Neidio i'r prif gynnwy

Gyda’r holl fwyd ychwanegol rydym yn ei fwyta a’r mynydd o ddeunydd pacio a ddaw o’r anrhegion Nadolig, dyma gyfle penigamp i wneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu gymaint ag y bo modd gartref yn hytrach na thaflu’r eitemau hyn i ffwrdd.

Mae Cymru yn Ailgylchu yn dod â 12 Diwrnod y Nadolig yn fyw drwy dynnu sylw at 12 eitem Nadoligaidd gyffredin sy’n gallu cael eu hailgylchu, o dybiau siocled a chasys ffoil mins-pei i drimins twrci a chrafion llysiau o’r cinio Nadolig.

Drwy ddal ati gallwn helpu Cymru ar ei hymgyrch wych i gyrraedd rhif un yn y byd ar gyfer ailgylchu.

1. Ailgylchwch eich bagiau te

Mae 69% o bobl Cymru’n ailgylchu eu bagiau te. Mae ailgylchu dau fag te yn unig drwy eu rhoi yn eich cadi gwastraff bwyd yn gallu creu digon o drydan i wefru ffôn clyfar yn llawn.

2. Dangoswch pwy sy’n feistr ar y poteli plastig

Mae dros 85% ohonom yn ailgylchu ein poteli plastig megis poteli diodydd, cynnyrch glanhau a photeli pethau ymolchi. Dylech wacáu a gwasgu’r poteli a thynnu’r caeadau oddi arnynt cyn ailgylchu. Tynnwch unrhyw bympiau a theclynnau chwistrellu yn gyntaf gan nad yw’r rheini yn gallu cael eu hailgylchu. Mae ailgylchu un botel siampŵ yn unig yn arbed digon o ynni i gyflenwi stereo yn y cartref am bum awr.

3. Concrwch eich pecynnau cardbord

Rydym yn defnyddio mwy o gardbord dros y Nadolig nag unrhyw adeg arall yn ystod y flwyddyn. Mae 86% o bobl Cymru yn ailgylchu eu cardbord. Cofiwch dynnu unrhyw dâp pacio a gwasgu bocsys yn wastad er mwyn arbed lle yn eich cynhwysydd ailgylchu.

4. Chwistrellwch

Ailgylchwch ganiau aerosol o’ch ystafell wely a’ch ystafell ymolchi, megis chwistrell i’r gwallt, diaroglydd a jel eillio. Mae 73% ohonom yn ailgylchu ein caniau aerosol gwag. Mae ailgylchu un aerosol yn unig yn gallu arbed digon o ynni i gyflenwi stereo yn y cartref am 32 awr. Mae hynny’n gryn dipyn o ganeuon Nadoligaidd! Gwnewch yn siŵr eu bod yn wag a thynnwch unrhyw gapiau plastig.

5. Casys ffoil mins-pei

Gall metel gael ei ailgylchu dro ar ôl tro heb golli ei ansawdd, gan gynnwys casys mins-pei a ffoil a ddefnyddiwyd wrth goginio sy’n lân. Mae 70% ohonom yng Nghymru yn ailgylchu ein ffoil. Gwasgwch eitemau ffoil yn dynn cyn eu hailgylchu. Tynnwch unrhyw ddarnau bwyd o’r ffoil cyn ei ailgylchu. Dylech wacáu a golchi cynwysyddion ffoil.

6. Meddyliwch am y bwyd yn gyntaf dros y Nadolig

Gallwch ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw beth sy’n weddill o’ch cinio Nadolig (na ellir ei fwyta’n ddiogel yn ddiweddarach), yn ogystal ag unrhyw wastraff bwyd arall gan gynnwys bagiau te a grownds coffi, masgal wyau, crafion a chalonnau ffrwythau, a hen fara. Gwnewch yn siŵr eu bod yn mynd yn eich cadi gwastraff bwyd ac nid yn y bin. Mae 80% ohonom yn ailgylchu ein gwastraff bwyd yng Nghymru ac mae un cadi sy’n llawn gwastraff bwyd yn gallu darparu digon o ynni i gyflenwi teledu am ddwy awr.

7. Daliwch ati i wasgu caniau y Nadolig hwn

Pa un a ydych chi’n yfed diod alcoholig neu ddiod feddal y Nadolig hwn, cofiwch ailgylchu eich caniau. Mae ailgylchu un can yn arbed digon o ynni i gyflenwi sugnwr llwch am awr.

8. Cofiwch am y gwydrau

Mae gwydr yn hawdd i’w ailgylchu – gellir ei ailgylchu’n gynnyrch newydd dro ar ôl tro. Golchwch boteli gwydr gwin, cwrw a diodydd meddal gwag a rhowch y caead, y clawr neu’r cap nôl arnynt cyn eu rhoi yn eich ailgylchu. Gellir ailgylchu jariau picl, siytni a phupur a halen ac ati hefyd.

9. Ailgylchwch eich tybiau siocled plastig

Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel o blastig sydd wedi’i ailgylchu yn hytrach na defnyddio deunyddiau crai. Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o blastig, gan gynnwys y tybiau mawr o siocledi a losin sydd gennym yn ein cartrefi yn ystod y Nadolig. Os ydych yn rhannu eich eitemau i’w hailgylchu i gynwysyddion ar wahân, rhowch y rhain yn eich cynhwysydd ar gyfer ‘plastigau a chaniau’. Tynnwch unrhyw bapur lapio yn gyntaf.

10. Coed Nadolig

Gellir ailgylchu 100% o goed Nadolig ‘go iawn’. Holwch eich cyngor lleol a allant eu casglu gyda’ch gwastraff gardd neu a allwch fynd â hwy i’ch canolfan ailgylchu leol. Dylid rhoi coed Nadolig plastig sydd â goleuadau ynddynt, neu heb oleuadau ynddynt, gyda’r plastig caled yn eich canolfan ailgylchu leol.

11. Pecynnau calendrau Adfent

Pan fyddwch wedi agor y drws olaf ar eich calendr Adfent ac rydych yn barod i gael gwared ar y pecyn, dylech wahanu’r cardbord oddi wrth yr hambwrdd mewnol. Gellir gwasgu’r pecyn cardbord allanol yn wastad a’i ailgylchu. Ni ellir ailgylchu’r hambwrdd mewnol, felly rhowch hwnnw yn eich bin sbwriel cyffredinol ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

12. Cardiau Nadolig ac amlenni

Gellir ailgylchu cardiau Nadolig ond tynnwch unrhyw rubanau, clymau, gliter neu ffoil cyn eu rhoi ymysg eich ailgylchu. Os yw eich papur a cherdyn yn cael eu hailgylchu ar wahân, rhowch gardiau yn eich cynhwysydd cardbord a rhowch amlenni yn eich cynhwysydd papur.