Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prifysgol De Cymru wedi ymuno ag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) i ddarparu prentisiaeth gradd newydd arloesol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill gradd prifysgol tra'n cael profiad ymarferol, heb fynd i ddyled myfyrwyr.

Bydd y garfan gyntaf o fyfyrwyr yn dechrau’r brentisiaeth BSc (Anrh) mewn Datrysiadau Digidol a Thechnoleg fis Medi eleni, tra’n gweithio hefyd i ACC, sefydliad sydd â’i systemau seiliedig yn y cwmwl wedi derbyn gwobr.

Caiff y cwrs ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru (yn amodol ar gymeradwyaeth gan HEFCW fis Mehefin). Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r rhai sy'n dechrau ar eu gyrfa, neu sy'n ystyried newid sector, ennill cymhwyster proffesiynol.

Bydd y cwrs pedair blynedd a hanner yn cael ei ddarparu drwy gyfuniad unigryw o ddysgu ar-lein a dysgu wyneb yn wyneb ar gampws Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd. Mae'n dechrau gyda chyfnod wyth wythnos dwys, lle bydd y prentisiaid yn datblygu sgiliau craidd hanfodol.

Caiff yr ymgeiswyr eu hasesu yn safle ACC yn Nantgarw, a bydd gan yr ymgeiswyr llwyddiannus nid yn unig rôl llawn amser gyda chyflog cystadleuol a gradd wedi’i noddi, ond hefyd gyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa. Mae dilyniant gwarantedig drwy'r band cyflog tra'n cwblhau'r radd. 

Meddai Francis Cowe, Cyfarwyddwr Partneriaethau Addysg Bellach a Phrentisiaethau Gradd ym Mhrifysgol De Cymru:

Mae hwn yn gyfle gwych i’r rhai hynny sy'n dymuno mynd i'r maes technoleg arbenigol hwn. 

Bydd y bartneriaeth hon gydag ACC yn helpu i ddiwallu'r galw cynyddol am raddedigion sydd â'r sgiliau i weithio yn yr arbenigeddau hyn.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac ACC, rydym yn adeiladu ymhellach ar enw da Prifysgol De Cymru am ddatblygu sgiliau digidol y genedl; mae hyn yn adeiladu ar ein portffolio cyfredol o addysg mewn gwyddor data a seibrddiogelwch.

Meddai Anthony Pritchard, Pennaeth Digidol a Thechnoleg CAA:

Rydym yn sefydliad arbenigol ac mae cael prentisiaid bob amser wedi bod yn rhan o'n cynllun ar gyfer cynyddu sgiliau a darparu cyfleoedd gyrfa diddorol yng Nghymru

Mae sgiliau digidol a thechnoleg yn rhan greiddiol o’n strategaeth. Rydym am glywed gan unigolion sy'n angerddol am faterion digidol ac a fyddai'n ffynnu yn gweithio mewn amgylchedd deinamig a chreadigol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Mehefin 2019. 

Mae mwy o fanylion ar gael yn: llyw.cymru/awdurdod-cyllid-cymru/swyddi-gwag

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 254 770

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.