Alex Mason Prif Swyddog Cyllid

Mae Alex yn arwain gwasanaethau cyllid a masnachol Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Ymunodd Alex ag ACC fis Ionawr 2025 fel Prif Swyddog Ariannol. Cyn hyn, treuliodd 8 mlynedd fel Pennaeth Cyllid a Masnach yn Asiantaeth Archwilio Mewnol y Llywodraeth (GIAA).
Ymunodd Alex â'r GIAA yn 2017 a chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o ehangu'r sefydliad, fel rhan o'r tîm arwain.
Mae Alex yn gyfrifydd cymwys gyda phrofiad helaeth o weithredu fel Pennaeth Cyllid a Masnach mewn cyrff hyd braich. Bu'n gweithio am 20 mlynedd yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, mewn sawl uwch swydd, gan gynnwys cyfnod yn gweithio yn yr Almaen.
Mae Alex yn falch iawn o fod yn dod â'i phrofiad a'i gwybodaeth i gefnogi ACC wrth iddo ehangu i feysydd gwaith newydd.
Wedi'i magu yn Swydd Efrog, mae Alex wedi gweithio ar draws y DU a thramor ac wedi byw yn Sir Fynwy ers 10 mlynedd.
Mae Alex yn angerddol am ddatblygu pobl a thimau i'w llawn botensial. Mae'n cefnogi rhaglen Crossing Thresholds ac yn mentora menywod, gan helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd a chanfod cyfleoedd newydd.