Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg y Cadeirydd

Image
Kathryn Bishop, Chair of the Welsh Revenue Authority

Eleni unwaith eto, daw’r Adroddiad ar Berfformiad Blynyddol a Chyfrifon ar ddiwedd blwyddyn nodedig. 

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi gorfod ymateb i ddau argyfwng olynol, gydag un ohonynt yn dal i fod, ac effaith y ddau yn parhau. Ym mis Chwefror 2020, bu llifogydd yn ein swyddfeydd yn Nhrefforest ynghyd â nifer o adeiladau a llawer o gartrefi yn y gymuned, ac ym mis Mawrth 2020 bu’n rhaid i ni gyd ddygymod â'r cyfyngiadau a osodwyd yn sgil y coronafeirws (COVID-19).

Llwyddom i ymateb yn dda iawn i'r cyntaf o'r argyfyngau hynny, gan weithredu ein cynlluniau parhad busnes yn gyflym ac yn llwyddiannus, ac roeddem eisoes yn gweithio o bell gan ddefnyddio ein hadnoddau digidol erbyn i gyfnodau clo’r pandemig ddod yn angenrheidiol.

Gwnaethom barhau i ddarparu ein gwasanaethau craidd i drethdalwyr Cymru o ganlyniad i ymroddiad ac ymrwymiad eithriadol pob un o’n pobl.

Mae ymdopi â heriau'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i lawer ohonom, ond mae ein pobl wedi perfformio'n eithriadol o dda. Hoffwn i a'm cyd-aelodau o'r Bwrdd fynegi ein gwerthfawrogiad a'n hedmygedd o'r cyfan y maent wedi'i wneud - a’r hyn y maent yn parhau i'w wneud.

Wrth gwrs, rydym i gyd wedi gorfod gwneud newidiadau mewn ymateb i'r pandemig, ac mae'r sefydliad hefyd wedi bod yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth i'n staff. Mae gan lawer o'n pobl gyfrifoldebau eraill, i aelodau o'r teulu a chymdogion, wrth iddynt weithio o gartref. Mae'r sefydliad wedi darparu offer a thechnoleg, ynghyd â chymorth o ran eu llesiant, wrth iddynt barhau i wasanaethu Cymru.

Wrth ymateb i ddatblygiad y pandemig bu rhaid i ni, fel llawer o sefydliadau, ailflaenoriaethu tasgau ac ailddyrannu cyfrifoldebau er mwyn sicrhau y gellid cynnal ein gwasanaethau. Rydym hefyd wedi ailstrwythuro ein trefniadau llywodraethu yn ystod y flwyddyn, er mwyn sicrhau y gellid cynnal goruchwyliaeth a chraffu priodol dan yr amodau newydd. Nid yw bob amser yn hawdd cynnal cyfarfodydd bwrdd o bell, ac rwy'n ddiolchgar i'm holl gydweithwyr ar y Bwrdd am eu hyblygrwydd a'u hymrwymiad.

Wrth i ni edrych ymlaen tua’r dyfodol, rydym yn ymwybodol nad yw heriau'r 15 mis diwethaf ar ben, ac mae blaenoriaethau eraill i fynd i'r afael â hwy yn y flwyddyn sydd i ddod: bodloni gofynion llywodraeth newydd, symud i swyddfeydd newydd a fydd yn gartref i ni yn y dyfodol, a hynny tra’n ailgodi ar ein traed yn sgil COVID-19.

O ystyried ymdrechion rhagorol y 15 mis diwethaf, rwy'n hyderus y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu ymateb i'r heriau hynny. A thra byddwn yn gwneud hyn byddwn yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid ar gasglu trethi'n effeithiol ac yn effeithlon yng Nghymru er budd Cymru a'i phobl

Kathryn Bishop
Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru

Adroddiad ar Berfformiad (gan gynnwys trosolwg y Prif Weithredwr)

Image
Dyfed Alsop, Chief Executive of the Welsh Revenue Authority

Roedd 2020 hyd 2021 yn flwyddyn eithriadol. Mae'r adroddiad hwn yn darparu ystod eang o wybodaeth i ddangos yr hyn a gyflawnwyd gennym. Mae'r defnydd cynyddol o'n gwasanaethau digidol ar gyfer ffeilio a thalu, a'r cyfraddau uchel o gwblhau prydlon, yn dystiolaeth o'r bartneriaeth sydd gennym gyda'n trethdalwyr ac asiantau. Rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth y maent hwy, ynghyd â'n partneriaid cyflenwi, wedi'i ddangos i ni.

Rwy'n falch o'r ffordd y gwnaethom gynnal lefelau uchel o gymorth i drethdalwyr ac asiantau. Symudwyd ein seminarau treth ar-lein, diweddarwyd ein canllawiau a, chyn belled ag y bo modd, buom yn gweithio’n galed i wneud ad-daliadau’n brydlon. Gwnaethom hefyd weithredu newidiadau cyflym yn y gyllideb i’r trethi yr ydym yn gyfrifol amdanynt, a hynny i gyd o bell.

Mae'r cyflawniadau hyn yn dystiolaeth ein bod ni’n parhau i arloesi a chydweithio, hyd yn oed wrth weithio gartref. Yr unig ffordd y gallem wneud hyn oedd trwy wneud penderfyniadau ynghylch yr hyn na ddylai gael blaenoriaeth. Roeddem yn pwysleisio, yn anad dim, fod angen i ni gadw ein pobl yn ddiogel, i gefnogi ein gilydd wrth addasu i weithio gartref, ac i ddarparu amser i ffwrdd ychwanegol ar gyfer y cyfrifoldebau a'r argyfyngau ychwanegol hynny na allwn eu rhagweld ac y bu’n rhaid i ni i gyd ddelio â nhw.

Hyn a hyn all y data a'r esboniadau yn yr adroddiad hwn ei wneud i adrodd y stori. Rwy’n sylwi, er bod COVID-19 wedi effeithio ar bob un ohonom, ein bod i gyd wedi cael ein profiad unigryw ein hunain. Mae wedi bod yn anodd i bawb mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n debyg nad oes posib cyfleu hynny mewn adroddiad, ond hoffwn dynnu sylw at un canlyniad cadarnhaol. Mae’r profiad COVID-19 wedi’n galluogi i ddysgu bod yn fwy ystyriol o'n gilydd fel unigolion. Rwyf wedi rhyfeddu at wydnwch a charedigrwydd y bobl sy'n gweithio yn ACC ac yn y cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt. Mae’r cynnydd cyffredinol mewn empathi yn rhywbeth yr wyf yn awyddus i ni ei gynnal ac adeiladu arno yn y dyfodol.

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru

Adroddiad ar Berfformiad rhan 1: Ynglŷn ag ACC

Ers 1 Ebrill 2018 rydym wedi casglu a rheoli'r trethi datganoledig canlynol, a ddyluniwyd ac a grëwyd gan Lywodraeth Cymru: 

  • Treth Trafodiadau Tir (TTT)
  • Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) 

Ein diben cyffredinol yw cynllunio a darparu gwasanaethau refeniw cenedlaethol Cymru ac arwain y gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru. Rydym yn falch o'n rôl o ran casglu arian sy’n hanfodol ar gyfer cefnogi gwasanaethau, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru, a hynny mewn ffordd sy'n gefnogol ac yn deg.

Amcanion strategol

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein diben mae gennym yr amcanion canlynol, sy'n sail i'n Cynllun Corfforaethol (2019 i 2022)

  • ei gwneud hi’n haws i bobl dalu'r dreth gywir
  • sicrhau ein bod yn deg
  • bod yn fwy effeithlon
  • datblygu ein gallu

Mae gennym hefyd 2 amcan pellach i’n galluogi i sicrhau manteision tymor hwy i bobl Cymru, gan gydnabod eu buddsoddiad ynom:b

  • gan ddefnyddio ein gwybodaeth a’n profiad gweithredol, rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i gynllunio gwasanaethau refeniw yn y dyfodol
  • byddwn yn gwneud y gorau o’n hasedau data, ac yn gweithio gydag eraill sy'n dal data trethdalwyr Cymru er mwyn gwella'r ffordd yr ydym yn rhannu, yn defnyddio, ac yn dadansoddi data er budd Cymru

Ein pobl

Rydym yn sefydliad bychan ac aml-sgil o dros 80 o bobl, gyda sgiliau a phrofiad o 15 broffesiwn wahanol. Rydym am fod yn sefydliad lle mae’r diwylliant o gydweithio, arloesi a bod yn gwrtais yn golygu lefelau uchel o ymgysylltu, dysgu parhaus a chynhwysiant. Rydym yn credu y bydd cael pobl sy’n gallu cyflawni swyddi y maent yn ei fwynhau yn cael ei adlewyrchu yn ein gwasanaethau o ddydd i ddydd ac mewn datrysiadau arloesol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Wrth weithio gyda’n gilydd ar draws timau aml broffesiwn a sgiliedig, byddwn yn cyflawni amcanion er budd ein dysg ein hunain a’n rhanddeiliaid.

Ein Dull: cydweithio

Rydym yn gwerthfawrogi rôl hanfodol partneriaethau yn ein gweithrediadau. Mae mabwysiadu dull partneriaeth yn hanfodol i'r ffordd rydym yn casglu ac yn rheoli trethi datganoledig yng Nghymru. Rydym yn cyfeirio at hyn fel 'Ein Dull'. Mae'r ffordd Gymreig hon o drethu yn llywio popeth a wnawn.

Wrth gyflawni ein hamcanion, ein nod yw cydweithio’n agored gyda'n holl randdeiliaid er mwyn sicrhau bod trethi'n cael eu casglu a'u rheoli mewn ffordd sy'n gefnogol ac yn deg ac sy'n sicrhau'r gwerth gorau am arian i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae ein hamcanion ac Ein Dull yn ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)'.

Adroddiad ar Berfformiad rhan 2: effaith COVID-19 

Ein hymateb cyntaf oedd sicrhau bod gan ein pobl yr offer oedd ei angen arnynt i weithio gartref a'r cymorth i fod yn hyblyg gyda'u hamser er mwyn gofalu am eu teuluoedd. Gwnaethom bob ymdrech i barhau i ddarparu ein gwasanaethau treth, gan estyn allan at bobl er mwyn deall yr effaith arnynt a sut y gallem newid ein gwasanaethau i'w helpu. Mae'r adran hon yn ymdrin â'r effaith ar y farchnad dai, sut y newidiodd ymddygiad pobl, a sut y gwnaethom ymateb.

Y farchnad dai

Arweiniodd y cyfnod clo cenedlaethol a ddaeth i rym ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai bron yn llwyr nes iddi ailagor yn rhannol ar 22 Mehefin. Yr adeg honno, roedd yn bosibl ymweld ag eiddo gwag ynghyd â symud tŷ lle'r oedd gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau. Agorodd y farchnad ymhellach ar 27 Gorffennaf 2020 i gyd-fynd â’r newid yng nghyfraddau TTT o’r dyddiad hwnnw hyd at 30 Mehefin 2021.

Cafodd hyn effaith amlwg ar nifer y trafodiadau TTT a dderbyniom yn 2020 hyd 2021. Ar ddechrau'r flwyddyn, gostyngodd nifer y trafodiadau i 40% o lefelau’r flwyddyn flaenorol, gan aros yn gymharol isel tan yr haf pan ddechreuodd pethau wella. Cyflymodd yr adferiad hwnnw yn ystod yr hydref, ac yn y pen draw roedd niferoedd yn uwch na’r rhai a welwyd yn ystod mis Hydref y flwyddyn flaenorol. Yna arhosodd y niferoedd uwch o gymharu, gan gynnwys dros gyfnod y Nadolig pan gofnodwyd y lefelau uchaf erioed o drafodiadau hyd hynny. Yn dilyn gostyngiad bach ym mis Ionawr i fod yn îs na lefelau 2019 hyd 2020, cofnodwyd lefelau uwch nag erioed unwaith eto wrth i'r flwyddyn ddod i ben. Yn ystod mis Mawrth 2021, roedd nifer y trafodiadau bron 50% yn uwch nag ym mis Mawrth 2019 (sy'n fesur gwell o ystyried effaith COVID-19 ar weithgarwch Mawrth 2020). Erbyn diwedd y flwyddyn, amcangyfrifir bod tua 85% o'r nifer disgwyliedig o drafodiadau mewn unrhyw flwyddyn benodol wedi dod i law yn ystod 2020 hyd 2021.

Mae Siart 1 isod yn dangos nifer y trafodiadau TTT a gawsom yn 2020 hyd 2021 o'i gymharu â 2019 hyd 2020.

Image
Mae Siart 1 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfresi misol o nifer y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ar gyfer 2019 hyd 2020 a 2020 hyd 2021

O fewn y rhifau hyn roedd gwahaniaethau sylweddol rhwng y mathau o drafodiadau. Roedd trafodiadau preswyl wedi cael eu heffeithio’n galetach yn y cychwyn na thrafodiadau amhreswyl, ac wedyn, yn dilyn cyfnod adferiad, roedd cyfran uwch o drafodiadau preswyl oedd yn destun cyfraddau uwch yn cael eu cofnodi i gychwyn, er bod hyn wedi cysoni erbyn diwedd y flwyddyn. Er y bw cyfnodau clo lleol a chenedlaethol yn ystod ail hanner y flwyddyn, mae’n debyg ei bod wedi cael effaith cyfyngedig ar niferoedd y trafodiadau, gyda gweithgarwch yn parhau yn gryf drwy gydol ail hanner y flwyddyn.

Ymddygiad pobl

Mae’r cyfnod clo wedi golygu bod pobl yn gwneud dewisiadau gwahanol a newidiadau yn y ffordd y maent yn gweithio. Rydym wedi gweld symudiad tuag at awtomeiddio gan y rhai nad oeddent yn arfer defnyddio ein systemau digidol, naill ai drwy ffeilio neu dalu ar-lein, oherwydd cyfyngiadau ar fynediad i’r post. Rydym wedi gwella'r opsiynau ar gyfer cyflwyno dogfennau'n electronig. Mae'r rhan fwyaf o'r broses o gyflwyno a thalu wedi parhau i fod yn gwbl awtomataidd. Yn gynnar yn y flwyddyn, gwelwyd sawl cynnydd sydyn yn nifer y busnesau nad oeddent yn gallu talu eu treth oherwydd ansicrwydd effaith y pandemig, ond, wrth i'r pandemig barhau, gostyngodd hyn wrth i fusnesau addasu a chymdeithas normaleiddio.

Ein hymateb

Mae effaith y pandemig wedi golygu bod angen ailflaenoriaethu ac adleoli ein hadnoddau, rhywbeth y bu rhaid i ni ei wneud dro ar ôl tro. Roedd gan lawer o'n pobl ymrwymiadau a chyfrifoldebau ychwanegol y tu allan i'r gwaith, a gadawodd rhai o'n pobl ni dros dro er mwyn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i'r pandemig. Roedd hyn, ynghyd â dod a recriwtio i ben yn y chwe mis cyntaf, yn golygu bod yn rhaid i ni fod yn benodol ynghylch pa flaenoriaethau y gellid canolbwyntio arnynt yn ein cynllun strategol. Ac roeddem yn glir gyda'n pobl y byddai ein disgwyliadau o’r hyn y gallent ei gyflawni yn îs nag yr oeddem wedi'i gynllunio’n wreiddiol. Roedd hyn yn golygu ailffocysu a blaenoriaethu mewn ymateb i'r amgylchiadau newidiol, gan sicrhau fod y bobl iawn yn dal i fod yn eu lle er mwyn cynnal ein gwasanaethau ffeilio, talu a chymorth treth craidd, tra'n gohirio rhai o'n gweithgareddau addysg, risg treth, a newid yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, er enghraifft: 

  • gohiriwyd fforymau treth, ymgyrchoedd cyfathrebu lliniaru risg treth, gyda rhywfaint o weithgarwch addysgol yn dechrau ar-lein a thrwy weminarau yn ddiweddarach yn y flwyddyn
  • gohiriwyd llawer o'n hymholiadau treth presennol a’u hailddechrau’n hwyrach yn y flwyddyn wrth i fywydau trethdalwyr ddychwelyd i ‘normal newydd’ 
  • mae ein hamcan data wedi'i ohirio drwy gydol y flwyddyn
  • gohiriwyd cyflwyno rhai o'n prif ddatblygiadau a oedd i’w rhyddhau ar ddechrau 2020 hyd 2021, a hynny er mwyn lleihau unrhyw bwysau ychwanegol tra bo trethdalwyr ac asiantau’n addasu i amgylcheddau a phwysau gwaith newydd 

Mae ein perfformiad wedi parhau i fod yn gadarnhaol ar y cyfan, er bod rhai meysydd wedi cael eu heffeithio'n fwy nag eraill, a byddwn yn egluro hynny ymhellach yn yr adroddiad hwn ar berfformiad. 

O ganlyniad i ymgyrch recriwtio fawr yn ystod ail hanner 2020 hyd 2021 rydym mewn sefyllfa gryfach i ymdopi â’r cynnydd mewn galw, ond byddwn yn dal i geisio dal i fyny yn ystod rhan gyntaf y flwyddyn nesaf, ynghyd â gweithgareddau newydd a gynlluniwyd ar gyfer blwyddyn olaf ein cynllun corfforaethol 3 blynedd. Rydym yn cydnabod y bydd y flwyddyn nesaf yn dal i fod yn heriol a bydd angen i ni gadw rhywfaint o’n hyblygrwydd, gan fod yn barod i addasu i alwadau sy'n newid wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen.

Adroddiad ar Berfformiad rhan 3: Dadansoddi perfformiad

Mae'r tabl isod yn dangos y cynnydd yn erbyn pob un o'n mesurau perfformiad ar gyfer y flwyddyn.

MP

Dangosydd

Amcan

Targed/Nod 2022

Cynnydd 2020-21

Pa mor dda yw’r defnydd o’n gwasanaethau digidol:

1.1 Ffeilio

1.2 Talu

Haws 

Effeithlon

1.1 98% 

1.2 90% 

1.1 98.9%, yn gyson o fewn yr ystod darged dros y flwyddyn.

1.2 99%, yn gyson uwch na'r ystod darged, yn rhannol oherwydd llai o ddefnydd o sieciau yn ystod pandemig COVID-19.

Barn pobl am y profiad o ddelio â ni

Haws

Teg

Medrus

Mae mwy o bobl yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethau, a bod y gwasanaethau Cymraeg yn well.

Roedd 91% o’r rhai a ymatebodd yn ei chael hi'n hawdd defnyddio ein gwasanaethau.

Cefnogi pobl i gael eu trethi'n gywir

Haws

Teg

Effeithlon 

Mwy o bobl yn cael eu trethi'n gywir.

Roedd 98.3% o'r trafodiadau’n gywir y tro cyntaf.

Lleihau'r posibilrwydd o risgiau treth

Haws

Teg

Effeithlon

Lleihau pob risg treth unigol.

Mae'r risg dreth wedi cynyddu fymryn dros y flwyddyn, fwy neu lai yn unol â chynnydd mewn trafodiadau wrth i gyfyngiadau COVID-19 ostwng.

Fodd bynnag, yn Ch4, cafwyd cynnydd mwy amlwg. Mae gwaith i’w wneud i ddal i fyny yn ystod 2021 hyd 2022.

Amseroldeb: 

5.1 Ffeilio

5.2 Talu

5.3 Ad-daliadau 

Effeithlon

Haws

Teg

5.1 98%

5.2 90%

5.3 Llai na 30 diwrnod

5.1 98.2%, ychydig yn is neu o fewn y targed ar y cyfan, ac o fewn y targed wrth i'r flwyddyn ddod i ben.

5.2 81%, 82%, gan gynyddu i ddechrau yn dilyn lefel isel ar ddiwedd y flwyddyn flaenorol, ac yna gostyngiad pellach tua diwedd 2020, yna cynnydd yn ôl tuag at y targed wrth i'r flwyddyn ariannol gau (i'w gadarnhau).

5.3 86%, amrywiad sylweddol drwy hanner olaf y flwyddyn, ond roedd tueddiadau'r misoedd diwethaf ar i fyny (gweler y testun).

Graddau'r awtomeiddio

Effeithlon

90%

93%, o fewn yr ystod darged, cynyddu yn ystod y flwyddyn i ben uchaf yr ystod darged. 

Sut mae ein pobl yn teimlo

Medrus

Yn y 25% uchaf o ran sefydliadau'r Gwasanaeth Sifil o ran ymgysylltiad.

Yn ail o blith dros 100 o gyflogwyr GS.

Ein cymysgedd o sgiliau

Medrus

Cynnal ehangder o broffesiynau, a 
datblygu ein sgiliau Cymraeg.

15 proffesiwn.

78% yn gallu ychydig o Gymraeg.

Mae 19% yn rhugl neu'n agos at ruglder.

Amrywiaeth

Medrus

Bod yn sefydliad cynhwysol sy'n gwerthfawrogi ac yn cynnwys pobl, waeth beth fo'u cefndir neu eu hamgylchiadau. Sicrhau triniaeth deg a chyfartal i bawb.

Rydym wedi gwneud cynnydd cadarnhaol. Cyhoeddir data amrywiaeth yn ein Hadroddiad Cydraddoldeb ym mis Mawrth 2022.

Amcan 1: ei gwneud yn haws

Byddwn yn ei gwneud hi’n haws talu'r swm cywir o dreth.

Eleni, rydym wedi canolbwyntio ar gadw’n gwasanaethau'n hygyrch yn ystod y pandemig, gan ystyried yr amgylchiadau newidiol sy'n effeithio ar ein defnyddwyr, er enghraifft staff yn cael eu rhoi ar saib swydd, gweithio o bell, a'r galw newidiol yn y farchnad dai. 

Mae hon wedi bod yn ymdrech ar y cyd ar draws ein sefydliad yn ogystal â gyda'n defnyddwyr a'n rhanddeiliaid. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth sydd wedi ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau i'n safonau uchel a pharhau i wella. Mae'n amlygu ymroddiad ac ymrwymiad ein pobl, a'u balchder yn y gwasanaethau a gynigiwn. Rydym wedi addasu ein gwasanaethau er mwyn galluogi pobl i'w defnyddio yn ystod y pandemig, er enghraifft: 

  • creu llwybr digidol i ganiatáu i bobl gyflwyno ffurflenni papur drwy ein gwefan – roedd hyn yn cefnogi’r rhai na allent bostio ffurflen bapur ac yn gymorth i ni pan nad oedd gennym fynediad i’n post
  • rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n defnyddwyr drwy ddiweddariadau gwasanaeth a diweddariadau gweithredu gan ddefnyddio ein gwefan a'n system rheoli trethi. Bu hyn yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gallai'r rhai sy'n ffeilio ac yn talu treth gyda ni barhau i wneud hynny yn ystod y pandemig
  • cyflwyno gweminarau – gyda thros 600 o ddefnyddwyr cofrestredig yn lle fforymau treth – ac rydym wedi derbyn adborth cadarnhaol a cheisiadau am ragor o weminarau ar bynciau newydd
  • gohirio cyflwyno rhai gwelliannau i'r system rheoli treth, gan gydnabod bod llawer o asiantau ar saib swydd ar ddechrau’r flwyddyn 
  • cyflawni’r gwelliannau hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn gan roi mwy o hyblygrwydd a’i gwneud yn fwy ymarferol i asiantau ychwanegu a dileu defnyddwyr o fewn eu busnes
  • cynnwys fideos ar ein gwefan a oedd yn dangos y newidiadau, gan wneud y gwelliannau'n hawdd i'w gweithredu
  • cyhoeddi ein datganiad hygyrchedd ym mis Medi. Roedd yn gosod cwys i ni gael System Rheoli Treth gwbl hygyrch erbyn Medi 2022
  • creu ffurflen awdurdod i weithredu newydd a diweddaru ein tudalennau gwe i wneud y broses honno'n gliriach, gan roi gwybod i bobl sut i’n hysbysu am atwrneiaeth

Y ddesg gymorth a chefnogaeth arbenigwyr treth

Y cwsmer sydd wrth wraidd yr hyn a wnawn. Er gwaethaf effaith COVID-19 ar ein hadnoddau, mae ein desg gymorth a’n arbenigwyr treth dwyieithog wedi parhau i gynnig lefel uchel o wasanaeth i gwsmeriaid. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi parhau i fuddsoddi amser yn y gwaith o ddysgu a datblygu ein timau er mwyn sicrhau bod y cyngor a roddir yn gywir ac yn cael ei ddarparu'n hyderus.

Eleni:

  • rydym wedi derbyn bron i 6,000 o alwadau drwy ein desg gymorth ddwyieithog
  • ymatebodd ein harbenigwyr TTT i dros 1,300 o ymholiadau technegol
  • ymatebodd ein harbenigwyr TGT i 150 o ymholiadau a cheisiadau
  • o’r holl ymholiadau a dderbyniwyd ar draws TTT a TGT, rhoesom opiniwn treth ar 11 oherwydd cymhlethdod yr ymholiad
  • gwnaethom brosesu ychydig dros 600 o ffurflenni treth papur er nad oeddem yn gallu cael mynediad at ein post am gyfnodau oherwydd y cyfyngiadau symud. Gwnaethom hyn drwy gyflwyno’r gallu i uwchlwytho i'n ffurflen SmartSurvey
  • gwnaethom brosesu bron i 1,600 o geisiadau am ad-daliadau, gan weithio ar draws gweithrediadau a chyllid i ddarparu gwasanaeth cyflym a chywir

Adborth a mewnwelediad

Mae darparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd rhagorol wrth wraidd yr hyn a wnawn ac mae adborth gan ein cwsmeriaid yn sicrhau bod ein gwasanaethau'n parhau i ddiwallu eu hanghenion. Rydym wedi buddsoddi llawer o amser yn galluogi ein defnyddwyr i roi adborth ar ein gwasanaethau ac eleni cawsom bron i 1,800 darn o adborth drwy nifer o sianeli. Rydym yn adolygu ein hadborth yn rheolaidd ac wedi gallu blaenoriaethu newidiadau i'n gwasanaethau er mwyn sicrhau bod gwasanaeth o safon yn cael ei gynnal. Roedd y rhan fwyaf o'r adborth yn canmol ein gwasanaethau a'n pobl. Yn bwysig, derbyniwyd awgrymiadau ar gyfer gwella, sy'n ein galluogi i'w gwneud yn haws i bobl gael eu treth yn iawn.

Beth rydym wedi'i wneud mewn ymateb i adborth?

Rydym yn gwneud gwelliannau parhaus i’n ffurflenni ar-lein o ganlyniad i adborth penodol, gan symleiddio cwestiynau, ychwanegu testun cymorth, ac ychwanegu a dileu cwestiynau er mwyn gwneud y gwaith o lenwi'r ffurflenni'n symlach. Rydym hefyd wedi symleiddio ein tudalennau cofrestru ac wedi ychwanegu'r gallu i gyfreithwyr ychwanegu defnyddwyr newydd at eu cyfrifon heb orfod cysylltu â ni. 

Eleni cawsom lawer o adborth a oedd yn awgrymu bod yr iaith a ddefnyddir yn ein Cyfrifiannell TTT, sef un o'n gwasanaethau mwyaf poblogaidd, yn gymhleth ac yn dechnegol i’r rhai nad ydynt yn weithwyr treth proffesiynol. Rydym wedi cynnal ymchwil defnyddwyr er mwyn deall sut y gallwn fynd i'r afael â'r materion a nodwyd, ac rydym wedi penderfynu cynnal adolygiad llawn o'r gyfrifiannell. Rydym yn bwriadu cyflwyno fersiwn wedi'i diweddaru yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Yn y cyfamser, rydym wedi bod yn gweithio ar weithredu rhai gwelliannau syml o ran yr iaith a ddefnyddir. Caiff y rhain eu cyflwyno tua dechrau 2021 hyd 2022.

Astudiaethau achos ‘ei gwneud yn haws’

Mae'r astudiaethau achos canlynol yn cynnig enghreifftiau o'r hyn rydym wedi'i wneud eleni i'w gwneud yn haws talu'r swm cywir o dreth.

Astudiaeth achos 1: Gweminarau ACC

Gan nad oeddem yn gallu ymgysylltu cymaint ag a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn, a chan nad oedd modd darparu unrhyw hyfforddiant wyneb yn wyneb, gwnaethom ehangu ein cynnig gweminarau i gymryd lle ein fforymau treth ar gyfer cyfreithwyr a thrawsgludwyr. Cyflwynwyd gweminarau ar bynciau lle'r oeddem wedi nodi bod risgiau a bod angen cymorth ar asiantau o ran deall TTT. 

Ystadegau:
  • 7 gweminar
  • 628 yn bresennol
  • 91.3% yn dweud wrthym fod y gweminar y buont ynddi yn ddefnyddiol
Tystebau gan rai a oedd yn bresennol:

Diolch am eich tri gweminar yr wythnos hon, roedden nhw'n ddefnyddiol iawn. Roeddent yn ymdrin â phwyntiau sy'n ein drysu'n rheolaidd.

Daliwch ati i gynnal y sesiynau ar-lein i fagu hyder. Mae'n gweithio'n dda iawn.

Astudiaeth achos 2: Newidiadau i gyfradd TTT 

Ym mis Gorffennaf 2020 gwelwyd y newidiadau cyntaf yn y gyfradd TTT. Er mwyn sicrhau bod y newidiadau'n cael eu rheoli, eu gweithredu a'u cyfleu'n effeithiol, sefydlwyd gweithgor a oedd yn dwyn swyddogaethau o bob rhan o ACC ynghyd.

Roedd y gweithgor yn gyfrifol am: 

  • weithredu newidiadau digidol i'n System Rheoli Treth a’r Gyfrifiannell TTT
  • nodi a diweddaru canllawiau
  • cyfleu'r newidiadau i'n defnyddwyr a'n trethdalwyr drwy ein gwefan, ein bwrdd diweddaru gweithredol, ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, ac e-bost
  • uwchsgilio a hyfforddi ein desg gymorth ddwyieithog i gefnogi defnyddwyr a threthdalwyr gyda'r newidiadau hyn

Oherwydd ein buddsoddiad yn ein System Rheoli Treth ac yn ein pobl, roedd modd i ni weithredu'r newidiadau am gost fach iawn, ac roedd gennym y sgiliau i weithredu'r newidiadau hyn yn gyflym ac ar fyr rybudd.

Ar ôl cyflwyno'r newidiadau hyn, gwnaethom adolygu’r cynnydd ac edrych ar yr hyn a weithiodd yn dda ac ym mha feysydd gellid gwella. Rydym bellach wedi nodi model a dull gweithio er mwyn gweithredu newidiadau yn y dyfodol sy'n cefnogi ein cwsmeriaid yn llwyddiannus, gan ei gwneud yn hawdd iddynt arfer â newidiadau i'n system dreth.

Astudiaeth achos 3: Rheolwyr Perthynas Cwsmeriaid TGT

Pan sefydlwyd ACC, mabwysiadwyd model Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid er mwyn helpu ein Gweithredwyr Safle Tirlenwi (GST) i dalu'r dreth iawn ar yr adeg cywr. Mae gan bob GST bwynt cyswllt ar gyfer cefnogaeth a help gyda meysydd cymhleth y dreth, er mwyn lleihau unrhyw risgiau treth. Roeddem yn cydnabod y byddai pandemig y coronafeirws yn cael effaith sylweddol ar y GST. Fel gweithwyr allweddol, byddai angen iddynt barhau i ddarparu eu gwasanaethau pwysig drwy gydol y pandemig.

Ymgysylltodd ein Rheolwyr Cysylltiadau Cwsmeriaid â'r GST er mwyn deall yr effaith yr oedd y pandemig yn ei chael arnynt a'u busnes, gan weithio â nhw er mwyn rhoi'r cymorth angenrheidiol ar waith fel bo modd iddynt barhau i gyflawni eu rhwymedigaethau treth. Er mwyn gwneud hyn gwnaethom adolygu polisïau allweddol a'u diweddaru i adlewyrchu'r gefnogaeth a'r cymorth y gallem eu cynnig, yn unol â'n deddfwriaeth. Roedd ein Rheolwyr Cysylltiadau Cwsmeriaid yn cadw mewn cysylltiad ac yn ymateb yn gyflym i unrhyw ymholiadau gan Weithredwyr Safle Tirlenwi ynghylch y dreth ac yn rhoi cymorth ychwanegol iddynt pan fo angen.

Ffeilio ffurflenni treth yn ddigidol

Mae ein system rheoli treth ddigidol wedi'i dylunio er mwyn cynnig ffordd hawdd i'n defnyddwyr ffeilio’u ffurflenni treth. Bob blwyddyn rydym yn gwneud gwelliannau i'r system er mwyn gwella profiad y defnyddiwr ac ansawdd y data a gesglir gennym.

Image
Mae Siart 2 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar bapur ar gyfer 2019 hyd 2020 a 2020 hyd 2021, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.

Mae Siart 2 yn dangos y tueddiadau misol yng nghanran cyfanswm y ffurflenni treth a dderbyniwyd ar bapur am y flwyddyn, sef un o'n prif fesurau perfformiad (PM1a). Mae'r rhan fwyaf o'n ffurflenni treth yn cael eu derbyn drwy ein system ffurflenni treth ddigidol. Mae lefelau'r ffurflenni treth papur a dderbynnir wedi aros yn isel, ac ymhell o fewn y targed o 2% drwy gydol 2020 hyd 2021.

Amcan 2: sicrhau ein bod yn deg

Byddwn yn deg ac yn gyson yn y modd rydym yn casglu ac yn rheoli treth, gan gymryd camau cymesur pan nad yw pobl yn cyflawni eu hymrwymiadau.

Mae’r trethi datganoledig yn cael eu hunanasesu, ond yn hytrach nag aros i bobl gysylltu â ni am gymorth, neu ganfod camgymeriadau ar ôl iddynt ffeilio eu ffurflen dreth, rydym yn cael effaith gadarnhaol trwy fod yn rhagweithiol o ran mynd i'r afael â risg treth. Rydym yn targedu ein gweithgareddau er mwyn gwella ymwybyddiaeth ac addysgu pobl ac rydym yn gwneud newidiadau i'n canllawiau a'n system dreth i leihau'r posibilrwydd o gamgymeriadau cyn i'r ffurflenni treth gael eu ffeilio gyda ni. Rydym yn helpu pobl i gael eu trethi'n iawn y tro cyntaf. 

Rydym wedi datblygu ffyrdd o gefnogi pobl i gywiro eu ffurflenni treth os ydynt yn gwneud camgymeriad. Yn yr achosion prin hynny lle mae pobl yn ceisio efadu talu'r swm llawn, rydym wedi sefydlu mecanweithiau i'w hadnabod yn gyflym ac i ddefnyddio ein pwerau i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu.

Mae'r dull yn helpu mwy o bobl i dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn ac yn lleihau'r posibilrwydd o gamgymeriadau, osgoi ac efadu trethi. Ceir eglurhad manylach o sut rydym yn rheoli 'risg treth' ac yn mesur ein cynnydd mewn perthynas â'r dull hwn yn ein Hadroddiad ar Berfformiad ar gyfer 2019 hyd 2020.

Yn ystod 2020 hyd 2021 gwnaethom barhau i ddatblygu ein gallu i ddadansoddi data er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r wybodaeth a gawn o wahanol ffynonellau. Mae'r wybodaeth gyfunol rydym wedi'i chasglu wedi ein galluogi i nodi tueddiadau a phatrymau sy'n dod i'r amlwg a all nodi risgiau treth penodol. 

Roedd yr amrywiadau sylweddol yn nhrafodiadau’r flwyddyn, o ganlyniad i effaith COVID-19 ar y farchnad eiddo, yn ei gwneud yn anos nodi a mesur y tueddiadau hyn. Mae'n anodd dod i unrhyw gasgliadau o'n siartiau Mesur Perfformiad (PM4) ar gyfer eleni, yn enwedig wrth gysylltu unrhyw newidiadau mewn risg treth â'n gweithgareddau lliniaru risg. 

Er i ni allu ymgymryd â rhai gweithgareddau lliniaru risg treth yn ystod 2020 hyd 2021, cafodd hyd a lled ein gwaith lliniaru ei effeithio'n sylweddol gan COVID-19, o ran ein hadnoddau a'n dulliau dewisol o ymgysylltu ag asiantau a threthdalwyr.

Ac er i ni allu parhau i gefnogi trethdalwyr a chynnal ein gwasanaethau craidd, lleihawyd graddfa'r gweithgareddau lliniaru ac roedd yn llai nag y byddem wedi'i wneud mewn cyfnod arferol.

Ar gyfer nifer o'n risgiau treth, gwelwyd gostyngiad yn ystod hanner cyntaf 2020 hyd 2021, ond mae hynny'n debygol o fod yn gysylltiedig â'r gostyngiad yn y trafodiadau cyffredinol oherwydd COVID-19. Gall rhywfaint o'r gostyngiad ymwneud â gweithgareddau lliniaru yn ystod diwedd y flwyddyn flaenorol (2019 hyd 2020) ond mae'n anodd nodi hyn o'r data. Yna gwelsom gynnydd yn yr achosion risg yn ystod chwarter 3 a chwarter 4 2020 hyd 2021.

Yn fras, roedd y cynnydd ar gyfer rhai o'r risgiau treth mwy yn unol â’r cynnydd mewn trafodiadau wrth i gyfyngiadau’r coronafeirws gael eu llacio

O ystyried y cynnydd mwy amlwg mewn risg treth yn ystod chwarter 4 yn 2020 hyd 2021, sydd i’w weld yn rhai o’r siartiau Mesur Perfformiad 4 (PM4) isod, mae gennym ragor o waith i’w wneud i liniaru nifer o'r risgiau treth mwy yn ystod 2021 hyd 2022.

Image
Mae Siart 3 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar draws risgiau treth 1 i 5 (a nodir yn unigol yn siartiau 9 i 13), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Mae'r cyntaf o'n siartiau Mesur Perfformiad (PM4) uchod yn dangos y newid mewn risg treth ar draws y 6 phrif risg TTT yn ystod y flwyddyn: 

  • cwmni yn prynu eiddo preswyl 
  • risg weddilliol o amgylch cwmnïau sy'n prynu eiddo preswyl 
  • ffurflen dreth sydd heb ei dychwelyd
  • anghytuno â’r gyfrifiannell TTT 
  • risg TTT mewn perthynas â rhyddhad penodol (a) 
  • triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddo 

Ar gyfer y siart uchod, rydym wedi defnyddio graddfa fwy er mwyn cynnwys yr holl risgiau treth. Ar gyfer y siartiau risg treth unigol isod, rydym wedi defnyddio graddfa lai, oherwydd y gwerthoedd is ar lefel risg unigol. Mae defnydd y raddfa lai hon yn gyson ar draws yr holl siartiau risg treth unigol.

Mae'r siart PM4 nesaf isod yn dangos y trafodiadau ar gyfer Risg TTT 1 – cwmnïau’n prynu eiddo preswyl. Gallwn weld bod y newidiadau digidol a wnaed gennym yn chwarter 4 2019 hyd 2020 wedi bod yn effeithiol o ran lliniaru'r risg hon i ddim achosion a dim risg treth. Mae hyn wedi rhyddhau adnoddau i weithio ar risgiau treth newydd a risgiau treth sy'n datblygu, ac mae'n dangos y buddion sydd i’w cael o weithgareddau lliniaru risg treth wedi’u targedu.

Image
Mae Siart 4 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 1 (cwmnïau’n prynu eiddo preswyl), yn ôl chwarter o Ebrill 2018 i Fawrth 2021.

Mae'r siart PM4 nesaf isod – risg TTT 1a - yn gysylltiedig â Risg TTT 1 a’r graddau y gwnaeth gweithredu'r newid digidol er mwyn lliniaru Risg TTT 1 ein helpu i nodi risg benodol lle cafodd nifer fach iawn o drafodiadau’n ymwneud ag anheddau eu ffeilio'n anghywir gan fod camddealltwriaeth ynghylch y rheolau treth yn y maes hwn. Er mwyn atal hyn rhag gwaethygu, gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau a gwneud rhywfaint o gyfathrebiadau wedi'u targedu yn ystod y flwyddyn. Uchod, gallwn weld fod lefelau’r trafodiadau a’r dreth mewn perygl wedi aros yn isel drwy gydol y flwyddyn.

Image
Mae Siart 4a yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer gweithgaredd gweddilliol o gwmpas risg treth 1 (cwmnïau’n prynu eiddo preswyl), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Mae'r ddau siart PM4 nesaf yn dangos mwy o amrywiad dros y flwyddyn ddiwethaf o ran ein dau risg TTT mwyaf ar gyfer 2020 hyd 2021. Fodd bynnag, mae'r amrywiadau hyn yn cyd-fynd yn fras â'r newidiadau a welsom mewn trafodiadau chwarterol cyffredinol drwy gydol y flwyddyn, er bod cynnydd bach yn chwarter 4 o'i gymharu â chyfanswm y trafodiadau.

Image
Mae Siart 5 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 4 (triniaeth dreth ar gyfer gwahanol fathau o eiddo) yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Mae'r siart cyntaf ar gyfer risg TTT 4 – triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddo, yn dangos gostyngiad mewn achosion risg treth yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn, sy’n cyd-fynd yn fras â'r gostyngiad mewn trafodiadau oherwydd COVID-19, tra bod ail hanner y flwyddyn yn gweld yr achosion risg yn codi wrth i gyfanswm y trafodiadau ddechrau codi yn ystod yr un cyfnod.

Gan adeiladu ar rywfaint o waith lliniaru cychwynnol yn ystod 2019 hyd 2020 mewn perthynas â'r maes risg eang, yn ystod 2020 hyd 2021 rydym wedi canolbwyntio ar ymgysylltu â nifer o drethdalwyr ac asiantau, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r risg a datrys achosion risg uchel. Yn ei dro, rydym wedi defnyddio hyn i addysgu trethdalwyr ac asiantau er mwyn helpu i leihau nifer y gwallau yn y dyfodol.

Mae mwy i'w wneud mewn perthynas â'r risg hon, ac o ystyried y cynnydd mewn trafodiadau a risg treth yn chwarter 4 2020 hyd 2021, byddwn yn blaenoriaethu rhai o'n gweithgareddau lliniaru yn y maes risg penodol hwn.

Image
Mae Siart 6  yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 5 (mewn perthynas â rhyddhad penodol (rhyddhad a)) yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Mae'r siart PM4 uchod yn dangos risg TTT 5 – mewn perthynas â rhyddhad penodol (a). Yn ystod 2019 hyd 2020 gwnaethom wella’r canllawiau sy’n ymwneud â’r rhyddhad penodol hwn a’i rannu â’n cwsmeriaid. Gan adeiladu ar hyn, yn chwarter 2 a chwarter 3 2020 hyd 2021 gwnaethom ymgymryd â mwy o weithgareddau cyfathrebu ac addysgol wedi'u targedu (gan gynnwys gweminarau ar-lein) er mwyn rheoli'r maes risg hwn.

Er gwaethaf hyn, rydym wedi gweld bod lefel y risg yn codi'n raddol, er ei fod yn cyd-fynd yn fras â'r cynnydd yng nghyfanswm y trafodiadau dros yr un cyfnod. Yn yr un modd â Risg TTT 4, mae hwn yn faes risg y byddwn yn ei flaenoriaethu yn rhywfaint o'n gweithgarwch lliniaru yn ystod 2021 hyd 2022.

Mae ein datganiad Data Blynyddol yn cynnwys y siartiau perfformiad ar gyfer ein holl risgiau TTT ar gyfer y cyfnod 2020 hyd 2021. Dyma ddolen i’r datganiad hwnnw.

Mesur Perfformiad TTT 3 – cyfanswm y risg treth

Mae'r amrywiadau sylweddol mewn trafodiadau a ddangosir yn y siartiau PM4 uchod, a'r amrywiadau risg treth a ddaeth yn sgil hynny, yn cael llai o effaith ar Fesur Perfformiad 3 (PM3). Dyma gyfanswm yr holl drafodiadau oedd yn disgyn o fewn un o'r risgiau treth a nodwyd gennym yn ystod y flwyddyn, wedi'i ychwanegu at unrhyw drafodiadau lle cafodd y ffurflen dreth ei chywiro'n ddiweddarach. Mewn rhai achosion, arweiniodd y cywiriad at dalu treth ychwanegol neu ad-dalu treth. Mewn achosion eraill, dim ond camgymeriad gweinyddol oedd, ac roedd y ffurflen dreth yn dal i fod yn anghywir yn dechnegol.

O'r holl drafodiadau a dderbyniwyd, roedd hyn yn cyfrif am 1.7%. Felly, sefydlwyd fod o leiaf 98.3% o drafodiadau, yn ein tyb ni, yn gywir y tro cyntaf yn ystod 2020 hyd 2021. Y llynedd, sefydlwyd llinell sylfaen gychwynnol fod 98.4% o drafodiadau o leiaf, yn ein tyb ni, yn gywir y tro cyntaf yn ystod 2019 hyd 2020. Sylwer mai 98.3% oedd y ffigur a adroddwyd y llynedd, ond mae hyn bellach wedi newid gan fod rhai trafodiadau wedi’u derbyn ar ôl diwedd y flwyddyn ac oherwydd talgrynnu. Serch hynny, er gwaethaf effaith COVID-19 ar ein gweithgareddau lliniaru a'r amrywiad sylweddol mewn trafodiadau ac achosion risg treth yn ystod y flwyddyn, yn gyffredinol, mae lefel y risg treth wedi aros yn debyg iawn o flwyddyn i flwyddyn.

Rydym yn disgwyl i'r ffigurau o dan y mesur hwn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ar y dechrau wrth i ni nodi risgiau treth newydd a lleihau'r risgiau treth presennol. Rydym yn dal i gredu ei bod yn rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau neu roi sylwadau ar y ffigurau hyn. Byddwn yn parhau i olrhain y ffigur dros amser i edrych pa mor effeithiol yr ydym o ran nodi a lleihau risgiau treth. Rydym yn dal i obeithio, gydag amser, y gwelwn gynnydd yn nifer y bobl sy'n cael pethau'n iawn ar y cynnig cyntaf oherwydd ein dull o reoli risg treth.

Dadansoddiad o'n gwaith risg treth – Risgiau TGT

Mabwysiadwyd dull tebyg gennym er mwyn rheoli risgiau treth TGT. Gwnaethom ganolbwyntio ar gefnogi pobl i dalu'r dreth gywir y tro cyntaf, a nodi risgiau treth posibl fel bo modd i ni gynnal gweithgareddau lliniaru er mwyn lleihau'r posibilrwydd o gamgymeriadau. Gan fod gennym lawer llai o drethdalwyr ar gyfer TGT, gwnaethom deilwra ein dull o weithredu.

Yn ystod y flwyddyn, gwnaethom barhau i ddatblygu ein perthynas â gweithredwyr safleoedd tirlenwi trwy Gymru drwy ein harbenigwyr TGT penodedig. Roedd effaith COVID-19 ar weithrediadau o fewn y sector gwastraff yn golygu bod ein harbenigwyr yn hynod brysur yn sicrhau bod modd i ni gefnogi ein trethdalwyr yn ystod y cyfnod hwn, gan fynd i'r afael ag ymholiadau a materion wrth iddynt godi.

Rydym yn cyfuno ein gwybodaeth â gwybodaeth ac arbenigedd ein sefydliad partner, Cyfoeth Naturiol Cymru, er mwyn darparu cymorth wedi'i deilwra i'n trethdalwyr, sy’n caniatáu i ni fabwysiadu dull mwy teilwredig o reoli risgiau treth.

Ni allwn adrodd ar effaith ein gweithgarwch risg treth ar gyfer TGT yn yr un modd ag y gallwn ar gyfer TTT gan ein bod ond yn gweithio â 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi. Fel awdurdod treth, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ddiogelu cyfrinachedd trethdalwyr felly ni allwn ddarparu data ar gyfer achosion risg treth ar gronfa mor fach o ddefnyddwyr.

Felly, yn hytrach na darparu data ar ein perfformiad, rydym yn darparu naratif o'n gweithgareddau risg treth a'u heffaith.

Risg TGT 1 – disgowntio cynnwys dŵr mewn gwastraff

Yn Adroddiad ar Berfformiad y llynedd, amlinellwyd y maes risg treth hwn gennym a rhoddwyd eglurhad o’r cynnydd a wnaed o ran lliniaru'r risgiau o'i amgylch. Yn ystod 2020 hyd 2021 cynhaliwyd adolygiad risg blynyddol, gan weithio'n agos gyda threthdalwyr, i adolygu tystiolaeth a data a gwirio bod yr holl ddisgowntiau’n dal i fod yn briodol a bod amodau'n cael eu cymhwyso'n gywir.

Roeddem yn falch o weld bod nifer o'n trethdalwyr, fel rhan o'r broses adolygu, wedi nodi meysydd risg posibl ac wedi cymryd camau i fynd i'r afael â'r rhain cyn yr adolygiad blynyddol, gan liniaru'r risg ymhellach fyth. Roedd yr adolygiad eleni yn fwy effeithlon ac, yn gyffredinol, dangosodd lefel uchel o ymgysylltu a chydymffurfio â'r rheolau a'r amodau, gan awgrymu bod y gwelliannau a wnaethom i amodau’r cytundebau, er mwyn helpu i leihau'r risgiau wrth symud ymlaen, yn gweithio. 

Risg TGT 2 – triniaeth dreth deunydd gronynnau mân

Gwnaethom barhau i weithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i nodi risgiau treth posibl ar draws y diwydiant mewn perthynas â mathau penodol o wastraff. Er ein bod wedi gweld rhywfaint o ostyngiad yn y risg hon ledled Cymru, mae rhywfaint o risg yn dal i fod, ac felly gwnaethom barhau i weithio gyda threthdalwyr i wella eu hymwybyddiaeth a'u haddysg, ac mewn rhai achosion rydym wedi cynnal ymholiadau ffurfiol i wirio cywirdeb eu ffurflenni treth.

Rhwng 2020 a 2021, gwnaethom barhau i wneud gwelliannau i'r system ffurflenni treth TGT, a gweithredwyd y rhain ym mis Mai 2021. Dylai'r system ffurflenni treth TGT sydd wedi'i diweddaru helpu trethdalwyr i gael eu trethi'n iawn y tro cyntaf, a lleihau'r risgiau treth rydym wedi’u nodi eto fyth. Mae'r system yn casglu mwy o ddata nag o'r blaen, gan ein helpu i sicrhau mwy o degwch a chysondeb ar draws y dreth. 

TGT ar Warediadau Anawdurdodedig

Fel y nodwyd yn ein hadroddiad ar berfformiad ar gyfer 2019 hyd 2020, cyn yr argyfwng Coronafeirws, roeddem yn bwriadu cwmpasu a phrofi ein pwerau TGT yn ystod 2020 hyd 2021 o ran gwarediadau gwastraff anawdurdodedig. Roeddem hefyd yn bwriadu defnyddio'r cam cwmpasu a phrofi yn ystod 2020 hyd 2021 i greu darlun clir o gyfleoedd a risgiau tymor hwy'r dreth o ran gwarediadau anawdurdodedig.

Fodd bynnag, cafodd ein cynnydd yn y maes newydd hwn ei arafu oherwydd effaith COVID-19 ar ein prosesau a'n hadnoddau gweithredol. Er gwaethaf hyn, rydym wedi gwneud cynnydd o ran gwella ein dull o rannu gwybodaeth a gwerthuso achosion posibl gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ein rhoi mewn sefyllfa gryfach i ddechrau profi ein pwerau yn ystod 2021 hyd 2022.

Atal a mynd i'r afael ag osgoi neu efadu trethi

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn bwriadu talu'r dreth iawn ar yr adeg iawn, rydym yn cydnabod bod rhai'n ceisio talu llai drwy osgoi neu efadu trethi. Fel rhan o'r ffordd yr ydym yn rheoli risg treth, rydym wedi lleihau cyfleoedd i efadu neu osgoi talu treth, gan ei gwneud yn anos gwneud hynny.

Yn ystod y flwyddyn hon rydym wedi parhau i: 

  • ddatblygu ein partneriaethau gydag asiantaethau gorfodi’r gyfraith eraill
  • defnyddio ein data a'n cudd-wybodaeth ein hunain, yn ogystal â data a chudd-wybodaeth gan ein partneriaid, i nodi achosion posibl
  • defnyddio ein pwerau, gan gynnwys ymholiadau treth, i ymchwilio i achosion posibl; ac wedi gweithio gydag asiantaethau gorfodi'r gyfraith eraill i rannu gwybodaeth am yr achosion hynny
  • lleihau'r posibilrwydd o efadu drwy weithredu ein cynlluniau rheoli risg treth, gan gynnwys diweddaru ein systemau a'n prosesau 
  • gwella ymwybyddiaeth o risgiau treth posibl drwy gyfathrebu ac ymgysylltu cynnar

Treth ychwanegol a gasglwyd

Gan gofio ei bod yn cymryd amser i leihau risgiau treth ac na ellir lliniaru pob risg treth yn hawdd, byddwn yn gweithio gyda threthdalwyr a'u hasiantau i unioni pethau, naill ai trwy gasglu treth ychwanegol sy'n ddyledus neu ad-dalu treth a ordalwyd mewn camgymeriad.

A lle bo'n briodol, byddwn yn defnyddio ein pwerau ymholi ac asesu ffurfiol i ymchwilio i achosion o beidio â chydymffurfio er mwyn adennill treth lle talwyd rhy ychydig.

O'r gweithgareddau cywiro treth amrywiol hyn a wnaed yn ystod y flwyddyn casglwyd £1.4 miliwn o dreth ychwanegol o achosion risg treth, o ganlyniad i ddiwygio ffurflenni treth ac achosion o ffurflenni treth coll. Daeth hwn o 2 gategori’n gyffredinol: treth wedi'i hadennill o risgiau treth a datgeliadau gwirfoddol.

Treth wedi'i hadennill o risgiau treth

Gwnaethom adennill £1.1 miliwn o achosion a oedd o fewn un o'n risgiau treth neu o ganlyniad i ymyriadau uniongyrchol eraill. Casglwyd y rhan fwyaf o'r dreth hon o achosion a oedd o fewn y prif risgiau treth TTT ac TGT a adroddwyd gennym uchod.

Datgeliadau gwirfoddol

Casglwyd £300,000 pellach o dreth o ddiwygiadau eraill i ffurflenni treth. Nid oedd y diwygiadau hyn yn ymwneud â'n risgiau treth, nac unrhyw ymyriad uniongyrchol gennym ni, megis llythyr cymell neu ymholiad ffurfiol. Fodd bynnag, dylanwadwyd ar rai o'r gwelliannau hyn gan weithgareddau addysgol ac ymgysylltu eraill, a eglurwn yn yr adran ei gwneud yn haws.

Treth a ad-dalwyd oherwydd gwallau

Gwnaethom ad-dalu tua £92,000 i drethdalwyr oherwydd gwallau a nodwyd gennym yn eu ffurflenni treth oedd wedi achosi iddynt ordalu treth. Nodwyd y gwallau hyn trwy ddefnyddio ein proffiliau risg treth, ac aethom ati i’w helpu i gywiro'r gwallau fel eu bod yn talu'r dreth gywir.

O nodi a gweithredu i leihau risgiau treth bydd llai o wallau'n cael eu gwneud ar draws y system dreth gyfan, a bydd llai o dreth i’w gasglu neu ad-dalu trwy gywiro gwallau – ar y cyfan, bydd mwy o bobl yn talu'r dreth gywir ar y cynnig cyntaf o ganlyniad i’n dull o weithredu.

Cosbau

Rydym wedi rhoi dirwyon pan fo trethdalwyr naill ai wedi ffeilio eu ffurflenni treth yn hwyr, wedi talu'n hwyr, neu wedi gwneud camgymeriad yn eu ffurflenni treth. Rydym yn defnyddio cosbau i sicrhau triniaeth deg i bawb. Yn 2020 hyd 2021, cyhoeddwyd cosbau gwerth cyfanswm o £136,000 gennym

Oherwydd effaith COVID-19 ar ein hadnoddau mewn cyfnod o alw cynyddol ar ein gwasanaethau, yn ystod chwarter 4 2020 hyd 2021 mae’n debygol bod rhai achosion lle mae cosb yn ddyledus, neu heb eu hasesu eto, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y ffigurau hyn. Bydd y cosbau hynny, wedi iddynt gael eu hasesu, yn cael eu cynnwys yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

Gwnaethom gyflwyno proses "cyn-adolygu" newydd ar gyfer mathau penodol o gosb bosibl, o ystyried effaith COVID-19 ar drethdalwyr ac asiantau. Nod y broses yw lleihau nifer y cosbau a roddir ond a ddiddymir gan adolygiad neu apêl lwyddiannus, pan fo esgus rhesymol a dilys dros y methiant. Sefydlwyd y broses i gydnabod y ffaith y gallai mwy o bobl nag arfer fod ag esgus rhesymol oherwydd y problemau a achoswyd gan COVID-19. Yn ystod pandemig COVID-19, mae'r broses cyn-adolygu wedi sicrhau bod dull teg, cyson, a chefnogol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob achos.

Mae'r broses cyn-adolygu yn gwahodd y trethdalwr i gyflwyno unrhyw sylwadau cyn i ni roi'r gosb, gan ei gwneud yn haws i bawb sy’n rhan o’r broses.

Yn draddodiadol, byddai'r datganiadau hynny'n rhan o broses adolygu ffurfiol yn amodol ar derfynau amser. Gwelsom fod achosion yn cael eu trin yn gynt, a phan fo esgus rhesymol caiff materion eu datrys o fewn dyddiau o dan y broses cyn-adolygu.

Mae asiantau a threthdalwyr wedi canmol y broses ac wedi rhoi adborth i ddweud ei bod wedi lleihau'r pwysau a'r straen arnynt yn ystod cyfnod sydd eisoes yn anodd.

Adolygiadau ac apeliadau

Lle nodwyd gwallau, rydym wedi cydweithio â threthdalwyr a'u cynrychiolwyr er mwyn cywiro pethau. Fodd bynnag, arweiniodd rhai materion at anghydfod ynglŷn â’r dreth gywir. Pan ddigwyddodd hyn, dewisom ddefnyddio’r un dull cadarnhaol a chydweithredol er mwyn datrys yr anghydfod mor effeithiol ac effeithlon â phosibl.

Yn yr achosion hynny, aethom ati i geisio dod i gytundeb ar anghydfodau yn unol â'r ddeddfwriaeth, gan sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu. Pan na lwyddwyd datrys anghydfod drwy gytundeb, yn y rhan fwyaf o achosion gallai'r trethdalwr ofyn i i ni adolygu'r penderfyniad hwnnw. Gelwir hyn yn adolygiad statudol.

Yn 2020 hyd 2021, cyflwynwyd cyfanswm o ychydig o dan 60 o geisiadau newydd am adolygiad i ACC.

Os nad yw trethdalwyr yn derbyn penderfyniad ein tîm gweithredol neu benderfyniad dilynol ein Swyddog Adolygu, yna gall hefyd apelio at gorff annibynnol, y Tribiwnlys (treth) Haen Gyntaf. Yn 2020 hyd 2021, fe'n hysbyswyd o lai na 5 apêl newydd gan y Tribiwnlys.

Amcan 3: bod yn fwy effeithlon

Byddwn yn cyflawni mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn cynnig gwerth am arian.

Er mwyn bod yn effeithlon ac yn effeithiol fel sefydliad, pan fo modd gwneud hynny rydym wedi ceisio cynllunio’n prosesau fel eu bod yn ddigidol o’r dechrau i’r diwedd.

Mae lleihau nifer y bobl sy'n talu gyda siec yn arwydd o effeithlonrwydd ein gwasanaethau ac mae'n un o'n dangosyddion perfformiad allweddol. 

Credwn fod effaith COVID-19 wedi annog mwy o bobl i symud oddi wrth sieciau at dalu arlein. Roedd anawsterau i ni a'n cwsmeriaid wrth brosesu post ar rai adegau o’r flwyddyn, ac roeddem yn annog ac yn cefnogi trethdalwyr ac asiantau i ddefnyddio dulliau talu electronig lle bynnag y bo modd.

Mae Siart 7 yn dangos y duedd fisol yng nghanran y taliadau a dderbyniwyd drwy siec. Bu gostyngiad nodedig yn y mesur hwn, gyda gostyngiad cychwynnol sydyn ar ddechrau'r flwyddyn, ac yna gostyngiad cyson trwy gydol 2020 hyd 2021. Yn wir, ers mis Tachwedd 2020 mae canran y sieciau a dderbyniwyd wedi bod yn llai nag 1% o gyfanswm ein taliadau a dderbyniwyd bob mis – mae hyn yn cymharu â'r ganran fisol isaf o 7% dros yr un cyfnod yn ystod 2019 hyd 2020.

Image
Mae Siart 7 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o daliadau Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd drwy siec ar gyfer 2019-20 a 2020-21, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 5 i 10 bwynt canran.

Awtomatiaeth

Yn ein Cynllun Corfforaethol 2019 hyd 2022, esboniwyd bod awtomeiddio yn ffordd bwysig i ni barhau i fod yn effeithlon. Fel y soniwyd yn gynharach yn yr adroddiad, mae COVID 19 wedi newid ymddygiad pobl ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar y nifer sy’n rhyngweithio â ni’n ddigidol, ac ar y broses awtomeiddio ar y cyfan, wrth i bobl chwilio am ffyrdd amgen o ryngweithio â ni. 

Mae Siart 8 yn dangos y newid misol yng nghanran y trafodiadau a broseswyd yn awtomatig hyd at y taliad cychwynnol. Parhaodd tuedd cynyddol y dangosydd trwy gydol 2020 hyd 2021 i gyrraedd pen uchaf ein hystod darged erbyn diwedd y flwyddyn. Roedd hyn yn cael ei yrru'n bennaf gan y gostyngiad yn y taliadau a dderbyniwyd fel sieciau.

Image
Mae Siart 8 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o drafodiadau sy'n symud ymlaen yn awtomatig hyd eu cau'n gychwynnol heb unrhyw gamau gan ACC ar gyfer 2019-20 a 2020-21, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 90 i 95 pwynt canran.

Amser a gymerwyd i ffeilio 

Dengys Siart 9 y duedd fisol yng nghanran y ffurflenni a gafodd eu ffeilio fwy na 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym. Mae hyn wedi aros yn gymharol isel dros y flwyddyn, er i COVID-19 effeithio arno dros fisoedd yr haf. Ers hynny mae wedi sefydlogi, gan ddychwelyd i'r ystod darged erbyn diwedd y flwyddyn.

Image
Mae Siart 9 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod ar gyfer 2019-20 a 2020-21, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.

Atal dyled

Rydym yn dadansoddi ein trafodiadau er mwyn canfod faint sydd wedi talu'n brydlon, a faint sy'n cael eu talu'n hwyr gan arwain at ddyled.

Fel arfer, mae'r taliad yn ddyledus o fewn 30 diwrnod i ddyddiad y trafodiad ar gyfer TTT (neu ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu ar gyfer y nifer fach o drafodiadau TGT, nad ydynt wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad hwn).

Cyn hyn, roeddem yn eithrio trafodiadau a oedd wedi'u diwygio neu rai a arweiniodd at ad-daliad oherwydd eu bod weithiau'n effeithio ar y dyddiadau cau yr oeddem yn eu defnyddio yn ein cyfrifiadau. Fodd bynnag, rydym wedi llwyddo i ddatrys y mater hwn yn ystod y flwyddyn ac mae'r data bellach yn cwmpasu pob trafodiad TTT.

O'r trafodiadau a gawsom, talwyd 95% yn brydlon. Mae hyn yn arwydd da o'n gallu i atal dyled ac mae’r lefel yn debyg i'r flwyddyn flaenorol.

Ar gyfer y 1,150 trafodiad sy'n weddill a dalwyd yn hwyr neu sy'n parhau mewn dyled, gallwn fesur ein heffaith o ran adennill y ddyled o fewn 30 diwrnod iddynt ddod yn ddyled (sef 60 diwrnod o ddyddiad y trafodiad i bob pwrpas). Rydym yn cyfyngu'r dadansoddiad hwn i'r rhai a dderbyniwyd o fewn 60 diwrnod gan y byddai'n amhosibl cyrraedd y targed ar gyfer y rhai a dderbyniwyd fwy na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym. Rydym yn defnyddio'r term 'dyled y gellir ei reoli’ i ddisgrifio'r ddyled yn yr achosion hyn. Mae'r mwyafrif helaeth (ychydig dros 1000) o'n dyledion yn ddyledion y gellir eu rheoli.

Amser a gymerir i dalu dyledion

Mae Siart 10 yn dangos y duedd fisol yng nghanran y trafodiadau sydd mewn dyled y gellir ei rheoli ac a gesglir o fewn 30 diwrnod iddynt ddod yn ddyledus. Mae'r siart yn dangos effaith COVID-19 ar gasglu dyledion y gellir eu rheoli - gydag effeithiau clir ar ddechrau'r flwyddyn ac eto o gwmpas yr ail gyfnod clo. Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf mae'r mesur wedi gwella gyda'r ffigur ar gyfer Mawrth 2021 o gwmpas 81%.

Image
Mae Siart 10 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ddyledion Treth Trafodiadau Tir y gellir eu rheol, a gasglwyd o fewn 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafoiadau i rym, ar gyfer 2019-20 a 2020-21, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 90 i 95 pwynt canran.

Roeddem yn cydnabod o ddechrau’r flwyddyn y gallai COVID-19 gael effaith ar allu rhai cwsmeriaid i dalu, oherwydd ansicrwydd ynglŷn â'u sefyllfa ariannol, ond hefyd o ran materion ymarferol o fethu â chael mynediad i swyddfeydd ac effaith staff yn cael eu rhoi ar saib swydd. I gydnabod hyn, gwnaethom ohirio ein gweithgareddau casglu a gorfodi dyledion rhagweithiol am gyfnod rhwng diwedd mis Mawrth 2020 a mis Mai 2020, ac eto ym mis Rhagfyr 2020. Anogwyd pobl i ddefnyddio dulliau talu electronig lle’r oedd hynny’n bosibl, a diweddarwyd ein canllawiau ac anfonwyd diweddariadau gweithredol at asiantau.

Gwnaethom annog trethdalwyr ac asiantau i drafod eu sefyllfaoedd ariannol gyda ni mewn amser real a buom yn gweithio gyda'r rhai a oedd mewn caledi ariannol i roi cefnogaeth angenrheidiol, er mwyn eu galluogi i barhau i gyflawni eu hymrwymiadau treth. Er mwyn gwneud hyn, gwnaethom adolygu polisïau allweddol a'u diweddaru i adlewyrchu'r gefnogaeth a'r cymorth y gallem eu cynnig yn unol â'n deddfwriaeth.

Roedd effaith COVID-19 ar ein hadnoddau, a'r cynnydd yn y galw ar ein gwasanaethau’n ddiweddarach yn 2020 hyd 2021, yn golygu bod yn rhaid i ni leihau rhai o'n gweithgareddau rheoli dyledion yn ystod y flwyddyn. Byddwn yn canolbwyntio ar ddal i fyny yn 2021 hyd 2022, gan barhau i roi cymorth i'r rhai sydd ei angen, a mynd ar drywydd y rhai sydd wedi dewis peidio â thalu er ei fod o fewn eu gallu. Rydym hefyd yn cynnal adolygiad o'n prosesau a'n dull gweithredu ar ddyledion yn 2021 hyd 2022 i chwilio am welliannau posibl yn y maes hwn.

Amser a gymerwyd i wneud ad-daliadau TTT Cyfradd Uwch

Yn ystod 2020 hyd 2021, gwnaethom gymeradwyo a chwblhau tua 1,600 ad-daliadau cyfradd uwch, cynnydd o’i gymharu â ffigur y flwyddyn flaenorol o bron i 1,500 o ad-daliadau. Roeddem yn rhagweld y cynnydd hwn mewn prosesu ad-daliadau gan fod gan y trethdalwr gyfnod o 3 blynedd i hawlio ad-daliad, a disgwyliwn i’r ffigur godi eto yn 2021 hyd 2022.

Er mwyn mesur ein perfformiad rydym yn cyfrifo nifer y diwrnodau y mae'n eu cymryd i brosesu pob un o'n had-daliadau cyfradd uwch. Yn ystod 2020 hyd 2021 gwnaethom newidiadau i'n systemau sydd wedi ein galluogi i fesur ein proses o'r adeg y derbynnir y cais am ad-daliad, gan roi gwell dealltwriaeth i ni o'n perfformiad. Mewn blynyddoedd blaenorol, dim ond o'r pwynt y cymeradwywyd yr ad-daliad y gellid mesur y dangosydd hwn.

Mae'r ddau fesur wedi'u cynnwys yn siartiau 11a a 11b er mwyn rhoi cyd-destun, a'r prif fesur yw'r un a fesurir o’r cais, gan ei fod yn adlewyrchiad tecach o amser aros cwsmeriaid.

Dengys Siart 11a y duedd fisol yn nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerir i brosesu ad-daliad yn ôl y ddau fesur, ac mae hefyd yn cynnwys cyfrif o’r ad-daliadau a wnaed ym mhob mis. O'r siart gallwn weld bod nifer yr ad-daliadau a broseswyd gennym yn amrywio'n fawr dros y flwyddyn. Wrth i nifer y trafodiadau ddisgyn ar ddechrau'r flwyddyn, disgynnodd y ceisiadau am ad-daliadau yn yr un modd, ond tua diwedd y flwyddyn, gwnaethom brosesu'r niferoedd misol uchaf erioed o hawliadau. Ac wrth i nifer yr hawliadau gynyddu, gwelwyd cynnydd yn yr amser a gymerwyd i brosesu'r rhain o ddyddiad y cais yn ogystal ag o’r dyddiad cymeradwyo, gan godi i gyfartaledd o 34 diwrnod o ddyddiad y cais ym mis Ionawr 2021, er ers hynny, mae'r cyfartaledd hwnnw wedi disgyn drachefn i 24 diwrnod.

Image
Mae Siart 11a yn defnyddio bariau ar yr echelin chwith i arddangos nifer yr ad-daliadau cyfradd uwch Treth Trafodiadau Tir a llinell ar yr echelin dde i arddangos nifer cyfartalog y dyddiau rhwng cymeradwyo a thalu’r ad-daliadau hynny, gyda phob cyfres yn cael ei dangos yn ôl y mis y cymeradwywyd yr ad-daliad rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2021.

Mae Siart 11b yn dangos y duedd fisol yng nghanran y taliadau a wnaed o fewn 30 diwrnod ar gyfer y ddau fesur. Yn gyffredinol, mae'r niferoedd wedi aros yn uchel ar wahân i ostyngiad sylweddol ym mis Ionawr 2021, sy'n cyfateb i'r brig a welwyd yn siart 11a, gydag adferiad i dros 90% erbyn mis Mawrth 2021.

Image
Mae Siart 11b yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfresi misol o ganran yr ad-daliadau a dalwyd o fewn 30 diwrnod o ddyddiad y cais ac o’r dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad. Mae'r ddwy linell wedi'u hagregu yn ôl y mis y cymeradwywyd yr ad-daliad rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2021.

Achoswyd y gostyngiad yn ein mesurau perfformiad ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch gan gyfuniad o ffactorau. Rydym eisoes wedi crybwyll a gallwn weld y cynnydd sylweddol yn y galw ar ein gwasanaethau yn ystod ail hanner y flwyddyn (siart 11a). Achoswyd hyn gan lefelau digynsail o drafodiadau cyfradd uwch yn ystod ail hanner y flwyddyn, wrth i lefelau trafodiadau cyffredinol adfer ar ôl effaith COVID-19. Yn ail, roedd ein capasiti adnoddau yn îs gan ein bod yn dal i ddelio â’r gohirio cynharach o ran recriwtio ac effaith COVID-19 ar ein pobl. Er gwaethaf yr heriau hyn, roedd ad-daliadau cyfradd uwch yn parhau i fod yn faes gweithgarwch a flaenoriaethwyd gennym, ac roeddem yn parhau i gynnal gwasanaeth a sicrwydd o ansawdd uchel. Er mwyn sicrhau bod hawliadau'n ddilys, gwnaethom barhau i gynnal cyfres o wiriadau diwydrwydd dyladwy, gan weithio gyda threthdalwyr ac asiantau i wirio natur a chywirdeb hawliadau. Roedd hyn yn golygu, ym mis Ionawr 2021, bod nifer fawr o ad-daliadau wedi'u prosesu'n hwyrach na'r targed 30 diwrnod.

Wrth nodi'r heriau uchod a mynd i'r afael â'r gostyngiad mewn perfformiad, gwnaethom adolygu'r broses er mwyn chwilio am arbedion effeithlonrwydd heb beryglu'r ansawdd a'r sicrwydd. Gwnaethom gynnal ymchwil defnyddwyr i nodi beth oedd yn gweithio'n dda a ble y gallem wella. Ar sail yr ymchwil, gwnaethom welliannau i'n ffurflen ad-daliadau gan gynnwys cwestiynau ychwanegol. Galluogodd y newidiadau hyn i ni leihau'r angen i gadarnhau gwybodaeth, a gwneud gwaith dilynol gyda chwsmeriaid, gan gyflymu'r broses ad-dalu.

Mae hyn wedi golygu ein bod wedi gallu lleihau amser prosesu'r ad-daliadau, er gwaethaf y cynnydd sylweddol mewn trafodiadau yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth, a gwelir tystiolaeth o hyn yn y ddau siart.

Amcan 4: datblygu ein gallu

Byddwn yn datblygu gallu unigol a chyfunol.

Rydym yn awyddus i fod yn sefydliad lle mae diwylliant cydweithredol, arloesol a charedig yn tanio lefelau uchel o ymgysylltu, dysgu parhaus, a chynhwysiant. Credwn fod cael pobl alluog yn gwneud swyddi sy’n rhoi gwir foddhad iddynt yn arwain at ragoriaeth yn ein gwasanaethau o ddydd i ddydd, ac at atebion arloesol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol. O gael ein timau medrus, amlbroffesiwn, i gydweithio a’i gilydd gallwn gyflawni mwy, gan wireddu amcanion mentrus er budd ein rhanddeiliaid a’n haddysg ein hunain.

Ymgysylltiad

Mae cael pobl sydd ag ymgysylltiad cryf yn bwysig i ni gan fod hynny’n gwneud ein pobl yn hapusach ac yn cryfhau eu cymhelliant i wneud eu gorau i gyflawni ein hamcanion.

Er mwyn i'n pobl ymgysylltu, rydym yn:

  • darparu swyddi diddorol sydd â lefelau uchel o ymreolaeth
  • cynnig cyflogau Cyflog Byw a buddion teg
  • bob amser yn blaenoriaethu a chefnogi llesiant ein pobl

Rydym wedi dysgu llawer o orfod cynnal ymgysylltiad yn ystod cyfnod mor heriol. Gwelsom nad oedd defnyddio dull 'a ffefrir gan y rhan fwyaf' o ymgysylltu yn addas ar gyfer y ffordd rydym bellach yn gweithio. Yn hytrach, rydym yn gallu cefnogi ein pobl yn well drwy drin pawb fel unigolyn, a gwerthfawrogi bod sefyllfaoedd unigol, teuluol a chymunedol yn newid yn aml. Er mwyn gwneud hyn, rydym wedi symud tuag at ddarparu ystod ehangach o opsiynau ar gyfer ymgysylltu a chefnogi, rhai y gall ein pobl ddewis o’u plith yn unol â'u hanghenion a'u dewisiadau unigol a newidiol.

Yn benodol, yn 2020 hyd 2021, gwnaethom flaenoriaethu neu gyflwyno'r gweithgareddau canlynol er mwyn ymgysylltu â'n pobl: 

  • cadw ein pobl yn wybodus ac yn teimlo’n rhan o’r gwaith trwy gynnal galwadau wythnosol gyda’r holl staff, lansio Microsoft Teams ar gyfer galwadau fideo a chreu sianeli gwahanol – gan gynnwys llesiant, dysgu a datblygu, a diweddariadau staff cyfan
  • sicrhau bod ein holl bobl yn cael sgyrsiau llesiant strwythuredig gyda'u rheolwyr llinell yn aml
  • hyrwyddo cynnal ein perthynas waith gadarnhaol drwy annog ein pobl i dreulio amser anffurfiol a chymdeithasol gyda'u cydweithwyr
  • neilltuodd ein Pwyllgor Llesiant, a redir gan staff, amser i gynnal digwyddiadau er mwyn dod â'n pobl at ei gilydd, i gadw'n heini, ac i ddod â rhywfaint o lawenydd yn ystod cyfnodau anodd, megis heriau cerdded, cwisiau, a chyfleodd i rannu syniadau ar sut i ddefnyddio ein hawr lesiant wythnosol
  • darparu hyfforddiant yn ymwneud â gweithio o bell, gan annog ein pobl i rannu eu profiadau, yr hyn sy’n heriol, a'u syniadau
  • lleihau oriau gwaith craidd i roi mwy o hyblygrwydd i'n pobl o ran pryd y maent yn dechrau ac yn gorffen gwaith, a hynny er mwyn caniatáu amser ar gyfer cyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â darparu cymorth, cwnsela, a chyfnodau absenoldeb arbennig
  • adolygu'r ffordd orau o gefnogi ein blaenoriaethau busnes newydd a'n timau â niferoedd llai, gan gefnogi ein pobl i wneud rolau gwahanol dros dro

Roedd llawer o'r gweithgareddau hyn mewn ymateb i effaith byw a gweithio yn ystod pandemig ar ein pobl, ond rydym yn disgwyl parhau â nifer ohonynt er mwyn cefnogi symudiad tuag at fwy o weithio gartref yn y tymor hwy.

Yn ogystal â'n harolwg ymgysylltu blynyddol arferol, Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil, cyhoeddwyd arolwg ymgysylltu untro gennym ym Mai 2020, yn ymwneud yn benodol ag effaith COVID-19. Dyma rai o'r canfyddiadau allweddol: 

  • nododd 43% o'n pobl newidiadau i'w rôl – megis derbyn gwahanol gyfrifoldebau er mwyn cefnogi aelodau'r tîm oedd angen amser i ffwrdd, neu symud i rôl wahanol yn gyfangwbl
  • roedd 85% o'n pobl yn teimlo bod ganddynt yr holl offer neu’r rhan fwyaf o offer yr oeddent eu hangen i weithio gartref
  • roedd 100% o'n pobl yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan eu rheolwyr llinell
  • roedd 100% o'n pobl yn hyderus yn ymdriniaeth ein huwch arweinwyr ag effaith COVID-19

O ganlyniad, cynhaliwyd adolygiad parhaus o’r offer sydd ei angen ac o amodau gwaith, gyda nifer fach o staff yn gweithio'n rhannol o leoliad swyddfa, pan oedd yn ddiogel gwneud hynny, os nad oedd ganddynt le priodol i weithio gartref. Fe wnaethom hefyd ailddechrau recriwtio ym mis Awst 2020, gan flaenoriaethu rolau a oedd wedi’u llenwi dros dro neu’r rhai a oedd wedi bod yn wag am y cyfnod hiraf. 

Ar ôl blaenoriaethu llesiant ein pobl, a chan ystyried pa mor anodd fu'r flwyddyn, roeddem yn falch iawn o fod wedi cynnal ein hymgysylltiad uchel yn ystod 2020 hyd 2021. Dyma rai uchafbwyntiau o'n Harolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2020: 

  • dod yn ail o blith 100 a mwy o gyflogwyr y Gwasanaeth Sifil
  • yn y deg uchaf ar gyfer meysydd fel bod â gwaith diddorol a heriol, bod yn rhan o benderfyniadau a newid sefydliadol, bod â hyder mewn uwch reolwyr, rheolwyr llinell cefnogol a thimau cydweithredol, a diwylliant gweithio a oedd yn annog crybwyll pryderon a thrin pobl yn deg
  • byddai 91% o'n pobl yn argymell ACC fel lle gwych i weithio
  • mae 87% o'n pobl yn fodlon â chyfanswm eu pecyn buddion (+44 pwynt canran o gymharu â Gwasanaeth Sifil y DU ar y cyfan) 
  • dywedodd 99% o'n pobl fod ganddynt y dechnoleg y maent ei angen i gysylltu a chydweithio â'u cydweithwyr, a dywedodd 96% o'n pobl fod eu rheolwr yn ymddiried ynddynt i wneud eu gwaith yn effeithiol o gartref

Mae dangosyddion eraill yn cynnwys: 

  • mae 100% o'n pobl yn ennill mwy na Chyflog Byw'r Sefydliad Cyflog Byw 
  • mae gan 93% o'n pobl gontractau parhaol a does neb ar gontract dim oriau

Sgiliau

Er mwyn annog diwylliant o ddysgu, ac i sicrhau ein bod yn meddu ar y sgiliau yr ydym eu hangen fel sefydliad, rydym wedi ceisio cyflogi pobl o amrywiaeth eang o broffesiynau, a chreu cyfleoedd diddorol ar gyfer hyrwyddo, dysgu a datblygu. Er mai sefydliad bychan ydym ni, rydym wedi darparu benthyciadau i mewn ac allan o'r sefydliad yn ogystal â chyfleoedd i brentisiaid, myfyrwyr a graddedigion.

Mesurwyd hyn gennym drwy edrych ar broffesiynau, sgiliau Cymraeg, a datblygiad ein pobl.

Dyma rai o’n cyflawniadau a dangosyddion o'n cynnydd yn ystod y flwyddyn: 

  • cynrychiolir 15 o wahanol broffesiynau ar draws ein sefydliad 
  • ymunodd 11 o staff â ni, er gwaethaf peidio â recriwtio rhwng mis Mawrth a mis Awst. Daeth tua thraean o sefydliadau eraill y gwasanaeth sifil, a thua dwy ran o dair o amrywiaeth o gyflogwyr yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat 
  • cymerodd 30% o'n pobl ddyrchafiad dros dro neu symudiad ochrol, yn aml i gefnogi gohirio recriwtio neu i gefnogi oriau gwaith is cydweithwyr oherwydd COVID-19 
  • cymerodd 9% o'n pobl rôl newydd barhaol o fewn ACC neu gyflogwr arall yn y gwasanaeth sifil 

O ran y Gymraeg, cyhoeddwyd ein Strategaeth Iaith Gymraeg gyntaf ym mis Hydref 2020 drwy ymgynghori â'r sefydliad cyfan. Mewn arolwg a gwblhawyd yn ystod y cyfnod, roedd 78% o'n pobl yn siarad rhywfaint o Gymraeg, gyda 19% yn rhugl neu bron yn rhugl, a byddwn yn monitro hyn yn y dyfodol er mwyn mesur cynnydd. 

Cafodd dysgu a datblygu ei weddnewid yn ystod y flwyddyn, gyda'r holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu o bell er mwyn galluogi ein pobl i aros yn ddiogel gartref.

Derbyniodd ein holl bobl hyfforddiant yn ystod y flwyddyn, a gwnaethom fuddsoddi £71,000 o'n cyllideb mewn hyfforddiant ffurfiol, gyda’r Tîm Arwain a’r arweinwyr tîm sy’n adrodd iddynt yn gweithio gyda hyfforddwr ffurfiol i ddatblygu eu sgiliau a'u harddulliau arwain. Rydym yn parhau i nodi bylchau mewn sgiliau ac wedi darparu hyfforddiant mewn meysydd fel seibrddiogelwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a'r Gymraeg.

Fodd bynnag, nid oeddem yn gallu datblygu ein cynlluniau ar gyfer dysgu a datblygu cymaint ag yr oeddem wedi'i gynllunio, gan ddewis canolbwyntio ar flaenoriaethau mwy uniongyrchol yn lle hynny.

Hefyd, cafodd ein pobl lai o amser na’r arfer ar gyfer hyfforddiant ffurfiol dros y flwyddyn, oherwydd cyfrifoldebau gofalu a gweithio ar flaenoriaethau eraill, neu gan eu bod yn addasu i weithio gartref. Yn 2021 hyd 2022, rydym fel sefydliad yn bwriadu uwchsgilio. Ein nod yw bod y rheolwyr llinell gorau y gallant fod – gan gefnogi twf ein staff.

Rydym yn parhau i flaenoriaethu lleihau prosesau â llaw, gan ryddhau ein pobl i fynd i'r afael â materion mwy cymhleth ac i fod â rolau mwy ystyrlon. Gohiriwyd rhywfaint o waith yr oeddem wedi gobeithio ei gwblhau o ran awtomeiddio, ond bydd yn parhau i fod yn ffocws yn y dyfodol.

Amrywiaeth

Er mwyn i'n pobl deimlo’u bod yn cael eu cynnwys a'u parchu, ein nod yw cynyddu’r cyfleoedd i bawb arloesi, i gydweithio, a bod yn rhan o'r penderfyniadau a wneir gennym. Rydym hefyd yn gweithio i greu a chynnal diwylliant cynhwysol lle mae pawb yn teimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn gallu cyflawni eu potensial.

Eleni rydym wedi gweld cydraddoldeb yn cael lle amlycach ar draws y sefydliad. Rydym wedi ceisio gwella dealltwriaeth ein pobl o gydraddoldeb drwy gymysgedd o hyfforddiant a gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth. Roedd cydraddoldeb yn cael sylw rheolaidd yn sesiynau Tîm Arwain a'r Bwrdd, gan gynnwys paratoi ar gyfer cyflwyno'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi bod yn gwella ein gallu digidol mewnol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau mor hygyrch â phosibl, gan wneud sawl gwelliant ar gyfer rhoi gwell cefnogaeth i’n cwsmeriaid yn ystod y pandemig.

Mae ein Harolwg Pobl blynyddol yn darparu sawl dangosydd o farn ein pobl ar lwyddiant ein dull o weithredu: 

  • dod yn bedwerydd o dros 100 o sefydliadau'r gwasanaeth sifil ym maes 'cynhwysiant a thriniaeth deg' yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2020
  • mae 91% o'n pobl yn credu bod ACC wedi ymroi i greu gweithle amrywiol a chynhwysol
  • mae 95% o'n pobl yn cytuno bod ACC yn parchu gwahaniaethau unigol, fel diwylliannau, arddulliau gweithio, cefndiroedd, a syniadau

Mae mesur a chyhoeddi data ar amrywiaeth yn anodd mewn sefydliad o'n maint ni. Nid ydym yn cyhoeddi data a allai ddatgelu hunaniaeth unigolyn neu grŵp bach o unigolion, er mwyn diogelu eu preifatrwydd. Golyga hyn na fyddwn yn cyhoeddi data ar grwpiau o lai na 10 o bobl, felly ni allwn gyhoeddi'r rhan fwyaf o'n data amrywiaeth.

Mae ein Hadroddiad Cydraddoldeb yn cynnwys data sy'n ddigon mawr i'w wneud yn gyhoeddus ac yn darparu naratif lle nad yw hyn yn bosibl. Caiff ei gyhoeddi’n flynyddol, ac mae'n cynnwys adroddiad ar ein cynnydd yn erbyn ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol. 

Mae ein Hadroddiadau a'n Hamcanion blaenorol ar gael ar ein gwefan, a bydd ein Hadroddiad Cydraddoldeb ar gyfer 2020 hyd 2021 yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2022.

Amcan dylunio

Ein bwriad yw bod yn bartner dibynadwy ar gyfer dylunio gwasanaethau refeniw sydd yn cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru, pa un ai bod y gwasanaethau’n cael eu cyflwyno gennym ni neu eraill. Drwy weithio ar draws Llywodraeth Cymru ar wasanaethau refeniw newydd neu rhai presennol, gallwn ddefnyddio ein profiad o fewnwelediad cwsmeriaid, gweithrediadau, data, digidol a pholisi er mwyn cefnogi’r gwaith o gynllunio systemau, prisiau a fframweithiau cyfreithiol mewn modd integredig sydd yn gweithio’n dda ar gyfer defnyddwyr ac yn cwrdd ag amcanion Llywodraeth Cymru.

Rhwng 2020 a 2021, arafwyd ein gwaith dylunio yn amlwg oherwydd effaith COVID-19. Fodd bynnag, mae ein gweithgor dylunio wedi parhau i ddwyn ynghyd yr ystod o sgiliau sydd eu hangen ar gyfer dylunio o'r dechrau i'r diwedd, ar draws ACC a Llywodraeth Cymru yn ehangach. Rydym wedi cefnogi rhoi ystyriaeth gynnar i’r newidiadau posibl i TTT ac TGT yn y dyfodol, yn ogystal â threthi a gwasanaethau refeniw newydd posibl megis treth tir gwag ac ardoll gofal cymdeithasol.

Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru trwy gydol 2021 hyd 2022 a'u cefnogi i gyflawni dros Gymru a'i phobl.

Amcan data

Ein bwriad yw cael y gwerth gorau o ddata threthdalwyr Cymru. Drwy weithio ar draws Llywodraeth Cymru, rydym am chwilio am ffyrdd diogel ac effeithlon o rannu, defnyddio a datblygu data – gan droi’r data yn ased ar gyfer trethdalwyr Cymru. I gychwyn, ein bwriad yw ymchwilio i’r potensial o ddefnyddio’r data sydd gennym ac sut i wneud ar gael i bartneriaid perthnasol, gan gysidro elfennau cyfreithiol o rannu data.

Oherwydd effaith COVID-19, cafodd ein gwaith gyda llywodraethau lleol ei ohirio am flwyddyn wrth i flaenoriaethau’r llywodraeth symud at gefnogi a chyflawni gwaith i helpu pobl Cymru drwy'r pandemig. Rydym yn awyddus i ailddechrau gwneud y gwaith hwn ac rydym yn bwriadu dod â rhanddeiliaid ynghyd yn gynnar yn haf 2021 i drafod a chytuno ar yr hyn y gallwn ei gyflawni eleni. 

Roedd data'n parhau i fod yn rhan allweddol o'n gweithrediadau, ac yn ystod y flwyddyn rydym wedi gweithio'n agos gyda Chofrestrfa Tir EM i sefydlu cyflenwad data rheolaidd o wybodaeth am deitlau eiddo y gellir ei defnyddio i gefnogi ein hasesiadau o risg treth, ac rydym wedi datblygu ein sgiliau ein hunain er mwyn deall a dadansoddi'r data hwnnw.

Rydym hefyd wedi ystyried gweithio gyda data eraill ac wedi cynnal dadansoddiad pellach o'n data presennol. Un enghraifft yw darparu rhagor o fanylion yn ein trafodiadau cyfraddau uwch i gefnogi diddordeb cynyddol yn y data hwnnw yng nghyd-destun ail gartrefi yng Nghymru. Rydym wedi cyhoeddi erthygl i gefnogi'r defnydd priodol o'r data hwnnw, ac i ymestyn y dadansoddiad sydd ar gael. Mae'r erthygl yn cyfeirio at waith sy'n mynd rhagddo a sut y gellid gwella hyn drwy ymestyn ein data ymhellach gan ddefnyddio gwybodaeth o gofrestr landlordiaid Cymru.

Cyhoeddi data TTT a TGT

Cyhoeddwyd data manwl gennym hefyd ar TTT a TGT yn ôl amserlen ddiffiniedig, yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau 

Buom yn gweithio gyda rhai o brif ddefnyddwyr ein data er mwyn sicrhau bod yr hyn a gyhoeddir gennym yn ateb eu cwestiynau. Y prif welliant a wnaethom yn 2020 hyd 2021 oedd cyhoeddi erthygl gyda rhywfaint yn rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio ein hystadegau TTT. Roedd hyn mewn ymateb i rywfaint o gamddehongli'n hystadegau blynyddol ar gyfraddau uwch TTT preswyl yn y wasg, ac roedd yr erthygl yn cynnwys rhywfaint o ddata ychwanegol nas cyhoeddwyd yn flaenorol (Eglurhad o ystadegau ardaloedd lleol Awdurdod Cyllid Cymru | LLYW. CYMRU).

Gwnaethom hefyd ddatblygu'r ffordd rydym yn cyhoeddi’r data i gynnwys fformatau mwy hygyrch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwaith hwn yn 2021 hyd 2022, ochr yn ochr â dechrau'r broses i ennill achrediad Ystadegau Gwladol ar gyfer ein hystadegau. 

Llesiant, elusen a'r amgylchedd

Llesiant

Mae ein strategaeth lesiant yn cyd-fynd â 'Pum Ffordd at Les' y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan ein bod yn cydnabod bod y gweithle yn lleoliad allweddol ar gyfer hyrwyddo ymddygiadau da. Rydym wedi cefnogi ein pobl trwy gynnig hyfforddiant a chymorth ar sut i weithio gartref a’u cyfeirio at gyngor mewn meysydd fel gweithio gartref gyda phlant, iechyd meddwl, diogelwch personol, a chyllid personol. Mae hwn wedi bod yn gymorth parhaus a bydd yn dal i fod felly, gan addasu wrth i amgylchiadau newid. Rydym wedi cefnogi pobl i ddychwelyd i'r swyddfa, pan fyddant yn gallu gwneud hynny, yn seiliedig ar lesiant, gan gydnabod bod gan bawb anghenion gwahanol.

Elusen

Sefydlwyd ein helusen ddewisol am y flwyddyn am y tro cyntaf ym mis Hydref 2018, ac rydym yn cynnal trafodaethau blynyddol ynglŷn â’r dewis ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Yn ystod 2020 hyd 2021 ein helusen ddewisol oedd FareShare sef elusen ailddosbarthu bwyd hynaf y DU.

Mae codi arian i'n helusen ddewisol yn ymwneud â gofalu am lesiant eraill. Mae hefyd yn cefnogi llesiant cyffredinol ein pobl ni. Yn ystod blwyddyn heriol o ran casglu arian, rydym yn falch o fod wedi codi £390 ar gyfer FareShare.

Yr amgylchedd

Rydym yn frwd dros ddiogelu'r amgylchedd. Rydym yn cydnabod effaith ein gwaith pwysig o gasglu a rheoli TGT ar yr amgylchedd.

Adolygiad o'n Siarter

Mae Ein Siarter yn nodi’r gwerthoedd, yr ymddygiadau, a’r safonau a rennir rhyngom sy'n ein galluogi i gydweithio’n well â threthdalwyr, eu cynrychiolwyr, a rhanddeiliaid er mwyn darparu system drethu deg i Gymru.

Mae ein Siarter, a gyhoeddwyd yn 2018, yn berthnasol i bawb sy’n gweithio â ni, gan gynnwys ein partneriaid, er enghraifft Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad 'Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)'.

Deall sut y gallem gyflawni'r gwerthoedd yn ein Siarter yn effeithiol oedd y sylfaen ar gyfer datblygu 'Ein Dull' sy’n sefydlu ffordd Gymreig o drethu.

Mae gwerthoedd ein Siarter wrth wraidd y ffordd rydym wedi cefnogi'r bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Isod rydym yn crynhoi ein perfformiad yn erbyn pob un o'r gwerthoedd yn ein Siarter ac yn rhoi enghreifftiau drwy gydol yr Adroddiad Blynyddol.

Gwerth

Yr hyn yr ydym wedi'i wneud

Diogel: gwarchod yr holl wybodaeth a pharchu cyfrinachedd.

  • Rydym yn cymryd diogelwch a rheoli gwybodaeth o ddifrif ac adlewyrchir hyn yn ein Polisi Gwybodaeth a Llywodraethu, gweler ein datganiad llywodraethiant am ragor o fanylion.
     
  • Mae canllaw defnyddiol ar ein gwefan ar sut rydym yn rheoli gwybodaeth Sut rydym yn rheoli gwybodaeth.
     
  • Rydym wedi ymgymryd ag ardystiad Cyber Essentials Plus. Gweler ein datganiad llywodraethiant am ragor o wybodaeth am seibrddiogelwch.

Cefnogol: creu canllawiau a darparu cymorth pan fyddwch yn gofyn am help. Creu a defnyddio gwasanaethau digidol effeithiol.

  • Rydym yn parhau i wella ein gwefan a'n gwasanaethau digidol. Gwnaethom ymgysylltu â'n defnyddwyr er mwyn deall yr effaith yr oedd COVID-19 yn ei gael ar eu busnes a'u gallu i ymgysylltu a thrafod â ni.
     
  • Gwnaethpwyd sawl newid i'n gwasanaethau yn seiliedig ar yr hyn a ddywedodd pobl wrthym, a darperir mwy o wybodaeth yn yr adran o’r Adroddiad ar Berfformiad sy’n trafod ein hamcan o’i gwneud yn haws.

Teg: gonestrwydd wrth ddelio â'n gilydd a chreu sefyllfa deg fel bod pob trethdalwr yn cael ei drin yn gyfartal. Mynd i'r afael ag efadu ac osgoi trethi, defnyddio pŵerau’n gyson ac yn gymesur.

  • Rydym wedi parhau i reoli risg tasgau gan sicrhau tegwch a chysondeb ar draws y system dreth.
     
  • Rydym wedi cefnogi pobl i unioni pethau pan fydd gwallau wedi'u gwneud. Lle ceisiodd pobl efadu neu osgoi talu'r swm llawn, rydym wedi nodi'r achosion hyn ac wedi cymryd camau i sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu.
     
  • Darperir rhagor o wybodaeth yn yr adran o’r Adroddiad ar Berfformiad sy’n trafod ein hamcan o sicrhau ein bod yn deg.

Ymgysylltu: cefnogi'r cyhoedd yng Nghymru i ddeall trethiant datganoledig a gweithio gyda'n gilydd i'w ddatblygu er budd Cymru.

  • Rydym wedi newid y ffordd yr ydym wedi ymgysylltu er mwyn ateb heriau gweithio o bell a chadw pellter cymdeithasol.
     
  • Rydym wedi defnyddio gweminarau i ymgysylltu â'n defnyddwyr a darparu hyfforddiant i gynulleidfa eang gan ddefnyddio'r sianel hon.
     
  • Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y llywodraeth (gan gynnwys Gweinidogion) mewn cynadleddau a digwyddiadau rhithwir, gan sicrhau bod ein sefyllfa a'r cyfle a ddarparwn i ddatganoli trethi yn cael eu deall. 

Ymatebol: gwrando ar safbwyntiau ein gilydd a bod yn agored yn ein sgyrsiau, gweithredu ar yr adborth a'r cyngor a roddir. Trin ein gilydd â pharch.

  • Mae gwrando ar adborth ac ymateb iddo wedi bod yn bwysicach nag erioed eleni mewn blwyddyn pan welwyd sawl newid o ran pobl a'u hamgylchiadau busnes. Ceir rhagor o wybodaeth o dan yr adran Adroddiad ar Berfformiad ar ein hamcan o’i gwneud yn haws.
     
  • Gwnaethom ystyried llesiant ein pobl a'r cymorth sydd ei angen i ganiatáu defnydd hyblyg o’n staff i ddiwallu anghenion newidiol y sefydliad.
     
  • Rhoddwyd ystyriaeth i effaith COVID-19 wrth weithio gyda threthdalwyr a'u cynrychiolwyr drwy gydol y flwyddyn hon i gywiro gwallau a chasglu treth na dalwyd yn llawn neu ad-dalu treth yn sgil gordalu.

Dwyieithog: bod â’r hyder i gynnal ein busnes yn y Gymraeg a'r Saesneg.

  • Rydym yn parhau i gynnig gwasanaeth dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.
     
  • Cynigir ein gwasanaethau digidol yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys nodwedd "toglo" yn ein system dreth ar-lein – sy'n galluogi defnyddwyr i newid rhwng y Gymraeg a'r Saesneg yn ddi-dor.
     
  • Rydym wedi datblygu strategaeth Gymraeg ac yn cefnogi a’n annog ein staff i ddefnyddio'r Gymraeg.

Cywir: cydweithio i wneud pethau'n iawn a'u cywiro os oes angen, a rhannu data a gwybodaeth gywir, cymryd gofal rhesymol i osgoi camgymeriadau. Cadw cofnodion manwl gywir.

  • Rydym yn parhau i ymgysylltu â threthdalwyr a chynrychiolwyr er mwyn cynyddu ein gwybodaeth gyfunol o ymholiadau, digwyddiadau treth rhithwir, a gweminarau. Defnyddiwyd y wybodaeth hon gennym i reoli risgiau treth, i wella ymwybyddiaeth, ac i ddarparu addysg er mwyn helpu pobl i gael pethau'n iawn y tro cyntaf ac i atal gwallau.
     
  • Mae’r adran sicrhau ein bod yn deg yn yr Adroddiad ar Berfformiad yn egluro mwy am ein gwaith yn rheoli risgiau treth.

Effeithlon: ymateb i'n gilydd yn gyflym, cyflwyno ffurflenni a phrosesu ceisiadau’n brydlon. Canfod ffyrdd y gallwn ni wella'r gwasanaeth.

  • Rydym yn falch o'r ffordd y gweithredwyd newidiadau i'r cyfraddau TTT yn ystod y flwyddyn hon, ac o’r gwelliannau a wnaed i’r broses ad-dalu mewn ymateb i’r cynnydd mewn galw.
     
  • Mae ein hadran ar fod yn fwy effeithlon yn yr Adroddiad ar Berfformiad yn egluro sut y gweithredwyd y newidiadau i gyfraddau TTT a sut y rheolwyd y gwelliannau i’n proses ad-dalu. 

Rheolwyr Awdurdod Cyllid Cymru

Bwrdd Rheoli

Enw

Swydd

Kathryn Bishop (1)

Cadeirydd Anweithredol; Aelod o'r Pwyllgor Pobl

Jocelyn Davies (1)

Aelod Anweithredol; Cadeirydd y Pwyllgor Sicrwydd a Rheoli Risg (ARAC); Aelod o'r Pwyllgor Pobl

Dyfed Edwards (1)

Is-gadeirydd Anweithredol; Cadeirydd y Pwyllgor Pobl

David Jones (tan fis Hydref 2020)

Aelod Anweithredol; Aelod o ARAC

Lakshmi Narain (tan fis Hydref 2020)

Aelod Anweithredol;Aelod o ARAC

Mary Champion (ers mis Hydref 2020) (2)

Aelod Anweithredol; Aelod o ARAC

Rheon Tomos (ers mis Hydref 2020) (2)

Aelod Anweithredol; Aelod o ARAC

Dyfed Alsop

Prif Weithredwr

Sean Bradley (tan fis Mai 2020)

Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi

Rebecca Godfrey (ers mis Mai 2020) (3)

Prif Swyddog Strategaeth

Sam Cairns

Prif Swyddog Gweithrediadau

Lucy Robinson

Aelod Staff Etholedig

Nodiadau:

(1) Roedd penodiadau Kathryn Bishop, Jocelyn Davies a Dyfed Edwards oll i fod i ddod i ben ym mis Hydref 2020, ond cafodd pob un ei ymestyn hyd at fis Hydref 2022.

(2) Penodwyd Mary Champion a Rheon Tomos am gyfnod dros dro o 12 mis, oherwydd bod penodiadau cyhoeddus yn cael eu hatal ar draws Llywodraeth Cymru oherwydd COVID-19.

(3) Dychwelodd Rebecca Godfrey i'w rôl ar y Bwrdd yn dilyn absenoldeb mamolaeth ym mis Mai 2020.

Uwch Swyddogion

Enw

Swydd

Dyfed Alsop

Prif Weithredwr

Rebecca Godfrey

Prif Swyddog Strategaeth

Jim Scopes (llenwi am absenoldeb mamolaeth tan fis Ebrill 2020) (1)

Prif Swyddog Strategaeth dros dro

Melissa Quignon-Finch

Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu

Sam Cairns

Prif Swyddog Gweithrediadau

Robert Jones (ers mis Gorffennaf 2020)

Prif Swyddog Cyllid

Kate Innes (tan fis Gorffennaf 2020) (2)

Prif Swyddog Cyllid dros dro

Jo Ryder

Pennaeth Staff

Neil Butt (llenwi am absenoldeb mamolaeth o fis Tachwedd 2020 ymlaen)

Pennaeth Staff Dros dro

Sean Bradley (tan fis Mai 2020)

Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi

Nodiadau:

(1) Arhosodd Jim Scopes gydag ACC tan fis Tachwedd 2020.

(2) Arhosodd Kate Innes gydag ACC tan fis Hydref 2020.

Adroddiad Ariannol

Cyfrifon Adnoddau

Rydym yn derbyn dyraniad cyllid blynyddol gan Lywodraeth Cymru i ariannu ein gwariant. Rydym yn gosod cyllideb gwariant bob blwyddyn yn seiliedig ar y gweithgareddau rydym yn bwriadu ymgymryd â nhw er mwyn gweithredu ein Cynllun Corfforaethol, wedi'u rhannu'n swyddogaethol i'r meysydd eang canlynol: 

  • costau staff gan gynnwys dysgu a datblygu
  • costau gweithredol casglu'r trethi, camau gorfodi, a chudd-wybodaeth am ddata 
  • costau rhedeg corfforaethol, fel AD, TGCh, cyfleusterau, llywodraethiant, a chyngor cyfreithiol
  • newid busnes er mwyn sicrhau gwelliant parhaus i systemau digidol a phrosesau gweithredol er mwyn cefnogi prosesau newydd a newidiadau i ddeddfwriaeth trethi

Caiff y cyllid a ddyrennir i’n sefydliad ac a dynnwyd i lawr gan Lywodraeth Cymru ei nodi yn y tabl isod. 

Ffrwd Cyllid

2020-21 Dyraniad
£,000

2020-21 Cyllid a Dynnwyd
£,000

2019-20 Dyraniad
£,000

2019-20 Cyllid a Dynnwyd
£,000

Refeniw

6,196

6,541

6,616

5,948

Cyfalaf

175

175

80

79

Cyfanswm y Dyraniad Cyllid

6,371

6,716

6,696

6,027

Ar gyfer 2020 hyd 2021, derbyniodd ACC ddyraniad o £6,196,000 ar gyfer gwariant Refeniw gan Lywodraeth Cymru (2019 hyd 2020 £6,616,000) a £175,000 ar gyfer Cyfalaf (2019 hyd 2020 £80,000).

Cyllid a Dynnwyd yw'r arian gwirioneddol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn; a'r Dyraniad Cyllid yw'r swm a ddyfarnwyd i ni ar gyfer talu costau rhedeg hanfodol ac i ariannu gwelliannau i'r system a'r broses fusnes sy'n cyfrannu at leihau'r risg o golli treth.

Mae'r Dyraniad Cyllid yn wahanol i'r Cyllid a Dynnwyd gan y byddwn ond yn tynnu cyllid i lawr yn ôl yr angen i dalu costau wrth iddynt ddod yn ddyledus. Mae Cyllid a Ddyrannwyd yn cynnwys costau ar gyfer gwariant y gallai ACC ei wneud ond nad yw wedi'i dalu eto (er enghraifft masnach a symiau taladwy eraill).

Tynnwyd cyllid ychwanegol i lawr ar ddechrau 2020 hyd 2021 i dalu am wariant yn ymwneud â 2019 hyd 2020. Roedd hyn o fewn y Dyraniad Cyllid ar gyfer 2019 hyd 2020.

Gwariant ar gyfer 2020 hyd 2021

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Costau Staff

4,430

4,317

Costau Eraill sy'n Gysylltiedig â Staff

139

205

Costau Gweithredu Eraill

1,490

1,933

Dibrisiant

31

35

Amorteiddiad

804

870

Gwariant Gweithredu Net

6,894

7,360

Mae ein gwariant wedi’i reoli’n effeithlon drwy gydol y flwyddyn ac roedd y gwariant terfynol 2% yn is na'r arian a ddyrannwyd. Y gwariant gweithredu net cyn dibrisiant ac amorteiddiad, a chyn addasiad rhagdalu yn ymwneud â 2019 hyd 2020, oedd £6,098,000 (o'i gymharu â'r gyllideb o £6,196,000). Rheolwyd lefelau wrth gefn i’w cadw dan 2% o'r gwariant gweithredu net cyn dibrisiant ac amorteiddiad.

Cynhaliodd Tîm Arwain adolygiad yn ystod y flwyddyn i sicrhau bod yr arian oedd ar gael yn cael ei wario'n effeithiol mewn ymateb i COVID-19. Nododd yr adolygiad gyfleoedd i gyflwyno prosiectau gallu digidol, a gyflawnwyd yn effeithlon, a chydag arbedion.

Trethi Datganoledig

Yn ystod y flwyddyn cododd ACC drethi ar ran Llywodraeth Cymru fel y nodir yn y tabl isod.

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Treth Trafodiadau Tir

210,510

260,281

Treth Gwarediadau Tirlenwi

31,719

36,926

Cyfanswm y trethi a'r refeniw

242,229

297,207

Cyfrifon blynyddol ACC 2020 hyd 2021

Prosesodd ACC ychydig dros 53,400 o ffurflenni TTT, (2019 hyd 2020: 61,000). O'r ffurflenni hyn, arweiniodd ychydig dros 46% at rwymedigaeth a oedd angen ei dalu (2019 hyd 2020: 53%). Roedd cyfran is o ffurflenni ag atebolrwydd i’w ddisgwyl oherwydd y gostyngiad yn y prif gyfraddau TTT preswyl a oedd yn berthnasol i drafodiadau a gwblhawyd rhwng 27 Gorffennaf 2020 a diwedd y flwyddyn ariannol. Cynhyrchodd hyn incwm refeniw net o £210 miliwn ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru (2019 hyd 2020: £260 miliwn).

Gwnaethom hefyd brosesu ad-daliadau TTT cyfradd uwch o £9.78 (2019 hyd 2020: £11.25 miliwn) gan ad-dalu'r trethdalwr o fewn 7 diwrnod o dderbyn yr hawliad ar gyfartaledd.

Arweiniodd cosbau yn sgil cyflwyno ffurflenni'n hwyr a/neu dalu treth yn hwyr at £136,000 (2019 hyd 2020: £327,000) o refeniw ychwanegol a godwyd ynghyd â thaliadau llog hwyr o £130,000 (2019 hyd 2020: £45,000).

Talodd ACC gyfanswm o £82,000 mewn llog i drethdalwyr (2019 hyd 2020: £42,000) lle cafodd y trethdalwr ad-daliad treth. Digwyddodd hyn naill ai o ganlyniad i ddiwygiad i ffurflen dreth neu pan gymeradwywyd cais am ad-daliad o elfen gyfradd uwch TTT ar ôl gwerthu prif eiddo preswyl blaenorol o fewn cyfnod o dair blynedd.

Casglodd ACC y symiau arian parod net canlynol yn llwyddiannus:

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Arian Net a Gasglwyd

264,878

271,377

Arian Parod a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru

260,400

274,000

Bydd gweddill yr arian parod yn cael ei gadw ar gyfrif a'i dalu yn y flwyddyn ariannol nesaf. 

Adroddiad Atebolrwydd

Datganiad o gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, mae'r Prif Weithredwr, Dyfed Alsop, yn bersonol gyfrifol am: 

  • warchod arian cyhoeddus yn briodol
  • gweithrediadau a rheolaeth yr Awdurdod o ddydd i ddydd
  • sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'

O dan adrannau 29(1)(b) a 30(1) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) (DCRhT) 2016, mae Gweinidogion Cymru wedi cyfarwyddo ACC i baratoi ein cyfrifon adnoddau a'n datganiad treth ar gyfer pob blwyddyn ariannol ar y ffurf ac ar y sail a nodir yn y Cyfarwyddyd Cyfrifon. 

Paratoir y cyfrifon ar sail croniadau ac mae'n rhaid iddynt roi darlun cywir a theg o sefyllfa ACC ac o'i alldro adnoddau net, ei ddefnydd o adnoddau, newidiadau yn ecwiti trethdalwyr a llifau arian parod ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Wrth baratoi'r cyfrifon, mae'n rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu gydymffurfio â gofynion Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM), a rhaid iddynt yn enwedig: 

  • ufuddhau i'r cyfarwyddyd cyfrifon a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, gan gynnwys y gofynion cyfrifyddu a datgelu perthnasol, a defnyddio polisïau cyfrifyddu addas yn gyson 
  • gwneud dyfarniadau ac amcangyfrifon ar sail resymol
  • nodi os dilynwyd safonau cyfrifyddu perthnasol fel y'u nodwyd yn FReM neu beidio, gan ddatgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol yn y cyfrifon 
  • paratoi'r cyfrifon ar sail busnes gweithredol 
  • cadarnhau bod y Cyfrifon Blynyddol, yn eu cyfanrwydd, yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy, a chymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a'r dyfarniadau sy'n ofynnol ar gyfer pennu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn ddealladwy

Yn ogystal, rhaid i'r Swyddog Cyfrifyddu sicrhau bod y datganiad treth yn cael ei baratoi yn unol ag adran 25 o'r DCRhT er mwyn: 

  • dangos y symiau sy'n dderbyniadwy o gasglu trethi, cosbau ac incwm arall, unrhyw ddidyniadau a ganiateir, a'r symiau a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru 
  • datgelu gwybodaeth am unrhyw wariant neu incwm o bwys na chafodd ei ddefnyddio i'r dibenion y'u bwriadwyd gan Lywodraeth Cymru neu drafodiadau perthnasol nad ydynt wedi cydymffurfio â safonau’r awdurdodau sy'n eu rheoli

Mae dyletswyddau Swyddog Cyfrifyddu yn cynnwys derbyn y cyfrifoldeb am briodoldeb a rheoleidd-dra'r cyllid cyhoeddus y mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn atebol amdano, am gadw cofnodion priodol ac am ddiogelu asedau ACC, ac fe’u nodir ym Memorandwm y Swyddog Cyfrifyddu, y Ddogfen Fframwaith a Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Fel Swyddog Cyfrifyddu ACC, rwy'n cadarnhau: 

  • fod y Cyfrifon Blynyddol yn eu cyfanrwydd ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 yn deg, yn gytbwys, ac yn rhesymol 
  • fy mod yn cymryd cyfrifoldeb personol am y Cyfrifon Blynyddol a’r dyfarniadau sy’n ofynnol ar gyfer penderfynu eu bod yn deg, yn gytbwys ac yn rhesymol
  • wrth gynhyrchu'r cyfrifon hyn, rwyf wedi ymgynghori'n eang, gan geisio adborth a sylwadau ac wedi ceisio sicrwydd gan Fwrdd Rheoli ACC, gan y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC), gan yr archwilwyr mewnol ac aelodau o'r tîm staff ehangach
  • rwyf wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau fy mod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol a chadarnhau bod ein harchwilwyr yn ymwybodol o'r wybodaeth honno 
  • hyd y gwn i, nad oes unrhyw wybodaeth archwilio berthnasol nad yw ein harchwilwyr yn ymwybodol ohoni 

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
23 Mehefin 2021

Datganiad Llywodraethiant

Cyflwyniad a chwmpas cyfrifoldeb

Fel y Swyddog Cyfrifyddu rwy'n gyfrifol yn bersonol am y Datganiad Llywodraethiant sy'n amlinellu'r ffordd rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldeb i reoli ein hadnoddau yn ystod y flwyddyn ariannol.

Mae'r Datganiad yn rhoi cyfrif o’n strwythur llywodraethu corfforaethol, trosolwg o'r trefniadau rheoli risg, a disgrifiad o'r prif risgiau a wynebir gan y sefydliad.

Mae DCRhT (Cymru) 2016, yn fy nynodi i fel y Swyddog Cyfrifyddu, ac mae manylion fy nghyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu wedi'u hatodi i'r Ddogfen Fframwaith a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Llywodraethiant corfforaethol

Mae ein Bwrdd yn rhoi arweiniad a chyfeiriad ac mae ganddo gyfrifoldeb cyfreithiol cyffredinol dros sicrhau bod safon llywodraethu effeithiol a phriodol o fewn y sefydliad. Felly, mae'n chwarae rhan bwysig o ran craffu ar berfformiad y tîm rheoli wrth iddynt gyflawni’r amcanion a blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.

Fel Prif Weithredwr, rwy’n gyfrifol am sicrhau bod system reolaeth fewnol gadarn yn cael ei chynnal er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni polisïau, nodau, ac amcanion ac am adolygu effeithiolrwydd y system yn rheolaidd.

Mae ein Bwrdd yn atebol i’r Senedd a Gweinidogion Cymru. Maent yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cyflawni'r amcanion a'r blaenoriaethau y cytunodd ein sefydliad a Gweinidogion Cymru arnynt, fel y nodir yn y Llythyr Cylch Gwaith Blynyddol ac a adlewyrchir yn ein Cynllun Corfforaethol, y cytunwyd arno gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd.

Yn ystod y flwyddyn, mynychodd Cadeirydd y Bwrdd a minnau gyfarfodydd chwarterol gyda'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, ochr yn ochr â swyddogion o Drysorlys Cymru, i drafod ein perfformiad gweithredol a datblygu polisïau a strategaethau newydd. Roedd y cyfarfodydd yn gyfle i'r Cadeirydd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Gweinidog am berfformiad a chynnydd y Bwrdd.

Fframwaith llywodraethiant

Mae ein strwythur, ein polisïau, a'n gweithdrefnau cyfundrefnol wedi'u sefydlu yn unol â Llywodraethu Corfforaethol o fewn Adrannau’r Llywodraeth Ganolog y DU (2017). Mae ein strwythur arweinyddiaeth yn gyson â rolau a chyfrifoldebau disgwyliedig ar gyfer uwch reolwyr; mae gweithdrefnau ategol ar waith i sicrhau y gall rolau’r Bwrdd weithredu'n effeithiol. Mae gennym lwybrau adrodd clir i sicrhau bod atebolrwydd a rheolaethau mewnol allweddol ar waith. Sicrheir annibyniaeth penderfyniadau ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol drwy ddirprwyo pob penderfyniad o'r fath i Bwyllgor Pobl y Bwrdd (aelodau anweithredol yn unig). Rydym yn cynnal perthynas waith adeiladol gyda'n rhanddeiliaid allweddol drwy gynnal cyfarfodydd rheolaidd.

Trosolwg

Mae gan y Bwrdd, ARAC, a’r Pwyllgor Pobl rolau allweddol mewn perthynas â llywodraethiant a sicrwydd, craffu, trafodaethau ar ddatblygu, asesu risgiau cyfredol a monitro perfformiad. Caiff pwyllgorau eu cadeirio gan aelodau Anweithredol ac mae aelodau perthnasol o'r Tîm Arwain yn eu mynychu. Maent oll yn ateb yn uniongyrchol i'r Bwrdd ac mae’r holl gofnodion ar gael i bob aelod o'r Bwrdd. Ceir trosolwg o weithgarwch y Bwrdd a'i Bwyllgorau yn ystod y flwyddyn isod.

Amgylchiadau eithriadol

Yn ystod y flwyddyn gwelwyd fod ein seilwaith TG yn y cwmwl yn gadarn a’i fod yn caniatáu i bobl weithio gartref yn gyfan gwbl. Roedd ein Cynllun Parhad Busnes yn cael ei adolygu'n barhaus yn ogystal â’r prosesau llywodraethu, a gwnaethpwyd addasiadau yn ystod y flwyddyn i gefnogi'r newid mewn amgylchiadau. Y norm trwy’r flwyddyn oedd cynnal cyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgor yn rhithwir (ac yn amlach hefyd). Nodwyd risgiau newydd a sefydlwyd rheolaethau priodol gennym, yn bennaf o ran sicrhau iechyd a llesiant parhaus ein staff ac er mwyn rheoli’r risgiau treth oedd yn gysylltiedig â COVID-19. Cymerwyd camau i gynnal uniondeb ein seilwaith TG a diogelwch ein data hefyd.

Y Bwrdd

Mae'r Bwrdd yn cynnwys pum Aelod Anweithredol, y Prif Weithredwr, dau Aelod Gweithredol, ac Aelod Staff Etholedig. Mae Ymgynghorwyr y Bwrdd yn cynnwys: Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru; Prif Swyddog Cyllid; Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu; Pennaeth Staff; Pennaeth Cyfreithiol a Phennaeth Cyfathrebu. Rhestrir aelodaeth bresennol y Bwrdd a’u presenoldeb mewn cyfarfodydd isod.

Ym mis Hydref 2020 daeth dau aelod Anweithredol at ddiwedd eu tymor. Oherwydd pandemig COVID-19 ni lwyddwyd i gynnal ymgyrch recriwtio i benodi olynwyr. Penderfynwyd llenwi'r rolau hyn gyda phenodiadau dros dro am gyfnod o 12 mis i sicrhau gwydnwch y Bwrdd, o leiaf hyd nes y gellid rhoi ymgyrch lawn ar waith. Byddai'r Bwrdd fel arfer yn cyfarfod yn ffurfiol 6 gwaith yn ystod y flwyddyn.

Oherwydd COVID-19 cynhaliwyd cyfarfodydd ychwanegol i drafod ailflaenoriaethu sefydliadol a llesiant staff, gan roi cyfanswm o 15 cyfarfod yn ystod y flwyddyn ariannol.

Cynhaliwyd dau ddiwrnod cwrdd i ffwrdd ar gyfer y Bwrdd; y Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Strategaeth blynyddol ym mis Gorffennaf 2020, a’r Gweithdy Adolygu Effeithiolrwydd blynyddol ym mis Ionawr 2021.

Mae cofnodion ar gael ar ein gwefan.

Perfformiad ac effeithiolrwydd y Bwrdd

Asesir perfformiad y Cadeirydd yn annibynnol bob chwe mis yn erbyn amcanion. Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru sy'n arwain y broses arfarnu ar ran y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd.

Mae'r Cadeirydd yn cynnal cyfarfodydd adolygu perfformiad bob chwe mis gyda holl aelodau'r Bwrdd. Mae Aelodau Anweithredol a'r Aelod Staff Etholedig wedi cytuno ar amcanion unigol, sef meysydd i dderbyn ffocws penodol o fewn eu goruchwyliaeth unigol ac i’w trafod yn eu cyfarfodydd perfformiad.

O ystyried yr amgylchiadau o ganlyniad i COVID-19 a’r newidiadau i’r aelodaeth Anweithredol yn ystod y flwyddyn, penderfynwyd atal yr arfer o bennu amcanion unigol dros dro, a hynny er mwyn canolbwyntio ymdrechion cyfunol y Bwrdd ar flaenoriaethau sefydliadol.

Dangoswyd ymrwymiad cryf a gwelwyd tystiolaeth o hynny drwy bresenoldeb aelodau mewn cyfarfodydd Bwrdd, Pwyllgorau, a chyfarfodydd eraill. 

Adolygodd y Bwrdd ei berfformiad cyfunol yn ystod y flwyddyn drwy arolwg ar-lein dienw blynyddol, a chafodd y canlyniadau eu hystyried a'u trafod ochr yn ochr â chanlyniadau'r arolwg o'r flwyddyn flaenorol. Gofynnwyd i'r Bwrdd asesu eu heffeithiolrwydd ar draws 18 maes; Dangosodd canlyniadau'r arolwg welliannau mewn 13 o'r 18 maes, ac roedd un wedi cynnal ei sgôr o 100%. Roedd data'r arolwg yn cadarnhau barn y Bwrdd bod y gwelliannau mwyaf arwyddocaol wedi'u gwneud yn y meysydd canlynol:

  • pob un o aelodau'r Bwrdd yn cyfrannu
  • bod yn agored ac yn onest
  • perthnasoedd rhanddeiliaid
  • arweinyddiaeth weladwy

Cadarnhaodd canlyniadau'r arolwg farn y Bwrdd bod gostyngiad bach wedi bod yn y meysydd canlynol, mewn rhai achosion o ganlyniad i newidiadau sy'n gysylltiedig â’r pandemig: 

  • llywodraethu cywir
  • effeithiol ac effeithlon
  • canolbwyntio ar y pynciau cywir
  • rheoli gwybodaeth

Ar ddiwrnod ‘cwrdd i ffwrdd’ effeithiolrwydd y Bwrdd ym mis Ionawr, trafododd yr aelodau feysydd i'w gwella a chytunwyd ar rai camau gweithredu.

Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC)

Mae ARAC yn cefnogi'r Bwrdd a'r Swyddog Cyfrifyddu (y Prif Weithredwr) drwy adolygu pa mor gynhwysfawr a dibynadwy yw sicrwydd o ran llywodraethu, rheoli risg, yr amgylchedd rheoli, a'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon.

Nifer y cyfarfodydd yn 2020 hyd 2021: 6

Roedd nifer y cyfarfodydd yn uwch nag yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ond cwtogwyd hyd y 4 cyfarfod cyntaf. Gwnaed hyn er mwyn helpu'r Pwyllgor i addasu i'r trefniadau gweithio newydd ac i reoli ei waith yn effeithiol yn ystod y pandemig.

Cadeirydd: Jocelyn Davies

Aelodau: Gan gynnwys y Cadeirydd, 3 Aelod Anweithredol. Mae gan Gadeirydd ein Bwrdd wahoddiad agored i fynychu cyfarfodydd hefyd. Ymgynghorwyr y Pwyllgor yw’r Prif Weithredwr, y Prif Swyddog Cyllid, cynrychiolydd Archwilio Mewnol, y Rheolwr Archwilio a Risg ac (o fis Ionawr 2021) y Prif Swyddog Gweithredu. Mae cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ac Archwilio Cymru hefyd yn mynychu'n rheolaidd.

Pwyllgor Pobl

Sefydlwyd y Pwyllgor Pobl i gefnogi'r Bwrdd drwy gynnig sicrwydd a chraffu mewn perthynas ag effeithiolrwydd cynllunio a recriwtio olyniaeth staff uwch, a chymeradwyo ymyriadau pan fo buddiannau’r Tîm Arwain yn gwrthdaro, megis ynglŷn â chydnabyddiaeth ariannol, telerau cytundebol, ac unrhyw daliadau terfynu neu ddiswyddiadau o dan Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Nifer y cyfarfodydd yn 2020 hyd 2021: 3

Cadeirydd: Dyfed Edwards

Aelodau: Gan gynnwys y Cadeirydd, mae gan y Pwyllgor dri Aelod Anweithredol. Mynychir pob cyfarfod hefyd gan y Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu a'r Prif Weithredwr.

Uchafbwyntiau 2020 hyd 2021

  • Cytuno ar ddyfarniad cyflog yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) ar gyfer 2020 hyd 2021.
  • Craffu a darparu cyngor yn seiliedig ar brofiad sy'n ymwneud â chynllunio olyniaeth Tîm Arwain a chynlluniau recriwtio uwch arfaethedig.
  • Sesiwn ar wahân i roi sicrwydd ac i herio ar y risgiau pobl a nodwyd sy'n ymwneud â COVID-19 ac effaith Storm Dennis.

Presenoldeb aelodau'r Bwrdd a'r Pwyllgor

Presenoldeb aelodau yng nghyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgor yn ystod 2020 i 21:

Aelodau'r Bwrdd/Pwyllgor

Bwrdd

ARAC

Pwyllgor Pobl

Nifer o gyfarfodydd a gynhaliwyd

15

6

2

Aelodau Anweithredol:

Kathryn Bishop (Cadeirydd - Bwrdd)

15

Amh

2

Jocelyn Davies (Cadeirydd - ARAC)

15

6

2

Dyfed Edwards (Is-gadeirydd - Bwrdd, Cadeirydd - Pwyllgor Pobl)

15

Amh

2

David Jones (tan fis Hydref 2020)

12

4

Amh

Lakshmi Narain (until October 2020)

12

4

Amh

Mary Champion (ers mis Hydref 2020)

3

2

Amh

Rheon Tomos (ers mis Hydref 2020)

3

2

Amh

Aelodau Gweithredol:

Dyfed Alsop (Prif Weithredwr)

13

6*

2*

Sean Bradley (tan fis Mai 2020)

0

Amh

Amh

Rebecca Godfrey (ers mis Mai 2020)

10

Amh

Amh

Sam Cairns

14

1*

Amh

Aelod Staff Etholedig

Lucy Robinson

14

Amh

Amh

*Presenol fel ymgynghorwr

Risg Strategol

Fel y Swyddog Cyfrifyddu, mae gennyf gyfrifoldeb penodol dros reoli ac adrodd ar risg. Mae gan y Bwrdd gyfrifoldeb i sicrhau bod y systemau rheoli risg yn gadarn ac yn amddiffynadwy, ac mae hefyd yn rhoi arweiniad clir ar yr archwaeth risg a ddymunir y disgwylir rheoli risgiau oddi mewn iddi. Mae ARAC yn cefnogi'r Bwrdd o ran edrych ar reoli risg ac yn rhoi cyngor yn ogystal â chynorthwyo a herio Tîm Arwain. Rhoddodd yr adolygiad archwilio mewnol o reoli risg sicrwydd rhesymol a chytunwyd ar gamau i wella'r system rheoli risg yn 2021 i 2022.

Crynodeb o'r prif risgiau strategol

Mae effaith COVID-19 a symud i swyddfeydd newydd yn sgil llifogydd 2020 yn parhau i beri risgiau i lesiant staff, ac rydym yn rheoli’n weithredol drwy ymgysylltu â staff.

Mae'r risgiau sy'n gysylltiedig â chapasiti gweithredol, sicrhau'r gymysgedd iawn o sgiliau, ac adnoddau cyllidebol, yn adlewyrchu maint a natur esblygol yr adran. Rydym yn parhau i gydweithio, i arloesi, a gweithio'n hyblyg fel tîm er mwyn lliniaru'r risgiau hyn, fel y gallwn ymateb i flaenoriaethau trethiant yng Nghymru.

Rydym hefyd yn ymwybodol o beryglon efadu ac osgoi trethi, ac yn lliniaru cyfleoedd i wneud hynny trwy ddatblygu gwybodaeth gan ddefnyddio data a thrwy gydweithio ag awdurdodau eraill.

Mae risg nad yw ein data a'n gallu digidol i reoli risg treth yn cael eu deall yn llawn ac felly rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid strategol i ddatblygu ymwybyddiaeth ac ymgysylltiad. Fel sefydliad digidol mae'r risg i wybodaeth a diogelwch gan fygythiadau seibr yn golygu bod llywodraethiant yn y maes hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth.

Holiadur Rheolaeth Fewnol Blynyddol a datganiadau sicrwydd a ddarparwyd i'r Swyddog Cyfrifyddu

Drwy gwblhau Holiadur Rheolaeth Fewnol (ICQ) blynyddol, mae uwch reolwyr yn darparu hunanasesiadau i mi o drefniadau rheolaeth fewnol, llywodraethu, a rheoli risg, a'u barn ar ba mor effeithiol y bu’r rheolaethau’n gweithredu yn ystod y flwyddyn. Rhoddodd yr ymarfer diweddaraf sicrwydd cadarnhaol o ran y gweithgareddau a'r swyddogaethau allweddol a gyflawnwyd. Roedd pum maes lle'r oedd y sgôr sicrwydd wedi newid ers ICQ y llynedd, a chytunwyd i adolygu crynodeb o'r camau gweithredu ar ôl chwe mis. Nodwyd rhai meysydd i'w datblygu yn y dyfodol a sefydlwyd cynllun gweithredu. Ni chanfuwyd unrhyw wendidau rheoli sylfaenol yn ystod y cyfnod adrodd.

Rwyf hefyd wedi cael sicrwydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y swyddogaethau dirprwyedig sy’n ymwneud â TGT, ac wedi ceisio sicrwydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'i darpariaeth o wasanaethau Adnoddau Dynol a rennir.

Archwiliad mewnol

Gwnaethom benodi Gwasanaethau Archwilio Mewnol (IAS) Llywodraeth Cymru i gyflawni rhaglen o waith archwilio a darparu sicrwydd i'r Swyddog Cyfrifyddu ac i'r Bwrdd, drwy ARAC, ynghylch y rheolaethau sydd ar waith i reoli risg ac ansawdd a chydymffurfiaeth ACC wrth gyflenwi gwasanaethau.

Mae'r rhaglen archwilio yn seiliedig ar risg ac yn cael ei chytuno'n flynyddol gydag ARAC a'r Swyddog Cyfrifyddu. Mynychodd yr Archwilwyr Mewnol gyfarfodydd ARAC i gyflwyno adroddiadau ar y cynnydd a wnaed o ran rhoi'r rhaglen ar waith a chydgysylltu eu gwaith ehangach gyda gwaith Archwilio Cymru.

Darparodd y Pennaeth Archwilio Mewnol farn ac adroddiad blynyddol. Roedd y rhan fwyaf o'r gwaith archwilio wedi'i gynllunio ymlaen llaw ac roedd yn cynnwys, gan fwyaf, adolygiadau archwilio ffurfiol o feysydd gweithredol a pholisi, yn dilyn dull archwilio sy'n seiliedig ar risg. Cyhoeddwyd adroddiadau ffurfiol ar yr holl waith archwilio a gwblhawyd. Yn ystod 2020 hyd 2021, cyhoeddodd y Gwasanaethau Archwilio Mewnol 6 adroddiad, darparwyd cyngor ar ddiogelu data ganddynt, a gwnaethant fynychu cyfarfodydd ARAC.

Roedd y Cynllun Archwilio yn ddigon cynhwysol i roi barn eang ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer rheoli risg, rheoli a llywodraethu. Y farn archwilio, yn seiliedig ar ganlyniadau'r gwaith archwilio yn ystod y flwyddyn, oedd:

Gall y rheolwyr fod â sicrwydd rhesymol bod y trefniadau ar gyfer sicrhau llywodraethiant, rheoli risg, a rheoli’n fewnol, o fewn y meysydd sy’n cael eu hadolygu, wedi eu cynllunio'n briodol a'u cymhwyso'n effeithiol. Mae angen i’r rheolwyr roi sylw i rai materion o ran dylunio rheolaeth neu gydymffurfiaeth, ac mae iddynt risg gymedrol hyd nes y caiff hynny ei ddatrys.

Cynhyrchwyd canlyniadau cadarnhaol gan yr holl waith archwilio a wnaed yn y cyfnod. Yn gyffredinol, credwn fod cynnydd effeithiol wedi'i wneud o ran gweithredu fframwaith cadarn o lywodraethu a rheoli risg o fewn ACC. Lle nodwyd gwendidau sylweddol gennym, hyd yn oed o'u hagregu, nid oeddent yn arwyddocaol i'r farn gyffredinol.

Mae rhagor o fanylion am yr adroddiadau archwilio yn dilyn:

Aseiniad

Barn sicrwydd

Nifer yr Arsylwadau

Sylfaenol

Arwyddocaol

Yn haeddu sylw

Ad-daliadau Treth

Rhesymol

-

-

1

Cymhwyso Cosbau am Anghywirdeb

Rhesymol

-

1

-

Y Broses Gwyno a Dolenni Adborth

Rhesymol

-

1

1

Trefniadau Dirprwyo gyda CNC

Rhesymol

-

-

2

Rheoli Risg

Rhesymol

-

4

-

Rheoli Gwybodaeth

Sylweddol

-

-

1

Dechreuom adolygiad o'n harferion rheoli risg yn 2020 hyd 2021 ac rydym wedi ymrwymo i weithredu pob un o bum gofyniad gorfodol y Llyfr Oren.

Archwilio Allanol

Caiff ein sefydliad ei archwilio gan Archwilio Cymru sydd, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gyfrifol am adolygu ac archwilio rheolaethau ariannol a dibynadwyedd y cyfrifon ariannol. Mae Archwilio Cymru yn cyhoeddi adroddiad archwilio ac yn cyflwyno ei ganfyddiadau i ARAC a'r Bwrdd. Mae adroddiad Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn i'w weld ar dudalen ar gyfer y Cyfrifon Adnoddau ac ar dudalen ar gyfer y Datganiad Treth.

Rheoli gwybodaeth a llywodraethiant

Rydym wedi datblygu Strategaeth Rheoli Gwybodaeth sy'n egluro ein dull o reoli'r wybodaeth sydd gan ein sefydliad. Rydym wedi sefydlu diwylliant sy'n cefnogi arfer gorau o ran rheoli data a gwybodaeth, drwy ddefnyddio polisïau, gweithdrefnau, canllawiau a hyfforddiant rheolaidd priodol ar gyfer ein pobl.

Ni dderbynodd ein Swyddog Diogelu Data unrhyw ohebiaeth yn uniongyrchol gan unrhyw wrthrych data ynghylch defnyddio data amdanynt sydd yn ein meddiant. Nid yw ein Swyddog Diogelu Data ychwaith wedi derbyn unrhyw ohebiaeth gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data yn ein sefydliad.

Wrth symud at drefniadau gweithio gartref yn bennaf, oherwydd COVID-19, gwnaethom ddefnyddio ein cynlluniau parhad busnes a oedd eisoes wedi’u profi. Ni wnaeth y trawsnewid hwn darfu llawer ar ein gweithrediadau a'n prosesau sylfaenol ac roedd y risg o ran rheoli data a gwybodaeth yn isel.

Seibrddiogelwch oedd y prif risg y gwnaethom ei rheoli'n weithredol drwy gydol y cyfnod, a cheir eglurhad am hynny isod. Serch hynny, gwnaethom edrych yn fanwl ar risgiau newydd posibl o'r newid hwn mewn trefniadau gweithio a rhoddwyd arweiniad a chymorth ychwanegol i'n pobl er mwyn sicrhau bod data a gwybodaeth yn parhau i gael eu rheoli'n ddiogel ac yn briodol wrth iddynt weithio gartref. 

Cawsom 16 o achosion o fynediad anghyfreithlon at ddata a dau achos a fu ‘bron a digwydd' yn ystod 2020 hyd 2021:

 

2020-21

2019-20

Math

Cyfanswm

I’w adrodd i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Cyfanswm

I’w adrodd i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Mynediad anghyfreithlon at ddata

16

0

6

0

Achos a fu bron a digwydd

2

Amh

10

Amh

Roedd y cynnydd mewn achosion o fynediad anghyfreithlon at ddata o'i gymharu â'r llynedd yn deillio'n bennaf o nifer o ddigwyddiadau'n ymwneud â defnyddio 'awtogwblhau' mewn negeseuon e-bost. Newidiwyd ein prosesau er mwyn lliniaru hyn, a datryswyd y mater. Nid oedd angen cyfeirio unrhyw achosion o dorri rheolau at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth oherwydd y risg isel i wrthrych y data ym mhob achos.

Cafwyd asesiad mewnol yn ystod y flwyddyn yn erbyn Fframwaith Atebolrwydd Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, a sefydlodd fod mesurau priodol ar waith i ddangos cydymffurfiaeth â GDPR y DU. Yn ogystal, rhoddodd archwiliad mewnol sicrwydd sylweddol o'n prosesau rheoli gwybodaeth.

Seibrddiogelwch

Mae ein sefydliad yn rhoi blaenoriaeth uchel i seibrddiogelwch. Mae ein Cofrestr Risg Gorfforaethol yn cynnwys dwy risg o ran methiant system TGCh a cholli gwybodaeth sy'n ymwneud â seibrddiogelwch yn benodol.

Rydym yn dilyn canllawiau'r Ganolfan Seibrddiogelwch Genedlaethol (NCSC) ynghylch seilwaith TG, dyfeisiau, data, a rhaglenni. Rydym yn glynu wrth safonau ac egwyddorion diogelwch ISO27001 ac ISO27002 sydd wedi’u halinio â Llywodraeth Cymru. Darperir sicrwydd o'n gweithrediadau diogelwch a'n safbwynt gan Lywodraeth Cymru.

I gefnogi ein seibrddiogelwch*: 

  • caiff ein holl seilwaith a meddalwedd digidol eu profi'n flynyddol gan ddefnyddio trydydd parti annibynnol achrededig gan NCSC
  • rydym wedi ymgymryd ag ardystiad Cyber Essentials Plus
  • profir diogelwch unrhyw newidiadau sylweddol i’r systemau a’r seilwaith digidol
  • mae hyfforddiant seibrddiogelwch gorfodol i bob aelod o staff ac Aelod Anweithredol
  • caiff staff eu profi'n rheolaidd drwy wahanol ymarferion efelychu gwe-rwydo a, lle bo angen, rhoddir hyfforddiant ychwanegol
  • mae cynllun digwyddiad seibrddiogelwch a defnyddir senarios 'ymarfer mewn blwch' NCSC i efelychu digwyddiadau seibrddiogelwch; mae'r profion hyn yn profi gwydnwch ein cynllun digwyddiadau ac ymwybyddiaeth staff o ymosodiadau seibr
  • rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid allweddol fel NCSC, Microsoft, CThEM, Llywodraeth Cymru a Chanolfan Seibrddiogelwch Prifysgol De Cymru i adolygu a gwella risgiau seibrddiogelwch

* Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysol. 

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Cawsom naw cais Rhyddid Gwybodaeth yn ystod y flwyddyn, ac ymatebwyd i bob un ohonynt o fewn y terfynau amser priodol. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion yn ymwneud â'r ffordd yr ymdriniwyd â cheisiadau am wybodaeth ac ni chafwyd unrhyw ymchwiliadau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Chwythu’r Chwiban

Mae gennym bolisi a chanllawiau Chwythu'r Chwiban ar waith i roi manylion clir i staff am sut i leisio unrhyw bryderon, a swyddog enwebedig i dderbyn unrhyw ddatgeliadau.

Mae ein sefydliad hefyd yn berson rhagnodedig ar gyfer materion sy'n ymwneud â threthi datganoledig Cymru. Mae hyn yn golygu y gall gweithiwr mewn unrhyw sefydliad sydd â phryder sy'n ymwneud â threthi datganoledig Cymru ac sydd am chwythu'r chwiban wneud datgeliad gwarchodedig i ni.

Ni wnaed unrhyw ddatgeliadau o dan y naill gyfrifoldeb na'r llall yn ystod y flwyddyn.

Safonau’r Gymraeg

Nid oes gennym ein Safonau ffurfiol ein hunain o ran y Gymraeg. Fodd bynnag, rydym yn cydymffurfio'n wirfoddol â Safonau Llywodraeth Cymru lle mae hynny'n briodol ac yn gymesur. Cytunwyd ar Strategaeth y Gymraeg yn ystod y flwyddyn a datblygwyd cynllun gweithredu blynyddol i gefnogi'r strategaeth. Mae ein cynllun yn canolbwyntio ar ddiwylliant, dysgu a datblygu, a chreu cyfleoedd i'n pobl a'n cwsmeriaid i ddefnyddio'r Gymraeg.

Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Rydym yn ymroddedig i sicrhau dyfodol cynaliadwy i bobl Cymru. Er nad ydym yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Ein Dull (sy'n llywio popeth a wnawn) yn ymgorffori ysbryd ac ymdeimlad y Ddeddf ac mae’r gwaith y gofynnwyd i ni ei wneud gan Weinidogion Cymru yn cefnogi nodau'r Ddeddf.

Casgliad

Fel y Swyddog Cyfrifyddu ar gyfer ein sefydliad, cadarnhaf fod y datganiadau a wneir yn yr adroddiad hwn yn gywir ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2020 hyd 31 Mawrth 2021. Ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol o ran rheolaeth fewnol na llywodraethiant a chadarnhaf fod systemau rheolaeth fewnol cadarn ar waith i gefnogi cyflawniad nodau ac amcanion polisi'r sefydliad.

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 
23 Mehefin 2021

Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol ac Adroddiad Staff

Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol

Cytundebau gwasanaeth

Mae ein cyflogeion yn weision sifil. Mae Deddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i benodi aelodau o'r Gwasanaeth Sifil ar sail teilyngdod, mewn cystadleuaeth deg ac agored. Mae'r egwyddorion recriwtio a gyhoeddwyd gan Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil yn nodi o dan ba amgylchiadau y gellir gwneud penodiadau fel arall.

Mae'r uwch swyddogion y mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â hwy â phenodiadau sy'n benagored, naill ai gyda ni yn uniongyrchol, neu â'u hadrannau Gwasanaethau Sifil cartref os ydynt ar fenthyg i ACC. Mewn achos o derfyniad cynnar, gan ACC neu gan unrhyw un o’r adrannau cartref hynny, ac eithrio am gamymddwyn, byddai'r unigolyn yn cael iawndal yn unol â'r hyn a nodir yng Nghynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith Comisiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Polisi cydnabyddiaeth ariannol

Nid yw cydnabyddiaeth ariannol aelodau’r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) wedi'i ddirprwyo, yn wahanol i gydnabyddiaeth ariannol staff sydd islaw'r SCS. Mae hyn yn golygu bod ACC yn gweithredu tâl yr Uwch Wasanaeth Sifil yn unol â'r rheolau a nodir ym Mhennod 7.1, Atodiad A o God Rheoli’r Gwasanaeth Sifil a chanllawiau blynyddol a gynhyrchir gan Swyddfa Cabinet y DU, yn dilyn argymhellion gan y Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion (SSRB). Wrth wneud ei argymhellion, rhaid i’r Corff Adolygu Cyflogau Uwch-swyddogion roi sylw i'r ystyriaethau canlynol: 

  • yr angen i recriwtio, cadw a chymell, a, lle bo'n berthnasol, hybu pobl addas, abl, a chymwys i gyflawni eu gwahanol gyfrifoldebau 
  • yr amrywiaethau rhanbarthol/lleol mewn marchnadoedd llafur a'u heffeithiau ar recriwtio a chadw staff 
  • polisïau'r Llywodraeth ar gyfer gwella'r gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y gofyniad ar adrannau i gyrraedd y targedau allbwn ar gyfer darparu gwasanaethau adrannol 
  • yr arian sydd ar gael i adrannau fel y’i nodir yn nherfynau gwariant adrannol y llywodraeth 
  • targed chwyddiant y Llywodraeth 
  • tystiolaeth a dderbyniwn am ystyriaethau economaidd ehangach a fforddiadwyedd ein hargymhellion 

Ceir rhagor o wybodaeth am waith yr SSRB ar Wefan SSRB.

Mae ein Pwyllgor Pobl, dan gadeiryddiaeth Aelod Anweithredol, yn gyfrifol am argymell penderfyniadau tâl uwch swyddogion yn flynyddol, neu yn ôl y gofyn. Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am sicrhau bod cydnabyddiaeth ariannol cael ei drin yn deg ac yn unol â chanllawiau Swyddfa'r Cabinet. Mae'r Pwyllgor, yn ystod y cyfnod, wedi dewis alinio ei ddull gydag un Llywodraeth Cymru yn fras, sydd â rhywfaint o hyblygrwydd i weithredu o fewn y canllawiau a bennwyd gan Swyddfa'r Cabinet. Er enghraifft, nid ydym wedi gwneud unrhyw daliadau bonws yn gysylltiedig â pherfformiad i aelodau'r Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) yn ystod 2020 hyd 2021 na 2019 hyd 2020.

Mae cydnabyddiaeth ariannol ein gweithwyr islaw'r SCS yn adlewyrchu dull Llywodraeth Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am Bolisi Cyflog Llywodraeth Cymru yn LLYW.CYMRU

Mae Aelodau Anweithredol Bwrdd yr Awdurdod yn derbyn ffioedd am ddyletswyddau a gyflawnir ar ran yr Awdurdod, megis mynychu cyfarfodydd y Bwrdd a Phwyllgorau. Telir y ffioedd ar gyfradd ddyddiol fel y nodir yn eu llythyrau penodi, ac maent fel a ganlyn:

  Cyfradd Ddyddiol (£)

Cadeirydd Anweithredol

400

Is-gadeirydd Anweithredol

350

Aelod Anweithredol

300

Caiff costau angenrheidiol a ysgwyddir wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn eu had-dalu hefyd.

Datgeliad cydnabyddiaeth ariannol

Mae'r adran ganlynol yn darparu gwybodaeth am gydnabyddiaeth ariannol a buddiannau pensiwn rheolwyr uchaf yr Awdurdod, sef aelodau’r Bwrdd. Mae hyn yn cynnwys Aelodau Anweithredol ac uwch swyddogion, ond nid yw'n cynnwys aelod Aelod Staff Etholedig y Bwrdd.

Mae'r cyflog yn cynnwys y symiau pensiynadwy ac amhensiynadwy ac mae'n cwmpasu cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, neu lwfansau neu daliadau eraill i'r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU, ac unrhyw daliadau diswyddo neu ex-gratia. Nid yw ad-daliadau am gostau teg a ysgwyddir yn uniongyrchol wrth i unigolyn gyflawni ei ddyletswyddau yn cael eu cynnwys yn eu cyflog. Mae'r adroddiad hwn yn seiliedig ar daliadau cronedig a wnaed gan yr Awdurdod, ac wedi’u cofnodi felly yn y cyfrifon hyn.

Mae gwerth ariannol buddion mewn nwyddau yn cynnwys unrhyw fuddion a ddarperir gan yr Awdurdod ac y mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi yn eu trin fel enillion trethadwy.

Er mwyn cydbwyso gofynion adrodd yn erbyn preifatrwydd unigol, yn y rhan fwyaf o achosion rydym yn adrodd ffigurau cydnabyddiaeth ariannol mewn bandiau o £5,000 (er enghraifft, £65,000-£70,000).

Cydnabyddiaeth ariannol Anweithredol

Dyma'r ffioedd a dalwyd i Aelodau Anweithredol:

Aelod Gweithredol

Ffioedd

2020-21
£000

2019-20
£000

Kathryn Bishop
Cadeirydd Anweithredol 

20-25

15-20

Dyfed Edwards
Is-gadeirydd Anweithredol 

5-10

10-15

Jocelyn Davies
Aelod Anweithredol 

5-10

5-10

Martin Warren
Aelod Anweithredol (hyd at fis Awst 2019) 

Amh

0-5

David Jones
Aelod Anweithredol (hyd at fis Hydref 2020

0-5

5-10

Lakshmi Narain
Aelod Anweithredol (hyd at fis Hydref 2020) 

0-5

0-5

Mary Champion
Aelod Anweithredol (ers mis Hydref 2020) 

0-5

Amh

Rheon Tomos
Aelod Anweithredol (ers mis Hydref 2020) 

0-5

Amh

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad. 

Yn ogystal â'u ffioedd, pan fo gwaith Aelodau Anweithredol i ACC yn arwain at gostau teithio a threuliau angenrheidiol eraill ar gyfer mynychu cyfarfodydd, mae ganddynt hawl i ad-daliad o dan Bolisi Ffioedd a Threuliau ACC. Mae ACC yn talu’r rhwymedigaeth dreth sy'n deillio o'r ad-daliad.

Nid yw Aelodau Anweithredol yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod ac nid ydynt yn cael buddion pensiwn gan yr Awdurdod.

Cydnabyddiaeth ariannol a buddion pensiwn Uwch Swyddogion

Y ffigurau cydnabyddiaeth ariannol ar gyfer uwch swyddogion oedd:

 

Cyflog mewn bandiau o £5,000

Buddion pensiwn i'r £1,000 agosaf

Cyfanswm mewn bandiau o £5,000 

2020-21

2019-20

2020-21

2019-20

2020-21

2019-20

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr 

95-100

95-100

48,000

35,000

145-150

130-135

Rebecca Godfrey 
Prif Swyddog Strategaeth

70-75

05-10

40,000

4,000

115-120

10-15

Sean Bradley 
Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi (hyd at fis Mai 2020) 

05-10

65-70

10,000

31,000

15-20

100-105

Sam Cairns 
Prif Swyddog Gweithredu (ers mis Mai 2019)

80-85

75-80

33,000

33,000

110-115

105-110

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad. 

Nodiadau:

  • aseswyd bod y buddion mewn nwyddau yn sero yn 2020 hyd 2021 ac yn 2019 hyd 2020 
  • ni thalwyd unrhyw fonysau yn 2020 hyd 2021 nac yn 2019 hyd 2020 
  • cyfrifir gwerth buddion pensiwn a gronnwyd yn ystod y flwyddyn fel y cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn wedi'i luosi â 20, gan dynnu’r cyfraniadau a wnaed gan yr unigolyn. Nid yw'r cynnydd gwirioneddol yn cynnwys cynnydd oherwydd chwyddiant neu unrhyw gynnydd neu ostyngiad o ganlyniad i drosglwyddo hawliau pensiwn. 
  • Roedd Rebecca Godfrey ar absenoldeb mamolaeth o fis Mai 2019 hyd at fis Mai 2020, ac yn ystod y cyfnod hwnnw parhaodd i fod yn aelod o staff ond nid oedd yn Gyfarwyddwr gweithredol. Byddai ei chyflog blynyddol yn 2020 hyd 2021 wedi bod yn £80,000-85,000 (2019 hyd 2020: £75,000-80,000) 
  • Bu Sean Bradley, Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi, yn gweithio ar sail ran-amser ar raddfa 0.86 cyfwerth ag amser llawn (CALl). Byddai ei gyflog blynyddol CALl yn 2020 hyd 2021 wedi bod yn £80,000-85,000 (2019 hyd 2020: £80,000-85,000) 
  • Penodwyd Sam Cairns yn Brif Swyddog Gweithredu o 1 Mawrth 2020 mewn cystadleuaeth deg ac agored. Roedd wedi dal y swydd ar sail dyrchafiad Interim ers 1 Mai 2019. Byddai ei gyflog blynyddol yn 2019 hyd 2020 wedi bod yn £80,000-85,000 

Roedd buddion pensiwn swyddogion uwch yn: 

Uwch swyddogion

Pensiwn Cronedig ar oedran pensiwn ar 31/03/21 a chyfandaliad perthnasol

Cynnydd gwirioneddol mewn pensiwn a chyfandaliad cysylltiedig ar oedran pensiwn

CETV ar
31/03/21

CETV ar
31/03/20

Gwir gynnydd mewn CETV

£000

£000

£000

£000

£000

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr

25-30 a chyfandaliad o 45-50

2.5-5 a chyfandaliad o 0-2.5

421

377

24

Rebecca Godfrey 
Prif Swyddog Strategaeth

20-25

0-2.5

251

221

18

Sean Bradley 
Prif Swyddog Cyfreithiol a Pholisi 

30-35 a chyfandaliad o 10-15

 

0-2.5 a chyfandaliad o 0-2.5 

452

434

7

Sam Cairns 
Prif Swyddog Gweithredu

15-20

0-2.5

201

178

11

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad. * CETV = Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod.

Staff eraill

Pensiynau'r Gwasanaeth Sifil

Darperir buddion pensiwn drwy drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. O 1 Ebrill 2015 cyflwynwyd cynllun pensiwn newydd ar gyfer gweision sifil – Cynllun Pensiwn y Gweision Sifil ac Eraill neu alpha, sy'n darparu buddion ar sail cyfartaledd gyrfa gydag oedran pensiwn arferol sy'n hafal i oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr aelod (neu 65 os yw'n uwch). O'r dyddiad hwnnw ymunodd pob gwas sifil newydd a'r rhan fwyaf o'r rhai a oedd eisoes mewn gwasanaeth gydag alffa. Cyn y dyddiad hwnnw, roedd gweision sifil yn rhan o Brif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS). Mae pedair adran i'r PCSPS: tair sy’n darparu buddion ar sail cyflog terfynol (clasurol, premiwm neu glasurol plws) gydag oedran pensiwn arferol o 60; ac un sy'n darparu buddion ar sail gyrfa gyfan (nuvos) gydag oedran pensiwn arferol o 65. 

Ni chaiff y trefniadau statudol hyn eu hariannu a chaiff costau'r buddiannau eu talu gan arian a bleidleisir gan y Senedd bob blwyddyn. Cynyddir pensiynau sy'n daladwy o dan clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha yn flynyddol, yn unol â deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Arhosodd aelodau presennol y PCSPS a oedd o fewn 10 mlynedd i'w hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn y PCSPS ar ôl 1 Ebrill 2015. Bydd y rhai hynny a oedd rhwng 10 mlynedd a 13 mlynedd a 5 mis o'u hoed pensiwn arferol ar 1 Ebrill 2012 yn newid i alpha rhywbryd rhwng 1 Mehefin 2015 a 1 Chwefror 2022. Gan fod y Llywodraeth yn bwriadu dileu’r gwahaniaethu a nodwyd gan y llysoedd yn y ffordd y cyflwynwyd diwygiadau pensiwn 2015 ar gyfer rhai aelodau, disgwylir, maes o law, y gallai aelodau cymwys sydd â gwasanaeth perthnasol rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 fod â hawl i wahanol fuddion pensiwn mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw (a gall hyn effeithio ar y Gwerthoedd Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod a ddangosir yn yr adroddiad hwn – gweler isod). Bydd buddion PCSPS pob Aelod sy'n newid i alpha yn cael eu 'bancio', a'r rhai sydd â buddion cynharach yn un o adrannau cyflog olaf y PCSPS yn cael y buddion hynny ar sail eu cyflog terfynol pan fyddant yn gadael alpha. (Mae'r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy'n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun). Gall Aelodau a ymunodd o fis Hydref 2002 ymlaen ddewis naill ai'r trefniant buddion diffiniedig priodol neu bensiwn cyfraniad diffiniedig (prynu arian) gyda chyfraniad gan y cyflogwr (cyfrif pensiwn partneriaeth). 

Mae cyfraniadau cyflogeion yn gysylltiedig â chyflog ac yn amrywio rhwng 4.6% a 8.05% ar gyfer aelodau clasurol, premiwm, clasurol plws, nuvos ac alpha. Mae buddion clasurol yn cronni ar gyfradd o 1/80th o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn ogystal, telir cyfandaliad sy'n gyfwerth â thair blynedd o bensiwn cychwynnol ar adeg ymddeol. Mae buddion premiwm yn cronni ar gyfradd o 1/60 o enillion pensiynadwy terfynol ar gyfer pob blwyddyn o wasanaeth. Yn wahanol i’r cynllun clasurol, nid oes cyfandaliad awtomatig. Mae clasurol plws yn ei hanfod yn gymysgedd o’r ddau, gyda buddion am wasanaeth cyn 1 Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo'n fras fel rhai clasurol, a buddion am wasanaeth ers Hydref 2002 yn cael eu cyfrifo fel rhai premiwm. Gyda nuvos, bydd aelod yn cronni pensiwn ar sail eu henillion pensiynadwy yn ystod y cyfnod y bydd yn aelod o'r cynllun. Ar ddiwedd blwyddyn y cynllun (31 Mawrth), caiff y cyfrif pensiwn y mae’r aelod wedi’i gronni ei gredydu â 2.3% o'i enillion pensiynadwy ym mlwyddyn honno'r cynllun a chaiff y pensiwn cronedig ei uwchraddio yn unol â Deddfwriaeth Cynyddu Pensiynau. Mae buddion alpha yn cronni mewn ffordd debyg i nuvos, ond â chyfradd cronni o 2.32%. Ym mhob achos, gall Aelodau ddewis ildio (cymudo) pensiwn am gyfandaliad hyd at y terfynau a bennir gan Ddeddf Cyllid 2004. 

Mae’r cyfrif pensiwn partneriaeth yn drefniant pensiwn cyfraniadau diffiniedig galwedigaethol sy'n rhan o'r Mastertrust Legal & General. Mae'r cyflogwr yn gwneud cyfraniad sylfaenol o rhwng 8% a 14.75% (yn dibynnu ar oedran yr aelod). Nid oes rhaid i'r cyflogai gyfrannu, ond os bydd yn cyfrannu, bydd y cyflogwr yn rhoi cyfraniad cyfatebol hyd at derfyn o 3% o’r cyflog pensiynadwy (yn ogystal â chyfraniad sylfaenol y cyflogwr). Mae cyflogwyr hefyd yn cyfrannu 0.5% ychwanegol o gyflog pensiynadwy i dalu cost yswiriant buddion risg a ddarperir yn ganolog (marwolaeth mewn swydd ac ymddeoliad oherwydd salwch). 

Y pensiwn cronedig a ddyfynnir yw'r pensiwn y mae gan yr aelod hawl i'w gael pan fydd yn cyrraedd oedran pensiwn, neu cyn gynted ag y bydd wedi peidio â bod yn aelod gweithredol o'r cynllun os yw eisoes yn yr oedran pensiwn neu'n hŷn na hynny. 60 yw’r oedran pensiwn ar gyfer aelodau clasurol, premiwm a clasurol plws, 65 ar gyfer aelodau o nuvos, ac Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu 65, pa un bynnag yw’r uchaf, ar gyfer aelodau o alpha. (Mae'r ffigurau pensiwn a ddyfynnir ar gyfer swyddogion yn dangos pensiwn a enillwyd yn PCSPS neu alpha – fel sy'n briodol. Pan fo gan y swyddog fuddiannau yn y PCSPS ac alpha, y ffigur a ddyfynnir yw gwerth cyfunol eu buddion yn y ddau gynllun, ond noder y gallai rhan o’r pensiwn hwnnw fod yn daladwy o wahanol oedrannau.) 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar wefan cynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil.

Gwerth Trosglwyddo sy’n Gyfwerth ag Arian Parod

Gwerth Trosglwyddo Cyfwerth ag Arian Parod (CETV) yw gwerth cyfalaf, wedi’i asesu gan actiwari, buddion y cynllun pensiwn a gronnwyd gan aelod ar adeg benodol. Y buddion a gaiff eu prisio yw buddion cronedig yr aelod ac unrhyw bensiwn amodol i briod sy'n daladwy o'r cynllun. Mae CETV yn daliad a wneir gan gynllun neu drefniant pensiwn er mwyn diogelu buddion pensiwn cynllun neu drefniant pensiwn arall pan fydd yr aelod yn gadael cynllun ac yn dewis trosglwyddo'r buddiannau a gronnwyd yn ei hen gynllun. Mae'r ffigurau pensiwn a ddangosir yn ymwneud â'r buddiannau a gronnwyd gan yr unigolyn o ganlyniad i'w aelodaeth lawn o'r cynllun pensiwn, nid yn unig ei wasanaeth mewn swydd ar lefel uwch sydd â datgeliad yn berthnasol iddo.

Mae'r ffigurau’n cynnwys gwerth unrhyw fuddion pensiwn mewn cynllun neu drefniant arall y mae'r aelod wedi'u trosglwyddo i drefniadau pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Maent hefyd yn cynnwys unrhyw fuddion pensiwn ychwanegol a gronnwyd gan yr aelod o ganlyniad i brynu buddion pensiwn ychwanegol ar ei gost ei hun. Cyfrifir CETV yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gwerthoedd Trosglwyddo) (Diwygiad) 2008 ac nid ydynt yn ystyried unrhyw ostyngiad gwirioneddol neu bosibl i fuddion o ganlyniad i dreth lwfans oes a allai fod yn ddyledus pan fydd pensiwn cymerir budd-daliadau.

Gwir gynnydd mewn CETV

Mae hyn yn adlewyrchu'r cynnydd mewn CETV a gyllidir gan y cyflogwr. Nid yw'n cynnwys y cynnydd yn y pensiwn cronedig o ganlyniad i chwyddiant, na chyfraniadau a dalwyd gan y cyflogai (gan gynnwys gwerth unrhyw fuddion a drosglwyddwyd o gynllun neu drefniant pensiwn arall) ac mae'n defnyddio ffactorau prisio'r farchnad gyffredin ar gyfer dechrau a diwedd y cyfnod.

Lluosrifau cyflog

Mae'r adran hon yn amodol ar archwiliad.

Mae'n ofynnol i gyrff adrodd ddatgelu'r berthynas rhwng cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr sy'n ennill y cyflog mwyaf yn eu sefydliad a chydnabyddiaeth ariannol canolrifol gweithlu'r sefydliad.

Band cydnabyddiaeth ariannol y cyfarwyddwr a enillodd y cyflog uchaf yn ACC yn y flwyddyn ariannol 2020 hyd 2021 oedd £95,000-100,000 (2019 hyd 2020: £95,000-100,000). Roedd hyn 2.3 gwaith yn uwch (2019 hyd 2020: 2.4) na chydnabyddiaeth ariannol canolrifol y gweithlu, sef £42,660 (2019 hyd 2020: £40,545). Y cyfarwyddwr a oedd yn ennill y cyflog uchaf oedd y Prif Weithredwr yn 2020 hyd 2021 yn ogystal â 2019 hyd 2020.

Yn 2020 hyd 2021 (a 2019 hyd 2020), ni dderbyniodd unrhyw gyflogeion dâl uwch na'r cyfarwyddwr a oedd yn ennill y cyflog uchaf. Roedd y gydnabyddiaeth ariannol yn amrywio o £20,500 i £99,344 (2019 hyd 2020: £20,000 i £98,360 (2018 hyd 2019). 

Mae cyfanswm y gydnabyddiaeth ariannol yn cynnwys cyflog, tâl ar sail perfformiad heb ei gydgrynhoi, a buddion mewn nwyddau. Nid yw'n cynnwys taliadau diswyddo, cyfraniadau pensiwn cyflogwyr a CETV pensiynau. 

Roedd dau brif reswm dros y cynnydd mewn cyflog canolrifol yn 2020 hyd 2021 o'i gymharu â 2019 hyd 2020: 

  • gweithredwyd dyfarniad cyflog a oedd yn cynyddu cyflogau 2.5% 
  • symudodd cyfran uwch o gyflogeion yn naturiol i bwyntiau uchaf eu gradd gyflog oherwydd hyd eu gwasanaeth 

Pan grëwyd ACC, ymunodd y rhan fwyaf o staff â'r sefydliad ar bwynt cyntaf eu gradd gyflog, ond mae hyn wedi gostwng gan fod gan staff y potensial am wasanaeth hirach ers 2017. Mae staff yn cyrraedd pwynt brig eu gradd gyflog o fewn 3-4 blynedd, yn dibynnu ar eu gradd.

Mae cyfrannau'r staff ar bob lefel gradd wedi aros fwy neu lai yr un fath, gyda chyflog canolrifol yn dod o fewn ein gradd cyflog SEO yn 2020 hyd 2021 a 2019 hyd 2020.

Adroddiad Staff

Costau staff

Costau staff oedd:

 

Staff a gyflogir yn barhaol

Staff contract ac asiantaeth

Cyfanswm

Cyfanswm

2020-21
£000

2020-21
£000

2020-21
£000

2019-20
£000

Cyflogau

3,029

223

3,252

3,169

Costau nawdd cymdeithasol

328

9

337

330

Costau pensiwn eraill

839

2

841

818

Cyfanswm

4,196

234

4,430

4,317

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Mae’r staff a gyflogir yn barhaol yn y tabl hwn yn cynnwys staff sydd ar fenthyg i’r Awdurdod gan gyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil, ond sy'n dal i gael eu cyflogi'n barhaol gan eu cyflogwyr Gwasanaeth Sifil.

Roedd y staff contract ac asiantaeth ar gyfer y cyfnod yn cynnwys nifer fach o staff asiantaeth (5) a chontract cyfnod penodol (2).

Mae’r cyflog yn cynnwys cyflogau gros, goramser, lwfansau recriwtio a chadw, a lwfansau neu daliadau eraill i'r graddau eu bod yn ddarostyngedig i drethiant y DU. Yn ogystal, ar gyfer staff contract ac asiantaeth, gall cyflog hefyd gynnwys ffioedd asiantaeth a TAW ar y gyfradd berthnasol. Mewn rhai achosion, cynhwysir costau nawdd cymdeithasol a chostau pensiwn eraill ar gyfer staff contract ac asiantaeth o dan y ffigurau ar gyfer cyflogau am eu bod yn cael eu hanfonebu ar sail gros.

Roedd costau staff yn ystod y cyfnod yn is na'r disgwyl, oherwydd y penderfyniad i rewi recriwtio o fis Mawrth 2020 er mwyn canolbwyntio ar ymateb y sefydliad i coronafeirws. Ailddechreuodd y broses recriwtio ym mis Awst 2020 ond mae sawl rôl i'w llenwi o hyd dros y misoedd nesaf.

Cynllun pensiwn

Mae Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil (PCSPS) yn gynllun buddion diffiniedig amlgyflogwr nas ariennir, ac felly ni all yr Awdurdod nodi’r gyfran o’r asedau a’r rhwymedigaethau sylfaenol a berthyn iddo. Cynhaliwyd prisiad actiwaraidd llawn ar 31 Mawrth 2016. 

Ceir manylion yng nghyfrifon adnoddau Swyddfa’r Cabinet: Blwydd-daliadau Sifil

Ar gyfer 2020 hyd 2021, roedd cyfraniadau cyflogwyr o £763,395 yn daladwy i'r PCSPS (2019 hyd 2020: £749,432) ar 1 o 4 cyfradd o fewn yr ystod 26.6-30.3% (yn 2020 hyd 2021 a 2019 hyd 2020) o dâl pensiynadwy, yn seiliedig ar fandiau cyflog. Mae Actiwari'r cynllun yn adolygu cyfraniadau'r cyflogwr bob 4 blynedd yn dilyn prisiad llawn o'r cynllun. Mae'r cyfraddau cyfrannu yn adlewyrchu buddion wrth iddynt gronni, yn hytrach na phan fydd costau’n digwydd mewn gwirionedd, ac maent yn adlewyrchu profiad y cynllun yn y gorffennol. 

Gall cyflogeion ddewis agor cyfrif pensiwn partneriaeth, neu bensiwn cyfranddeiliaid gyda chyfraniad gan y cyflogwr. Talwyd cyfraniadau cyflogwyr o £5,833 (2019 hyd 2020: £4,600) i un neu fwy o'r panel o 3 darparwr pensiwn cyfranddeiliaid penodedig. Mae cyfraniadau'r cyflogwr yn gysylltiedig ag oedran ac maent yn amrywio rhwng 8 - 14.75% (yn 2019 hyd 2020 a 2017 hyd 2019) o dâl pensiynadwy. Yn ogystal, mae 0.5% o dâl pensiynadwy yn daladwy i'r PCSPS i dalu cost buddion cyfandaliad yn y dyfodol os bydd y cyflogeion hyn yn marw yn y swydd neu'n ymddeol oherwydd salwch. Mae cyflogwyr hefyd yn cyfateb cyfraniadau gan gyflogeion hyd at 3% o dâl pensiynadwy. Nid oedd unrhyw un (naill ai yn 2020 hyd 2021 nac yn 2019 hyd 2020) wedi ymddeol yn gynnar oherwydd salwch; felly, roedd cyfanswm y rhwymedigaethau pensiwn cronedig ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn ddim.

Uwch Wasanaeth Sifil (SCS) yn ôl band cyflog

Niferoedd aelodau'r Uwch Wasanaeth Sifil yn ôl eu band cyflog ar 31 Mawrth 2021 oedd:

Band cyflog

2020-21

2019-20

SCS 2

1

1

SCS 1

2

3

Nid oes gan ein sefydliad unrhyw swyddi ym mandiau 3 neu 4 yr Uwch Wasanaeth Sifil (SCS).

Nifer y bobl a gyflogir

Ar gyfartaledd, roedd nifer y bobl cyfwerth ag amser llawn (CALl) a gyflogwyd (gan gynnwys SCS) yn:

 

2020-21

2019-20

Staff parhaol

59

58

Staff ar fenthyg

6

11

Staff cyfnod penodol

4

2

Cyfanswm

69

71

Mae'r tabl hwn yn amodol ar archwiliad.

Roedd staff cyfnod penodol yn cynnwys rolau megis cyflenwi ar gyfer absenoldeb rhiant y staff presennol neu amser arall i ffwrdd o'u rôl, neu lle'r oedd y gofyniad am y rôl yn un dros dro.

Yn ogystal â’r staff cyflogedig fel y nodir uchod, nifer y staff asiantaeth CALl a gyflogwyd ar gyfartaledd oedd:

 

2020-21

2019-20

Staff asiantaeth

2

2

Cyfansoddiad y Staff

Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion triniaeth gyfartal, ac rydym yn cadw ac yn adolygu gwybodaeth am gydraddoldeb ar ein staff i lywio ein penderfyniadau ac adolygu cynnydd. Mae gennym bolisïau i sicrhau triniaeth gyfartal ac i ystyried yr effaith ar recriwtio, hyfforddi, datblygu gyrfa, a dyrchafiadau ar gyfer grwpiau a ddiogelir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (er enghraifft, anabledd, oedran a rhywedd). Darparwyd goruchwyliaeth o gydraddoldeb yn ACC gan y Bwrdd a'r Tîm Arwain yn ystod y cyfnod adrodd, a chymeradwyodd y Bwrdd ein Hadroddiad Cydraddoldeb 2021 ym mis Mawrth 2021. Er bod y wybodaeth cydraddoldeb yma’n cael ei hadolygu'n fewnol, yn y rhan fwyaf o achosion nid yw'r dadansoddiad o staff yn addas i'w gyhoeddi oherwydd, fel cyflogwr bach, byddai'n galluogi i unigolion a/neu grwpiau bach gael eu hadnabod. Eithriad i hyn yw proffil ein staff o ran rhywedd, sydd wedi'i gynnwys isod. 

Dadansoddiad o ryweddau’r personau a gyflogwyd oedd: 

 

Ar 31 Mawrth 2021

Ar 31 Mawrth 2020

Menywod

Dynion

Menywod

Dynion

Cyfarwyddwyr

1

2

0

3

SCS

0

0

1

0

Gweithwyr eraill

39

30

39

27

Roedd y prosesau a ddefnyddiwyd ac/neu a weithredwyd yn ystod y cyfnod i hyrwyddo triniaeth gyfartal yn cynnwys: 

  • achrediad cyflogwr Cyflog Byw
  • hyrwyddo ein hymrwymiad 'Hapus i Drafod Gweithio Hyblyg' ar ein tudalennau recriwtio, gan hysbysebu pob rôl fel rhai sydd ar gael yn hyblyg
  • Hyderus o ran Anabledd – ailachredu statws cyflogwr ymroddedig
  • cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr anabl sy'n bodloni gofynion hanfodol rôl
  • ceisiadau recriwtio sy’n ‘cuddio enwau’ i ddileu cyfeiriadau at fanylion personol ac enwau sefydliadau addysgol 
  • mynd ati'n rhagweithiol i ofyn i bob ymgeisydd a oes angen addasiadau neu ddewisiadau eraill arnynt yn ystod unrhyw broses recriwtio 
  • paneli recriwtio â chymysgedd rhywedd sydd i gyd wedi cwblhau hyfforddiant
  • hyfforddiant staff ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb
  • darparu gwasanaethau'r Rhaglen Iechyd Galwedigaethol a Chymorth i Weithwyr i staff sy'n mynd yn sâl
  • Grŵp Llesiant gweithredol i gefnogi'r Strategaeth Lesiant, gan drefnu ystod eang o ddigwyddiadau llesiant i staff
  • darparu gliniaduron i'r holl staff i ganiatáu gweithio gartref
  • asesiadau offer sgrin arddangos (DSE) ar gyfer yr holl staff i nodi unrhyw addasiadau ac offer sydd eu hangen i weithio gartref yn ddiogel yn ystod y cyfnodau clo
  • absenoldeb arbennig i weithwyr sy’n ofalwyr neu’n rhieni ac yn wynebu aflonyddwch oherwydd coronafeirws

Absenoldeb oherwydd salwch

Caiff ffigurau absenoldeb oherwydd salwch eu mynegi fel arfer fel Dyddiau Gwaith a Gollwyd yn Flynyddol (AWDL).

AWDL fesul blwyddyn staff = cyfanswm nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd yn ystod y flwyddyn / cyfanswm nifer y blynyddoedd staff posibl

Mae hyn yn well cynrychiolaeth o'r diwrnodau a gollir yn wirioneddol o gymharu â ffyrdd eraill o gyfrifo AWDL, am nad yw'n cynnwys penwythnosau, gwyliau cyhoeddus, a gwyliau braint yn ystod y cyfnod salwch. Mae defnyddio cyfanswm o flynyddoedd staff hefyd yn rhoi ystyriaeth gywir i staff rhan-amser, ymgeiswyr newydd, a'r rhai sy'n gadael yn ystod y cyfnod.

Er enghraifft, byddai rhywun sy'n gweithio hanner yr oriau llawn amser mewn wythnos yn cael blwyddyn staff o 0.5.

Roedd lefel yr absenoldeb oherwydd salwch yn ACC yn 6.23 (2019 hyd 2020: 6.35). Mae hyn yn debyg i ffigurau AWDL diweddaraf y Gwasanaeth Sifil sydd ar gael (2019 hyd 2020: 7.4).

Mae ein ffigwr ar gyfer absenoldeb oherwydd salwch staff yn cynnwys absenoldeb estynedig pedwar aelod o staff yn sgil salwch difrifol, rhywbeth a allai gael effaith sylweddol ar gyfrifiadau sefydliad bach fel ein un ni. O eithrio eu habsenoldeb hwy o'r cyfrifiad, yr AWDL fesul blwyddyn staff oedd 2.3 (2019 hyd 2020: 2.8).

Trosiant

Cyfrifir ffigurau trosiant yn y Gwasanaeth Sifil mewn dwy ffordd: 

  • Trosiant = staff yn gadael y Gwasanaeth Sifil yn ei gyfanrwydd 
  • Trosiant adrannol = staff sy'n gadael y Gwasanaeth Sifil neu gyflogwr penodol 

Cyfrifir y ffigur trosiant trwy rannu nifer y rhai sy'n gadael o fewn y cyfnod â chyfartaledd y staff sydd mewn swydd dros y cyfnod.

Yn 2020 hyd 2021, roedd trosiant yn 4% a throsiant adrannol yn 10%.

Roedd y rhan fwyaf o'r trosiant yn ymwneud â diwedd arfaethedig rolau cyfnod penodol neu fenthyciadau o fewn y Gwasanaeth Sifil, lle'r oeddem wedi dod â staff i mewn i lenwi rôl dros dro.

Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil

Arolwg ymgysylltu â chyflogeion trawslywodraethol yw Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Bob blwyddyn, mae tua 300,000 o weision sifil o 100 a mwy o sefydliadau yn cymryd rhan.

Cyfrifir y Mynegai Ymgysylltu fel cyfartaledd wedi'i bwysoli o'r ymatebion i bum cwestiwn sydd yn ddangosyddion cryf o ymgysylltiad gweithwyr: 

  • Rwy’n falch o ddweud wrth bobl fy mod yn rhan o ACC 
  • Byddwn yn argymell ACC fel lle gwych i weithio 
  • Mae gen i ymlyniad personol cryf i ACC 
  • Mae ACC yn fy ysbrydoli i wneud y gorau yn fy swydd 
  • Mae ACC yn fy ysbrydoli i'w helpu i gyflawni ei amcanion 

Gall y canlyniadau amrywio o 0% i 100%. Mae sgôr o 0% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o "anghytuno'n gryf" i bob un o'r pum cwestiwn. Mae sgôr o 100% yn golygu fod yr holl ymatebwyr wedi rhoi sgôr o "gytuno'n gryf" i bob un o'r pum cwestiwn.

Dyma ganlyniadau ACC: 

 

2020-21

2019-20

Mynegai Ymgysylltu

80%

80%

Mae'r sgoriau hyn yn cynrychioli lefel uchel o ymgysylltiad cyflogeion ac maent yn sylweddol uwch na chanolrif y Gwasanaeth Sifil (2020 hyd 2021: 66%, 2019 hyd 2020: 63%).

Mae ein canlyniadau llawn ar gyfer pob blwyddyn i'w gweld ar ein gwefan: Arolwg Pobl ACC.

Costau ymgynghori

Y costau ymgynghori yn ystod y cyfnod oedd:

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Costau ymgynghori

55

180

Pan fo angen parhaol am unigolion medrus, fel arfer byddwn yn recriwtio gweithiwr neu dîm i ymgymryd â'r gweithgareddau. Fodd bynnag, ar gyfer gwaith arbenigol tymor byrrach nid yw hyn yn ymarferol nac yn gost-effeithiol. 

Mae’n well i waith o’r fath gael ei gwblhau gan sefydliad ymgynghorol arbenigol yn hytrach nag unigolyn. Mae'r dull hwn yn galluogi ein sefydliad i brynu'r arbenigedd a'r gwasanaethau y mae ei angen, heb gostau afresymol a heb ymrwymo i gontractau cyfnod penodol. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan ein bod yn sefydliad bach, na all weithredu'r arbedion maint sydd ar gael i sefydliadau mwy a all gadw mwy o feysydd gwaith arbenigol yn fewnol, ac rydym yn dal i weithredu rhai meysydd gwaith am y tro cyntaf.

Dyma enghreifftiau o wasanaethau ymgynghori a ddefnyddiwyd yn ystod y cyfnod: 

  • Digidol a thechnoleg: contract ar gyfer sgiliau arbenigol sy'n ymwneud â seibrddiogelwch, profion system awtomataidd, a gwasanaethau rhwydwaith
  • Cyfathrebu: datblygu Strategaeth Gymraeg y sefydliad
  • Dysgu a datblygu: hyfforddi gweithredol ar gyfer datblygu staff

Datgeliadau oddi ar y gyflogres

Trefniadau oddi ar y gyflogres yw'r rhai lle caiff unigolion, naill ai rhai hunangyflogedig neu rhai sy’n gweithredu drwy gwmni gwasanaeth personol, eu talu'n gros gan y cyflogwr.

O 6 Ebrill 2017, daeth diwygiadau i ddeddfwriaeth cyfryngwyr (a elwir yn IR35) i rym. Roedd y rhain yn newid y rheolau ar gyfer pobl sydd oddi ar y gyflogres sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus ac yn symud y rhwymedigaeth i bennu statws treth oddi wrth y contractwr i’r ymgysylltydd.

Mae'r holl swyddi oddi ar y gyflogres presennol wedi bod yn destun asesiad seiliedig ar risg. Gwneir hyn er mwyn penderfynu a oes angen sicrwydd bod yr unigolyn yn talu'r swm cywir o dreth. Lle bo angen, gofynnwyd am y sicrwydd hwnnw.

Swyddi oddi ar y gyflogres ar 31 Mawrth 2021, am fwy na £245 y diwrnod ac yn para am fwy na 6 mis:

Nifer o swyddi a oedd yn bodoli eisoes ar 31 Mawrth 2021

5

O'r rhain:

Nifer sydd wedi bodoli ers llai na blwyddyn ar adeg yr adroddiad

0

Nifer sydd wedi bodoli am gyfnod o 1-2 flynedd ar adeg yr adroddiad

3

Nifer sydd wedi bodoli am gyfnod o 2-3 blynedd ar adeg yr adroddiad

2

Yr holl swyddi oddi ar y gyflogres newydd, neu'r rhai a gyrhaeddodd chwe mis o hyd, rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021, am fwy na £245 y dydd ac sy’n para am fwy na 6 mis:

Nifer y swyddi newydd oddi ar y gyflogres, neu'r rhai a oedd yn 6 mis o hyd neu fwy, rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021

1

O'r rhain:

Nifer a aseswyd fel rhai wedi'u dal gan IR35

0

Nifer a aseswyd fel rhai heb eu dal gan IR35

1

Nifer a gysylltwyd â hwy’n uniongyrchol (drwy berson â rheolaeth arwyddocaol (PSC) a gontractiwyd i adran) ac sydd ar gyflogres yr adran

0

Nifer y swyddi a ailaseswyd at ddibenion cysondeb / sicrwydd yn ystod y flwyddyn

0

Nifer y swyddi a welodd newid statws IR35 yn sgil yr adolygiad o gysondeb

Amh

Unrhyw swyddi oddi ar y gyflogres i aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol rhwng Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021:

Nifer y swyddi Oddi ar y Gyflogres i aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion sydd â chyfrifoldeb ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol

0

Nifer yr unigolion ar, ac oddi ar y gyflogres sydd wedi’u penodi’n aelodau Bwrdd ac/neu uwch swyddogion â chyfrifoldeb ariannol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol

15

Cynllun y Gwasanaeth Sifil a chynlluniau iawndal eraill – pecynnau ymadael

Mae'r tabl isod yn dangos cyfanswm nifer y pecynnau ymadael y cytunwyd arnynt ac a gyfrifwyd yn 2020 hyd 2021 (ni wnaed unrhyw daliadau yn 2019 hyd 2020). Am mai dim ond un taliad a wnaethpwyd, ni nodir cyfanswm y costau, gan y gallai hyn ei gwneud yn bosibl i adnabod unigolion. 

 

Nifer y diswyddiadau gorfodol

Nifer yr ymadawiadau eraill y cytunwyd arnynt

Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band cost

Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael yn ôl band cost

2020-21

2020-21

2020-21

2019-20

<£10,000

0

0

0

0

£10-000 - £25,000

0

1

1

0

£25,000 - £50,000

0

0

0

0

£50,000 - £100,000

0

0

0

0

£100,000 - £150,000

0

0

0

0

£150,000 - £200,000

0

0

0

0

Cyfanswm nifer y pecynnau ymadael

0

1

1

0

Mae'r adran ganlynol yn destun archwiliad. 

Telir costau diswyddo a chostau ymadael eraill yn unol â darpariaethau Cynllun Iawndal y Gwasanaeth Sifil (CSCS), sef cynllun statudol a wnaed o dan Ddeddf Blwydd-daliadau 1972. Pe bai’r Awdurdod yn cytuno ar ymddeoliad cynnar, telir y costau ychwanegol gan yr Awdurdod yn hytrach na chan gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae costau ymddeol oherwydd afiechyd yn cael eu talu gan y cynllun pensiwn ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn y tabl.

Cynhwysir taliadau diswyddo o fewn ymadawiadau eraill a ddangosir uchod. Telir y rhain o dan rai amgylchiadau i gyflogeion, contractwyr ac eraill y tu allan i ofynion statudol neu gontractiol arferol, wrth adael cyflogaeth yn y gwasanaeth cyhoeddus, p'un ai eu bod yn ymddiswyddo, yn cael eu diswyddo, neu'n dod i derfyn contract y cytunwyd arno.

Materion eraill sy'n ymwneud â chyflogeion

Y 2 fater mwyaf arwyddocaol yn ystod y cyfnod oedd effaith storm Dennis a’r mesurau’r clo oherwydd COVID-19.

Yn ystod Storm Dennis (Chwefror 2020), cafodd ein prif swyddfa, QED yn Nhrefforest, ei difrodi’n ddifrifol, gan arwain at yr holl staff yn gweithio o gartref o 17 Chwefror ymlaen. Cafodd y rhan fwyaf o staff, ond nid y cyfan, eu symud dros dro i swyddfeydd Llywodraeth Cymru Caerdydd a Merthyr Tudful nes canfod ateb hirdymor. Fodd bynnag, yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ar COVID-19 ar 16 Mawrth, penderfynodd Tîm Arwain y dylai'r holl staff weithio gartref hyd nes y ceir gwybodaeth bellach (17 Mawrth ymlaen) a pharhaodd hyn drwy gydol y cyfnod, gydag eithriadau i nifer fach o staff a oedd yn mynd i’r swyddfa weithiau am resymau busnes angenrheidiol neu er eu llesiant. Mae ymgynghoriad ar leoliad newydd i'n sefydliad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.

Rydym yn sicrhau bod ein staff yn cyfrannu mewn sawl ffordd at faterion a phenderfyniadau sy'n ymwneud â nhw. Mae'r rhain yn cynnwys cyfathrebu digidol fel negeseuon e-bost a defnyddio'r fewnrwyd, galwad wythnosol i'r holl staff a sesiwn cwestiwn ac ateb gyda'r Prif Weithredwr a, cyn COVID-19, dyddiau cwrdd i ffwrdd lle mae'r holl staff yn cymryd rhan ym mhenderfyniadau'r sefydliad. Tra’n gweithio gartref, gwnaethom gynyddu amlder galwadau'r staff cyfan (bob pythefnos gynt) ac ymgysylltu â staff yn rhithiol drwy gyfarfodydd tîm. Yn ogystal, cydnabyddir 3 undeb llafur gan ein sefydliad i gynrychioli cyflogeion.

Caiff diogelwch staff yn y gweithle ei adolygu a'i gynnal gan sawl proses wahanol. Cynhelir archwiliadau rheolaidd o ddiogelwch corfforol y gweithle a'r cyfarpar a ddefnyddir yn ein swyddfeydd, gyda gwiriadau ychwanegol ar gyfer staff sydd ag anghenion penodol megis staff beichiog neu’r rhai sy’n dioddef o straen neu salwch arall. Wrth ymweld â safleoedd eraill a threthdalwyr, cwblheir asesiadau risg ac mae system gyfeillio ar waith er mwyn sicrhau diogelwch staff. Fel y nodwyd eisoes, mae Grŵp Llesiant gweithgar wedi'i sefydlu, ac mae’r Strategaeth Llesiant yn cael ei harolygu gan y Pwyllgor Pobl. Mae asesiadau risg penodol wedi'u cwblhau ar gyfer staff sy'n gweithio gartref oherwydd llifogydd ac yna COVID-19, ac ar gyfer y nifer fach o staff sy'n mynychu lleoliadau swyddfa, i ddiogelu'r rhai sydd mewn mwy o berygl o gael COVID-19. Mae’r cymorth ychwanegol i staff yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi cynnwys archebu offer TG a gweithio gartref ychwanegol, addasiadau rhesymol fel lleihau oriau gwaith am resymau iechyd neu er mwyn gofalu am ddibynyddion, a mwy o weithgareddau llesiant a chyfarfodydd rhithwir rheolaidd i'r holl staff a'r tîm.

Cynrychiolir 15 o broffesiynau gwahanol gan ein sefydliad, gan gynnwys data, digidol, cyllid, cyfreithiol, adnoddau dynol, ac arbenigwyr treth. Mae hyfforddiant gweithlu cyfan, yn ogystal â hyfforddiant proffesiwn neu hyfforddiant penodol i'r rôl, wedi'u cynnal yn ystod y cyfnod, ac mae nifer o'r rolau wedi'u cynnig ar sail benthyciad – i mewn ac allan o ACC - er mwyn annog rhannu gwybodaeth gyda chyflogwyr eraill y Gwasanaeth Sifil. Mae proses rheoli perfformiad yn seiliedig ar ddatblygiad parhaus a sgyrsiau rheoli llinell o ansawdd uchel ar waith. 

Dyfed Alsop
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu
23 Mehefin 2021

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd

Barn ar ddatganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiadau ariannol Cyfrif Adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 2021 o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Maent yn cynnwys y Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Lifau Arian Parod, y Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr a'r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu arwyddocaol. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Mae'r fframwaith adrodd ariannol sydd wedi'i gymhwyso wrth baratoi yn gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y'u dehonglwyd a'u haddaswyd gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM.

Yn fy marn i, mae'r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun cywir a theg o gyflwr cyfrif adnoddau Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2021 ac o'i wariant gweithredu net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny;
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y'u dehonglwyd a'u haddasu gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM; ac
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ymhob ffordd faterol, mae'r gwariant a'r incwm yn y datganiadau ariannol wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodiadau ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu llywodraethu.

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â'r gyfraith berthnasol a'r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (DU)) a Nodyn Ymarfer 10 'Archwilio Datganiadau Ariannol o Endidau'r Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig'. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio yn adran datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwy'n annibynnol o'r corff yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barn.

Casgliadau sy'n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio'r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i'r casgliad bod y defnydd o'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol.

Yn seiliedig ar y gwaith rwyf wedi'i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r corff i barhau i fabwysiadu'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi.

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol ar wahân i'r datganiadau ariannol a rhannau eraill o'r adroddiad a archwilir, ac adroddiad fy archwilydd ar hynny. Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn i ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir yn glir yn fy adroddiad fel arall, nid wyf yn mynegi unrhyw gasgliad o sicrwydd ar hynny. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn faterol anghyson â'r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad, neu’n ymddangos fel ei bod wedi'i cham-ddatgan yn faterol fel arall. Os byddaf yn nodi anghysondebau materol o'r fath neu gamddatganiadau materol posibl, mae'n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad materol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddaf, ar sail y gwaith yr wyf wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad materol o’r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno. Nid oes gennyf ddim i'w adrodd yn hyn o beth. 

Adroddiad ar ofynion eraill

Barn ar faterion eraill

Gan nad yw’r ddeddfwriaeth a’r cyfarwyddiadau a roddwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn nodi cynnwys a ffurf y wybodaeth arall sydd i'w chyflwyno gyda'r datganiadau ariannol, ni allaf gadarnhau bod y wybodaeth arall yn y cyfrifon blynyddol (y tu allan i'r datganiadau ariannol) wedi'i pharatoi'n briodol ac yn unol â’r canllawiau. 

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad, mae'r wybodaeth a roddir yn y cyfrifon blynyddol (y tu allan i’r datganiadau ariannol) yn gyson â'r datganiadau ariannol. 

Er nad oes unrhyw ofynion deddfwriaethol am Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol, mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi paratoi adroddiad o'r fath ac, yn fy marn i, mae'r rhan y mae'n ofynnol ei harchwilio fel arfer wedi'i pharatoi'n briodol yn unol â chanllawiau Trysorlys EM. 

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad: 

  • mae'r wybodaeth a roddir yn y Datganiad Llywodraethiant ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol ac mae'r Datganiad Llywodraethiant wedi'i baratoi yn unol â chanllawiau Gweinidogion Cymru; 
  • mae'r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad ar Berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol.

Materion y byddaf yn adrodd arnynt drwy eithriad

O ystyried y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o’r corff a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad ar Berfformiad na'r Datganiad Llywodraethiant.

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i: 

  • nad yw cofnodion cyfrifyddu digonol wedi’u cadw neu os nad oes ffurflenni treth digonol ar gyfer fy archwiliad wedi’u cyflwyno gan ganghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â hwy; 
  • nad yw'r datganiadau ariannol a'r rhan o'r Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannol a archwiliwyd yn cytuno â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu; 
  • na ddatgelwyd gwybodaeth a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o ran cydnabyddiaeth ariannol a thrafodiadau eraill; neu 
  • nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth a'r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi 2016 a’r cyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru a wneir o dan y Ddeddf honno, am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg gwir a theg ac am reolaeth fewnol a ddyfarnir yn briodol gan y Swyddog Cyfrifyddu er mwyn gallu paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny trwy dwyll neu wall.

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am asesu gallu’r corff i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu, fel y bo'n berthnasol, materion sy'n ymwneud â busnes gweithredol ac i ddefnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu, oni fernir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau'r Archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o unrhyw gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camddatganiad materol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau fod o ganlyniad i dwyll neu wall, a chânt eu hystyried yn faterol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr ar sail y datganiadau ariannol hyn. 

Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o beidio â chydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy'n cynllunio gweithdrefnau yn unol â'm cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, er mwyn canfod camddatganiadau materol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll.

Roedd fy ngweithdrefnau'n cynnwys y canlynol: 

  • Holi'r rheolwyr, Prif Swyddog Cyllid a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys caffael ac adolygu dogfennau ategol sy'n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy'n ymwneud â: 
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau, ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio; 
    • canfod ac ymateb i beryglon twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a’r 
    • rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll neu beidio â chydymffurfio â deddfau a rheoliadau. 
  • Fel tîm archwilio, ystyried sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion twyll posibl. Fel rhan o'r drafodaeth hon, nodais botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw a phostio cyfnodolion anarferol;
  • Cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol eraill y mae'r corff yn gweithredu o fewn iddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau'r corff.

Yn ogystal â'r uchod, roedd fy ngweithdrefnau i ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol: 

  • adolygu datgeliadau'r datganiad ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiaeth â'r deddfau a'r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod; 
  • holi'r rheolwyr a'r Pwyllgor Archwilio a Risg am ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl; 
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu; a
  • drwy fynd i'r afael â'r risg o dwyll wrth i reolwyr ddiystyru rheolaethau, profi priodoldeb cofnodion cyfnodolion a chywiriadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wneir wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o duedd bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodiadau arwyddocaol sy'n anarferol neu y tu allan i'r cwrs busnes arferol.

Cyfleais hefyd ddeddfau a rheoliadau perthnasol a nodwyd a risgiau twyll posibl i bob tîm archwilio ac fe wnes barhau i gadw llygaid barcud am unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad. 

Effeithir ar y graddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, gan anhawster cynhenid canfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru, a natur, amseriad a maint y gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.

Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd ar gyfer archwilio'r datganiadau ariannol i’w gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn ffurfio rhan o’m hadroddiad archwilydd. 

Cyfrifoldebau am reoleidd-dra

Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra'r trafodiadau ariannol.

Mae'n ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a'r incwm wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu rheoli.

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Adrian Crompton

Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

30 Mehefin 2021

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Cyfrifon Adnoddau

Datganiad o Wariant Net Cynhwysfawr

 

Nodyn

2020-21
£000

2019-20
£000

Costau staff

2

4,430

4,317

Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff

2

139

205

Costau gweithredu eraill

2

1,490

1,933

Dibrisiant

3.1

31

35

Amorteiddiad

3.2

804

870

Gwariant gweithredu net

 

6,894

7,360

Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn

 

6,894

7,360

Datganiad o Sefyllfa Ariannol

 

Nodyn

2020-2021
£000

2019-2020
£000

Asedau anghyfredol

Cyfarpar

3.1

69

34

Asedau anniriaethol

3.2

137

834

Cyfanswm asedau anghyfredol

 

206

868

Asedau cyfredol

Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall

4

112

140

Arian parod a chyfwerth ag arian parod

5

659

243

Cyfanswm asedau cyfredol

 

771

383

Rhwymedigaethau cyfredol

Symiau masnach a symiau taladwy eraill

6

(864)

(960)

Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol

 

(864)

(960)

Cyfanswm yr asedau ar ôl tynnu’r rhwymedigaethau cyfredol

 

113

291

Ecwiti trethdalwyr

Cronfa gyffredinol

 

113

291

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 
23 Mehefin 2021

Datganiad o Lifau Arian Parod

 

Nodyn

2020-21
£000

2019-20
£000

Llifau arian parod o weithgareddau gweithredol

Gwariant gweithredu net

 

(6,894)

(7,360)

Addasiadau ar gyfer trafodiadau nad ydynt yn rhai arian parod

Gostyngiad mewn masnach a symiau derbyniadwy eraill

 

28

15

(Gostyngiad)/cynnydd mewn masnach a symiau taladwy eraill

 

(96)

258

Dibrisiant ac amorteiddiad

3.1 & 3.2

835

905

Arian net (all-lif) o weithgareddau gweithredu

(6,127)

(6,182)

Llifau arian parod o weithgareddau buddsoddi

Ychwanegu offer

3.1

(66)

0

Ychwanegu asedau anniriaethol

3.2

(107)

(79)

Arian net (all-lif) o weithgareddau buddsoddi

(173)

(79)

Llifau arian parod o weithgareddau cyllido

Cyllid gan Lywodraeth Cymru

 

6,716

6,027

Cynnydd/(lleihad) net mewn arian parod a chyfwerth ag arian parod

5

416

(234)

Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddechrau'r cyfnod

5

243

477

Arian parod a chyfwerth ag arian parod ar ddiwedd y cyfnod

5

659

243

Datganiad o Newidiadau yn Ecwiti Trethdalwyr

 

Cronfa Gyffredinol
£000

Balans ar 31 Mawrth 2019

1,624

Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2019-20

Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru

5,948

Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru

79

Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn

(7,360)

Balans ar 31 Mawrth 2020

291

Newidiadau yn ecwiti trethdalwyr 2020-21
Cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru 6,541
Cyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru 175
Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn (6,894)
Balans ar 31 Mawrth 2021 113

Nodiadau i'r Cyfrifon Adnoddau

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â:

  • chyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru, yn unol ag Adran 29(1)(b) o DCRhT 2016 
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM) 2020-21 a gyhoeddir gan Drysorlys EM.
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.
  • y polisïau cyfrifo y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae’r Awdurdod wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt yn effeithiol eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y cyfrifon hyn o dan y confensiwn cost hanesyddol, wedi'u haddasu yn ôl gofynion y safonau cyfrifyddu perthnasol ac yn amodol ar ddehongliadau ac addasiadau safonau’r FReM. Cyfrifwyd am wariant ar sail croniadau. Mae cyfrifyddu ar gyfer cyllid wedi'i nodi yn AP1.6.

1.3 Busnes Gweithredol

Paratowyd y cyfrifon hyn ar sail "busnes gweithredol" gan fod ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru ac yn derbyn ei gyllid refeniw ganddynt i fodloni ei rwymedigaethau. Mae ACC yn disgwyl y bydd yn parhau i fodoli hyd y gellir rhagweld.

1.4 Defnyddio Dyfarniadau

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad y polisïau cyfrifyddu a'r symiau o asedau, atebolrwydd a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol:

  • nid oes unrhyw asedau ‘hawl i ddefnyddio’ yn bodoli o fewn ACC. Y Gweinidog yn unig sy'n cyfarwyddo'r gofod swyddfa a ddyrennir i ACC i'w ddefnyddio.

1.5 Cronni Gwyliau Blynyddol

Caiff croniadau gwyliau blynyddol staff eu cyfrif o fewn costau staff eraill. Mae'r croniad yn gyfrifiad sy’n adlewyrchu'r gwyliau blynyddol sy'n ddyledus neu sy'n ddyledus i staff ar ddiwedd y flwyddyn. Bellach, caiff symudiad yn y flwyddyn ei godi fel croniad o fewn costau eraill sy'n gysylltiedig â staff.

1.6 Treth Ar Werth (TAW)

Mae ACC wedi'i gofrestru ar gyfer TAW ac mae'n adennill rhai elfennau o TAW ar gyfer gwasanaethau busnes a gwasanaethau sy'n cael eu contractio allan. Caiff gwariant nwyddau a gwasanaethau eraill ei gofnodi yn cynnwys TAW yn unol â llawlyfr TAW llywodraeth fewnol CThEM.

1.7 Cyllid

Mae ACC yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru (a elwir yn ddyraniad grant) i ariannu ei wariant refeniw a chyfalaf. Yn unol â'r FReM, cofnodir y symiau hyn fel cyllid yn hytrach nag incwm ac fe'u credydir i'r Gronfa Gyffredinol. Mae'r FReM hefyd yn cadarnhau y dylid cyfrif am y cyllid hwn ar sail arian parod ac rydym wedi cydymffurfio â hyn.

1.8 Arian parod a chyfwerth ag arian parod

Arian parod a chyfwerth ag arian parod yw unig gynnwys y balansau sydd gan ACC gyda Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth.

1.9 Adrodd cylchrannol

Mae Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) 8 yn ei gwneud yn ofynnol i endidau ddatgelu gwybodaeth am eu segmentau gweithredu a'u hardaloedd daearyddol. Mae'r Awdurdod yn gweithredu mewn un segment ac yng Nghymru yn unig. Felly, ni ystyrir bod angen unrhyw adroddiadau ychwanegol.

1.10 Lesoedd

Ar gyfer 2020 hyd 2021, nid yw ACC yn rhan o unrhyw drefniadau les fel prydleswr neu lesddeiliad o dan IAS 17. O dan IFRS 16, bydd ACC yn adolygu ei drefniadau cytundebol ac angytundebol i sefydlu a oes les yn bodoli fel y'i diffiniwyd. Bydd ACC yn cydnabod yr asedau ‘hawl i ddefnyddio’ a rhwymedigaethau les ar gyfer y lesoedd hyn. Gohiriwyd gweithredu IFRS 16 yn y sector cyhoeddus tan Ebrill 2022 oherwydd COVID-19.

1.11 Offerynnau ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS 7, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu'r rôl y mae offerynnau ariannol wedi'i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Gan fod ACC yn cael ei ariannu'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau derbyniadwy eraill a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau masnach a symiau taladwy eraill. Ni ystyrir bod ACC yn agored i unrhyw lefel sylweddol o risg o ran credyd, hylifedd na chyfradd llog.

1.12 Asedau Anghyfredol

Cyfarpar

Caiff cyfarpar ei gario ar werth teg. Defnyddir cost hanesyddol wedi'i dibrisio fel procsi ar gyfer gwerth teg yr asedau hyn. Yn ystod y cyfnod sefydlu cychwynnol, prynwyd offer TGCh gan Lywodraeth Cymru ar ran ACC. Ar 1 Ebrill 2018 trosglwyddwyd yr offer i’r ACC gan Lywodraeth Cymru. Mae'r holl gostau cychwynnol hyn wedi'u cyfalafu.

Mae’r holl gyfarpar oedd yn costio £5,000 neu fwy a brynwyd yn uniongyrchol gan ACC wedi’i gyfalafu.

Darperir ar gyfer dibrisiant yn y mis ar ôl caffael ac fe'i cyfrifir er mwyn dileu’r gwerth ar ôl tynnu’r gwerth gweddilliol amcangyfrifedig, mewn rhannau cyfartal dros ei oes ddefnyddiol ddisgwyliedig fel y dangosir isod.

Categori’r cyfarpar

Oes Ddefnyddiol Ddisgwyliedig

Cyfarpar TGCh

3 blynedd

Cyfarpar Arall

5 mlynedd

Asedau Anniriaethol

Gan nad oes marchnad weithredol yn bodoli oherwydd eu natur benodol, caiff asedau anniriaethol eu datgan ar gostau hanesyddol a'u hamorteiddio ar sail llinell syth, dros yr oes ddefnyddiol amcangyfrifedig neu dymor y drwydded. Darperir ar gyfer amorteiddio yn y mis ar ôl i'r ased gael ei gaffael fel y nodir isod.

Categori’r ased Anniriaethol

Amcangyfrif o’i oes ddefnyddiol

Trwyddedau a meddalwedd

3 blynedd

2. Gwariant

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Staff a chostau cysylltiedig

Cyflogau

3,120

2,992

Costau pensiynau

841

818

Costau nawdd cymdeithasol

337

330

Costau asiantaeth

132

177

 

4,430

4,317

Costau eraill sy'n gysylltiedig â staff

Hyfforddi a datblygu

71

73

Teithio a chynhaliaeth

2

54

Treuliau eraill sy'n gysylltiedig â chyflogeion

66

78

 

139

205

Costau gweithredu eraill

Gweinyddu a chostau swyddfa eraill

68

91

Costau'r Bwrdd a chostau cysylltiedig

60

64

Ffi archwilio allanol

30

33

Costau sy'n gysylltiedig â TGCh

1,038

1,516

Ffi archwilio mewnol

15

11

Costau proffesiynol eraill

279

218

 

1,490

1,933

Amorteiddiad a Dibrisiant

835

905

Cyfanswm y gwariant cynhwysfawr ar gyfer y flwyddyn

6,894

7,360

Darperir dadansoddiad pellach o staff a chostau cysylltiedig yn yr Adroddiad Staff.

3. Asedau Anghyfredol

3.1 Cyfarpar

 

Cyfarpar TGCh
£000

Cyfarpar arall
£000

Cyfanswm
£000

Cost neu brisiad

Cost ar 1 Ebrill 2020

93

11

104

Ychwanegiadau

66

-

66

Ar 31 Mawrth 2021

159

11

170

Dibrisiant

Dibrisiant ar 1 Ebrill 2020

66

4

70

Tâl am y flwyddyn

29

2

31

Ar 31 Mawrth 2021

95

6

101

Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2020

27

7

34

Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2021

64

5

69

  Cyfarpar TGCh
£000
Cyfarpar arall
£000
Cyfanswm
£000

Cost neu brisiad

Cost ar 1 Ebrill 2019

93

11

104

Ychwanegiadau

-

-

-

Ar 31 Mawrth 2020

93

11

104

Dibrisiant

Ar 1 Ebrill 2019

33

2

35

Tâl am y flwyddyn

33

2

35

Ar 31 Mawrth 2020

66

4

70

Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2019

60

9

69

Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2020

27

7

34

​​​​​​3.2 Asedau Anniriaethol

 

Trwyddedau
£000

Meddalwedd
£000

Cyfanswm
£000

Cost neu brisiad

Cost ar 1 Ebrill 2020

66

2,488

2,554

Ychwanegiadau

64

43

107

Ar 31 Mawrth 2021

130

2,531

2,661

Amorteiddiad

Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2020

59

1,661

1,720

Tâl am y flwyddyn

20

784

804

Ar 31 Mawrth 2021

79

2,445

2,524

Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2020

7

827

834

Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2021

51

86

137

  Trwyddedau
£000
Meddalwedd
£000
Cyfanswm
£000

Cost neu brisiad

Cost ar 1 Ebrill 2019

66

2,409

2,475

Ychwanegiadau

-

79

79

Ar 31 Mawrth 2020

66

2,488

2,554

Amorteiddiad

Amorteiddiad ar 1 Ebrill 2019

24

826

850

Tâl am y flwyddyn

35

835

870

Ar 31 Mawrth 2020

59

1,661

1,720

Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2019

42

1,583

1,625

Gwerth llyfr net ar 31 Mawrth 2020

7

827

834

4. Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Rhagdaliadau ac incwm cronedig arall

112

140

Balans ar 31 Mawrth

112

140

Nid oes unrhyw symiau sy’n ddyledus ar ôl blwyddyn wedi'u cynnwys yn y ffigurau uchod.

Nid oes angen darpariaeth ar gyfer drwgddyledion a dyledion amheus.

5. Arian parod a chyfwerth ag arian parod

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Balans ar ddechrau'r cyfnod

243

477

Newid net mewn balansau arian parod a chyfwerth ag arian parod

416

(234)

Balans ar 31 Mawrth

659

243

Mae'r holl falansau'n cael eu cadw gan Wasanaeth Bancio'r Llywodraeth.

6. Symiau masnach a symiau taladwy eraill

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Symiau masnach taladwy

(672)

(819)

Symiau taladwy eraill

(192)

(141)

Balans ar 31 Mawrth

(864)

(960)

Mae'r rhan fwyaf o'r symiau o fewn symiau taladwy eraill yn ymwneud â’r croniadau gwyliau blynyddol.

7. Trafodiadau partïon cysylltiedig

Mae ACC yn adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru. O'r herwydd, ystyrir Llywodraeth Cymru fel y rhiant-adran ac felly'n barti cysylltiedig. Mae ACC wedi cael nifer o drafodiadau materol gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn.

Derbyniwyd cyllid refeniw o £6.54 miliwn yn ystod y flwyddyn (2019 hyd 2020 £5.95 miliwn). Y cyllid cyfalaf a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn oedd £175,000 (2019 hyd 2020 £79,000).

Gwnaed taliadau o £4.7 miliwn i Lywodraeth Cymru yn ystod 2020 hyd 2021 yn bennaf mewn perthynas â chostau cyflogres, costau staff ar secondiad, a chostau cwmwl TGCh (2019 hyd 2020 £4.42 miliwn).

Ni ymgymerodd unrhyw aelodau o'r Bwrdd, uwch swyddogion na phartïon cysylltiedig, ag unrhyw drafodiadau materol gydag ACC.

8. Ymrwymiadau Cyfalaf

Nid oedd unrhyw ymrwymiadau cyfalaf ar 31 Mawrth 2021.

9. Asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Nid oedd unrhyw asedau a rhwymedigaethau digwyddiadol ar 31 Mawrth 2021.

10. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Tystysgrif ac adroddiad archwilydd annibynnol Archwilydd Cyffredinol Cymru i'r Senedd

Barn ar ddatganiadau ariannol

Tystiaf fy mod wedi archwilio datganiad treth Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2021 o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Mae'r datganiadau ariannol yn cynnwys y Datganiad Refeniw, Incwm a Gwariant Arall, y Datganiad o Sefyllfa Ariannol, y Datganiad o Llifau Arian Parod a’r nodiadau cysylltiedig, gan gynnwys crynodeb o bolisïau cyfrifyddu. Paratowyd y datganiadau ariannol hyn o dan y polisïau cyfrifyddu a nodir ynddynt. Y fframwaith adrodd ariannol a gymhwyswyd wrth eu paratoi yw’r gyfraith berthnasol a safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y'u dehonglwyd a'u haddaswyd gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM. 

Yn fy marn i, mae'r datganiadau ariannol: 

  • yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa datganiad treth Awdurdod Cyllid Cymru ar 31 Mawrth 2021 a'r refeniw net ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny; ac
  • maent wedi'u paratoi'n briodol yn unol â safonau cyfrifyddu rhyngwladol fel y'u dehonglwyd a'u haddasu gan Lawlyfr Adroddiadau Ariannol Trysorlys EM; ac 
  • wedi'u paratoi'n briodol yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru a gyhoeddwyd o dan Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016.

Barn ar reoleidd-dra

Yn fy marn i, ymhob ffordd faterol, mae'r gwariant a'r incwm yn y datganiadau ariannol wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd ac mae'r trafodiadau ariannol a gofnodwyd yn y datganiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu rheoli.

Sail ar gyfer barn

Cynhaliais fy archwiliad yn unol â'r gyfraith berthnasol a'r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio yn y DU (ISAs (DU)) a Nodyn Ymarfer 10 'Archwilio Datganiadau Ariannol o Endidau'r Sector Cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig'. Disgrifir fy nghyfrifoldebau o dan y safonau hynny ymhellach yng nghyfrifoldebau'r archwilydd am archwilio yn adran datganiadau ariannol fy adroddiad. Rwy'n annibynnol o Awdurdod Cyllid Cymru yn unol â'r gofynion moesegol sy'n berthnasol i'm harchwiliad o'r datganiadau ariannol yn y DU gan gynnwys Safon Foesegol y Cyngor Adrodd Ariannol, ac rwyf wedi cyflawni fy nghyfrifoldebau moesegol eraill yn unol â'r gofynion hyn. Credaf fod y dystiolaeth archwilio yr wyf wedi'i chael yn ddigonol ac yn briodol i ddarparu sail i'm barn.

Casgliadau sy'n ymwneud â busnes gweithredol

Wrth archwilio'r datganiadau ariannol, rwyf wedi dod i'r casgliad bod y defnydd o'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu wrth baratoi'r datganiadau ariannol yn briodol. 

Yn seiliedig ar y gwaith yr wyf wedi'i wneud, nid wyf wedi nodi unrhyw ansicrwydd materol sy'n ymwneud â digwyddiadau neu amodau a allai, yn unigol neu ar y cyd, fwrw amheuaeth sylweddol ar allu'r corff i barhau i fabwysiadu'r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu am gyfnod o ddeuddeng mis o leiaf o'r adeg yr awdurdodir y datganiadau ariannol i'w cyhoeddi. 

Disgrifir fy nghyfrifoldebau a chyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu mewn perthynas â busnes gweithredol yn adrannau perthnasol yr adroddiad hwn.

Gwybodaeth arall

Mae'r wybodaeth arall yn cynnwys y wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad blynyddol ar wahân i'r datganiadau ariannol ac adroddiad fy archwilydd arnynt. Y Swyddog Cyfrifyddu sy’n gyfrifol am y wybodaeth arall yn yr adroddiad blynyddol. Nid yw fy marn i ar y datganiadau ariannol yn cwmpasu’r wybodaeth arall ac, ac eithrio i'r graddau a nodir yn benodol fel arall yn fy adroddiad, nid wyf yn mynegi unrhyw fath o gasgliad sicrwydd arno. Fy nghyfrifoldeb i yw darllen y wybodaeth arall ac, wrth wneud hynny, ystyried a yw'r wybodaeth arall yn faterol anghyson â'r datganiadau ariannol neu wybodaeth a gafwyd yn ystod yr archwiliad, neu’n ymddangos fel ei bod wedi'i cham-ddatgan yn faterol fel arall. Os byddaf yn nodi anghysondebau materol o'r fath neu gamddatganiadau materol posibl, mae'n ofynnol i mi benderfynu a yw hyn yn arwain at gamddatganiad materol yn y datganiadau ariannol eu hunain. Os byddaf, ar sail y gwaith yr wyf wedi'i wneud, yn dod i'r casgliad bod camddatganiad materol o’r wybodaeth arall hon, mae'n ofynnol i mi adrodd y ffaith honno. 

Nid oes gennyf ddim i'w adrodd yn hyn o beth.

Adroddiad ar ofynion eraill

Barn ar faterion eraill

Yn fy marn i, yn seiliedig ar y gwaith a wnaed yn ystod fy archwiliad: 

  • mae'r wybodaeth a roddir yn y Datganiad Llywodraethiant ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol ac mae'r Datganiad Llywodraethiant wedi'i baratoi yn unol â chanllawiau Gweinidogion Cymru; 
  • mae'r wybodaeth a roddir yn yr Adroddiad ar Berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol y paratowyd y datganiadau ariannol ar ei chyfer yn gyson â'r datganiadau ariannol ac mae'r Adroddiad ar Berfformiad wedi'i baratoi yn unol â chanllawiau Gweinidogion Cymru. 

Materion y byddaf yn adrodd arnynt drwy eithriad

O ystyried y wybodaeth a’r ddealltwriaeth o Ddatganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru a'i amgylchedd a gafwyd yn ystod yr archwiliad, nid wyf wedi nodi unrhyw gamddatganiadau materol yn yr Adroddiad ar Berfformiad na'r Datganiad Llywodraethiant. 

Nid oes gennyf unrhyw beth i'w nodi o ran y materion canlynol yr adroddaf i chi, os, yn fy marn i: 

  • nad yw cofnodion cyfrifyddu digonol wedi’u cadw neu os nad oes ffurflenni treth digonol ar gyfer fy archwiliad wedi’u cyflwyno gan ganghennau nad yw fy nhîm wedi ymweld â hwy; 
  • nad yw'r datganiadau ariannol yn cytuno â'r cofnodion a'r ffurflenni cyfrifyddu; 
  • nad wyf wedi derbyn yr holl wybodaeth a'r esboniadau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy archwiliad.

Cyfrifoldebau

Cyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu am y datganiadau ariannol

Fel yr esbonnir yn llawnach yn y Datganiad o Gyfrifoldebau'r Swyddog Cyfrifyddu, y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am baratoi'r datganiadau ariannol yn unol â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a’r cyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru a wneir o dan y Ddeddf honno, am fod yn fodlon eu bod yn rhoi golwg gwir a theg ac am y rheolaeth fewnol a ddyfarnir yn briodol gan y Swyddog Cyfrifyddu er mwyn galluogi paratoi datganiadau ariannol sy'n rhydd o gamddatganiadau materol, boed hynny trwy dwyll neu wall. 

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol, mae'r Swyddog Cyfrifyddu yn gyfrifol am asesu gallu Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru i barhau fel busnes gweithredol, gan ddatgelu fel y bo'n berthnasol, materion sy'n ymwneud â busnes gweithredol a defnyddio’r sail busnes gweithredol o gyfrifyddu oni fernir bod hynny’n amhriodol.

Cyfrifoldebau'r Archwilydd am archwilio'r datganiadau ariannol

Fy amcanion yw cael sicrwydd rhesymol ynghylch a yw’r datganiadau ariannol yn eu cyfanrwydd yn rhydd o unrhyw gamddatganiadau materol, boed hynny oherwydd twyll neu wall, ac i gyhoeddi adroddiad archwiliwr sy'n cynnwys fy marn. Mae sicrwydd rhesymol yn lefel uchel o sicrwydd ond nid yw'n warant y bydd archwiliad a gynhelir yn unol ag ISAs (UK) bob amser yn canfod camddatganiad materol pan fydd yn bodoli. Gall camddatganiadau fod o ganlyniad i dwyll neu wall, a chânt eu hystyried yn faterol os gellid disgwyl yn rhesymol iddynt, yn unigol neu gyda’i gilydd, ddylanwadu ar benderfyniadau economaidd defnyddwyr ar sail y datganiadau ariannol hyn. 

Mae afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, yn achosion o beidio â chydymffurfio â deddfau a rheoliadau. Rwy'n cynllunio gweithdrefnau yn unol â'm cyfrifoldebau, a amlinellir uchod, er mwyn canfod camddatganiadau materol mewn perthynas ag afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll. 

Roedd fy ngweithdrefnau'n cynnwys y canlynol: 

  • Holi'r rheolwyr, [pennaeth archwilio mewnol y corff a archwiliwyd] a'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu, gan gynnwys caffael ac adolygu dogfennau ategol sy'n ymwneud â pholisïau a gweithdrefnau Awdurdod Cyllid Cymru sy'n ymwneud â: 
    • nodi, gwerthuso a chydymffurfio â deddfau a rheoliadau, ac a oeddent yn ymwybodol o unrhyw achosion o beidio â chydymffurfio; 
    • canfod ac ymateb i beryglon twyll ac a oes ganddynt wybodaeth am unrhyw dwyll gwirioneddol, tybiedig neu honedig; a’r 
    • rheolaethau mewnol a sefydlwyd i liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â thwyll neu beidio â chydymffurfio â deddfau a rheoliadau. 
  • Fel tîm archwilio, ystyried sut a ble y gallai twyll ddigwydd yn y datganiadau ariannol ac unrhyw ddangosyddion twyll posibl. Fel rhan o'r drafodaeth hon, nodais botensial ar gyfer twyll yn y meysydd canlynol: cydnabod refeniw, postio cyfnodolion anarferol ac (ychwanegu fel y bo'n briodol at yr archwiliad); ac
  • Cael dealltwriaeth o fframwaith awdurdod Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol eraill y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu ynddynt, gan ganolbwyntio ar y deddfau a'r rheoliadau hynny a gafodd effaith uniongyrchol ar y datganiadau ariannol neu a gafodd effaith sylfaenol ar weithrediadau Awdurdod Cyllid Cymru.

Yn ogystal â'r uchod, roedd fy ngweithdrefnau ar gyfer ymateb i risgiau a nodwyd yn cynnwys y canlynol: 

  • adolygu datgeliadau'r datganiad ariannol a phrofi dogfennau ategol i asesu cydymffurfiaeth â'r deddfau a'r rheoliadau perthnasol a drafodir uchod; 
  • holi'r Pwyllgor Rheoli ac Archwilio a Risg am ymgyfreitha a hawliadau gwirioneddol a phosibl; 
  • darllen cofnodion cyfarfodydd y rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu; ac 
  • wrth fynd i'r afael â'r risg o dwyll drwy ddiystyru rheolaethau gan reolwyr, profi priodoldeb cofnodion cyfnodolion a chywiriadau eraill; asesu a yw'r dyfarniadau a wneir wrth lunio amcangyfrifon cyfrifyddu yn arwydd o duedd bosibl; a gwerthuso rhesymeg busnes unrhyw drafodiadau arwyddocaol sy'n anarferol neu y tu allan i'r cwrs busnes arferol. 

Cyfleais hefyd ddeddfau a rheoliadau perthnasol a nodwyd a risgiau twyll posibl i bob tîm archwilio ac fe wnes barhau i gadw llygaid barcud am unrhyw arwyddion o dwyll neu ddiffyg cydymffurfio â deddfau a rheoliadau drwy gydol yr archwiliad. 

Effeithir ar y graddau y gall fy ngweithdrefnau ganfod afreoleidd-dra, gan gynnwys twyll, gan anhawster cynhenid canfod afreoleidd-dra, effeithiolrwydd rheolaethau Awdurdod Cyllid Cymru, a natur, amseriad a maint y gweithdrefnau archwilio a gyflawnir.

Mae disgrifiad pellach o gyfrifoldebau'r archwilydd ar gyfer archwilio'r datganiadau ariannol i’w gael ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol www.frc.org.uk/auditorsresponsibilities. Mae'r disgrifiad hwn yn ffurfio rhan o’m hadroddiad archwilydd. 

Cyfrifoldebau am reoleidd-dra

Y Swyddog Cyfrifyddu sy'n gyfrifol am sicrhau rheoleidd-dra'r trafodiadau ariannol. 

Mae'n ofynnol i mi gael digon o dystiolaeth i roi sicrwydd rhesymol bod y gwariant a'r incwm wedi'u cymhwyso at y dibenion a fwriadwyd gan y Senedd a bod y trafodiadau ariannol yn cydymffurfio â'r awdurdodau sy'n eu rheoli. 

Adroddiad

Nid oes gennyf unrhyw sylwadau i'w gwneud ar y datganiadau ariannol hyn.

Adrian Crompton

Archwilydd Cyffredinol Cymru
24 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ

30 Mehefin 2021

Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifyddu yw hygrededd gwefan Awdurdod Cyllid Cymru a’r gwaith o gynnal y wefan honno; nid yw’r gwaith a gyflawnir gan archwilwyr yn cynnwys ystyriaeth o’r materion hyn ac, yn unol â hynny, nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldebau am unrhyw newidiadau a allai fod wedi cael eu cyflwyno i’r datganiadau ariannol ers eu cyflwyno’n wreiddiol ar y wefan.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi ardystio ac adrodd ar y cyfrifon hyn yn y ffurf y cawsant eu drafftio’n wreiddiol. Cyfieithiad o’r fersiwn Saesneg gwreiddiol yw’r fersiwn hwn. Awdurdod Cyllid Cymru sydd yn gyfrifol am gywirdeb y cyfieithiad, nid yr Archwilydd Cyffredinol.

Datganiad Treth

Datganiad o Refeniw, Incwm a Gwariant Arall

 

Nodyn

2020-21
£000

2019-20
£000

Refeniw

Trethi a thollau

Treth Trafodiadau Tir (TTT)

2.1

210,510

260,281

Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT)

2.2

31,719

36,926

Cyfanswm trethi a thollau

 

242,229

297,207

Cosbau a llog

Cosbau

2.3

136

327

Llog

2.3

130

45

Cyfanswm cosbau a llog

 

266

372

Cyfanswm y refeniw

 

242,495

297,579

Gwariant

Llog a dalwyd

3.1

(82)

(42)

Colledion refeniw

3.2

(119)

(1)

Cyfanswm y gwariant

 

(201)

(43)

Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru

 

242,294

297,536

Ni chafwyd unrhyw enillion na cholledion cydnabyddedig a gyfrifwyd amdanynt mewn man heblaw am y Datganiad Refeniw, Incwm a Gwariant Arall uchod.

Mae'r nodiadau sy'n dilyn y Datganiad o Lifau Arian Parod yn rhan o'r datganiad hwn.

Datganiad o Sefyllfa Ariannol

 

Nodyn

2020-21
£000

2019-20
£000

Asedau cyfredol

Symiau Derbyniadwy

4.1

2,598

2,822

Trethi cronedig derbyniadwy

4.1

17,994

40,435

Arian parod

5

7,314

2,836

Cyfanswm asedau cyfredol

 

27,906

46,093

Rhwymedigaethau cyfredol

Symiau taladwy a balansau ar gyfrif

6

789

870

Cyfanswm rhwymedigaethau cyfredol

 

789

870

Cyfanswm yr asedau net

 

27,117

45,223

Cynrychiolir gan

Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru

8

27,117

45,223

Dyfed Alsop 
Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu 
23 Mehefin 2021

Datganiad o Lifau Arian Parod

 

Nodyn

2020-21
£000

2019-20
£000

Llif arian net o weithgareddau gweithredol

A

264,878

271,377

Arian parod a dalwyd i'r Gronfa Gyfunol

 

(260,400)

(274,000)

Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn

B

4,478

(2,623)

Nodiadau ar y Datganiad o Lifau Arian Parod

A: Cysoniad llif arian newydd â symudiad mewn cronfeydd net

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru

242,294

297,536

Gostyngiad/(cynnydd) mewn asedau nad ydynt yn arian parod

22,665

(26,886)

(Gostyngiad)/cynnydd mewn rhwymedigaethau

(81)

727

Llif arian net o weithgareddau gweithredol 264,878 271,377
B: Dadansoddiad o'r newidiadau yn y gronfa arian net 

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Cynnydd/(gostyngiad) mewn arian parod yn y cyfnod hwn

4,478

(2,623)

Arian net ar 1 Ebrill (balans agoriadol y banc)

2,836

5,459

Y gronfa arian net ar 31 Mawrth (balans banc terfynol)

7,314

2,836

Nodiadau i'r datganiad treth

1. Datganiad o bolisïau cyfrifyddu

1.1 Sail y cyfrifyddu

Paratoir y cyfrifon hyn yn unol â: 

  • y cyfarwyddyd cyfrifon a ddyroddir gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 30(1) o DCRhT 2016 
  • Llawlyfr Adrodd Ariannol y Llywodraeth (FReM) 2020-21 a gyhoeddir gan Drysorlys EM. 
  • y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS) fel y maent wedi'u haddasu neu eu dehongli ar gyfer cyd-destun y sector cyhoeddus.
  • y polisïau cyfrifyddu y manylir arnynt yn y nodiadau dilynol

Mae ACC wedi ystyried effaith safonau a dehongliadau sydd wedi'u cyhoeddi ond nad ydynt yn effeithiol eto. Ni ddisgwylir y bydd y rhain yn cael effaith faterol ar y datganiadau ariannol.

Yr incwm ac unrhyw wariant cysylltiedig a gynhwysir yn y datganiadau hyn yw'r llif arian hwnnw y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn ei drin ar ran Cronfa Gyfunol Cymru, a phan fo’n gweithredu fel asiant yn hytrach nag fel pennaeth.

Mae'r wybodaeth ariannol a gynhwysir yn y datganiadau ac yn y nodiadau wedi'i thalgrynnu i'r £000 agosaf.

1.2 Confensiwn cyfrifyddu

Paratowyd y Datganiad Treth yn unol â'r confensiwn cost hanesyddol. Cyfrifir am drethi gan gynnwys ad-daliadau ar sail croniadau.

1.3 Cydnabod refeniw

Trethiant

Caiff trethi eu mesur yn unol ag IAS18. Cânt eu mesur ar werth teg y symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy, net o ad-daliadau. Cydnabyddir refeniw pan: 

  • mae digwyddiad trethadwy wedi digwydd, y gellir mesur y refeniw yn ddibynadwy, a’i bod yn debygol y bydd y buddion economaidd o'r digwyddiad trethadwy yn llifo i Gronfa Gyfunol Cymru
  • mae digwyddiad trethadwy yn digwydd pan fydd atebolrwydd i dalu treth

Caiff unrhyw ddiwygiadau, gan gynnwys ad-daliadau cyfraddau uwch, eu cydnabod yn y flwyddyn ariannol ddilynol os ydynt yn berthnasol i flwyddyn ariannol flaenorol. 

Cosbau a llog

Caiff cosbau a llog eu mesur yn unol ag IAS18. Cânt eu mesur ar werth teg symiau a dderbynnir neu sy'n dderbyniadwy.

Cydnabyddir refeniw pan: 

  • gaiff y gosb neu dâl llog ei osod yn ddilys a daw’n dderbyniadwy gan Awdurdod Cyllid Cymru 

Mae refeniw cosbau cydnabyddedig yn cael ei wrthdroi yn y cyfrifon: 

  • pan fo cosb yn cael ei chanslo yn sgil cywiro mân wall gan y trethdalwr neu'r asiant ar y ffurflen dreth
  • pan gaiff cosb ei chanslo yn dilyn adolygiad gan ACC 
  • pan fo cosb, oherwydd apêl neu am resymau cyfreithiol eraill, yn cael ei chanslo

Lle bernir yn ddiweddarach bod refeniw cosb neu log a gydnabyddir mewn blwyddyn ariannol flaenorol yn anghasgladwy am resymau heblaw'r hyn a ddangosir uchod, cofnodir hyn fel traul ar y dyddiad y tybir ei fod yn anghasgladwy.

Nid yw ACC yn cydnabod y bwlch treth yn y Datganiad Treth. Y Bwlch Treth yw'r gwahaniaeth rhwng swm y dreth a ddylai, mewn theori, gael ei chasglu gan yr Awdurdod (yr atebolrwydd damcaniaethol), a’r hyn a gesglir. Mae'r rhwymedigaeth dreth ddamcaniaethol hon yn cynrychioli'r dreth a fyddai'n cael ei thalu pe byddai pob trethdalwr yn cydymffurfio â llythyren y ddeddf a dehongliad ACC o fwriad Senedd Cymru wrth ddeddfu (y cyfeirir ati fel ysbryd y gyfraith).

Gohiriadau

Mae gohiriad yn digwydd pan fo sawl cam gosod pris prynu yn digwydd mewn trafodiad tir. Bydd un neu fwy o'r camau hyn yn ddyledus yn y dyfodol ac yn amodol ar ddigwyddiad. Nid yw ACC yn cydnabod y refeniw treth ar y taliadau hyn yn y dyfodol hyd nes bod y digwyddiad hwnnw'n digwydd a bod y pris prynu ychwanegol yn daladwy. Enghraifft o ohirio yw pan fo tir yn cael ei brynu a bod swm ychwanegol yn daladwy ar ôl cael caniatâd cynllunio; cydnabyddir refeniw treth ar y taliad ychwanegol ar yr adeg pan roddir y caniatâd cynllunio.

Ymholiadau a Thribiwnlysoedd

Yn unol â’r FReM, nid yw refeniw treth ac ad-daliadau treth neu gosb sy'n deillio o achosion ymholiad neu dribiwnlys yn cael eu cydnabod yn y cyfrifon hyd nes bydd y penderfyniad neu'r dyfarniad yn cael ei gyhoeddi. Dim ond os ydynt yn arwain at effaith ariannol faterol y gwneir datgeliadau yn y cyfrifon sy'n ymwneud ag ymholiadau neu dribiwnlysoedd.

1.4 Defnyddio Dyfarniadau

Wrth baratoi'r datganiadau ariannol hyn, mae'r rheolwyr wedi gwneud dyfarniadau sy'n effeithio ar gymhwysiad polisïau cyfrifyddu a'r symiau o refeniw, asedau, atebolrwydd, a threuliau a adroddir arnynt. Gall y canlyniadau gwirioneddol fod yn wahanol i'r amcangyfrifon hyn a chânt eu cydnabod yn y dyfodol.

Mae gwybodaeth am y dyfarniadau a wnaed wrth gymhwyso polisïau cyfrifyddu sy'n cael yr effeithiau mwyaf sylweddol ar y symiau a gydnabyddir yn y datganiadau ariannol wedi'u cynnwys yn y canlynol: 

  • Mae datgelu rhwymedigaeth digwyddiadol ar gyfer ad-dalu cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir yn y cyfrifon yn seiliedig ar fodelu'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a'u dyfarniadau. Barn y Rheolwyr yw nad oes data digonol ar gael gan ACC eto er mwyn iddo fodelu prisiad cywir o rwymedigaeth ad-dalu yn y dyfodol.

1.5 Offerynnau Ariannol

Mae offeryn ariannol yn gontract sy'n arwain at greu ased ariannol mewn un endid a rhwymedigaeth ariannol neu offeryn ecwiti mewn endid arall. Mae IFRS7, Offerynnau Ariannol, yn ei gwneud yn ofynnol i ddatgelu'r rôl y mae offerynnau ariannol wedi'i chwarae yn ystod y cyfnod o ran creu neu newid y risgiau y mae endid yn eu hwynebu wrth ymgymryd â’i weithgareddau. Oherwydd natur gweithgareddau’r Awdurdod, yr unig offerynnau ariannol yn y cyfrifon yw asedau ariannol ar ffurf symiau derbyniadwy a rhwymedigaethau ariannol ar ffurf symiau taladwy. O ganlyniad, nid yw’n agored i hylifedd sylweddol, risg cyfradd llog, nac ychwaith risg arian cyfred tramor.

1.6 Cyfrinachedd trethdalwyr 

Mae ACC yn cymryd cyfrinachedd trethdalwyr o ddifrif ac ni fydd yn datgelu unrhyw fanylion cyfrinachol trethdalwyr yn y Datganiadau Ariannol a waherddir o dan Adran 17 DCRhT 2016 oni bai bod gofyniad cyfreithiol sy’n ei gwneud yn hanfodol i wneud hynny.

1.7 Symiau derbyniadwy

Nid yw'r FReM yn ei gwneud yn ofynnol i ACC bennu amhariadau yn unol ag IFRS 9: Offerynnau Ariannol, fel y mae'r safon yn ymwneud ag offerynnau ariannol. Daw trethi o statud yn hytrach na chontract. Fodd bynnag, mae amhariadau wedi'u mesur gan ddefnyddio'r model colli credyd a nodir yn IFRS 9. Mae'r model amhariad yn IFRS 9 yn seiliedig ar y rhagosodiad o ddarparu ar gyfer colledion disgwyliedig gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd ar gael ac ystyried y tebygolrwydd o gasglu.

Caiff gwerth symiau derbyniadwy ACC eu hadolygu'n unigol ar ddyddiad pob cyfnod adrodd i benderfynu a oes unrhyw arwydd o amhariad. Os oes arwydd o'r fath yn bodoli, adroddir ar y gwerthoedd yn y Datganiad o Sefyllfa Ariannol ar ôl yr amhariad er mwyn adlewyrchu'r swm sy'n debygol o gael ei gasglu.

Mae colledion refeniw yn digwydd pan fydd ACC yn rhoi'r gorau’n ffurfiol i weithgarwch casglu. Mae'r mwyafrif llethol yn cael eu gyrru gan ansolfedd unigol a busnesau. Daw colledion refeniw o ollyngdod a dileu dyledion. Mae gollyngdodau’n ddyledion y gellir eu hadfer ond fod ACC wedi penderfynu peidio â mynd ar drywydd y ddyled ar sail gwerth am arian. Bydd ACC ond yn dileu dyledion y mae'n eu hystyried yn rhai na ellir eu hadfer pan nad oes modd ymarferol mynd ar drywydd y ddyled.

Esbonnir polisïau cyfrifyddu pellach o dan y nodiadau perthnasol.

2. Refeniw ac incwm arall

2.1 Treth Trafodiadau Tir

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Preswyl

152,092

163,403

Amhreswyl

58,418

96,878

Cyfanswm Treth Trafodiadau Tir

210,510

260,281

Y digwyddiad trethadwy ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir yw prynu tir neu eiddo. Mae cyfraddau preswyl uwch y Dreth Trafodiadau Tir yn daladwy wrth brynu eiddo ychwanegol yng Nghymru. Mae'r gyfradd uwch yn ad-daladwy i'r trethdalwr pan werthir prif breswylfa'r trethdalwr o fewn tair blynedd i brynu'r eiddo ychwanegol.

Roedd y cyfraddau uwch o Dreth Trafodiadau Tir preswyl ar gyfer blwyddyn ariannol 2020 hyd 2021 yn £92.98 miliwn (2019 hyd 2020 £88.77 miliwn wedi'i ailddatgan), gyda'r ffigur hwn eisoes wedi gostwng £15.95 miliwn oherwydd ad-daliadau a wnaed (2019 hyd 2020 £11.2 miliwn). Mae'r rhain bellach yn cael eu trin fel prif gyfraddau preswyl lle mae trethdalwyr wedi hawlio ad-daliad yn llwyddiannus.

2.2 Treth Gwarediadau Tirlenwi

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Treth Gwarediadau Tirlenwi

31,719

36,926

Cyfanswm Treth Gwarediadau Tirlenwi

31,719

36,926

Telir y Dreth Gwarediadau Tirlenwi pan waredir gwastraff i safleoedd tirlenwi a chaiff ei gyfrifo yn ôl y pwysau a’r math o wastraff.

2.3 Cosbau a llog

 

2020-21

2019-20

Cosb
£000

Llog
£000

Cosb
£000

Llog
£000

Treth Trafodiadau Tir

136

72

327

45

Treth Gwarediadau Tirlenwi

0

58

0

0

Cyfanswm cosbau a llog

136

130

327

45

Codir cosbau pan fydd ffurflenni treth yn hwyr yn cael eu derbyn, pan fydd taliadau’n hwyr, neu am resymau eraill a ganiateir o dan DCRhT (Cymru) 2016.

Codir llog ar daliadau treth hwyr neu gosbau.

3. Gwariant

3.1 Llog a dalwyd

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Treth Trafodiadau Tir

(82)

(42)

Treth Gwarediadau Tirlenwi

0

0

Cyfanswm y llog a dalwyd

(82)

(42)

Mae llog yn daladwy gan Awdurdod Cyllid Cymru ar ad-daliad unrhyw rwymedigaethau treth neu gosbau.

3.2 Colledion refeniw

 

2020-21

2019-20

Amhariad ar y Dreth
£000

Dyled wedi'i Dileu
£000

Amhariad ar y Dreth
£000

Dyled wedi'i Dileu
£000

Treth Trafodiadau Tir

(119)

0

0

(1)

Treth Gwarediadau Tirlenwi

0

0

0

0

Cyfanswm Colledion Refeniw

(119)

0

0

(1)

Mae colledion refeniw yn cynnwys dileu dyledion a'r symudiad yn y ddarpariaeth ar gyfer amhariad ar dreth (gweler nodyn 4.2).

Dilëir dyledion pan fydd pob cam rhesymol wedi’i gymryd ac ar ôl ystyriaeth ofalus, ystyrir na ellir adennill y symiau hyn.

4. Symiau derbyniadwy a refeniw cronedig derbyniadwy

4.1 Symiau derbyniadwy sy'n ddyledus

 

 

2020-21

2019-20

Symiau Derbyniadwy
£000

Refeniw Cronedig Derbyniadwy
£000

Symiau Derbyniadwy
£000

Refeniw Cronedig Derbyniadwy
£000

Treth Trafodiadau Tir

2,717

10,891

2,822

32,246

Treth Gwarediadau Tirlenwi

0

7,103

0

8,189

Cyfansymiau cyn Amhariad

2,717

17,994

2,822

40,435

 Heb yr Amhariad (nodyn 4.2)

(119)

0

0

0

Cyfanswm

2,598

17,994

2,822

40,435

Mae symiau derbyniadwy yn cynrychioli rhwymedigaethau trethdalwyr lle mae symiau sy'n ddyledus gan y trethdalwr, gan gynnwys cosbau ariannol a llog wedi digwydd yn ystod y cyfnod adrodd, ond ni dderbyniwyd y symiau erbyn dyddiad y fantolen.

Mae'r refeniw cronedig derbyniadwy yn cynrychioli symiau sy'n ddyledus mewn perthynas â ffurflenni treth lle mae'r rhwymedigaeth dreth wedi'i sefydlu ar ddyddiad y fantolen ond heb ei dychwelyd ar ddyddiad y fantolen. Felly, gwneir croniad â llaw.

4.2 Darpariaeth amhariad

 

 

2020-21

2019-20

Treth Trafodiadau Tir
£000

Treth Gwaredu Tirlenwi
£000

Treth Trafodiadau Tir
£000

Treth Gwaredu Tirlenwi
£000

Ar 1 Ebrill 2020

0

0

0

0

Symudiad mewn Amhariad

119

0

0

0

Balans ar 31 Mawrth

119

0

0

0

Gwneir darpariaeth amhariad pan fo'n debygol na dderbynnir yr arian sy'n ddyledus yn llawn. Mae amhariadau’n ddyledion sy'n cael eu dilyn ar hyn o bryd ond yr ystyrir eu bod yn debygol o fod yn rai na ellir eu hadfer yn y tymor hwy. Adroddir ar symiau derbyniadwy yn y Datganiad ar y Sefyllfa Ariannol ar ôl didynnu gwerth amcangyfrifedig amhariadau. Mae'r ddarpariaeth ar gyfer amhariad yn seiliedig ar nifer o ffactorau, megis pan mae dyledwr ar fîn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr neu pan fydd camau cyfreithiol wedi'u cychwyn.

5. Arian parod

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Gwasanaeth Bancio'r Llywodraeth

7,314

2,836

Balans ar 31 Mawrth

7,314

2,836

Mae ACC yn talu arian i Gronfa Gyfunol Cymru yn ôl cyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Mae'r balans uchod yn cynrychioli cyllid a gafwyd o drethi na ofynnwyd amdanynt cyn 31 Mawrth 2021.

6. Symiau taladwy a balansau ar gyfrif

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Treth Trafodiadau Tir

789

870

Treth Gwarediadau Tirlenwi

0

0

Cyfanswm

789

870

Mae symiau taladwy a balansau ar gyfrif yn symiau sydd wedi’u cofnodi fel rhai sy’n ddyledus gan ACC a lle nad yw'r taliad wedi'i wneud hyd yn hyn. Gellir diwygio ffurflenni treth hyd at ddeuddeg mis ar ôl y dyddiad ffeilio. Mewn rhai amgylchiadau bydd hyn yn arwain at ad-daliad. Mae'r balansau hyn yn ymwneud ag ad-daliadau treth, cosbau, neu log sydd heb eu talu, gan gynnwys hawliadau ad-daliad cyfradd uwch, lle mae'r symiau wedi’u pennu ar ddyddiad y fantolen fel rhai sy'n ddyledus.

7. Darpariaethau ar gyfer rhwymedigaethau a rhwymedigaethau digwyddiadol

Mae gan drethdalwyr sydd wedi talu cyfraddau uwch ar eu trafodiadau preswyl yr hawl i hawlio prif gyfraddau preswyl ar eu prif breswylfa newydd os byddant wedi gwaredu eu prif breswylfa flaenorol o fewn tair blynedd i ddyddiad prynu’r eiddo newydd. Mae'n ofynnol i'r trethdalwr gyflwyno hawliad er mwyn derbyn yr ad-daliad.

Datgelir yr ad-daliad posibl hwn o dreth gyfradd uwch fel rhwymedigaeth ddigwyddiadol ar gyfer y Datganiad Treth, a hynny oherwydd ansicrwydd o ran adhawliadau a'u hamseriad. Amcangyfrifir mai’r gwerth yw £14.4 miliwn (2019 hyd 2020 £12.8 miliwn), a gyfrifwyd ar sail canllawiau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

8. Balans sy'n ddyledus i Gyfrif Cronfa Gyfunol Cymru

 

2020-21
£000

2019-20
£000

Balans ar Gronfa Gyfunol Cymru ar 1 Ebrill

45,223

21,687

Refeniw net ar gyfer Cronfa Gyfunol Cymru

242,294

297,536

Ar ôl tynnu’r swm a dalwyd i Gronfa Gyfunol Cymru

(260,400)

(274,000)

Balans sy'n ddyledus i Gronfa Gyfunol Cymru

27,117

45,223

9. Digwyddiadau ar ôl y cyfnod adrodd

Nid oes unrhyw ddigwyddiadau adroddadwy ar ôl y cyfnod adrodd.

Geirfa

Amorteiddiad

Dosraniad cost ased anniriaethol dros ei oes ddefnyddiol.

Asedau anghyfredol (a elwir yn asedau sefydlog hefyd)

Ased sydd ym meddiant y sefydliad. Gall y rhain fod yn asedau diriaethol ag iddynt sylwedd ffisegol neu’n asedau annirweddol – ased adnabyddadwy nad yw’n ariannol ac sydd heb sylwedd ffisegol iddo, er enghraifft trwyddedau a meddalwedd.

Cronfa Gyfunol Cymru

Y gronfa a ddefnyddir gan y Senedd i ddal symiau y pleidleisiwyd arnynt gan y Senedd ac a ddyrennir wedyn drwy Gynnig Cyllidebol er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Dibrisiant

Dosraniad cost ased anghyfredol diriaethol.

Ecwiti trethdalwyr

Asedion net y sefydliad.

Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM)

Canllawiau cyfrifyddu technegol Trysorlys EM ar baratoi’r datganiadau ariannol.

Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS)

Cyhoeddir y rhain gan y Bwrdd Safonau Cyfrifo Rhyngwladol ac mae datganiadau ariannol y Llywodraeth yn defnyddio’r rhain fel sail ar gyfer paratoi eu cyfrifon.

Symiau derbyniadwy

Symiau sy’n ddyledus i ACC ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Symiau taladwy

Symiau sy’n daladwy i gyflenwyr nwyddau a gwasanaethau ar ddiwedd y cyfnod adrodd.