaeth yn hyrwyddo unrhyw ddiben elusennol er budd disgyblion yn yr ysgol, eu teuluoedd a phobl sy'n byw ac yn gweithio yn ardal yr ysgol), rhaid i gyrff llywodraethu hefyd roi cyhoeddusrwydd i'w gweithdrefnau cwynion.

Mae prosesau statudol ar wahân ar gyfer cwynion ac apeliadau’n ymwneud â’r cwricwlwm i Gymru, anghenion dysgu ychwanegol, derbyniadau, gwaharddiadau, cwynion gan staff, gallu athrawon a disgyblaeth staff. I weld canllawiau ar y pynciau hyn, ewch i Hwb a Llyw.Cymru.

Mae adran 29(2) yn ei gwneud hi’n ofynnol i gorff llywodraethu roi sylw priodol i ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o ran sefydlu a rhoi cyhoeddusrwydd i weithdrefnau cwyno sy’n ymwneud â’r ysgol neu â darparu cyfleusterau neu wasanaethau o dan adran 27 o’r Ddeddf.

Cyhoeddir y cylchlythyr hwn o dan adran 29(2) mewn perthynas â sefydlu a rhoi cyhoeddusrwydd i weithdrefnau ar gyfer delio â chwynion yn ymwneud â’r ysgol neu â darparu cyfleusterau neu wasanaethau o dan adran 27 o’r Ddeddf. Mae’n rhaid i gyrff llywodraethu roi sylw priodol i’r canllaw statudol mewn perthynas â’r materion hyn a’i ddilyn, oni bai bod rhesymau da dros gredu, o dan amgylchiadau penodol yr ysgol neu’r gŵyn, nad yw’r canllaw yn berthnasol neu fod ystyriaethau eraill yn bwysicach na’r canllaw.

Deddf Addysg 1996

Cyhoeddir y weithdrefn enghreifftiol a gweddill y cylchlythyr hwn o dan adran 10 o Ddeddf Addysg 1996. O dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru hyrwyddo addysg pobl Cymru.