Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (14 Medi) mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2022 hyd 2023, sy’n adrodd bod cyfanswm o fwy na £400 miliwn wedi’i godi o drafodiadau’r Dreth Trafodiadau Tir (TTT) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT).

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Uwchlaw’r targed gyda bron i 99% o ffurflenni treth wedi'u ffeilio ar amser.
  • Bron i 98% o’r trafodiadau’n gywir y tro cyntaf.
  • Wedi cyflawni carreg filltir arwyddocaol gyda'r achosion cyntaf o Warediadau heb eu Hawdurdodi wedi'u codi a threth wedi’i chasglu.

Uchafbwyntiau perfformiad eraill:

  • Wedi adennill a gwarchod £2.75 miliwn o dreth.
  • Dywedodd bron i 92% o ymatebwyr arolwg fod ein gwasanaethau'n hawdd eu defnyddio.
  • 93% o’n pobl yn meddwl ein bod yn gyflogwr teg a chynhwysol – y sgôr uchaf yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2022.
  • Yn y 3 uchaf ar draws mwy na 100 o gyflogwyr am y drydedd flwyddyn yn olynol (Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil 2022).

Ruth Glazzard, Cadeirydd:

Dyma’r flwyddyn gyntaf o gyflawni ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025 newydd. Gwnaethom symud ymlaen gyda’n nod o gael treth wedi’i thalu’n gywir, y tro cyntaf drwy roi arweiniad mwy amserol a newid ein systemau er mwyn sicrhau boddhad uchel ymhlith cwsmeriaid.

Hon hefyd oedd fy mlwyddyn gyntaf i fel Cadeirydd. Fe welais yn uniongyrchol sut mae ein diwylliant cydweithredol, arloesol a charedig yn gwneud Awdurdod Cyllid Cymru’n lle gwych i weithio.

Dyfed Alsop, Prif Weithredwr:

Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â blwyddyn gyntaf ein cynllun corfforaethol diweddaraf. Rwy’n falch o weld ei fod yn adlewyrchu’r ffordd rydym yn aeddfedu fel awdurdod treth.

Gwnaeth yr argyfwng costau byw ni’n fwy ymwybodol nag erioed o anghenion eraill. Roedd hyn yn wir am sut y gwnaethom wario ein harian a sut roeddem yn gweithio gyda'n trethdalwyr. Er enghraifft, daethom o hyd i ffyrdd newydd o atal dyled rhag digwydd a gwnaethom ddarparu gwell cymorth ar gyfer y rhai lle nad oedd modd osgoi dyled.

Rydym hefyd yn adrodd am y tro cyntaf ar godi a chasglu treth o’n hachosion Treth Gwarediadau heb eu Hawdurdodi cyntaf sy’n helpu i gefnogi ymdrechion ehangach i atal pobl rhag cael gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon yng Nghymru.

Yn olaf, mae’n amlwg na allem fod wedi gwneud hyn ar ein pennau ein hunain a hoffwn ddiolch unwaith eto i’r trethdalwyr, yr asiantau a phartneriaid cyflawni eraill sydd wedi ein helpu i greu system dreth effeithlon a theg i Gymru.

Am ragor o wybodaeth: