Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Gwerth am arian

Mae’n ofynnol i brosiectau ddangos eu bod yn rhoi gwerth am arian. Bydd
prosiectau’n cael eu rhoi yn eu trefn drwy eu cymharu â cheisiadau eraill ar sail
y sgoriau maent wedi’u hennill, yn erbyn y tri maen prawf eraill (a), wedi’u
rhannu â gwerth y grant (b).

Byddai gan brosiect sy’n derbyn y sgôr uchaf posibl o 24 (a), h.y. pedwar am
bob un o’r tri maen prawf eraill wedi’i lluosi â’r ffactor pwysoli, sy’n gwneud cais
am yr isafswm grant o £10,000 (b) werth a/b (24/10) o 2.4.

Byddai gan brosiect sy’n ennill isafswm sgôr o 6 (a), un ar gyfer pob un o’r tri
maen prawf arall, wedi’i lluosi â’r ffactor pwysoli, sy’n gwneud cais am yr
uchafswm grant o £250,000 (b), werth a/b (6/250) o 0.024.

Caiff gwerthoedd (a/b) holl brosiectau’r cyfnod ymgeisio eu rhoi yn eu trefn a
chaiff y sgoriau eu rhoi fel a ganlyn.

Sgôr  
4 Sgôr ar gyfer 3 maen prawf arall / grant (a/b) yw'r 0 – 25% uchaf o geisiadau.
3 Sgôr ar gyfer 3 maen prawf arall / grant (a/b) yw'r 26 – 50% uchaf o geisiadau.
2 Sgôr ar gyfer 3 maen prawf arall / grant (a/b) yw'r 51 – 75% uchaf o geisiadau.
1 Sgôr ar gyfer 3 maen prawf arall / grant (a/b) yw'r 76 – 100% uchaf o geisiadau.
0 Mae prosiect yn sgorio 0 yn erbyn unrhyw un o'r 3 maen prawf arall.

Mae’r newid canlynol wedi ei weithredu i’r atodiad yma yn yr Adran Gwerth am Arian uchod.

Gall sgoriau Gwerth am Arian o 0 i 1 a weithredwyd yng Ngham 1 o arfarniad gael ei ystyried ar gyfer diwygiad er mwyn gymryd i ystyriaeth gwybodaeth berthnasol ynglŷn â’r prosiect a ddarparwyd yn y cais.