Gwybodaeth ddiweddaraf am Fagloriaeth Cymru, Tystysgrif Sgiliau Cymru a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
Dogfennau

Asesiad effaith: darpur Dystysgrif Her Sgiliau fel rhan o Fagloriath Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 204 KB
Manylion
Cafodd Bagloriaeth Cymru ei dylunio yng Nghymru ar gyfer ein dysgwyr. Mae'n diwallu anghenion amrywiol pobl ifanc drwy gynnig profiadau ehangach na rhaglenni dysgu traddodiadol.
Mae’n gymhwyster eang sy'n addysgu sgiliau allweddol sy'n ategu'r pynciau a'r cyrsiau sydd eisoes ar gael i ddysgwyr. Caiff dysgwyr brofiad go iawn o'r byd y tu allan i'r ysgol, a dysgu sut i roi eu sgiliau ar waith mewn sefyllfaoedd ymarferol.
Mae Bagloriaeth Cymru yn seiliedig ar gyfuniadau penodol o gymwysterau sy'n helpu dysgwyr i elwa i'r eithaf ar y profiadau a'r sgiliau hyn.
Strwythur Bagloriaeth Cymru
I ddysgwyr Blwyddyn 10 a Blwyddyn 11 mae Bagloriaeth Cymru. Mae ar gael ar ddwy lefel:
- Sylfaen (Lefel 1)
- Cenedlaethol (Lefel 2)
Mae’r ddwy lefel yn:
- cynnwys nifer o elfennau
- gofyn i ddysgwyr gwblhau'r Dystysgrif Her Sgiliau
- gofyn i ddysgwyr gyflawni’r lefel cyrhaeddiad ofynnol mewn cymwysterau ategol
Mae diagram yn dangos cydrannau Bagloriaeth Cymru ynghyd a rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan CBAC.
Newidiadau i Fagloriaeth Cymru
Ni fydd Bagloriaeth Cymru, fel cymhwyster o elfennau cyfun, ar gael i fyfyrwyr bellach. Medi 2024 oedd y tro olaf i garfan o ddysgwyr gael dechrau ar y cymhwyster o elfennau cyfun. Rhoddir y dyfarniadau olaf yn haf 2026.
Bydd y Dystysgrif Her Sgiliau yn parhau i fod ar gael fel cymhwyster annibynnol i ddysgwyr sy’n dechrau Blwyddyn 10 yn 2025 a 2026.
O 2027, bydd y Gyfres Sgiliau, sy’n rhan o’r Cynnig Llawn o Gymwysterau 14 i 16, yn disodli’r Dystysgrif Her Sgiliau.
Ar ben hynny, ym mis Medi 2023, disodlwyd Bagloriaeth Cymru Uwch gan Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Caiff y cymhwyster newydd ei ddyfarnu o haf 2025.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
Y Dystysgrif Her Sgiliau
Cymhwyster annibynnol yw'r Dystysgrif Her Sgiliau. Mae’n cael ei raddio a'i ystyried yn gymhwyster cyfwerth â TGAU. Gall y Dystysgrif gael ei chyflawni a'i dyfarnu i ddysgwyr heb y cymwysterau ategol sy'n rhan o Fagloriaeth Cymru.
Mae'r Dystysgrif yn canolbwyntio ar y sgiliau hanfodol a'r sgiliau cyflogadwyedd y bydd eu hangen ar bobl ifanc yn eu bywydau yn y dyfodol. Caiff y sgiliau hyn eu datblygu a'u hasesu drwy bedair elfen y Dystysgrif sydd fel a ganlyn:
- Prosiect Unigol
- Her Menter a Chyflogadwyedd
- Her Dinasyddiaeth Fyd-eang
- Her Gymunedol
Canlyniadau cyfun y 4 elfen fydd yn pennu a fydd y Dystysgrif yn cael ei dyfarnu ai peidio.
Mae’r Dystysgrif wedi'i chynllunio i gynnwys ymarferion dysgu ac asesu a fydd yn tanio brwdfrydedd dysgwyr, yn eu hysgogi ac yn ennyn eu diddordeb, a hynny yn y dosbarth, y gweithle a'r gymuned ehangach.
Bydd dysgwyr yn astudio pynciau a materion o'u dewis, sy'n berthnasol i'w cynlluniau ar gyfer astudio a dilyn gyrfa yn y dyfodol.
Bydd dysgwyr hefyd yn gorfod myfyrio ar y ffordd y gallai defnyddio'u sgiliau effeithio ar unigolion, cyflogwyr, y gymdeithas a'r amgylchedd.
Pwy sy’n cael cynnig dilyn y Dystysgrif Her Sgiliau
Dylai pob dysgwr blwyddyn 10 mewn ysgolion gael gynnig i ddilyn y Dystysgrif. Dylai dysgwyr unigol astudio ar y lefel briodol.
Nid oes unrhyw ofyniad statudol i ddysgwyr ddilyn unrhyw gymwysterau. Felly, nid yw'r Dystysgrif Her Sgiliau yn orfodol.
Pam rydym ni eisiau i ddysgwyr barhau â’r Dystysgrif Her Sgiliau
Rydym am i bob dysgwr elwa ar y Dystysgrif Her Sgiliau, gan ei bod yn sicrhau bod dysgwyr yn cael:
- mynediad at gwricwlwm eang a chytbwys
- cyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau ymarferol mewn sefyllfaoedd go iawn, gan sicrhau set sgiliau gynhwysfawr a hyblyg
Mae'r Dystysgrif yn rhoi cyfle i ddysgwyr feithrin y sgiliau ehangach a'r wybodaeth sy'n cyd-fynd â phedwar diben y cwricwlwm, ac adeiladu arnynt. Mae hefyd yn gydnaws â’r gyfres sgiliau newydd sy’n cael ei chyflwyno yn 2027.
Rydym am i'r holl ddysgwr yng Nghymru fod:
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
- yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy'n barod i fod yn ddinasyddion yng Nghymru a’r byd
- yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae’r Dystysgrif yn galluogi dysgwyr i feithrin eu sgiliau ehangach a'u hyder. Mae hyn yn eu galluogi a'u grymuso i ddod yn ddinasyddion cyfrifol a gweithgar mewn cymdeithas amrywiol.
Yn benodol, mae'r Her Menter a Chyflogadwyedd yn cefnogi dysgwyr i ddod yn gyfranwyr mentrus a chreadigol a fydd yn fwy parod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
Mae'r her Dinasyddiaeth Fyd-eang a'r her Cymuned, yn rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu gwybodaeth am gymdeithas a'r gymuned y maent yn byw ynddo, a'u dealltwriaeth ohonynt ac i ddatblygu ymwybyddiaeth o faterion, digwyddiadau a safbwyntiau byd-eang. Mae hyn yn eu helpu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus yng Nghymru a'r byd.
Mae'r prosiect unigol yn rhoi'r cyfle i'r dysgwyr ymgymryd â gwaith sy'n gysylltiedig:
- â’u hastudiaethau
- â maes sydd o ddiddordeb penodol iddynt
- â chwrs addysg bellach neu uwch y maent yn dymuno ei astudio
Rhesymau posibl dros beidio â chynnig y Dystysgrif Her Sgiliau
Mae'n bosibl na fydd astudio'r Dystysgrif yn ddewis cywir i bob dysgwr. Felly mae angen i ni arfer rhywfaint o hyblygrwydd. Dylai ysgolion ddarparu cyfleoedd sydd er budd pennaf eu dysgwyr. Wrth benderfynu a ellir eithrio dysgwr rhag dilyn y Dystysgrif, rydym yn disgwyl i ysgolion ddefnyddio'u barn broffesiynol. Dylent roi ystyriaeth ddyledus i les pob person ifanc a'i allu i gyflawni ei botensial llawn.
Mae rhagor o wybodaeth am y Dystysgrif Her Sgiliau ar gael ar wefan Cymwysterau Cymru a gwefan CBAC.
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Cymhwyster annibynnol, Lefel 3, seiliedig ar sgiliau yw Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Mae’n cyfateb i gymhwyster Safon Uwch o ran maint a gofynion. Mae Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn cefnogi dysgwyr i dyfu’n ddinasyddion effeithiol, cyfrifol ac egnïol, sy’n barod i gymryd eu lle mewn cymdeithas fyd-eang gynaliadwy ac yn y gweithle. Mae’n hyrwyddo dysgu o fewn y dosbarth a’r tu allan iddo, ac anogir dysgwyr i ddewis meysydd astudio sydd o ddiddordeb personol ac sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau a’u gyrfaoedd i’r dyfodol.
Mae’r cymhwyster yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu ar sail y broses datblygu sgiliau sy’n ganolog i’r Cwricwlwm i Gymru, ac ymgysylltu â materion cyfoes a phwysig fel dinasyddion Cymru a’r byd.
Drwy gwblhau cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch, bydd dysgwyr:
- yn datblygu, yn cymhwyso ac yn cael eu hasesu ar sail eu sgiliau cynllunio a threfnu, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, creadigrwydd ac arloesi, ac effeithiolrwydd personol (y sgiliau ‘cyfannol’)
- yn cael cyfleoedd i ddatblygu ymhellach eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol (y sgiliau ‘mewnblanedig’)
- yn datblygu gwerthfawrogiad o bwysigrwydd datblygu sgiliau fel elfen allweddol o ddysgu gydol oes
- yn manteisio ar gyfleoedd i fod yn egnïol a chreadigol, dan arweiniad dysgwyr
- yn holi eu hunain ac yn meddwl drostynt eu hunain, yn cynllunio, yn gwneud dewisiadau a phenderfyniadau, yn datrys problemau, ac yn pwyso a mesur y rhain a’u gwerthuso
- yn datblygu menter, annibyniaeth a gwytnwch
- yn gweithio’n annibynnol, yn ysgwyddo cyfrifoldebau ac yn cydweithio’n effeithiol ag eraill
Strwythur Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Mae 3 uned i gymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch:
- Prosiect Cymuned Fyd-eang
- Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol
- Prosiect Unigol
Prosiect Cymuned Fyd-eang
Mae’r prosiect hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu a defnyddio’r sgiliau cyfannol. Mae dysgwyr hefyd yn ystyried materion byd-eang cymhleth a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol lleol i hyrwyddo dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru.
Prosiect Cyrchfannau’r Dyfodol
Mae’r prosiect hwn yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu a defnyddio’r sgiliau cyfannol. Mae dysgwyr hefyd yn ymchwilio i nodau i’w cyrraedd mewn bywyd yn y dyfodol, cyflogadwyedd a dinasyddiaeth mewn byd cynaliadwy ac yng Nghymru.
Prosiect unigol
Mae’r prosiect hwn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu a defnyddio’r sgiliau cyfannol. Mae dysgwyr hefyd yn mynd ati i gynllunio, rheoli a chynnal prosiect ymchwil annibynnol (prosiect ysgrifenedig estynedig neu arteffact).
Addysg Uwch a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Mae prifysgolion yn rhoi gwerth mawr ar y sgiliau, y priodoleddau a'r ymddygiadau a ddatblygir drwy Fagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch. Mae’r cymhwyster hwn yn gallu helpu myfyrwyr i gael eu derbyn i addysg uwch.
Mae prifysgolion yn gyrff hunanlywodraethol. Nhw felly, sy'n gyfrifol am bennu'r meini prawf ar gyfer eu cyrsiau. Mae prifysgolion ledled y DU, gan gynnwys prifysgolion Grŵp Russell, yn gadarnhaol iawn ar y cyfan.
Mae llawer ohonynt yn barod i dderbyn Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch at ddibenion gofynion derbyn.
Fodd bynnag, mae gwahaniaethau yn y ffordd y mae gwahanol brifysgolion yn ymdrin â Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch fel rhan o'u prosesau cynnig. Bydd rhai prifysgolion yn ystyried bod Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch gyfwerth â Safon Uwch wrth wneud cynnig. Bydd eraill yn gwneud cynigion amgen i fyfyrwyr sy'n cyflawni Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch.
Weithiau, mae’r un brifysgol yn ymdrin â Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn wahanol gan ddibynnu ar y cwrs.
Mae gan rai prifysgolion a chyfadrannau bolisi caeth o wneud cynigion yn seiliedig ar raddau Safon Uwch yn unig. Ond bydd llawer o'r rhain yn ystyried y profiadau a enillir gan ddysgwyr tra byddant yn astudio Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch wrth benderfynu p'un a ydynt am wneud cynnig ai peidio.
Mae'r prifysgolion hynny nad ydynt yn derbyn Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch fel rhan o'r gofynion derbyn penodol yn dal i weld gwerth yn y sgiliau a'r profiadau ehangach y mae'n eu cynnig i'r person ifanc. Gall Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch gyfoethogi ceisiadau, gan gynnwys datganiadau personol a chyfweliadau.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am brifysgolion sy’n derbyn Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch i’w gweld ar wefan CBAC.
Cyflogwyr a Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
Bydd y cymhwyster yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yn eu gweithluoedd. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i ddysgwyr fanteisio ar gyfleoedd amrywiol pan fyddant yn gadael y byd addysg ac yn symud i'r byd gwaith.
Roedd y gwaith o’i ddatblygu yn cynnwys cyflogwyr ac arbenigwyr o bob cwr o'r DU. Mae cynnwys y fanyleb yn cynnig dewis o fodelau cyflwyno i ysgolion, fel y gellir bodloni gofynion y cwricwlwm mewn ffordd greadigol.
Pwy sy’n cael cynnig dilyn Bagloriaeth Sgiliau Cymru
Dylid cynnig Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch i bob dysgwr 16 i 19 oed sy’n dilyn cwrs 2 flynedd. Fel rheol, caiff ei dilyn ochr yn ochr â chymwysterau Lefel 3 eraill, er enghraifft cyfuniad o gymwysterau Safon Uwch a (neu) gymwysterau galwedigaethol. Fodd bynnag, nid yw’r cymhwyster yn benodol i oed arbennig. Felly mae’n cynnig cyfleoedd i ddysgwyr ymestyn eu dysgu gydol oes.
Nid oes gofynion statudol i ddysgwyr ymgymryd ag unrhyw gymhwyster penodol. Gall ysgolion a cholegau gynnig y cyfleoedd sydd orau i’w dysgwyr. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion a cholegau ddefnyddio eu crebwyll proffesiynol drwy roi ystyriaeth ddyledus i anghenion, lles a gallu pob person ifanc er mwyn iddynt gyflawni eu potensial llawn.