Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth, wedi cyhoeddi y bydd Balfour Beatty a Jones Bros o Ruthun yn mynd ati ar y cyd i adeiladu ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r gwaith dylunio a pharatoi, a’r archwiliadau tir manwl yn cael eu gwneud ar hyn o bryd ac mae disgwyl i adeiladau a swyddfeydd y safle gael eu codi'n fuan. Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau'r gaeaf hwn.

Bydd y ffordd osgoi 9.8km rhwng Caernarfon a Bontnewydd yn hanfodol er mwyn gwella amseroedd teithio a dibynadwyedd, yn ogystal â lleihau tagfeydd traffig ar lwybrau lleol. Bydd hynny yn darparu cyfleoedd gwell ar gyfer teithio llesol.

Mae'r cynllun rhwng Balfour Beatty a Jones Bros yn cynnwys lleoliadau gwaith ar gyfer hyfforddeion, prentisiaid a graddedigion.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth:

"Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd Balfour Beatty a Jones Bros yn gweithio gyda'i gilydd i adeiladu'r datblygiad arwyddocaol hwn yn y Gogledd-orllewin.

"Rwyf wedi egluro y bydd y cynllun hwn o fudd i'r ardal ac yn hybu economi'r rhanbarth. Bydd Balfour Beatty a Jones Bros yn sicrhau hynny drwy gynnig swyddi i bobl leol yn ogystal â lleoliadau ar gyfer hyfforddeion, prentisiaid a graddedigion. Bydd pwyslais hefyd yn cael ei roi ar wario ar ddeunyddiau lleol ac ar is-gontractau pan fo hynny'n bosibl a bydd digwyddiadau cwrdd â'r prynwr yn cael eu cynnal maes o law i annog pobl a chwmnïau lleol i wneud cais am waith dan y prosiect.

"Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n helaeth yn y ffordd osgoi hon a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau yn yr ardal yn ogystal â theithwyr.

"Mae'r gwaith dylunio a datblygu yn parhau i fynd rhagddo a bydd y gwaith adeiladu'n dechrau'n fuan."

Dywedodd Thomas Edgcumbe, Rheolwr Gyfarwyddwr Busnes Rhanbarth Gogledd a Chanolbarth Lloegr Balfour Beatty:

"Heddiw rydym yn nodi carreg filltir bwysig o ran cyflenwi cynllun a fydd yn sicrhau budd economaidd sylweddol.

"Ar ôl gweithio gyda Jones Bros a Llywodraeth Cymru ar sawl prosiect sydd ar waith ar hyn o bryd a sawl un yn y gorffennol, rydym yn hyderus y byddwn yn cyflenwi'r cynllun hwn yn llwyddiannus. Mae disgwyl mawr amdano a bydd yn gadael gwaddol ar gyfer y gymuned leol."

Dywedodd Hefin Lloyd-Davies, Cyfarwyddwr Contractau Jones Bros Civil Engineering UK:

"Mae'r contract yn symud yn ei flaen yn dda ac rydym yn edrych ymlaen at ddarparu manteision i'r rhanbarth gan gynnwys swyddi, hyfforddiant a sgiliau.

"Mae gennym hanes balch o gyflenwi prosiectau uchel eu proffil gyda Balfour Beatty, yn ogystal â gofalu am y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt."