Atodiad: Astudiaethau achos o Gynlluniau Addysg Personol (CAP)
Mae'r astudiaethau achos hyn yn dangos sut mae 2 awdurdod lleol yn rheoli proses CAP i gofnodi safbwyntiau dysgwyr ac ysgogi safonau gwell.
Ar y dudalen hon
Astudiaeth achos: defnyddio holiadur sy'n ystyriol o drawma i gasglu safbwyntiau dysgwyr
Ym Mhowys, mae tîm yr ysgol rithwir yn defnyddio holiadur sy'n ystyriol o drawma i gasglu safbwyntiau dysgwyr a deall a oes angen cymorth arnynt yn yr ysgol. Caiff hyn ei wneud cyn i'r CAP gael ei gwblhau ac mae’n cyfrannu at broses y CAP. Y bwriad yw defnyddio'r holiadur fel ffordd ragweithiol o nodi unrhyw faterion y gallai'r dysgwr eu hwynebu fel bod modd nodi'r cymorth cywir. Er enghraifft, os yw'n fater sy'n ymwneud â phresenoldeb, bydd tîm yr ysgol rithwir yn ceisio:
- cyfeirio'r dysgwr at gymorth (er enghraifft, gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc)
- gweithio gyda'r ysgol yn uniongyrchol
Mae hyn wedi dechrau cynyddu cyfranogiad ysgolion ym mhroses y CAP ac wedi eu helpu i ddeall diben y cynllun, fel y mae'r astudiaeth hon yn ei ddangos:
Sefyllfa
Mae plentyn K yn blentyn sy'n derbyn gofal o'r tu allan i'r sir sydd ar leoliad gyda chytundeb y rhieni i'w helpu i ailuno dros gyfnod o 12 mis. Bu'r plentyn mewn gofal maeth hirdymor cyn hynny. O ganlyniad i anghenion ymlyniad, bu'r cyfnod o bontio i'r ysgol uwchradd yn anodd ac arweiniodd at nifer o waharddiadau cyfnod penodol am ymddygiad afreolus ac ymosodiad geiriol a chorfforol.
Holiadur CAP
Nid oedd y plentyn yn bresennol yng nghyfarfod CAP tymor yr hydref oherwydd salwch. Serch hynny, cofnododd yr ysgol safbwyntiau’r plentyn ac roedd popeth yn ymddangos yn iawn, heb unrhyw bryderon. Fodd bynnag, cwblhawyd holiadur llesiant ar ôl i'r plentyn ddychwelyd i'r ysgol a gododd bryderon yn ymwneud â llesiant y plentyn a'r ffaith nad oedd yn teimlo'n ddiogel ar y bws ysgol.
Ymyrryd
Er mwyn sicrhau bod y plentyn yn teimlo'n ddiogel yn yr ysgol, darparwyd oedolyn a oedd ar gael yn emosiynol, a wrandawodd ar bryderon y plentyn. Helpodd yr oedolyn y plentyn i osgoi mewnoli ei deimladau, a allai fod wedi gwneud iddo ymddwyn yn afreolus unwaith eto a chynyddu'r risg y byddai'n cael ei wahardd. Sicrhaodd yr ysgol hefyd fod y plentyn yn ymwybodol o sawl aelod o'r staff y gallai siarad â nhw yn yr ysgol pe bai'n teimlo'n anhapus neu pe bai ganddo bryderon. Bydd hyn yn sicrhau ymateb mwy amserol i unrhyw bryderon yn y dyfodol yn hytrach nag aros am y cyfarfod CAP. Aethpwyd i'r afael â'r materion ar y bws ysgol yn briodol, gan gynnwys cynyddu presenoldeb oedolion ar y bws.
Camau dilynol
Gofynnwyd am hyn yn ystod proses CAP tymor y gwanwyn er mwyn ceisio barn K cyn ac yn ystod proses y CAP, a chwblhawyd yr holiadur eto.
Astudiaeth achos: defnyddio porth CAP electronig
Mae Bro Morgannwg wedi creu ysgol rithwir sy'n defnyddio porth CAP ar-lein. Mae tîm addysg yr ysgol rithwir yn cadw'r CAP mewn lleoliad canolog ac yn darparu hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r porth i:
- athrawon
- gofalwyr maeth
- gweithwyr cymdeithasol
- swyddogion adolygu annibynnol
Pan fydd yr holl wybodaeth wedi'i chyflwyno, bydd y porth yn hysbysu'r gwasanaethau cymdeithasol a bydd yn anfon neges atgoffa bob chwe mis pan fydd angen diweddaru'r CAP. Mae'r porth proffesiynol i boblogi'r CAP yn ddiogel am fod y tîm addysg yn dilysu defnyddwyr yn uniongyrchol.
Mae'r porth CAP ar-lein yn cynnig y manteision canlynol.
- Mae'n haws sicrhau mai dim ond y copi meistr sy'n cael ei ddiweddaru ac nad oes sawl fersiwn wahanol o'r CAP yn bodoli.
- Mae'n hawdd ei ddefnyddio a sicrhau ei ansawdd.
- Mae'n defnyddio system goleuadau traffig i ddangos pan fo angen diweddaru CAP a phan fo CAP wedi'i gwblhau.
- Anfonir hysbysiadau at ysgolion pan fydd newidiadau i'r CAP, fel newid i statws cyfreithiol neu gyfeiriad.
- Mae mynediad diogel yn golygu bod mwy o dryloywder.
- Gall tîm yr ysgol rithwir rannu'r cynlluniau addysg personol ag ysgolion yn gyflym.
- Mae'r camau ar gyfer mewnbynnu gwybodaeth yn glir i'w dilyn.
- Gall mwy nag un gweithiwr proffesiynol weld y CAP ar yr un pryd.
- Mae'r porth proffesiynol i gwblhau'r CAP yn hygyrch i ysgolion, o fewn y sir a'r tu allan iddi.
- Mae'r CAP yn ddiogel ar y porth fel bod gofalwyr yn gallu bod yn rhan o'r broses. Mae hyn yn hanfodol gan nad yw system negeseuon e-bost yr asiantaeth faethu annibynnol yn ddiogel.
Mae tîm addysg Bro Morgannwg yn sicrhau ansawdd y CAP yn rheolaidd ac mae'n disgwyl y canlynol:
- bod y CAP yn canolbwyntio ar yr unigolyn
- bod gwybodaeth am addysg yn cael ei diweddaru'n rheolaidd a chan y rhai sy'n adnabod y plentyn orau
- bod safbwyntiau'r plentyn yn glir i bob gweithiwr proffesiynol eu gweld
- bod gwybodaeth hanesyddol briodol yn cael ei chofnodi a'i rhannu
- bod data ar ddeilliannau ac adroddiadau perthnasol yn cael eu cofnodi
