Neidio i'r prif gynnwy
Carl Alexis

Mae Carl yn arwain strategaeth pobl, ymgysylltiad a chyfathrebu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Ymunodd Carl ag ACC ym mis Tachwedd 2022 fel Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu. Mae ganddo brofiad helaeth ym maes arweinyddiaeth AD strategol a datblygu'r gweithlu yn y sector cyhoeddus.  

Cyn ymuno ag ACC, bu Carl yn gweithio i Lywodraeth Cymru am 17 mlynedd mewn rolau polisi, gweithrediadau ac adnoddau dynol. Ei rôl ddiweddaraf oedd Pennaeth Ymgysylltu â'r Gweithlu yn Adran Addysg Llywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi gweithio fel Pennaeth Adnoddau Dynol Cymru yn Cafcass Cymru.  

Mae Carl yn Gymrawd y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Mae ganddo MBA ac MSc.     

Cafodd Carl ei eni a'i fagu yn Nhrebiwt, Caerdydd. Mae'n mwynhau helpu pobl i gyrraedd eu potensial ac yn mentora eraill yn ei amser hamdden.