Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (23 Gorffennaf) mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi £372 miliwn mewn refeniw treth i Gymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2024 i 2025, pasiodd ACC gyfanswm o £2 biliwn o dreth a gasglwyd ers dechrau gweithredu yn 2018.

Mae refeniw o’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn cael ei ail-fuddsoddi gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru.  

Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar seithfed blwyddyn gweithrediadau ACC. Mae'r pigion yn cynnwys:  

  • Dros 56,000 o ffurflenni TTT wedi'u prosesu'n effeithlon
  • Mwy na £2 filiwn o dreth wedi’i hadennill am y tro cyntaf ar TTT
  • Mwy na £34 miliwn mewn treth wedi’i chasglu ar gyfer TGT
  • Gwariant wedi bod o fewn 1% i'r gyllideb

Adroddodd ACC hefyd ar ei waith yn cefnogi Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y Bil  Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru), gan roi mewnwelediad gweithredol i Drysorlys Cymru i’w helpu i ddatblygu'r ddeddfwriaeth.

Parhaodd ACC i dyfu gallu a sgiliau ar gyfer cyflawni yn y meysydd cyfrifoldeb newydd hyn. Maent wedi bod yn cynnwys rhanddeiliaid o'r diwydiant yn eu gwaith.

Mae'r adroddiad yn nodi trosglwyddiad yr arweinyddiaeth o'r Prif Weithredwr cyntaf, Dyfed Alsop, i'r Prif Weithredwr Dros Dro, Rebecca Godfrey. Meddai:

Fe wnaethom barhau i wneud cynnydd o ran ymgorffori 'Ein Dull', sef ffordd Gymreig o drethu. O ganlyniad i’r ffordd ragweithiol hon o gefnogi pobl i wneud pethau'n iawn fe ffeiliodd ac fe dalodd y mwyafrif helaeth o bobl y dreth gywir y tro cyntaf.   

Fe wnaethom hefyd arloesi gyda’n trethi cyfredol trwy liniaru risg treth. Hynny yw, rydym yn helpu pobl i gywiro pethau pan fyddan nhw’n cael eu trethi’n anghywir. Fe wnaethom adennill y swm mwyaf erioed o dreth trwy'r gwaith hwn. 

Mae parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru gyda ffocws ar ardoll ymwelwyr a chofrestr genedlaethol hefyd wedi bod yn uchafbwynt. Rwy'n falch o'r rôl bwysig y gallwn ni ei chwarae o ran arwain gwasanaethau cyhoeddus newydd i Gymru.

Mae'r adroddiad yn dod â blwyddyn olaf Cynllun Corfforaethol ACC 2022 i 2025 i ben. Ym mis Ebrill (2025), cyhoeddodd ACC ei gynllun corfforaethol diweddaraf.

Dywedodd Ruth Glazzard, Cadeirydd ACC:

Wrth i ni adrodd ar y cyfnod hwn ac edrych ymlaen gyda'n cynllun corfforaethol nesaf, mae’n teimlo fel adeg dyngedfennol yn ein esblygiad.

Rydym wedi parhau i wneud cynnydd da gyda’r cyfrifoldebau sydd gennym ar hyn o bryd. Rydym hefyd wedi gwneud paratoadau ar gyfer darparu gwasanaethau newydd ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn edrych ymlaen at bennod nesaf ein hanes wrth i ni gyflawni mwy dros Gymru.

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet Dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford, gyhoeddi'r adroddiad mewn Datganiad Ysgrifenedig.

Darllenwch Awdurdod Cyllid Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2024 hyd 2025.