Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 ["y Rheoliadau diwygio"] yn diwygio'r meini prawf cymhwystra ar gyfer dyrannu tai ac ar gyfer cymorth tai a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r newidiadau hyn yn berthnasol i bobl sydd wedi teithio i'r DU o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â'r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a waethygodd yn ystod Mehefin 2025, gan gynnwys unrhyw drais neu ansefydlogrwydd cysylltiedig yn y rhanbarth.

Mae'r Rheoliadau diwygio yn sicrhau bod y prawf preswylio arferol yn cael ei ddatgymhwyso ar gyfer y grŵp a ganlyn:

  • Personau a oedd yn byw yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem cyn 23 Mehefin 2025;
  • Personau a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â'r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a waethygodd ym mis Mehefin 2025, gan gynnwys unrhyw drais neu ansefydlogrwydd cysylltiedig yn y rhanbarth, gan gynnwys o dan drefniadau ymgilio Llywodraeth y DU neu drwy ddulliau eraill;
  • Sydd naill ai yn:
    • wladolion Prydeinig neu Wyddelig; neu
    • bersonau sydd â statws mewnfudo dilys ac yn defnyddio arian cyhoeddus, ac nad ydynt yn ddarostyngedig i ymrwymiadau nawdd;
  • Ac sy'n gwneud cais am dai neu gymorth tai o fewn chwe mis o:
    • ddyddiad dechrau’r broses ymgilio (23 Mehefin 2025), neu’r
    • dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyngor ffurfiol i adael (os yw'n berthnasol).

Pobl nad ydynt yn ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo:

Person sy'n:

  • wladolyn Prydeinig, unigolyn nad yw'n ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo (neu sy'n cael ei drin fel y cyfryw), a rhywun sy'n ddarostyngedig i reolaeth mewnfudo sydd â chaniatâd i aros yn y DU gyda hawl i arian cyhoeddus ac nad yw'n cael ei noddi o dan ymgymeriad;
  • yn byw yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem cyn 23 Mehefin 2025; ac
  • a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â'r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a waethygodd ym mis Mehefin 2025, gan gynnwys unrhyw drais neu ansefydlogrwydd cysylltiedig yn y rhanbarth, gan gynnwys o dan drefniadau ymgilio Llywodraeth y DU neu drwy ddulliau eraill.

Mae'r unigolion hyn yn gymwys i wneud cais am dai cymdeithasol neu gymorth tai yng Nghymru heb fod angen bodloni'r prawf preswylio arferol, ar yr amod eu bod yn gwneud cais o fewn chwe mis o'r canlynol:

  • dyddiad dechrau'r broses ymgilio (23 Mehefin 2025), neu’r
    • dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyngor ffurfiol i adael.

Daeth y Rheoliadau diwygio i rym ar 18 Gorffennaf.