Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r papur hwn yn rhoi crynodeb byr o ganlyniadau'r arolwg gan gofnodi cipolwg ar ymgysylltiad awdurdodau lleol â Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y bwriad yw rhoi gwybodaeth i CLlLC am yr adolygiad sydd wedi'i deilwra o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dull

Anfonwyd holiadur ar-lein byr at brif weithredwr pob awdurdod lleol yng Nghymru. Yna, rhannwyd hyn â'r swyddogion perthnasol ym mhob awdurdod lleol fel y bo'n briodol. Roedd cymryd rhan yn yr arolwg yn wirfoddol ac fe'i cynhaliwyd dros gyfnod o bythefnos rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2019.

Roedd yr holiadur yn cynnwys cymysgedd o gwestiynau caeedig a phenagored. Ceisiodd gofnodi:

  • Ymwybyddiaeth awdurdodau lleol o Lyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Y mathau o brosiectau y mae awdurdodau lleol yn ymwneud â nhw gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Enghreifftiau/astudiaethau achos o weithgarwch ymgysylltu
  • Dyheadau/syniadau awdurdodau lleol ynglŷn ag ymgysylltu â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn y dyfodol.

Cyfyngiad

Mae'n bwysig nodi mai dim ond canolbwyntio ar gofnodi 'cipolwg' cyfredol o ymgysylltiad awdurdodau lleol â Llyfrgell Genedlaethol Cymru y mae cynllun yr arolwg yn ei wneud. Nid yw ei ganfyddiadau yn cynnig dadansoddiad cynhwysfawr o ymgysylltiad awdurdodau lleol ledled Cymru.

Canlyniadau a Chanfyddiadau

Maint y sampl

O'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, ymatebodd 12 – gan ddarparu cyfradd ymateb o 55%. Nododd 100% o'r ymatebwyr eu bod yn ymwybodol o waith y Llyfrgell Genedlaethol. Ymatebodd 18% o’r ymatebwyr yn Gymraeg. Roedd yr ymatebwyr yn cynrychioli gwasgariad daearyddol eang o ogledd a de Cymru, a chymysgedd o ddemograffeg drefol a gwledig.

Mathau o Weithgarwch Ymgysylltu

Nododd 100% o'r ymatebwyr eu bod yn ymgysylltu â'r Llyfrgell Genedlaethol ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys addysg, celf, cymuned, treftadaeth ac archifau, a gwaith prosiect.

Image

 

Roedd meysydd ymgysylltu eraill hefyd yn cynnwys:

  • Adnoddau digidol megis mynediad at adnoddau electronig megis e-lyfrau, e-sain ac e-gylchgronau
  • Cyfleusterau llinach teulu
  • Arddangosfeydd a digwyddiadau diwylliannol
  • Archifau a hanes darlledu cenedlaethol
  • Ymgyrchoedd marchnata'r Llyfrgell Genedlaethol a'r sector llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru
  • Cydgysylltu adnoddau digidol.

Enghreifftiau o weithgareddau ymgysylltu

Rhoddodd 11 o'r 12 o ymatebwyr ddisgrifiad byr ac enghreifftiau o'u gweithgareddau ymgysylltu â'r Llyfrgell Genedlaethol. Roedd rhai o'r rhain yn cynnwys:

  • Archif sgrin a sain – darparu mynediad at erthyglau papur newydd a siwrnalau
  • Arddangosfeydd y Llyfrgell Genedlaethol mewn ardaloedd lleol
  • Bwth Mediatech yn y llyfrgell leol
  • Cynllun Cof Byw - defnyddio hyn i ymgysylltu â phreswylwyr sy'n gaeth i'r tŷ a grwpiau dementia
  • Casgliad y Bobl
  • Darparu cyngor ac arweiniad i staff awdurdodau lleol ar gefnogi’r broses o ddigideiddio casetiau a chryno ddisgiau
  • Darparu mynediad at dechnoleg ddigidol gan gynnwys gliniaduron
  • Benthyciadau rhwng llyfrgelloedd ac ymholiadau achlysurol ynglŷn ag ymchwil
  • Rhwydwaith cynllunio brys
  • Mae LlGC yn gweithredu fel ystorfa o destunau hynafol, gan gynnwys Llyfr Aneirin
  • Mae LlGC yn rhoi cyngor i gynghorau ar gyfer casgliadau hanesyddol

Ymgysylltu â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn y dyfodol

Cyflwynodd 11 o’r 12 o ymatebwyr dystiolaeth. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn am ymgysylltiad presennol LlGC ag awdurdodau lleol. Mae'n amlwg bod awdurdodau lleol yn gwerthfawrogi holl weithgareddau LlGC. Fodd bynnag, cynigiodd pob un o'r ymatebwyr syniadau defnyddiol i ddatblygu’r cynnydd a rhoi mwy o gefnogaeth i unrhyw ymgysylltu â LlGC yn y dyfodol. Roedd rhai o'r rhain yn cynnwys:

  • Cryfhau'r berthynas rhwng LlGC ac awdurdodau lleol. Gall hyn helpu i leihau dyblygu ymdrechion
  • Mae staff proffesiynol o fewn y sefydliad yn ffynhonnell werthfawr o arbenigedd a all gynnig arweiniad ar gyflawni prosiectau gan gynnwys System Rheoli Llyfrgelloedd Cymru Gyfan. Gwella safonau drwy ddatblygu fframweithiau cenedlaethol.
  • Ehangu ymwybyddiaeth a gwybodaeth gymunedol o gasgliad LlGC drwy well ymdrechion marchnata a rhaglenni allgymorth
  • Sicrhau bod mwy o arbenigedd, cyngor a chymorth ar gael, yn enwedig ar gyfer digideiddio a chynnal casgliadau arbenigol
  • Cefnogi datblygiad adnoddau addysgu ar gyfer hanes a diwylliant Cymru
  • Datblygu ymhellach y cysylltiadau rhwng arddangosfeydd/cyfleusterau cenedlaethol a lleol.