Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cyhoeddi ystadegau swyddogol a ddynodwyd yn 'Ystadegau Gwladol' am y tro cyntaf heddiw (17 Chwefror 2022).
Mae Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR) wedi asesu a barnu y dylid dynodi ystadegau swyddogol ACC yn 'Ystadegau Gwladol'. Daw'r gydnabyddiaeth wrth i ACC gyhoeddi ei ddatganiad chwarterol diweddaraf Ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi: Hydref i Rhagfyr 2021 heddiw.
Mae ACC wedi cyhoeddi ystadegau swyddogol ar y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ers iddo ddechrau casglu a rheoli'r ddwy dreth ym mis Ebrill 2018.
I'w dynodi'n Ystadegau Gwladol, rhaid i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau asesu a barnu bod yr ystadegau swyddogol yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae hynny'n golygu bod yr ystadegau'n cwrdd â’r safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth.
Yn ei asesiad, adroddodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau fod hyder ac ymddiriedaeth yn yr ystadegau yn uchel oherwydd dull cynhwysfawr o sicrhau ansawdd, sy'n cynnwys cynlluniau sy'n esblygu ar gyfer sicrhau data, sy'n cwrdd ag anghenion cynyddol ei ddefnyddwyr.
Meddai Ed Humpherson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Rheoleiddio yn y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau:
Rwy'n falch iawn o gyhoeddi statws Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau ACC, sy'n dangos y safonau uchaf o ran ymddiriedaeth, ansawdd a gwerth. Mae ymgysylltiad gweithredol ACC â defnyddwyr allweddol ac ymdrechion parhaus i wella hygyrchedd a dealltwriaeth y cyhoedd 'r ystadegau yn enghreifftiau o arfer gorau.
Meddai Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn ACC:
Rwy'n falch bod ein hystadegau wedi'u dynodi'n Ystadegau Gwladol ar ôl sawl mis o weithio'n agos gyda'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Mae'n dyst i ymroddiad a phroffesiynoldeb y tîm yn ogystal â chefnogaeth gan sefydliadau partner.
Mae'r dynodiad yn golygu y gall defnyddwyr presennol yr ystadegau hyn fod â hyder yn y data. Gan na fu unrhyw newidiadau’n angenrheidiol er mwyn ennill y dynodiad, gall unrhyw un sydd wedi defnyddio ein hystadegau yn y gorffennol hefyd rannu'r un hyder yn ein data.
Mae ystadegau swyddogol ACC ar gael i'w gweld o dan ystadegau ac ymchwil ar LLYW. CYMRU