Neidio i'r prif gynnwys

Yn Awdurdod Cyllid Cymru(ACC), rydym yn rheoli 2 dreth ddatganoledig a gynlluniwyd ac a grëwyd ar gyfer Cymru er mwyn helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Cynnwys

Ein rolau

Rydym yn falch o fod yn sefydliad ymgysylltiedig, sy’n perfformio ar lefel uchel, fel y cydnabyddir gan ein cydweithwyr yn Arolwg Pobl y Gwasanaeth Sifil. Os ydych yn ystyried eich cyfleoedd gyrfa neu ond eisiau gwybod sut beth yw bod yn rhan o’n tîm, dyma’r lle i chi. 

Rydym wedi casglu popeth y dylech ei wybod am weithio gyda ni ar ein tudalennau Gyrfaoedd y Gwasanaeth Sifil – gan gynnwys ein gwerthoedd, ein diwylliant, a'r manteision a'r cyfleoedd datblygu rydym yn eu cynnig. Rydym wir yn argymell i chi edrych i ddysgu mwy am yr hyn sy'n gwneud ein gweithle yn arbennig. 

Dewch i weld pam mae ein staff wrth eu boddau yma! 

Cwynion

Mae'r gyfraith yn mynnu bod y dethol ar gyfer penodi i'r Gwasanaeth Sifil yn digwydd yn ôl teilyngdod ac ar sail cystadleuaeth deg ac agored. Gweler egwyddorion recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil lle nodir hyn. 

Os ydych yn teimlo nad yw eich cais wedi cael ei drin yn unol â'r egwyddorion recriwtio, a'ch bod yn dymuno cwyno, cysylltwch â'r Pennaeth Adnoddau Dynol. 

E - bost: ad@acc.llyw.cymru 

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg. 

Os nad ydych yn fodlon â'n hymateb, gallwch gysylltu â Chomisiwn y Gwasanaeth Sifil.