Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (15 Gorffennaf 2026), cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), awdurdod treth Cymru, ei fod wedi casglu bron i £400 miliwn mewn refeniw treth yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw (15 Gorffennaf 2026), cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), awdurdod treth Cymru, ei fod wedi casglu bron i £400 miliwn mewn refeniw treth yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

Yn ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2025 a 2026, mae ACC yn myfyrio ar flwyddyn o newid, twf a chyflawniad, gan nodi diwedd blwyddyn gyntaf ei Gynllun Corfforaethol ar gyfer 2025 i 2028.

ACC sy’n rheoli Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'r refeniw y maen nhw’n ei gasglu yn cael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol i gymunedau ledled Cymru, gan gynnwys ysgolion a’r GIG.

Ers 2018, mae ACC wedi casglu dros £2.7 biliwn ar gyfer Cymru. Mae'n gwneud hyn trwy ddefnyddio 'Ein Dull', ffordd Gymreig o drin trethi. 

Mae uchafbwyntiau'r flwyddyn yn cynnwys: 

  • gostyngiad yn yr amser cyfartalog a gymerir i gwblhau ymchwiliad treth 
  • 88% o bobl o’r farn bod gwasanaethau ACC yn hawdd i'w defnyddio 
  • ACC ymhlith y sefydliadau Gwasanaeth Sifil â sgôr mynegai ymgysylltiad gweithwyr uchaf yn y DU am yr wythfed flwyddyn yn olynol

Mae ACC hefyd wedi parhau i ehangu ei allu, gan gefnogi Llywodraeth Cymru trwy baratoi i gasglu Ardoll Ymwelwyr ar ran cynghorau lleol ac i reoli’r broses o gofrestru darparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru.  

Dywedodd Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr ACC: 

Mae Ein Dull wrth wraidd popeth a wneir gennym. Mae hyn yn golygu ein bod yn dechrau o sefyllfa o ymddiriedaeth uchel – gan gydnabod bod y mwyafrif helaeth o bobl a sefydliadau eisiau gwneud y peth iawn ar y cynnig cyntaf, ac rydym yn gweithio gyda nhw i’w helpu i wneud hynny. 

Pan fydd camgymeriadau'n digwydd, rydyn ni'n eu helpu i’w cywiro. Pan fydd pobl yn fwriadol yn ceisio osgoi eu rhwymedigaethau, rydym yn cymryd camau cadarn a phriodol.

Mae ein canlyniadau eleni yn arddangos y dull hwn ar waith. Rydym yn falch o fod wedi casglu bron i £400 miliwn i Gymru. Rydym wedi parhau i gasglu a rheoli trethi datganoledig Cymru yn ogystal â gwneud pethau newydd a gwella sut rydym yn gweithio.

Mae'r adroddiad blynyddol a'r cyfrifon hyn yn nodi blwyddyn gyntaf ei Gynllun Corfforaethol ACC ar gyfer 2025 i 2028. Mae'r cynllun yn nodi sut mae ACC yn bwriadu bod yn Hawdd, Teg a Chynaliadwy. 

Dywedodd Ruth Glazzard, Cadeirydd ACC: 

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn adlewyrchu sefydliad sydd wedi magu hyder a gallu. Mewn cwta 8 mlynedd, mae ACC wedi ennill ei blwyf fel rhan ddibynadwy o seilwaith cyhoeddus Cymru – gan gasglu dros £2.7 biliwn ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru a gosod y sylfeini ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf.

Mae ein cynllun corfforaethol yn nodi gweledigaeth eglur ac uchelgeisiol. Nid geiriau’n unig yw Hawdd, Teg a Chynaliadwy, maen nhw'n disgrifio’r profiad rydym eisiau i bob person a busnes yng Nghymru ei gael wrth ddelio â'u hawdurdod treth. Rwy'n falch o ddweud bod gan y sefydliad hwn y gwerthoedd, y bobl a'r cynlluniau i wireddu’r ymrwymiad hwnnw.

Darllenwch yr adroddiad: Awdurdod Cyllid Cymru: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2025 i 2026.