Gwnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ffurfio partneriaeth â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i ddarparu system ynni leol glyfar yng Nghraig y Nos, Abertawe.
Crynodeb
Gwnaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ffurfio partneriaeth â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i ddarparu system ynni leol glyfar yng Nghraig y Nos, Abertawe. Roedd y prosiect yn cynnwys storio batri, pwyntiau gwefru cerbydau trydan, a thrydaneiddio’r fflyd cyfan, gan arddangos arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus ym maes datgarboneiddio a gwydnwch ynni.
Ein cefnogaeth
- Cyllid Grant Seilwaith Cerbydau Di-allyriadau.
- Caffael symlach drwy fframwaith seilwaith gwefru cerbydau trydan Llywodraeth Cymru.
- Cyngor technegol parhaus i integreiddio technolegau carbon isel ychwanegol.
Datrysiad technoleg
- System storio ynni batri 69kWh.
- Pwyntiau gwefru 22kW deuol ar gyfer cerbydau trydan.
- Integreiddio â chynhyrchu adnewyddadwy ar y safle.
Buddsoddiad
- Wedi'i ariannu gan Grant Seilwaith Cerbydau Trydan Llywodraeth Cymru, gyda chaffael a chymorth technegol gan y Gwasanaeth Ynni.
Effeithiau
- Trydaneiddio 100% o’r fflyd cronfa: 19 o gerbydau cronfa yn rhai di-allyriadau, un o'r cyrff sector cyhoeddus cyntaf yng Nghymru i gyflawni datgarboneiddio llawn.
- Gwell hunangynhaliaeth ynni: Llai o ddibyniaeth ar y grid trwy gynhyrchu a storio adnewyddadwy wedi'i optimeiddio ar safle anghysbell ond strategol.
- Arddangosiad cyhoeddus o drafnidiaeth gynaliadwy: Mae seilwaith gwefru yn cefnogi traffig sy'n mynd heibio ac ymwelwyr, gan arddangos atebion di-allyriadau ymarferol ar lwybr allweddol trwy'r Parc Cenedlaethol.
Mae'r gefnogaeth gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi bod yn ardderchog – roedd eu grant cerbydau trydan di-allyriadau a seilwaith gwefru cerbydau trydan yn hawdd i'w ddefnyddio gyda phrosesau ymgeisio cyflym ac amseroedd cyflawni cyflym. Mae'r cyllid hwn wedi bod yn allweddol i'n helpu i gyflawni ein huchelgais o gynnal safle trydan yn llwyr yng Nghraig y Nos. Dim ond dechrau ein taith gynaliadwyedd yw'r system ynni leol rydyn ni wedi'i datblygu yma.
Paul Chapman, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
