Neidio i'r prif gynnwy

Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei gynllun corfforaethol cyntaf sy’n nodi ei ffocws ar gyfer ei flwyddyn gyntaf fel awdurdod trethi newydd sy’n casglu ac yn rheoli trethi datganoledig yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn sgil sefydlu’r Awdurdod Cyllid yn ffurfiol fis Hydref diwethaf (2017), mae’r cynllun corfforaethol hwn yn rhoi ar waith yr wyth o werthoedd ar y cyd a nodwyd yn Ein Siarter, a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Cyllid ym mis Mawrth (2018).

Mae Ein Siarter wedi arwain at ddatblygu Ein Dull - ffordd newydd o drethu yng Nghymru. Mae’r dull yn golygu bod yr Awdurdod Cyllid yn gweithio mewn partneriaeth â threthdalwyr, cynrychiolwyr a’r cyhoedd i ddarparu system drethi deg yng Nghymru.

Esboniodd Dyfed Alsop, Prif Weithredwr yr Awdurdod:

“Rydyn ni am barhau i weithio’n agos gyda chynrychiolwyr a threthdalwyr i ddarparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion. Rydyn ni’n sylweddoli mai gweithio gyda’n gilydd yn effeithiol yw’r ffordd orau o sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu ar yr adeg iawn. 
 
“Mae Ein Siarter ac Ein Dull yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer sut gallwn ni weithio’n dda gyda’n gilydd. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r adborth rydyn ni wedi’i gael wrth ddatblygu'r gwaith hwn hyd yma ac rydyn ni’n awyddus i barhau i weithio mewn modd agored ac ymgysylltiol i sicrhau bod Ein Dull yn gwireddu ei addewid i fod yn ffordd o drethu sy’n gweithio i Gymru”.

Mae’r Awdurdod Cyllid yn croesawu adborth ar Ein Dull a’i gynllun corfforaethol cyntaf: dweudeichdweud@wra.gov.wales

Ein Dull - Ffordd o drethu yng Nghymru

Caiff Ein Dull ei ddisgrifio gan ddefnyddio tri therm Cymraeg. I gael esboniad llawn o’r dull hwn, darllenwch ein cynllun corfforaethol:

  • Cydweithio – ystyr hyn yw ‘gweithio gyda’n gilydd’ ac mae’n golygu gweithio tuag at nod gyffredin.
  • Cadarnhau  – mae hyn yn awgrymu nodwedd gadarn a chryf y gellir dibynnu arni. Mae’n golygu darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth.
  • Cywiro - ystyr hyn yn llythrennol yw ‘dychwelyd at y gwir’ ac mae’n ymwneud â sut rydyn ni’n gweithio gyda chi i ddatrys gwallau neu bryderon.