Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca yw Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Ymunodd Rebecca ag ACC yn 2017 fel Prif Swyddog Strategaeth. Helpodd i ddatblygu ein dull unigryw o reoli treth fel rhan o'r uwch dîm arwain. Helpodd hefyd i lunio ei gynllun corfforaethol cyntaf.

Cafodd Rebecca ei phenodi’n Brif Weithredwr Parhaol ym mis Tachwedd 2025, ar ôl gweithio fel Prif Weithredwr Dros Dro ers Mai 2025. Mae’n gyfrifol am arwain y sefydliad, a hi hefyd yw Swyddog Cyfrifyddu ACC. 

Cyn dod yn Brif Weithredwr, Rebecca oedd y Prif Swyddog Gweithredu. Yn y rôl yma roedd hi'n arwain ar gyflwyno 'Ein Dull', gan gefnogi pobl i dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn. Arweiniodd waith ACC ar ddylunio a darparu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol hefyd, gan hyrwyddo dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Yn weithiwr proffesiynol treth cymwysedig, mae gan Rebecca wybodaeth helaeth o weinyddu treth y DU. Treuliodd dros 10 mlynedd yn gweithio i Gyllid a Thollau EM. Cyn hynny, bu’n dal swyddi yn y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol a Thŷ'r Cwmnïau.

Wedi'i magu a'i haddysgu yng Nghaerdydd, mae Rebecca wedi treulio'r rhan fwyaf o'i bywyd a'i gyrfa yng Nghymru. Mae'n angerddol am ddatblygu pobl. Mae menywod mewn arweinyddiaeth yn un o nifer o fentrau talent y llywodraeth y mae wedi'u cefnogi.