Mary Champion Aelod Anweithredol
Mae Mary Champion wedi gwasanaethu fel Aelod Anweithredol o'n bwrdd ers mis Hydref 2020.
Dechreuodd Mary ei gyrfa fel ymgynghorydd rheoli ym maes technoleg. Mae ganddi brofiad eang o ddarparu, sicrwydd, llywodraethiant ac arweinyddiaeth fasnachol gyda sefydliadau'r llywodraeth a'r sector preifat.
Mae Mary wedi cyflwyno rhaglenni TG strategol ar gyfer ystod o gleientiaid. Mae hi hefyd wedi rheoli adran TG ar gyfer cwmni teithio byd-eang.
Bu Mary yn Is-lywydd yn Capgemini. Roedd yn gyfrifol am gyflwyno'r holl raglenni technoleg yn y sector cyhoeddus. Gweithiodd gyda chleientiaid ar draws ystod o adrannau yn Llywodraeth Cymru a'r DU.
Yn ddiweddarach, gweithiodd Mary fel ymgynghorydd llawrydd ar lefel bwrdd. Bu’n rhoi mewnbwn a chyngor ar gyflawni a llywodraethiant. Yn fwyaf diweddar, creodd ac arweiniodd y rheolaeth fasnachol yng ngwasanaethau llwyfan Royal London.
Mae Mary wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol ar gyfer sawl corff y llywodraeth. Mae’r rhain yn cynnwys Swyddfa Archwilio Cymru a Swyddfa Eiddo Deallusol y DU.
Ar hyn o bryd mae'n ymgynghorydd cyswllt gyda Campbell Tickell. Mae'n cynnal adolygiadau llywodraethiant ar gyfer sefydliadau'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn bennaf.
