Neidio i'r prif gynnwy

Ruth Glazzard yw cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru.

Mae Ruth yn Is-gadeirydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar hyn o bryd, ac mae ganddi rolau anweithredol gyda chymdeithas dai a menter gymdeithasol.

Roedd Ruth yn aelod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ac roedd ganddi rôl bwrdd dros dro gyda Chanolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru.

Mae gan Ruth brofiad sylweddol o ran rheoli corfforaethol, a chefndir mewn rheoleiddio gwasanaethau ariannol, yn canolbwyntio'n benodol ar oruchwylio, archwilio a risg.

Mae gan Ruth hefyd brofiad bwrdd sylweddol fel Cadeirydd annibynnol y Bwrdd Archwilio a Chadeirydd y Pwyllgor Cynghori ar Safonau ar gyfer Bwrdeistref Newham, Llundain.

Cyn hynny bu ganddi rôl ryngwladol fel Pennaeth Llywodraethiant banc Standard Chartered, a bu'n gweithio mewn swydd rheoli gweithredol a rheoleiddiol yn yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.