Hyfforddiant a digwyddiadau
Gwybodaeth am ein digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu.
Cynnwys
Fforymau Treth Trafodiadau Tir
Rydym yn cynnal fforymau treth ledled Cymru. Mae'r fforymau hyn ar gyfer cyfreithwyr a thrawsgludwyr sy'n ffeilio ac sy’n talu’r Dreth Trafodiadau Tir ac sy'n defnyddio ein gwasanaethau'n rheolaidd.
Fforwm Treth Trafodiadau Tir (TTT), Caerdydd, Hydref 2023
Rydym yn falch o gynnal fforwm treth wyneb yn wyneb eto.
Ynglŷn â’r digwyddiad hwn
Mae'r fforwm treth hwn yn rhad ac am ddim i gyfreithwyr, trawsgludwyr a'u timau sy'n ffeilio ac yn talu TTT. Bydd y fforwm yn cynnwys 3 gweithdy ar feysydd o'r dreth lle mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr wedi gofyn am fwy o hyfforddiant, mwy o fanylion isod.
Mae hefyd yn gyfle i gwrdd â rhai o'r bobl sy'n gweithio ar TTT yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a siarad â ni am ein gwasanaethau.
Ble a phryd
Mae'r fforwm treth wyneb yn wyneb hwn ddydd Iau 12 Hydref 2023 yn Ystafell Taf yng:
Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru
Gerddi Soffia
Caerdydd
CF11 9SW
Os bydd y digwyddiad hwn yn llwyddiannus, byddwn yn trefnu mwy o fforymau treth mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.
Archebwch eich lle
Archebwch eich lle gyda'r ddolen hon: Fforwm TTT
Agenda
- 9.30am hyd 9.45am: Cyrraedd a choffi
- 9.45am hyd 10am: Croeso a diweddariad TTT
- 10am hyd 10.45am: Gweithdy 1
- 10.45am hyd 11.30am: Gweithdy 2
- 11.30am hyd 11.45am: Egwyl te a choffi
- 11.45am hyd 12.30pm: Gweithdy 3
- 12.30pm: Cau ac adborth
Gweithdai
Gweithdy 1: eiddo adfeiliedig ac eiddo na ellir byw ynddo
- Yr hyn rydym yn ei ystyried yn eiddo adfeiliedig neu’n eiddo na ellir byw ynddo.
- Ystyr addas i'w ddefnyddio fel annedd.
- Trosolwg o ganllawiau ACC gan gynnwys enghreifftiau.
- Achosion treth diweddar ar y pwnc hwn.
Gweithdy 2: gweinyddu treth
- Arfer gorau ar gyfer ffeilio ffurflen dreth.
- Camgymeriadau cyffredin.
- Trosolwg o offer a chanllawiau ACC.
- Cyfleoedd ymchwil defnyddwyr.
Gweithdy 3: trafodiadau cysylltiol
- Beth yw trafodiadau cysylltiol.
- Trosolwg o'r rheolau ar gyfer trafodiadau cysylltiol a chyfrifo TTT.
- Enghreifftiau o drafodiadau cysylltiol a chanllawiau ACC.
- Cyngor ar sut i lenwi'r ffurflen TTT yn gywir ar gyfer trafodiadau cysylltio.
Gweminarau
Rydym yn cynnal gweminarau hyfforddi drwy gydol y flwyddyn. Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer pynciau gweminar, gallwch e-bostio: dweudeichdweud@acc.llyw.cymru
Fideos
Mae gennym fideos hyfforddi newydd ar gyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir.
Gwelwch y rhestr chwarae ar gyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir
Rhowch adborth i ni ar y fideos yma (mae’n cymryd 30 eiliad)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyfraddau uwch, gallwch gysylltu â ni.