Neidio i'r prif gynnwy

Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi lansio'r broses i benodi Cadeirydd newydd i'w fwrdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae hwn yn benodiad cyhoeddus Gweinidogol, a wneir gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Bydd y Cadeirydd presennol, y Cadeirydd cyntaf, Kathryn Bishop CBE, yn dod i ddiwedd ei thymor ym mis Hydref 2022, ar ôl cael ei phenodi'n wreiddiol ym mis Hydref 2017.

Mae Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnwys:

  • Cadeirydd
  • aelodau anweithredol
  • aelodau gweithredol gan gynnwys y Prif Weithredwr, Dyfed Alsop
  • aelod staff etholedig

Am ragor o wybodaeth, neu i wneud cais, ewch i borth recriwtio Llywodraeth Cymru.